CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Gro
Cymunedau Cleirwy, Y Clas ar Wy, Powys
(HLCA 1086)


CPAT PHOTO 00c0099

Gorlifdir afon Gwy rhwng Y Clas ar Wy a'r Gelli, gydag ystumlynnoedd a doleniadau afon a chaeau petryal mawr yn cynrychioli gwaith cau diweddar ar yr hen ddôl isel oedd yn dir comin.

Cefndir hanesyddol

Ychydig a wyddys am hanes y ffos ganol oesol yn nghanol y gorlifdir i'r de o Llowes, er ei bod yn perthyn yn ôl pob tebyg i gyfnod y goncwest Normanaidd. Mae'n ymddangos bod cysylltiad rhyngddi â chloddwaith petryal wedi'i gau, o gyfnod y Rhufeiniaid o bosib. Mae'n sefyll wrth ymyl doleniad hynafol yr afon Gwy ac fe allai fod yn gwarchod hen ryd i groesi'r afon ar un adeg. Yng nghanol y 19eg ganrif roedd yr ardal yn rhan o blwyfi degwm Cleirwy, Y Clas ar Wy, Llanigon a Llowes.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Gorlifdir isel afon Gwy, yn tueddu i orlifo, tua 80m uwchlaw Datwm yr Ordnans, gyda thorlannau isel a thraethau cerrig mân ar hyd yr afon. Mae nifer o ystumlynnoedd a phalaeo-sianeli, rhai'n dal dwr yn dymhorol yn unig, ynghyd â nentydd ac ystumlynnoedd gyda choed ysgawen a helyg o boptu. Pridd llifwaddodol yw'r rhan fwyaf, gan fwyaf yn ddwfn, di-garreg, hydraidd a lleidiog a phridd mân di-garreg garw, cochlyd a lleidiog (Cyfres Teme a Lugwardine). Erbyn heddiw tir pori yw'r rhan fwyaf, er fod nifer o hen berllannau ar ymylon ychydig uwch yr ardal, ger Glan-hen-Wye, Lower Sheephouse, a Little Ffordd-fawr. Does yr un anheddiad yn yr ardal erbyn heddiw, a'r unig adeilad yw The Barn, a adeiladwyd lle mae patrwm o derfynau caeau yn dod ynghyd ar y gorlifdir i'r de o Gleirwy. Mae'r ardal wedi'i rhannu'n bennaf yn gaeau mawr petryal, gan fwyaf gyda gwrychoedd isel cyfyng eu rhywogaeth, drain gwynion fel arfer, yn aml wedi'u cryfhau neu'u disodli gan ffensiau postyn a gwifren sy'n cynrychioli, yn ôl pob tebyg, gwaith cau diweddar ar yr hen ddolydd comin oedd yn perthyn i blwyfi Cleirwy, Y Clas ar Wy, Gelli, Llanigon a Llowes. Mae nifer o ffosydd a gorgloddiau yn croesi'r ardal, rhai ohonynt o bosib o gyfnod y cynlluniau draenio o ddiwedd yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif ymlaen.

Ffynonellau


Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
Soil Survey 1983

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.