CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Tir-uched
Cymunedau Gwernyfed a Llanigon, Powys
(HLCA 1089)


CPAT PHOTO 00c0105

Ffermydd gwasgaredig canol oesol a diweddarach ar dir isel ar lannau deheuol afon Gwy rhwng Y Gelli a'r Clas ar Wy, rhai yn tarddu o faenorau Seisnig.

Cefndir hanesyddol

Awgrymir gweithgarwch cynnar yn yr ardal gan fwyell garreg gaboledig Neolithig a ddarganfuwyd ger y Warren, crafell fflint ger Llwynbrain, siambr garn hir Neolithig yn Little Lodge, a'r domen gron o'r Oes Efydd ger Coed-y-polyn. Mae'n bosib fod yr amgaead ag olion cnwd ar gerlan yr afon uwchlaw'r gorlifdir yng Nghoed y Polyn yn dangos anheddiad cynhanesyddol hwyrach. Ni wyddys am unrhyw aneddiadau Cymreig o'r canol oesoedd cynnar na'r cyfnod cyn-goncwest o fewn yr ardal, er fod yr ardal wedi dod yn rhan o is-arglwyddiaethau'r Gelli a'r Clas ar Wy yn dilyn y goncwest Normanaidd ar ddiwedd yr 11eg ganrif, a'i bod yn cael ei dal yn rhannol gan faenorau Seisnig. Mae'r ffos yn Llanthomas yn ôl pob tebyg yn perthyn i ddiwedd yr 11eg ganrif a dechrau'r 12fed ganrif, ac yn perthyn i faenor oedd yn gysylltiedig ag eglwys berchnogol yn y 14eg ganrif yn dwyn yr enw Thomaschurch. Fe sefydlwyd ail faenor Seisnig yn y cyfnod hwn yn Nhregoed yn ogystal ag isdenantiaeth yn Felindre. Roedd hen gapel oedd yn ddibynnol ar eglwys Y Clas ar Wy yn bodoli yn Felindre tan tua'r 18fed ganrif, ond erbyn hynny roedd hwnnw a'r capel yn Llanthomas wedi diflannu. Mae'n bosibl fod aneddiadau rhwymedig bychain yn gysylltiedig â phob maenor, er nad yw'r dystiolaeth wedi ei darganfod eto. Wedi'r Ddeddf Uno ym 1536 daeth yr ardal yn rhan o gantref Talgarth yn Sir Frycheiniog. Yng nghanol y 19eg ganrif roedd yr ardal yn rhan o blwyfi Degwm Aberllynfi, Y Clas ar Wy, Y Gelli a Llanigon.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Mae'r ardal ar gerlan isel sy'n pantio'n araf uwchlaw gorlifdir glannau deheuol afon Gwy, yn is na throedfryniau'r Mynydd Du, rhwng 90 a 170m o uchder uwchlaw Datwm yr Ordnans. Caiff yr ardal ei hollti gan amryw o gymoedd dyfnion a nentydd gan gynnwys Nant Ysgallen a Nant Digedi, glannau Nant Ysgallen yn llawn o goed llydanddail lled-naturiol yn cynnwys derw ac ynn. Mae'r pridd gan fwyaf yn bridd brown, bras a mân (Cyfres Newnham), dwfn iawn yn lleol, yn gorwedd ar ffrwd-rewlifol gan gynnwys graean. Defnyddir y tir heddiw ar gyfer pori gan fwyaf gyda pheth tir âr ar gyfer cnydau porthiant a grawn. O fewn yr ardal fe geir nifer o blanhigfeydd bychain yn gymysg o goed coniffer a llydanddail, megis Allt Frân.

Prif nodwedd yr anheddiad presennol yw patrwm o ffermydd canolig eu maint, tua 500-660m ar wahân ac yn aml wedi eu gosod o fewn eu caeau eu hunain. Cynrychiolir llinell derfyn o adeiladu cynharach yn Nhynllyne a Phentwyn. Mae'n bosib mai ty hir gyda ffrâm nenfforch oedd Tynllyne yn wreiddiol, ac iddo gael ei newid rhwng yr 17eg a'r 19eg ganrif. Fe osodwyd yr ysgubor ym Mhentwyn gyda ffrâm nenfforch ac estyll tywydd, o ddiwedd yr 16eg ganrif o bosib, ar waliau rwbel gwenithfaen, ac fe'i ehangwyd yn yr 17eg a'r 18fed ganrif. Erbyn dechrau'r 17eg ganrif, rwbel gwenithfaen oedd y prif ddeunydd adeiladu, fel yn achos ffermdai Upper Sheephouse a New Court. Mae llawer o'r ffermdai mwy yn perthyn i'r 18fed a'r 19eg ganrif, unwaith eto mewn rwbel gwenithfaen, fel yn Fferm Tregoed, Llwynbrain, Little Lodge, Llwynfilly, Ffordd-fawr a Phentwyn, ynghyd â'r ysguboriau carreg o'r 18fed ganrif yn Llwynbrain, Little Lodge a Llwynfilly, rhai gydag agennau gwynt, ac ambell waith gydag adeiladau allanol o'r 19eg ganrif o frics ac estyll tywydd, ac adeiladau fframiau dur o'r 20fed ganrif ac adeiladau modern eraill yn Little Lodge, Fferm Tregoyd a Ffordd-fawr. Un o'r adeiladau mwy crand a mwy diweddar yn yr ardal nodwedd yw Neuadd Tregoed (canolfan weithgareddau erbyn hyn), plasty brics o ddechrau'r 20fed ganrif gydag addurniadau gwenithfaen, a ddisodlodd blasty o'r 17eg a ddinistriwyd gan dân ym 1900. Mae'r ty o fewn tiroedd hamddena cyfoes a bu plannu addurnol tirluniol tua'r gorllewin, gan gynnwys pinwydd gwyllt, Wellingtonia a chastanwydd, ffawydd, yw a chedrwydd. Ymddangosodd nifer o aneddiadau bychain ar hyd y ffyrdd tyrpeg yn niwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Mae anheddiad y capel yn Felindre yn nodweddiadol o'r math hwn o ddatblygu ar ochr y ffordd, i ffwrdd rywfaint o galon yr anheddiad gwreiddiol, gyda bythynnod gweision ffermydd o'r 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, a thafarn - yr adeiladau cynharaf o gerrig rwbel a'r rhai diweddarach ag addurniadau brics melyn a glas. Datblygiad tebyg o'r cyfnod hwn yw clwstwr bychan o fythynnod ar fin y ffordd yn Ffordd-las, o ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Mae'r adeiladau â chysylltiadau crefyddol sydd wedi goroesi yn cynnwys y Capel Presbyteraidd Cymreig yn Felindre, o 1862 a bellach wedi ei drawsnewid, ac o bosib ysgubor garreg yn Llwynllwyd, i'r gorllewin o Llanigon. Dywedir mai dyma oedd safle'r academi anghydffurfiol a sefydlwyd yn gynnar yn y 1700au ac a fynychwyd gan Hywel Harris a William Williams, Pantycelyn, dau a fyddai'n dod yn gymeriadau amlwg yn y mudiad anghydffurfiol yng Nghymru.

Nodweddir y tirlun amaethyddol modern gan gaeau petryal o faint canolig gyda gwrychoedd isel aml-rywogaeth yn cynnwys drain gwynion, ysgawen, celyn a chyll. Mae yna beth tystiolaeth o blannu gwrychoedd ar un adeg, ond mae nifer o wrychoedd sydd wedi dirywio yn cael eu disodli gan ffensiau postyn a gwifren i gadw stoc i mewn. Gwelir coed derw ac ynn aeddfed yma ac acw, rhai ohonynt ar ganol cae, yn cynrychioli hen derfynau'r cae sydd bellach wedi eu symud. Gwelir ffurfiad glasleiniau ar ambell i gae ar lechweddau mwy serth o ganlyniad i aredig ar un adeg. Gwelir olion dull cefnen a rhych o drin y tir mewn nifer o lefydd, ac mae ardal i'r gorllewin o Lanthomas o bosib yn weddill caeau agored y faenor ganol oesol. Yma ac acw gwelir polion llidiart ar fin y ffordd o gerrig wedi'u naddu. Roedd perllannau ynghlwm wrth lawer o'r ffermdai yn y 19eg ganrif, ac mae gweddillion rhai i'w gweld mewn mannau.

Ar ffin ddwyreiniol yr ardal mae'r hen ffordd rhwng Talgarth a'r Gelli ac ar y ffin orllewinol mae'r ffordd dyrpeg wedi'i gwella. Rhwng y ddwy brif linell gysylltiol yma y mae lonydd troellog mewn ceuffyrdd yn croesi, a dryswch o lwybrau cerdded a lonydd glas, rhai yn amlwg yn hen iawn. Mae cysylltiad rhwng cyfres o bontydd carreg a'r gwelliannau i'r ffyrdd tyrpeg yn Felindre, Pontcwrtyrargoed, Tregoed a Llanigon, ac felly hefyd yr amryw o gerrig milltir yn Upper Sheephouse a gerllaw Pont-yr-angell. Gwelir hynt yr hen ffordd dram rhwng Aberhonddu a'r Gelli, o ddechrau'r 19eg ganrif, yn dilyn y ffordd dyrpeg ar hyd cerlan yr afon, ffordd a ddisodlwyd yn niwedd y 19eg ganrif gan reilffordd sydd bellach wedi ei datgymalu, a chynrychiolir y ddwy gan dorlannau a hen geuffosydd.

Cynrychiolir yr hen ddiwydiant prosesu gan felin ddwr fechan i falu yd yn Nhregoed ynghyd â thy'r melinydd, cafnau a llyn melin, a chan safle'r hen felin yn Felindre. Cynrychiolir y diwydiant cloddio gan nifer o chwareli cerrig bychain gwasgaredig, ar gyfer adeiladu yn ôl pob tebyg o'r 16eg ganrif ymlaen.

Gwelir nifer o lynnoedd bychain ar wasgar drwy'r ardal, llynnoedd sydd o bwys paleoamgylcheddol posibl.

Ffynonellau


Cadw 1994b;
Cadw 1995c;
Davies 1957;
Haslam 1979;
Jones & Smith 1964;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
Martin & Walters 1993;
Morgan 1995-96;
Rees 1932;
Soil Survey 1983

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.