CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy


Tirluniau Naturiol

Mae tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Gwy yn cynnwys ardal dopograffig hawdd ei diffinio, gyda tharren ddramatig y Mynydd Du i'r de a'r bryniau tywodfaen â llethrau esmwyth yn Sir Frycheiniog i'r gorllewin, a Sir Faesyfed i'r gogledd. Mae'r amrediad topograffig cyffredinol rhwng tua 700m uwchlaw Datwm yr Ordnans ar grib y Mynydd Du i tua 80m ar lawr y dyffryn. Mae'r Hen Dywodfaen Goch sydd o dan wyneb y rhan fwyaf o'r ardal yn amrywio'n fawr, ac yn cynnwys pridd cleiog coch, lleidfeini, mwdfeini gwastad, graean a rhywfaint o glymfeini, gwelyau Senni gwyrdd, tywodfaen coch a phiws, a gwelyau tenau o galchfaen. Cafodd y strata o dywodfaen eu gweithio yma ac acw yn y gorffennol fel ffynonellau cerrig adeiladu ar gyfer tai, ysguboriau, waliau ac adeiladau eraill, ac ar gyfer teiliau to. Cloddiwyd chwareli calchfaen er mwyn cynhyrchu calch amaethyddol.

Ffurfiwyd siâp y tirlun yn ystod y rhewlifiad diwethaf pan unodd rhewlif oedd yn symud i'r de-ddwyrain, ar hyd rhan uchaf Dyffryn Gwy, â rhewlif oedd yn symud i'r gogledd-ddwyrain ar hyd dyffryn Llynfi. Fe ddihangodd y rhew i wastatir Swydd Henffordd, i'r dwyrain o'r Gelli, yn y diwedd. Fe achosodd y rhewlif ddyffrynnoedd llydan gwastad afon Llynfi a Gwy, ac fe adawodd yn ei sgîl dirffurfiau a dyddodion drifft sydd wedi cael effaith o bwys ar lysdyfiant, anheddiad gan bobl, a defnydd tir. Ymhlith y mwyaf nodedig o'r nodweddion hyn y mae'r marian enciliol helaeth sy'n ffurfio rhwystr rhannol yn y dyffryn rhwng Cleirwy a'r Gelli, troedfryniau'r Mynydd Du sydd wedi eu gorchuddio'n rhannol â drifft i'r de o Dalgarth, a'r clog-glai graeanog yn cynnwys pridd cleiog coch ar rannau o lawr dyffryn Llynfi a Gwy. Cafodd rhai o'r dyddodion ffrwd-rewlifol hyn eu gweithio yn y gorffennol fel ffynonellau graean yn ogystal â chlai.

Mae'r patrwm draenio a sefydlwyd yn dilyn y rhewlifiad yn seiliedig ar afonydd Gwy a Llynfi sy'n uno â'i gilydd yn Y Clas ar Wy. Mae afon Llynfi yn tarddu o'r llyn rhewlifol diweddar yn Llangors, a dyna darddiad yr enw. Mae afon Dulas yn llifo iddi o'r dwyrain ym Mronllys ac mae nifer o nentydd sy'n rhedeg drwy gymoedd dyfnion oddi ar darren ogleddol y Mynydd Du hefyd yn llifo iddi. Y mwyaf nodedig o'r rhain yw Nant yr Eiddil sy'n llifo i afon Llynfi ger Trefeca, afon Ennig sy'n llifo iddi ger Talgarth, a Nant Felindre sy'n llifo iddi ger Three Cocks. Mae nifer o nentydd eraill yn torri'n ddwfn i mewn i lechweddau gogleddol y Mynydd Du ac yn creu isafonydd i afon Gwy, gan gynnwys Nant Ysgallen, Nant Digedi, Nant Cilonw a Nant Dulas. Mae afon Gwy yn dilyn hynt dolennol ar hyd gwaelod y dyffryn, gyda nifer o ystumlynnoedd, cilfachau a phaleosianeli, yn pwysleisio'r dyddodi cyson a'r ailweithio ar ddyddodion llifwaddodol sydd wedi dod i'r amlwg ers y rhewlifiad diwethaf. Mae gorlifdir afon Gwy hyd at 1 cilomedr o led er fod yna dri man croesi naturiol o fewn y tirlun hanesyddol yn Llyswen, Y Clas ar Wy a'r Gelli, lle mae tir uwch yn dod yn nes at yr afon o'r ddwy ochr. Rhwng Cleirwy a'r Gelli mae afon Gwy wedi torri sianel gul, ychydig gannoedd o fetrau o led yn unig, drwy'r marian rhewlifol 50m o uchder, sydd fel arall yn ffurfio rhwystr yn y dyffryn ar y pwynt hwn.

Ceir amrywiaeth mawr yn y math o bridd o fewn ardal y tirlun hanesyddol, yn dibynnu ar hydroleg, y ddaeareg o dan yr wyneb a phresenoldeb dyddodion drifft neu lifwaddod. Ar wahân i rannau lle mae'r draeniad yn cael ei rwystro gan briddoedd stagnoglei cambig, yn uchel ar droed tarren y Mynydd Du, mae priddoedd brown sy'n draenio'n weddol dda yn gorchuddio'r rhan fwyaf o droedfryniau'r Mynydd Du a'r bryniau is i'r gogledd a'r gorllewin, ac mae hyn wedi caniatáu i'r tir gael ei drin ar gryn uchder uwchben lefel y môr. Mae mwy o amrywiaeth lleol mewn mathau o bridd ar hyd gwaelod dyffrynnoedd Llynfi a Gwy, ac yn ei hanfod mae hyn yn dibynnu a ydynt yn gorwedd ar bridd cleiog, dyddodion graean neu lifwaddod o'r afon. Mae'r rhan fwyaf o'r priddoedd ar y tir is yn hawdd eu gweithio, er fod llifogydd a dwr sy'n sefyll ar rai adegau o'r flwyddyn yn effeithio arnynt.

Dim ond ychydig o ddadansoddiad paleo-amgylcheddol a wnaed ar ddyddodion o fewn ardal y tirlun hanesyddol ei hun, ond mae'r gwaith a wnaed yng Nghomin Rhosgoch a nifer o safleoedd tir uwch a gwaelod dyffryn yn y rhanbarth yn dangos, erbyn tua 6000 CC y byddai'r ardal wedi ei gorchuddio â choedlannau derw, gyda llawer o goed palalwyf, llwyfenni, ynn, bedw, cyll ac ysgaw yn digwydd ar raddfa leol, a'r coedlannau'n ymestyn i uchder o 600m efallai uwchlaw Datwm yr Ordnans. Ceir arwyddion fod y gorchudd coediog naturiol hwn eisoes yn cael ei effeithio gan weithgarwch dynol erbyn y cyfnod Mesolithig, a cheir tystiolaeth o drin tir lleol ar gyfer cynhyrchu grawn yn y cyfnod Neolithig cynnar, o tua 4000 CC ymlaen. Bu clirio cyson ar y coed drwy gydol y cyfnodau cynhanesyddol, y cyfnodau Rhufeinig a chanol oesol, ac mae'n edrych yn debyg fod y gorchudd coed yn edrych rywbeth yn debyg i heddiw erbyn cyfnod y canol oesoedd diweddar, gyda darnau o goedlannau collddail cymysg lled-naturiol wedi'u cyfyngu i'r llechweddau mynyddig a'r dyffrynnoedd mwy anghysbell.