Mae'r tirwedd hwn sydd mor nodweddiadol o Bowys yn gorwedd i'r de orllewin o'r Gelli yng nghysgod y Mynyddoedd Du. Mae'r tirwedd hwn yn cynnwys gorlifdir a llethrau serth ymyl dyffryn yr Afon Gwy, a'r llwyfandir ysgythrog dan sgarp gogleddol y Mynyddoedd Du.
Mae i'r ardal hanes cyfoethog ac amrywiol a chysylltiadau diwylliannol pwysig. Ar hyd ochr ddeheuol y dyffryn, ar gyrion yr ucheldir, ceir cyfres o siambrau claddu Neolithig o fath a adwaenir, oherwydd eu ffurf a'u cynllun hynod, fel beddau Hafren-Cotswold. Mae yna safleoedd beddau nodedig yn goroesi ym Mhen-y-wyrlod (Llanigan), Little Lodge, Pipton, Fostyll a Penywyrlod (Talgarth).
Er mai dylanwadau Eingl-Normanaidd a ffurfiodd wedd yr ardal, yn bennaf mae tystiolaeth sylweddol o aneddiad cynhenid Gymreig. Tybir mai sefydliad clas oedd y Clas-ar-Wy ar y cychwyn (canolfan weinyddol uned fynachaidd yn y Canol Oesoedd), ac mae cofnod hefyd ei bod yn safle Brwydr Clasbirig yn 1095 rhwng y Sacsoniaid a'r Cymry.
Mae'r aneddiad Eingl-Normanaidd i'w weld fwyaf amlwg yn y Gelli, sydd wedi cadw cynllun ei strydoedd canoloesol, gydag olion o'r castell ac amddiffynfeydd y dref. Heddiw, mae'r dref yn fwy adnabyddus am ei siopau llyfrau a'i gwyl lenyddol.
1082 Bryn-yr-hydd ardal cymeriad.
Aneddiadau bychain cnewyllol o’r canol oesoedd o gwmpas castell ac eglwys ar ymyl y dyffryn, a ffermydd gwasgaredig o'r cyfnod canol a diweddarach ar dir isel mynyddig o fewn tirlun o gaeau bychain afreolaidd, yn cynrychioli proses raddol o ymestyn i mewn i diroedd comin yr ucheldir.
Photo: CPAT 00c0079.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1083 Maesllwch
ardal cymeriad.
Parc tirlun mawr o’r 19eg ganrif sy’n lleoliad prydferth i’r castell ffug Duduraidd o oes Fictoria a osodwyd yng nghaeau canol oesol agored Y Clas ar Wy, caeau a gaewyd yn niwedd y 18fed ganrif, gyda gweddillion llecynnau o goedlannau hynafol lled-naturiol.
Photo: CPAT 00c0117.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1084 Cwm-bach
ardal cymeriad.
Ffermdai gwasgaredig o’r canol oesoedd a diweddarach ar fryniau isel, o fewn tirlun o gaeau canolig eu maint â gwrychoedd a cheuffyrdd, gyda gweddillion darnau o goedlannau hynafol lled-naturiol ar y llechweddau mwy serth
Photo: CPAT 00c0124.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1085 Trebarried
ardal cymeriad.
Anheddiad cnewyllol o gwmpas eglwys ganol oesol Llanfilo a ffermydd gwasgaredig o’r oesoedd canol a diweddarach ar fryniau isel a phantiau i’r gorllewin o afon Llynfi, nifer o’r ffermydd yn wreiddiol yn rhan o faenorau llai ac is-denantiaethau o’r oesoedd canol yn perthyn naill ai i deuluoedd Seisnig neu Gymreig.
Photo: CPAT 00c0141.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1086 Gro ardal cymeriad.
Gorlifdir afon Gwy rhwng Y Clas ar Wy a’r Gelli, gydag ystumlynnoedd a doleniadau afon a chaeau petryal mawr yn cynrychioli gwaith cau diweddar ar yr hen ddôl isel oedd yn dir comin.
Photo: CPAT 00c0099.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1087 Llyswen ardal cymeriad.
Anheddiad cnewyllol eglwysig canol oesol a maenorau ac olion trin tir agored ar raddfa helaeth ar dir isel sy’n draenio’n dda o gwmpas afon Gwy, gydag adeiladau hwyrach yn sgîl datblygu systemau trafnidiaeth ffordd a rheilffordd yn y 18fed a’r 19eg ganrif.
Photo: CPAT 00c0133.
(Nôl i'r map)
|
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1088 Y Gelli ardal cymeriad.
Bwrdeistref gastellog ganol oesol, tref farchnad gyda chaeau agored ynghlwm, yn tyfu i fod yn ganolfan gwasanaeth a masnach bwysig yn yr 17eg a’r 18fed ganrif ac yn ganolfan ddiwylliannol a thwristaidd yn y cyfnod modern.
Photo: CPAT 00c0085.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1089 Tir-uched ardal cymeriad.
Ffermydd gwasgaredig canol oesol a diweddarach ar dir isel ar lannau deheuol afon Gwy rhwng Y Gelli a’r Clas ar Wy, rhai yn tarddu o faenorau Seisnig.
Photo: CPAT 00c0105.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1090 Gwernyfed ardal cymeriad.
Tirlun isel a llechweddau’n disgyn yn raddol gyda hen barc ceirw a bwthyn heliwr canol oesol, gweddillion gerddi ffurfiol o gyfnod y Dadeni a thy maenor, a pharc tirlun o’r 19eg ganrif a phlasty.
Photo: CPAT 1042.08A.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1091 Llynfi
ardal cymeriad.
Aneddiadau cnewyllol a ffermydd mawr gwasgaredig yn tarddu o faenorau Seisnig canol oesol ynghlwm â chaeau canol oesol agored a helaeth ar hyd glannau dyffryn ffrwythlon Llynfi.
Photo: CPAT 00c0166.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1092
Maestorglwydd ardal cymeriad.
Troedfryniau islaw tarren ogleddol y Mynydd Du, wedi’u hollti gan gymoedd dyfnion yn cynnwys nentydd, gyda ffermdai gwasgaredig, rhai yn dai hirion o’r canol oesoedd, o fewn tirlun o gaeau bychain o siâp afreolaidd a thiroedd comin bychain ar gopa’r bryniau.
Photo: CPAT 00c0101.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1093
Ffostyll ardal cymeriad.
Anheddiad eglwysig bychan unig yn Llaneleu, wedi’i amgylchynu gan dir bryniog isel ar droed y Mynydd Du, gyda ffermydd gwasgaredig o fewn tirlun o lechweddau coediog a chaeau amlochrog, wedi eu cau gyntaf efallai yn y cyfnod ôl-ganol oesol cynnar
Photo: CPAT 1040.06.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1094
Gwrlodde ardal cymeriad .
Ffermydd gwasgaredig a chaeau bychain trefnus o ganlyniad i glirio coedlannau yn systematig a chau tir ar droedfryniau llechweddog y Mynydd Du i’r de o Dalgarth yn ystod y canol oesoedd.
Photo: CPAT 1038.17.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1095
Pen-rhos-dirion ardal cymeriad.
Tir comin heb ei gau ar yr ucheldir ar darren ogleddol y Mynydd Du gyda chofadeiliau claddu a defodol cynhanesyddol, olion ymestyniad amaethyddol a chwarelyddol i’r tir ymylol o’r cyfnod ôl-ganol oesol, bellach wedi eu gadael.
Photo: CPAT 1040.01.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1096
Tir-mynach ardal cymeriad.
Tirlun amaethyddol trefnus ar dir isel ar farian rhewlifol twmpathog, gyda phatrwm caeau sydd o bosibl yn adlewyrchu presenoldeb caer Rufeinig a maenor fynachaidd o’r oesoedd canol.
Photo: CPAT 00c0080.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1097
Y Clas ar Wy ardal cymeriad.
Aneddiadau unionlin ôl-ganol oesol ar hyd coridor cysylltiadau, wedi ei osod ar anheddiad cnewyllol canol oesol ger man croesi cynnar pwysig dros afon Gwy.
Photo: CPAT 00c0119.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1098
Gwy ardal cymeriad.
Gorlifdir afon Gwy gydag ystumlynnoedd a doleniadau afon a therfynau caeau, yn cynrychioli cau diweddar ar hen ddolydd oedd yn rhan o dir comin yr iseldir rhwng Y Clas ar Wy a’r Gelli
Photo: CPAT 00c0128.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|