CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Tir-mynach
Cymuned Cleirwy, Powys
(HLCA 1096)


CPAT PHOTO 1041-22

Tirlun amaethyddol trefnus ar dir isel ar farian rhewlifol twmpathog, gyda phatrwm caeau sydd o bosibl yn adlewyrchu presenoldeb caer Rufeinig a maenor fynachaidd o'r oesoedd canol.

Cefndir hanesyddol

Awgrymir anheddiad cynnar yn yr ardal nodwedd gan ddarganfyddiad bwyell garreg wedi'i chaboli o'r cyfnod Neolithig a darnau o fflint o'r Oes Fesolithig, Neolithig ac Efydd. Fe adeiladwyd caer Rufeinig ger Fferm Boatside, fel gwersyll dros dro yn ôl pob tebyg yn ystod concwest De Cymru gan y Rhufeiniaid, o bosibl mor gynnar â 50-60 OC, ac fe'i lleolwyd ger rhyd sy'n croesi afon Gwy yn y man lle mae'r dyffryn yn culhau. Roedd yr ardal nodwedd yn rhedeg ar hyd ymyl ddeheuol tywysogaeth ganol oesol Elfael, tywysogaeth yr oedd ei ffin yn rhedeg ar hyd afon Gwy yn y cyfnod hwn. Yn dilyn y goncwest Normanaidd rhoddwyd darn o dir yn Nhir-mynach yn faenor i abaty Sistersaidd Cwm-hir, gan gysylltu yn ôl pob tebyg ag adeiladau canol oesol oedd wedi goroesi yn Court Farm, Cleirwy. Wedi'r Ddeddf Uno ym 1536 daeth yr ardal o fewn cantref Castell Paen yn Sir Faesyfed. Yng nghanol y 19eg ganrif roedd yr ardal yn rhan o blwyf eglwysig Cleirwy.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Tirlun twmpathog ar y tir isel, rhwng 80 a 120m uwchlaw Datwm yr Ordnans, ar farian rhewlifol rhwng Cleirwy a'r Gelli, a adawyd gan rewlif dyffryn Gwy. Ceir priddoedd dyfnion bras cochlyd sy'n draenio'n dda gyda pheth pridd lleidiog mân ag isbridd sy'n hydreiddio'n araf a rhywfaint o ddwr yn aros ar yr wyneb ar rai adegau o'r flwyddyn (Cyfres Esrick 2), yn enwedig ar hyd Nant Cleirwy. Mae nifer o byllau parhaol a darnau lle mae'r dwr yn sefyll yma, megis Peter's Pool, yn ffurfio elfen amlwg yn y tirlun, ynghyd â choed helyg wedi'u tocio ac amryw o hen goed ysgawen. Mae afon Gwy yn torri drwy ddyddodion rhewlif ger Y Gelli ac yn creu clogwyni afon dyfnion fel yn Wyecliff. Defnyddir y tir heddiw yn bennaf ar gyfer pori, gyda pheth tir âr a rhai cnydau porthiant.

Cyfyngir yr anheddiad modern i ffermydd gwasgaredig yn Fferm Boatside, Tir-mynach a Fferm Lower House, ynghyd â nifer o fythynnod gweithwyr ar ochr y ffordd. Adeiladwyd yr adeiladau presennol o rwbel tywodfaen gan fwyaf, wedi'i rendro yn achos Tir-mynach, yn dyddio o ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif gan fwyaf. Mae adeiladau fferm, gan gynnwys ysgubor garreg gydag agennau gwynt yn Nhir-mynach. Mae gardd lysiau wedi'i hamgylchynu â wal, a choed a blannwyd yn rhoi argraff fonheddig i'r tirlun i'r gorllewin o Fferm Boatside.

Nodweddir y tirlun amaethyddol gan gaeau o faint canolig gyda therfynau afreolaidd, sy'n awgrymu gwahanol gyfnodau o gau tiroedd o gyfnod yr canol oesoedd ymlaen, ac mae trefn y caeau o bosibl yn adlewyrchu presenoldeb caer Rufeinig yn Fferm Boatside ac o bosibl darn mawr o dir wedi'i gau o amgylch maenor fynachaidd Tir-mynach. Hen ffynnon yw Monk's Well oedd yn cyflenwi dwr i fferm Tir-mynach. Mae olion cefnen a rhych ar ymyl yr ardal rhwng Clyro Court a Melin Cleirwy oedd o bosibl yn perthyn i gaeau agored y canol oesoedd oedd yn perthyn i bentref Cleirwy. Gwrychoedd isel aml-rywogaeth a geir fwyaf o gwmpas y caeau, yn cynnwys celyn, cyll, masarn ac ynn. Fe unwyd nifer o gaeau yn y blynyddoedd diwethaf, a gellir gweld yr hen gaeau mewn rhai achosion drwy lasleiniau, hen gloddiau caeau, a choed aeddfed unigol oedd unwaith yn tyfu ar hyd terfynau'r caeau. Trefnwyd y caeau mewn perthynas â'r ffyrdd a'r lonydd sy'n croesi'r ardal. Mae'r lôn droellog rhwng Fferm Boatside a Fferm Lower House yn rhedeg mewn ceuffordd amlwg am ran o'r ffordd, ac mae hi'n amlwg yn hen iawn.

Cynrychiolir hen ddiwydiant gan Felin Cleirwy, hen felin ddwr yn malu yd o'r ?18fed ganrif, ar Nant Cleirwy. Daeth oes hon i ben yn y 1920au. Mae ei chafn a'i llyn melin bellach wedi eu llenwi. Roedd pocedi o glai o fewn y marian rhewlifol hefyd yn cael eu cloddio o dro i dro. Cynrychiolir hyn mewn pwll clai ger Wyecliff, i'r de o Gleirwy, a phwll a ddaeth i ben i'r gorllewin o Dir-mynach. Mae darnau o grochenwaith a ddarganfuwyd ar yr wyneb yn awgrymu bod y pwll hwn wedi cynnal odyn grochenwaith ôl-ganol oesol. Mae dyddiaduron Kilvert yn crybwyll odynau brics yn gweithio yn yr ardal yn y 1870au, oedd heb amheuaeth yn cyflenwi deunyddiau adeiladu ar gyfer adfywio'r Gelli, er fod y cynhyrchu wedi dod i ben erbyn diwedd y 1880au, o ganlyniad i gystadleuaeth gan odynau eraill mae'n debyg. Cynrychiolir safleoedd amddiffynnol gan gaer Rufeinig Cleirwy, caer dros dro o gyfnod cynnar y goncwest, ychydig i'r gogledd o Fferm Boatside, ac o bosibl gan wersyll gorymdeithio Rhufeinig cyfagos, a nodwyd gan lun a dynnwyd o'r awyr. Mae'r safle â ffos yn Lower House mae'n debyg yn cynrychioli ffermdy amddiffynnol o'r canol oesoedd.

Ffynonellau


Cadw 1994a;
Jarrett 1969;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
RCAHMW 1986;
Soil Survey 1983;
Thomas 1959;
Williams 1990

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.