CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy


Tirluniau Anheddu

Adlewyrchir llawer o elfennau yn hanes anheddu Canol Dyffryn Gwy yn y tirlun cyfoes, gan gynnwys elfennau sy'n tarddu o deyrnas gynnar cyn-goncwest Brycheiniog, o'r drefn faenoraidd a ddaeth i fodolaeth yn dilyn y goncwest Normanaidd, dirywiad y drefn ffiwdal ganol oesol a thwf ystadau tir yn y cyfnod canol diweddarach, y newidiadau a ddaeth o ganlyniad i welliannau mewn cysylltiadau yn y 18fed a'r 19eg ganrif, effeithiau diboblogi cefn gwlad yn y 19eg a'r 20fed ganrif, a thwf aneddiadau cnewyllol yn y 19eg a'r 20fed ganrif.

Ychydig a wyddys hyd yma am natur neu faint anheddu gan ddyn yng Nghanol Dyffryn Gwy cyn y cyfnod canol oesol cynnar. Ni ddarganfuwyd unrhyw safleoedd anheddu yn perthyn i'r cyfnod cynhanesyddol cynharach hyd yn hyn, er fod dosbarthiad cofadeiliau claddu cynharach, gan gynnwys carn hir Neolithig a thomen gron o'r Oes Efydd, yn awgrymu bod amrediad eang o ardaloedd topograffig yn cael eu hecsploetio ac fod grwpiau teuluol neu lwythol yn dechrau ymddangos, pob un gyda'u tiriogaeth bendant eu hunain efallai. Gwelwyd llond dwrn o fryngaerau yn ymddangos yn yr Oes Haearn, sy'n edrych fel petaent yn cynrychioli twf aneddiadau cnewyllol, yn gysylltiedig unwaith eto â grwpiau tylwythol neu lwythol. Ceir rhai awgrymiadau fod nifer o ystadau amaethyddol wedi ymddangos yn ystod y cyfnod Rhufeinig, er mai ychydig a wyddys am y rhain.

Mae'n amlwg fod patrymau cymhleth o anheddu wedi datblygu drwy gydol cyfnod yr oesoedd canol cynnar ac mae'n bosibl fod y patrymau anheddu a ymddangosodd yn dilyn y goncwest Normanaidd, tua diwedd yr 11eg ganrif, wedi datblygu o'r patrwm oedd yn bodoli o fewn teyrnas Brycheiniog cyn y goncwest yn hytrach na'i ddisodli. Fe fyddai rhai elfennau o'r patrymau Cymreig yn gyfarwydd i'r uwch-arglwyddi Normanaidd, gan eu bod yn seiliedig ar batrwm o aneddiadau cnewyllol yn ogystal â gwasgaredig - yr aneddiadau cnewyllol yn aml ar y tir isel mwy cyfoethog a'r aneddiadau gwasgaredig ar y rhannau mwy mynyddig. Roedd aneddiadau cnewyllol yn cael eu cynrychioli gan drefn nid annhebyg i drefn y maenorau Seisnig, ac yn cynnwys llys yr arglwydd lleol, y tir oedd yn perthyn i'r arglwydd, a maerdref, sef fferm y beili, a chymunedau rhwymedig yr oedd eu haelodau yn dal rhan o'r tir âr yn gyfnewid am wasanaeth eu llafur ar dir yr arglwydd. Roedd y patrymau anheddu gwasgaredig yn seiliedig ar ddaliadau tir gan grwpiau etifeddol rhydd, neu aelodau gwely. Roedd gan aelodau'r gwely hawl i dir âr, tir pori, coedlannau a thir pori garw, ac yn aml iawn roedd hyn yn creu'r patrwm o anheddu a gynrychiolir gan glystyrau o dyddynnau oedd yn amgylchynu darnau cymharol fach o dir âr wedi ei rannu.

Mae modd gweld rhai elfennau arbennig o'r patrwm cyn-goncwest yn nhirlun Canol Dyffryn Gwy. Ymddengys fod canolfannau gweinyddol cyn-goncwest pwysig yn bodoli yn y cartref brenhinol yn Nhalgarth ac yn llysoedd Llyswen a Bronllys. Mae'n debygol fod pob un o'r canolfannau hyn yn gysylltiedig â maerdrefi ac aneddiadau rhwymedig, yn seiliedig ar ddarnau helaeth o dir âr yn nyffrynnoedd ffrwythlon Gwy a Llynfi, a bod safleoedd eglwysi cynnar yn gysylltiedig â llysoedd Talgarth a Llyswen. Mae'r eglwysi cynnar yn Llanfilo, Llanelieu, Llanigon, Llowes, a'r Clas ar Wy yn ôl pob tebyg yn cynrychioli anheddiad cnewyllol rhwymedig arall, ond yn yr achosion hyn wedi eu gosod yn gyffredinol gyda mynediad parod i'r ucheldir a'r iseldir ac yn awgrymu economi oedd yn gyfuniad o batrymau ucheldir ac iseldir o ddefnyddio tir.

Mae'n ymddangos bod patrwm cymhleth o anheddu gwledig a ymddangosodd o fewn Canol Dyffryn Gwy yn dilyn y goncwest Normanaidd, wedi ei wreiddio'n ddwfn yn y drefn a oedd wedi datblygu yn y cyfnod cyn-goncwest, ac mae'n bosibl ei fod yn cynrychioli graddau helaeth o barhad yn hytrach na mewnfudiad Seisnig mawr yn disodli'r boblogaeth frodorol. Cynrychiolir un elfen gan y maenorau mawr ar y tir isel ac aneddiadau rhwymedig gyda chaeau agored helaeth yn Llyswen, Bronllys a Thalgarth. Roedd trigolion y lleoedd hyn yn talu dyled ar ffurf gwasanaeth eu llafur i arglwydd y faenor. Pwysleisir pwysigrwydd parhaus y canolfannau cyn-goncwest hyn gan statws Talgarth fel prif ganolfan weinyddol arglwyddiaeth Talgarth, is-arglwyddiaeth o fewn arglwyddiaeth Blaenllynfi, a statws Bronllys fel canolfan weinyddol arglwyddiaeth Cantref Selyf, oedd yn ymestyn hyd at gyffiniau gorllewinol y sir a ddaeth wedi hynny yn Sir Frycheiniog. Yr ail elfen ym mhatrwm anheddu Canol Dyffryn Gwy yn y cyfnod ôl-goncwest oedd creu nifer o faenorau llai ac is-denantiaethau megis y rhai yn Llanthomas, Porthamel, rhai ohonynt o bosibl yn seiliedig ar aneddiadau rhwymedig cynharach. Byddai'r maenorau hyn yn cael eu dal oherwydd gwasanaeth milwrol, ac fe'u cyflwynwyd yn aml, i ddechrau, i'r rhai hynny oedd wedi cynorthwyo concwest Brycheiniog. Roedd marchogion oedd ag eiddo helaeth mewn lleoedd eraill yn dal amryw o'r maenorau, fel yn achos Humphrey Videlon, a gafodd denantiaeth Trewalkin, ac a oedd yn dal amryw o faenorau yn Berkshire, Swydd Rhydychen a Suffolk. Trydedd elfen, a allai fod wedi tarddu o'r cyfnod cyn-goncwest neu a allai fod yn ganlyniad poblogaeth frodorol wedi cael ei symud, oedd yr aneddiadau neu'r brodoriaethau Cymreig. Roedd y rhain yn arbennig o amlwg ar droedfryniau'r Mynydd Du. Roedd gan denantiaid y brodoriaethau Cymreig wartheg a moch ac roeddent yn trin stribedi o dir âr, ac yn talu gwrogaeth i'r arglwyddiaeth drwy aredig a chynaeafu. Bu llawer o ehangu, yn arbennig o ganlyniad i'r clirio coed a fu o fewn y brodoriaethau Cymreig, ac erbyn diwedd y 13eg a dechrau'r 14eg ganrif roedd ffermydd parhaol wedi cael eu sefydlu yn uchel ar droedfryniau'r Mynydd Du a bryniau eraill o fewn ardal tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Gwy.

Elfen newydd oedd ymddangosiad bwrdeistrefi arglwyddiaeth fel yn Y Gelli a Thalgarth, gyda marchnadoedd wedi'u bwriadu ar gyfer cynyddu masnach a llif arian ac i fod yn ganolfannau gweinyddol ar gyfer eu gwahanol arglwyddiaethau. Gosodwyd Y Gelli ar safle oedd heb ei gyffwrdd yn agos i gastell cerrig newydd, a gosodwyd Talgarth ar safle llys brenhinol tybiedig cyn-goncwest. Does dim tystiolaeth o siarter sylfaenu yn achos bwrdeistref gastellog amddiffynnol Y Gelli, ac mae'n edrych yn debyg iddi gael ei sefydlu drwy gyfarwyddyd neu arfer erbyn rhywbryd ar ddechrau'r 13eg ganrif. Fe wnaed grantiau murdreth ym 1232 ac 1237, yn gysylltiedig â chodi'r castell carreg newydd, yn dilyn y dinistr a achoswyd gan y Brenin John ym 1216 a Llywelyn ap Iorwerth ym 1231. Erbyn 1298 roedd gan y fwrdeistref 183 bwrdais, y rhan fwyaf o ddigon gydag enwau Saesneg. Daeth Talgarth yn fwrdeistref yn gynnar yn y 14eg ganrif, ac roedd ganddi 73 bwrdais ym 1309. Ni chrëwyd amddiffynfa i'r fwrdeistref erioed, er fod twr carreg wedi cael ei adeiladu o fewn y dref yn ystod y 14eg ganrif er mwyn gwarchod ei buddiannau gweinyddol.

Roedd trefn ganol oesol yr aneddiadau rhwymedig wedi hen fynd â'i phen iddi erbyn diwedd y 14eg ganrif. Roedd hyn yn rhannol o ganlyniad i bla difrifol, y Farwolaeth Fawr, a ledodd drwy arglwyddiaethau'r mers yn arbennig yng ngororau'r de-ddwyrain tua canol y 14eg ganrif. Arweiniodd hyn at grebachu nifer o bentrefi a throi cefn yn llwyr ar rai. Awgrymir un enghraifft bosibl o'r broses hon gan dystiolaeth gwaith maes ger Penishapentre, ar ochr ogleddol Llanfilo, lle'r ymddengys fod ceuffyrdd a llwyfannau tai yn cynrychioli rhan o bentref a adawyd yn wag yn ystod cyfnod y canol oesoedd. Awgrymir tystiolaeth debyg ym mhentref Cleirwy ac yn rhai o'r treflannau ar dir ymylol yr ucheldir yn nhroedfryniau'r Mynydd Du.

Yn y 15fed ganrif cafodd cymdeithas newydd ei ffurfio, a datblygodd patrymau anheddu newydd, gyda'r hen wahaniaethau cymdeithasol rhwng gwyr caeth a rhydd yn chwalu. Dyma gyfnod yr uchelwyr neu deuluoedd bonheddig brodorol, pan gadarnhawyd yn raddol y daliadau gwasgaredig a grëwyd o'r maenorau Seisnig a'r gwely Cymreig. Ymddangosodd ffermydd ac ystadau pendant, rhai yn seiliedig ar faenorau ac is-denantiaethau cynharach, ac yn aml yn dwyn enwau personol neu deuluol. Roedd rhai yn dyddio'n ôl i'r cyfnod Normanaidd ac yn perthyn i farchogion a oedd wedi helpu Bernard de Neufmarché yng nghoncwest Brycheiniog megis Tregunter (ar ôl teulu Peter Gunter) a Threwalkin (ar ôl Wakelin Visdelon), ac eraill megis Trebarried (ar ôl ap Harry Vaughan), Trefeca (ar ôl Rebecca Prosser), Trephilip (ar ôl Philip ap John Lawrence Bullen) a Phentre Sollars (ar ôl Syr Henry Solers) â'u gwreiddiau yn y canol oesoedd neu gyfnod Elisabeth. Mae gan rai o'r ffermydd enwau Saesneg cynharach megis Ythelston, o'r enw personol Ithel, am Drefithel, a Phelippeston am Drephilip, y ddau enw wedi eu cofnodi ym 1380.

Roedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yng Nghanol Dyffryn Gwy yn ymwneud ag amaethyddiaeth hyd at ddiwedd y 19eg ganrif, er fod twf diwydiant ym maes glo De Cymru ac ymfudiad i'r trefi yn cael ei gynrychioli gan ostyngiad amlwg ym mhoblogaeth rhai ardaloedd gwledig megis y wlad oddi amgylch Talgarth, lle'r oedd hyd at un o bob deg ty yn anghyfannedd erbyn degawd gyntaf y 19eg ganrif.

Fe ddioddefodd Y Gelli ddirywiad yn yr 16eg ganrif, fel llawer o fwrdeistrefi castellog eraill, oherwydd lleihad yn ei phwysigrwydd milwrol a cholli ei safle breintiedig fel canolfan weinyddol arglwyddiaethau'r mers. Erbyn 1460 roedd y castell eisoes yn cael ei ddisgrifio fel 'adfail, wedi'i ddinistrio gan y gwrthryfelwyr a heb unrhyw werth', a disgrifiwyd y dref gan Leland yn y 1530au fel 'adfail bendigedig'. Roedd y fasnach oedd yn graddol dyfu yn y rhanbarth yn cael ei sianelu drwy'r trefi, fodd bynnag, ac yn raddol fe ymddangosodd Y Gelli yn ganolfan wasanaethu bwysig, gyda datblygiad diwydiannau prosesu yn cynnwys melinau, gwlân a thrin lledr, a marchnad oedd yn bwysig am rawn a nwyddau, ceffylau, gwartheg a rhywfaint o ddefaid. Yn ystod diwedd y 18fed a thrwy gydol y 19eg ganrif manteisiodd y dref ar y gwelliannau a wnaed i gysylltiadau, cyflwyno'r ffyrdd tyrpeg yn y lle cyntaf ac wedyn y dramffordd o Aberhonddu i'r Gelli a agorwyd ym 1818, a Rheilffordd Henffordd, Y Gelli ac Aberhonddu a agorodd yn y 1860au. Mae cyfrifiad 1801 ac 1891 yn dangos bod y boblogaeth wedi dyblu bron yn ystod y 19eg ganrif. Erbyn 1900 roedd Y Gelli wedi tyfu'n dref bwysig ar y gororau gyda thai a gwestai newydd oedd yn 'barchus iawn eu golwg' gyda holl nodweddion bywyd mewn tref ranbarthol: neuadd farchnad o'r 1830au, golau nwy yn y 1840au, cronfa ddwr newydd ar Gomin Y Gelli erbyn y 1860au, elusendai o'r 1830au a'r 1860au, mynwent newydd yn y 1870au ar hen gaeau agored Ffordd Aberhonddu, twr cloc ym 1881, a neuadd blwyf ym 1890. Yn dilyn dirywiad ar ddechrau'r 20fed ganrif mae'r dref wedi cael adfywiad yn ddiweddar fel canolfan ddiwylliannol ar ôl i Richard Booth brynu Castell Y Gelli fel rhan o'i weledigaeth i greu canolfan wledig i brynu llyfrau.

Mae'n debyg mai lleoliad Talgarth ar safle amlwg yn nyffryn Llynfi, a'r bwlch drwy'r Mynydd Du tua'r de, fel canolfan ffordd ac wedyn fel canolfan reilffordd, sy'n gyfrifol am y ffaith iddi oroesi fel tref fach. Fe ddatblygodd hithau yn dref farchnad bwysig yn ystod diwedd y 18fed a'r 19eg ganrif, ac roedd porthmyn a gwerthwyr yn mynychu'r marchnadoedd lle'r oedd gwartheg a rhywfaint o foch yn cael eu gwerthu, a'r ffair geffylau adnabyddus hefyd. Fel Y Gelli, fe godwyd llawer o adeiladau newydd yn ystod y 19eg ganrif, gan gynnwys siopau a thafarnau, gwesty, neuadd farchnad ac ystafelloedd ymgynnull, neuadd ymarfer, elusendai a chapeli anghydffurfiol.

Fe ehangodd amryw o aneddiadau llai ac ymddangosodd rhywfaint o aneddiadau newydd yn sgîl gwelliannau i'r system drafnidiaeth yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif. Mae'r datblygiadau cynnar hyn yn cynnwys aneddiadau ar-fin-y-ffordd yn Felindre a Ffordd-las, a ymddangosodd yn sydyn ar hyd yr hen ffordd fawr rhwng Talgarth a'r Gelli. Byddai canolbwynt anheddiad hefyd yn ymddangos ar hyd y ffordd yn Llanigon, nepell o gnewyllyn hanesyddol y pentref. Fe ddatblygodd yr anheddiad unionlin rhwng Treble Hill a Three Cocks yn sgîl gwelliannau i'r ffordd dyrpeg rhwng Bronllys a'r Gelli, adeiladu'r dramffordd geffylau rhwng Aberhonddu a'r Gelli ar ddechrau'r 19eg ganrif, datblygiad y rheilffordd ar ddiwedd y 19eg ganrif, a chodi pontydd newydd dros afon Gwy yn Y Clas ar Wy a thros afon Llynfi yn Pipton. Fe enwyd Three Cocks yn addas iawn ar ôl ty tafarn yn dyddio o'r cyfnod cyn-dyrpeg, ond fe'i hadnewyddwyd pan wnaed y gwelliannau i'r ffyrdd yn y 18fed ganrif. Fe ddyblodd Llyswen o ran maint yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, yn rhannol fel ymateb i adeiladu pont doll newydd dros afon Gwy ym Mochrwyd yn y 1830au. Fe dyfodd yr anheddiad cnewyllol newydd yng Nghwm-bach, i'r gogledd o'r Clas ar Wy, yn rhannol o ganlyniad i symud y ffordd gyhoeddus i wneud lle i Barc Castell Maesllwch. Fe ddenodd y safle newydd gapel Methodistiaid Wesleaidd a adeiladwyd ym 1818 ac eglwys blwyf newydd Yr Holl Saint a adeiladwyd yn yr 1880au. Ymddengys fod y clwstwr o fythynnod yn Bochrwyd Brest wedi datblygu yn rhannol o ganlyniad i ddatblygiad y ffordd newydd rhwng Bochrwyd a'r Clas ar Wy ar hyd cerlan yr afon i'r gogledd o'r afon, ac yn rhannol o ganlyniad i gau'r hen gaeau comin agored y mae'r ffordd yn torri ar eu traws. Datblygiad arall oedd yn rhoi mwy o drefn ar nifer o aneddiadau cnewyllol bychain yn ystod y 19eg ganrif oedd datblygiad ysgolion pentrefol, a godwyd yn Felindre, Llanfilo, Y Clas ar Wy, Bronllys a Llanigon. Mae'r rhan fwyaf o'r aneddiadau cnewyllol yn yr ardal wedi gweld ehangu cyson yn ystod yr 20fed ganrif, Y Gelli tua'r gorllewin, Talgarth tua'r gogledd yn arbennig, Cleirwy tua'r gorllewin a datblygiad llenwi'i mewn ym Mronllys a Three Cocks.

Mae tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Gwy yn arbennig o bwysig wrth gyflwyno microcosm o hanes anheddu yng ngororau deheuol Cymru o'r cyfnod cynhanesyddol hyd at y gorffennol diweddar. Braidd yn niwlog yw'r hanes cynnar, fodd bynnag, ac mae rheoli a chadw dyddodion archeolegol, adeiladau a strwythurau sy'n ymwneud â hanes anheddu yn arbennig o bwysig yng nghyfnod yr oesoedd canol cynnar a'r oesoedd canol. Mae dyddodion archeolegol sy'n gysylltiedig â'r canlynol yn arbennig o bwysig: yr aneddiadau cnewyllol hyn sy'n ymwneud â hanes y llysoedd, maerdrefi a'r aneddiadau rhwymedig; ffermydd a thai gwasgaredig sy'n ymddangos o aneddiadau rhwymedig, ffermydd a maenorau yr oesoedd canol cynnar a'r oesoedd canol; datblygiad trefi canol oesol ac ôl-ganol oesol cynnar, gan gynnwys tystiolaeth am eu cynllun, yr adeiladau yr oeddent yn eu cynnwys, eu hamddiffynfeydd, a'r crefftau a'r diwydiannau oedd yn digwydd o'u mewn. Mae cymeriad gweledol trefi a phentrefi hanesyddol hefyd yn bwysig, gan gynnwys pethau gweledol cysylltiedig.