CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy


Tirluniau Amaethyddol

Ar sail gwaith paill a gweddillion planhigion wedi'u carboneiddio, mae tystiolaeth o ddechreuadau gweithgareddau amaethyddol i gynhyrchu grawn yn y rhanbarth yn ystod y cyfnod Neolithig cynnar, o tua 4000 CC ymlaen. Mae esgyrn anifeiliaid o nifer o safleoedd lleol, gan gynnwys carn hir Penyrwrlodd i'r de o Dalgarth, hefyd yn cynnig tystiolaeth o ffermio gwartheg, defaid, a moch o'r cyfnod cynnar hwn, ynghyd â thystiolaeth o hela ceirw gwyllt. Aeth y gwaith o glirio coedlannau rhagddo drwy'r cyfnodau Neolithig a'r Oes Efydd, ar gyfer deunydd adeiladu, trin y tir a chreu tir glaswellt, a cheir rhywfaint o dystiolaeth o glirio penodol ar goed llwyfen a phalalwyfen o'r cyfnod Neolithig hyd at Ganol yr Oes Efydd, rhwng 3500-1200 CC. Mae amryw o astudiaethau yn nyffrynnoedd Llynfi a Gwy yn awgrymu cynnydd pendant mewn gwaddod oedd yn casglu ar lawr y dyffrynnoedd drwy gydol y cyfnod cynhanesyddol, o ganlyniad i fwy a mwy o glirio ar y coedwigoedd yn ôl pob tebyg. Hyd yn hyn does dim llawer o dystiolaeth am weithgareddau amaethyddol yn yr ardal yn ystod yr Oes Efydd ddiweddar, yr Oes Haearn a'r cyfnod Rhufeinig, ond mae'n debygol fod y gweithgarwch hwn wedi dwysáu drwy gydol y cyfnod hwn. Mae graddfa'r cynnydd a fu mewn gwaddod yn llyn Llangors wedi cael ei ddehongli'n betrusgar fel arwydd o amaethyddiaeth a thrin tir cynyddol a mwy a mwy o bridd yn erydu yn nyffryn Llynfi yn cychwyn tua'r ganrif gyntaf a'r ail, yn ystod yr Oes Haearn ddiweddar a'r cyfnod Rhufeinig cynnar. Ni wyddom lawer eto ynglyn â graddfa'r anheddiad Brythonaidd-Rufeinig a'u defnydd o dir yn yr ardal, ond mae'r ffaith fod Brychan, sefydlydd chwedlonol Brycheiniog, yn hawlio ei fod yn disgyn o bendefig Rhufeinig, yn awgrymu'r posibilrwydd fod nifer o ystadau yn perthyn i dirfeddianwyr Brythonaidd-Rufeinig amlwg wedi cael eu sefydlu yn yr ardal erbyn diwedd y cyfnod Rhufeinig.

Bu mwy a mwy o glirio coed drwy gydol y cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig a chanol oesol, ac mae'n edrych yn debyg fod hynny o dir oedd yn dal dan goed yn debyg i'r hyn ydyw heddiw, gyda llecynnau o goedlannau collddail cymysg lled-naturiol yn gyfyngedig gan fwyaf i'r llethrau mwy serth a'r dyffrynnoedd dyfnion mwy anghysbell. Y tebygrwydd yw fod systemau o ddefnyddio tir wedi datblygu i fanteisio ar yr adnoddau amrywiol oedd ar gael o fewn ardal y tirlun hanesyddol. Mae'r ardal yn rhannu'n naturiol yn rhanbarthau topograffig, pob un â'i botensial amaethyddol arbennig ei hun: dolydd gwlypach ar hyd gorlifdir Llynfi a Gwy, ar eu gorau ar gyfer pori yn y gaeaf; y tir isel sy'n draenio'n dda uwchlaw'r gorlifdir, gyda rhannau helaeth yn addas ar gyfer aredig; tir bryniog llechweddog, gydag adnoddau coedlannau, dolydd a rhannau gwastad llai yn addas ar gyfer aredig; ac yn olaf y tir mynydd agored, yn addas yn bennaf ar gyfer pori yn yr haf. Mae enwau lleoedd yn aml yn adlewyrchu gwahanol fathau o ddefnydd tir, tir âr (maes) yn cael ei adlewyrchu yn ôl pob tebyg yn enwau Tregoed a Chwrt-coed, dôl neu weirglodd yn enwau Gwrlodde, Penyrwrlodd, a phorfa fynyddig neu rostir yn enwau Rhos Fawr, Pen-rhos-dirion a'r Rhos.

Unwaith eto, ychydig iawn a wyddys am natur y gweithgarwch amaethyddol yn yr ardal yn ystod y canol oesoedd, er fod safle chwedlonol llys Brychan yn Nhalgarth a safle tybiedig llys Rhodri Mawr yn Llyswen yn y 9fed ganrif, yn awgrymu bod amryw o ystadau pwysig wedi ymddangos yn y tir ffermio ffrwythlon ar hyd gwaelod dyffryn Llynfi a Gwy yn y cyfnod cyn-gongwest, gyda nifer o aneddiadau rhwymedig yn eu gwasanaethu mae'n debyg. Mae'r enw Bronllys, sy'n tarddu o bosibl o'r gair Braint a llys, yn awgrymu lleoliad stad arall debyg.

Fe orfodwyd trefn weinyddol newydd ar y drefn hon yn dilyn y goncwest Normanaidd pan ddaeth yr ardal yn rhan o arglwyddiaethau'r mers a oedd newydd gael eu ffurfio. Cafodd y rhan fwyaf os nad y cyfan o'r tir âr gorau ar y tir isel ei atafaelu a'i gyflwyno i fân arglwyddi, marchogion a mewnfudwyr Seisnig, i ffurfio maenorau ffiwdal wedi'u gweinyddu o dan y drefn Seisnig, a lluniwyd caeau agored helaeth yn hen aneddiadau cnewyllol Llyswen, Bronllys a Thalgarth ac o'u cwmpas, ac o amgylch tref newydd Y Gelli, gyda maenorau llai yn cael eu sefydlu mewn mannau eraill, fel yn Aberllynfi, Pipton, Porthamel, Pont-y-wal, Trephilip, Tregoed, Trevithel, Trebarried a Llanthomas. Mae'n debyg fod aneddiadau yn perthyn i wyr rhydd wedi cael eu sefydlu ar y tir mynyddig oddi amgylch o gyfnod y goncwest ymlaen, os nad cyn hynny, yn seiliedig ar reolau etifeddu Cymreig a hawliau perchnogaeth tir ar y cyd gan aelodau llwyth unigol neu wely, ac mae'n debyg fod hyn wedi cael ei amlygu gan grwp o dyddynnod neu ffermydd yn ffurfio treflan wedi'i chlystyru neu gyda mynediad i ddolydd, tir pori garw ac ambell i gytir wedi ei rannu yn stribedi bychan o gaeau agored. Roedd y brodoriaethau Cymreig hyn yn gyfyngedig yn bennaf i'r ffermydd llai ar y tir mynyddig oddi amgylch drwy gyfnod yr oesoedd canol. Roeddynt yn dal yn atebol i arglwyddiaethau'r mers ac yn dal i fod yn elfen allweddol ym mywyd economaidd yr arglwyddiaeth yn gyffredinol. Roedd tenantiaid Cymreig Cantref Selyf yn y 14eg ganrif, er enghraifft, yn cynnig eu gwasanaeth adeg y cynhaeaf o dro i dro ym maenor Seisnig Bronllys.

Mae darlun delfrydol o'r ardal ar ddiwedd y 12fed ganrif yn cael ei dynnu gan Gerallt Gymro, yn sôn am bentyrrau mawr o yd yn cael eu cynhyrchu, digonedd o dir pori i'r gwartheg, coedlannau yn llawn o anifeiliaid gwylltion, ac afon Gwy wedi ei stocio'n dda gydag eogiaid a phenllwydion. Mae cyfeiriadau mynych mewn dogfennau at diroedd newydd yn cael eu asartio ym mhlwyfi'r Clas ar Wy a Thalgarth yn y 12fed ganrif, yn awgrymu poblogaeth sy'n dal i dyfu, ac fel llawer rhan arall o Gymru, erbyn diwedd y 13eg ganrif, mae'n debyg fod y boblogaeth wedi cyrraedd lefel na fyddai'n ei chyrraedd eto hyd at yr 16eg ganrif, yn sgîl pla a thrychinebau eraill yn ystod diwedd y 14eg ganrif. Amlygir prinder tir oherwydd y twf yn y boblogaeth ac effeithiau'r rheolau etifeddiaeth Cymreig (oedd yn golygu rhannu'n gyfartal rhwng pob etifedd gwryw) yn y ffaith nad oedd gan fwyafrif tenantiaid brodoriaethau Cymreig yr ucheldiroedd yn arglwyddiaeth Y Gelli yn y 1340au fwy na 5 erw o dir âr. Amlygir sefyllfa debyg o orboblogi ar yr adeg hon yn ardaloedd yr iseldir ffrwythlon o gwmpas Bronllys.

Roedd Llyswen i gael tri chae comin, un i'r gorllewin o'r pentref, un yn nolen yr afon i'r gogledd o'r eglwys, ac un i'r de-orllewin o'r pentref. Roedd gan Y Clas ar Wy gaeau agored helaeth ar dir llechweddog i'r gogledd o'r pentref, gydag enwau megis Maes y llan isa a Maes y pentre mewn dogfennau o'r 17eg ganrif. Fe arhosodd Bronllys yn blwyf gyda chaeau agored hyd at ganol y 19eg ganrif, ac mae cynllun y caeau ar fap Degwm 1839 yn awgrymu trefn dri chae fel un Llyswen, gyda Minfield (Mintfield) i'r gogledd o'r pentref, Coldbrook Field i'r gogledd-ddwyrain, a chydag un neu fwy o gaeau âr agored i'r gorllewin a'r de-orllewin, ag enwau megis Maes Waldish, Maes dan Derwad, a Maes y bach. Unwaith eto roedd gan Talgarth drefn tri chae gyda Red Field i'r gogledd-ddwyrain, Briar Field i'r de-orllewin a Lowest Common Field rhwng y dref ac afon Llynfi. Roedd patrymau cymhleth o berchnogaeth wedi datblygu erbyn diwedd yr 17eg ganrif o fewn y rhannau helaeth o dir âr agored yn y plwyfi a'r maenorau cyfagos o fewn dyffryn Llynfi, ac mae cydberchnogaeth a rhyng-gymysgiad stribedi yn awgrymu bod economi amaethyddol Talgarth, Porthamel ac o bosibl Bronllys yn ddibynnol iawn ar ei gilydd.

Fe gollwyd llawer o hen gaeau agored helaeth y maenorau yn yr ardal, yn dilyn y symudiad i gau tir yn enwedig ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, er fod rhai rhannau wedi eu colli oherwydd gweithgareddau eraill. Fe dorrwyd trwy wahanol rannau o'r hen gaeau agored gan y ffyrdd tyrpeg a adeiladwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif. Fe adeiladwyd ar hen gaeau agored i'r gogledd o Dalgarth, i'r de a'r gorllewin o Fronllys, i'r gorllewin o Lyswen, ac i'r gorllewin o'r Gelli mewn cyfnodau gymharol ddiweddar. Roedd rhannau mwy helaeth yn dal yn weladwy fel stribedi unigol ar fapiau Degwm canol y 19eg ganrif, ond fe'u collwyd bellach wedi i'r gwrychoedd gael eu chwalu ac wrth i gaeau llai gael eu huno. Mae olion pwysig o'r caeau comin i'w gweld hyd heddiw mewn rhai ardaloedd, fodd bynnag, yn cael eu cynrychioli gan gaeau stribed amlwg gyda gwrychoedd neu ddarnau o gefnen a rhych o'u cwmpas, fel yn achos yr ardal i'r gogledd-ddwyrain a'r de-orllewin o Dalgarth, yn ardal Penmaes i'r gogledd-ddwyrain o Bronllys, yn ardal Bochrwyd Brest, ac ar y tir llechweddog i'r de o'r Gelli. Mae'n debyg fod nifer o rannau bychain o gefnen a rhych yn cynrychioli caeau agored oedd yn perthyn i rai o'r maenorau llai, fel yn Llanthomas a Threvithel er enghraifft.

Roedd hwsmona anifeiliaid hefyd yn chwarae rhan bwysig yn economi'r faenor, a'r elfen bwysig yma oedd yr hen ddolydd agored ar y tir isel o bobtu i gymer afon Llynfi a Gwy, oedd ar agor yn draddodiadol i bobl gyffredin rhwng diwedd Tachwedd a Dygwyl Fair ar Fawrth 25, ac mae rhai lleoedd megis Upper Gro a Lower Gro ger Y Clas ar Wy yn dal yn dir comin hyd heddiw.

O gyfnod cynnar y pwyslais yn y mynyddoedd a'r troedfryniau oedd ar hwsmonaeth anifeiliaid, magu gwartheg ar gyfer cig a chynnyrch llaeth, a defaid mewn ymateb i ymchwydd yn y fasnach wlân yn y 14eg ganrif. Brodoriaethau Cymreig oedd llawer o'r tir mynyddig, ac roedd topograffeg doredig yr ardaloedd hyn, ynghyd â phatrymau gwahanol o berchnogaeth tir a gweithgarwch economaidd, yn creu patrwm gwahanol o gaeau bychain afreolaidd yn y dyffrynnoedd a'r llechweddau is gyda thir pori agored ar y bryniau a'r rhostiroedd uwchben, ar gyfer pori yn ystod yr haf. Yn wahanol i gaeau agored helaeth maenorau'r iseldir, nid oedd tiroedd rhanedig y trefi brodorol yn ddim mwy na pharseli bychain o stribedi cyfochrog yn ôl pob tebyg, ac yn dilyn y cau tiroedd a fu yn y cyfnod ôl-ganol oesoedd, mae'n anoddach o lawer eu darganfod. Gellir darganfod rhai o'r hen diroedd rhanedig weithiau o dystiolaeth enwau caeau, fodd bynnag, gan fod y gair maes yn aml yn golygu 'cae agored'. Roedd y tir o fewn y brodoriaethau Cymreig yn cael ei ddal gan denantiaid yr arglwyddiaeth, oedd hefyd yn berchen ar wartheg a moch, yn gyfnewid am ddyletswyddau aredig a chynaeafu. Yn arglwyddiaeth Y Gelli yn y 1340au, er enghraifft, roedd 9 tenant yn dal tua 37 erw ym Maestorglwydd tua 320m uwchlaw Datwm yr Ordnans, ac yn y Wenallt roedd 175 erw'n cael eu dal gan 22 tenant ar uchder o 400m. Roedd tir y Wenallt yn cael ei ddal yn rhinwedd Calan Mai, treth o fuchod a delid ar ddechrau Mai bob yn ail flwyddyn. Cafodd caeau a phadogau eu creu yn gynnar i amddiffyn dolydd yr ucheldir ac i reoli stoc yn ystod misoedd y gaeaf, ac mae'n debyg fod tai hirion o goed yn cael eu codi erbyn y 15fed ganrif o leiaf ar gyfer ffermydd yr ucheldir, gyda lle i anifeiliaid yn un pen.

Mewn rhai ardaloedd roedd y tir caeëdig efallai eisoes yn ymestyn i ymylon y tir mynydd erbyn canol y 13eg ganrif. Mae cofnodion yn awgrymu bod mynachod Priordy Aberhonddu, yn ystod degawdau cyntaf y 13eg ganrif, yn ymestyn y tir oedd ganddynt yn Nhrewalkin drwy glirio coedlannau yng nghyfeiriad Mynydd Troed, rhwng 300 a 400m o uchder uwchlaw Datwm yr Ordnans. O fwy nag un safbwynt mae'r ffin rhwng y tir agored a chaeëdig o dan darren y Mynydd Du yn cynrychioli gweddillion tirlun o gyfnod yr oesoedd canol hwyr, gyda chaeau a daliadau unigol yn cael eu gwthio allan i'r comin. Mae tystiolaeth ddogfennol sy'n disgrifio arglwyddiaeth Y Gelli yn y 1340au yn nodi Trefynes, enw sy'n amlwg yn golygu Tref-ynys, sef yr 'ynys' o dir caeëdig ar Waun Croes Hywel ar 350m. Yn y 1330au mae'n amlwg nad oedd y castell yng Nghastell Dinas, ar uchder o fwy na 400m, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer fawr mwy na lle i gadw gwartheg, o bosibl o fewn amddiffynfeydd yr hen fryngaer o'r Oes Haearn y cyfeirir ati fel beili-glâs.

Awgrymir systemau defnydd tir cynnar eraill yn yr ardal gan weddillion adeiladau carreg o'r 14eg ganrif yn perthyn i faenor Sistersaidd Fferm Clyro Court, ond nid oes fawr o ddealltwriaeth ohonynt hyd yma. Yn y cyfnod canol oesol diweddar gwelwyd y systemau canol oesol o ddal tir yn dirywio'n raddol yn y maenorau Seisnig a'r treflannau Cymreig, gyda rhent yn cymryd lle dyletswyddau ffiwdal, uno daliadau, ac ymddangosiad nifer o ystadau yn seiliedig ar faenorau ffiwdal cynharach. Roedd gwarged o yd a gwartheg yn cael eu hallforio i rannau eraill o Gymru a Lloegr. Disgrifir y fasnach wartheg leol ar ddechrau'r 18fed ganrif gan Daniel Defoe yn ei Tour Through the Whole island of Great Britain, a gyhoeddwyd yn y 1720au: 'oddi yma mae nhw'n gyrru heidiau mawrion o wartheg i Loegr bob blwyddyn, a gwyddom eu bod yn llenwi'n ffeiriau a'n marchnadoedd, hyd yn oed Smithfield ei hun'. Erbyn yr 17eg ganrif roedd perllannau afalau, gellyg a cheirios yn gysylltiedig â ffermydd yr iseldir o gwmpas Talgarth, Bronllys, Llyswen, Y Clas ar Wy a'r Gelli eisoes yn dod yn rhan amlwg o'r tirlun, rhai ohonynt yn amlwg ar gefnen a rhych yn yr hen gaeau agored canol oesol oedd bellach wedi'u cau, a rhai efallai ar gefnen oedd newydd ei chodi. Mae'r nenfwd plastr rhyfeddol o'r 17eg ganrif ym mharlwr ffermdy Trefeca Fawr wedi ei addurno â deiliach ac afalau seidr di-rif sy'n 'dathlu ffrwythlondeb y tir yn deilwng iawn'. Roedd y perllannau afal a gellyg yn Nhrefeca Fawr, oedd yn ymestyn dros 10 erw yng nghanol y 19eg ganrif, yn adnabyddus am fath o afal o'r enw Golden Pippin, oedd yn cael ei gofnodi o'r 1620au ymlaen o leiaf.

Daeth yr hen drefn ganol oesol o ffermio i ben yn yr ardal i bob pwrpas gyda'r gwelliannau i ddulliau o ffermio a gyflwynwyd yn ystod y 18fed ganrif. Roedd ffermydd yn nyffryn Gwy rhwng Y Gelli a Thalgarth, drwy gyflwyno peiriannau newydd, cylchdroi cnydau i wella ffrwythlondeb y pridd, a stoc fridio newydd, yn flaengar yn y chwyldro amaethyddol hwn yng Nghymru. Mae adroddiadau'r Bwrdd Amaeth yn nodi bod cymaint â phum cylchdro mewn bod yn iseldir cantref Talgarth erbyn diwedd y 18fed ganrif, gan gynnwys yd, ceirch, barlys, pys a gwyndonnydd meillion. Un o'r bobl flaengar â llawer o'r dulliau newydd oedd Howel Harris, yr arweinydd Methodistaidd carismatig a chwaraeodd ran arweiniol wrth sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog ym 1755. Prif nod Harris oedd hybu arfer da mewn amaethyddiaeth o fewn y gymuned Gristnogol gydweithredol a hunangynhaliol yr oedd wedi'i sefydlu yn Nhrefeca, cymuned a helpodd i greu defnydd mwy proffidiol o'r tir drwy gyfuno â gweithgynhyrchu.

Mae'r enw The Warren, sy'n ymddangos yn nolen yr afon, ychydig i'r gorllewin o'r Gelli, a hefyd ger Felindre, yn awgrymu bod cwningod yn cael eu ffermio'n fasnachol am eu cig a'u ffwr, ond does dim cofnod o gwningar artiffisial na thwmpathau clustog yn yr un o'r ddwy ardal, ac nid yw dyddiad y diwydiant amaethyddol lleol hwn yn sicr.

Yn ystod diwedd y 18fed a'r 19eg ganrif, roedd darnau helaeth o dir comin ar ffurf caeau comin agored, dolydd comin ar hyd afon Gwy a Llynfi, a chomin yr ucheldir neu lwybrau defaid, i gael eu rhannu â ffensys, waliau neu wrychoedd. Er mai yn Sir Frycheiniog heddiw y mae'r canran uchaf o dir comin a thir pori garw o holl siroedd y gororau, bu gostyngiad o 50% mewn tir comin yn y sir yn gyffredinol yn ystod y 19eg ganrif. Roedd cau tir comin drwy gyfrwng ffensys a gwrychoedd yn cael ei hybu er mwyn gwella effeithiolrwydd amaethyddol, drwy gadarnhau daliadau tir, galluogi cynlluniau draenio a chynlluniau eraill i wella tir, ac fel ffordd o reoli anifeiliaid a gwarchod cnydau. Roedd cau'r tiroedd yn cael ei hybu'n daer gan dirfeddianwyr mawr a Chymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, oedd yn cynnig gwobrau yn y 1770au am 'adfeddiannu a throi cymaint ag y gellir o Dir Garw gyda Rhedyn, Banadl, Eithin neu Rug, na chafodd ei drin o fewn Cof, yn dir proffidiol'. Hyd y gellir gweld, roedd y rhan fwyaf o gaeau agored y canol oesoedd wedi cael eu cau erbyn diwedd y 18fed ganrif. Dim ond dau gae comin a gofnodwyd fel rhai wedi'u cau yn yr ardal yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, 50 erw yn Llyswen ym 1858 a 105 erw ym Mronllys ym 1863.

Ymhlith y gwelliannau amaethyddol eraill a wnaed yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif yr oedd cloddio ffosydd draenio a chreu llifddolydd mewn rhai rhannau o'r iseldir ar hyd afon Gwy a Llynfi. Mae manylion gwerthu fferm Chancefield i'r de o Dalgarth yn y 1790au, er enghraifft, yn crybwyll y 'gallai'r tir fod o dan ddwr ar unrhyw adeg', sy'n awgrymu bod rhyw fath o gynllun dyfrhau yn cael ei weithredu. Fe arweiniodd y galw am galch i'w wasgaru hyd y tir at nifer o chwareli ac odynnau calch bychain yn y bryniau uwchlaw Talgarth, Llanigon a'r Gelli. Cyflwynwyd bridiau newydd o wartheg i'r ardal, yn enwedig o sir gyfagos Henffordd, bridiau a ddisodlodd neu a groeswyd gyda'r bridiau oedd yn draddodiadol i'r ardal. Daliodd ychen i fod yn brif anifail y fferm ar gyfer aredig a thasgau eraill ar y tir hyd at ganol y 18fed ganrif. Ar gyfer trafnidiaeth ffyrdd y defnyddid ceffylau yn bennaf hyd at y cyfnod hwn, ond o ddechrau'r 19eg ganrif y ceffyl oedd yr anifail gweithio mwyaf cyffredin.

Mae'r gwaddod a adawyd yn llyn Llangors yn awgrymu cyfnod newydd o erydu pridd, oedd yn ganlyniad posibl i gynnydd sylweddol ym maint y tir ymylol oedd yn cael ei drin, a hyn yn ei dro yn adlewyrchu'r cynnydd ym mhrisiau grawn ym mlynyddoedd cythryblus diwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Mae angen rhagor o astudiaethau, ond mae'n bosibl fod y cynnydd mewn dwr oedd yn rhedeg o ganlyniad i'r ehangu mewn amaethyddiaeth wedi arwain at fwy o lifogydd ar lawr gwlad, a hyn o bosibl wedi arwain at gau safle'r eglwys ganol oesol ger glannau afon Gwy yng nghanol yr 17eg ganrif, eglwys a oedd efallai wedi sefyll yn ddiogel ar yr un safle dros gyfnod o fileniwm cyn hynny. Yn negawd gyntaf y 19eg ganrif roedd Theophilus Jones yn cwyno am y dinistr oedd yn digwydd i'r coedlannau brodorol, gan nodi bod Llanigon 'fel gweddill y wlad yn cael ei dinoethi'n ddyddiol; ychydig iawn sy'n meddwl am blannu a llai fyth am gadwraeth'. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd dyffryn llydan ffrwythlon Gwy a'r brif afon oedd yn rhedeg iddi, sef afon Llynfi, wedi tyfu i fod yn brif ardal cynhyrchu grawn i Sir Frycheiniog a Maesyfed, a bu cynnydd yn y ganran o dir âr a nodwyd yng nghofnodion y Degwm o 30% ym mhlwyfi Bronllys a Llyswen a thros 40% yng Nghleirwy.

Fel y nodwyd uchod, fe ddioddefodd Siroedd Brycheiniog a Maesyfed ddiboblogi yng nghefn gwlad ar ddechrau'r 19eg ganrif, a chanlyniad hyn oedd fod elfennau sylweddol o'r boblogaeth wledig wedi ymfudo i faes glo De Cymru. Roedd hyn i'w weld yn amlwg yn Nhalgarth, lle cododd nifer y tai anghyfannedd yng nghyfrifiad 1801 o bron 10%, gan gychwyn tuedd a barhaodd drwy'r 19eg a'r 20fed ganrif, ac a arweiniodd at ragor o uno a chadarnhau daliadau fferm, a throi cefn ar ffermydd llai, rhandiroedd a bythynnod, yn enwedig yn rhannau mwy ymylol ac anghysbell ardal y tirlun hanesyddol.

Yn ychwanegol at adeiladau a strwythurau eraill, mae hanes cymhleth defnydd tir amaethyddol o fewn tirlun hanesyddol Canol Gwy yn golygu bod yna fynegiant amrywiol iawn o fewn y tirlun: gweddillion darnau o gefnen a rhych yn cynrychioli caeau comin o'r canol oesoedd; caeau stribed wedi eu cau gan wrychoedd planedig un rhywogaeth, yn cynrychioli'r cau a fu ar yr hen gaeau agored yn y 18fed a'r 19eg ganrif; caeau bychain ac afreolaidd ar y troedfryniau a'r llechweddau gyda gwrychoedd aeddfed aml-rywogaeth, yn ganlyniad i'r clirio graddol a fesul tipyn a fu ar goedlannau o gyfnod y canol oesoedd ymlaen; caeau mawr petryal ar hyd y gorlifdir yn cynrychioli'r cau diweddar a fu ar yr hen ddolydd comin a ddefnyddid ar gyfer pori yn y gaeaf; hen lifddolydd gyda cheunentydd bas yn eu croesi; caeau mawr amlochrog ar yr ucheldir wedi'u hamgylchynu gan wrychoedd un rhywogaeth, cloddiau neu waliau cerrig syth, yn cynrychioli'r cau diweddar a fu ar dir comin yr ucheldir; glasleiniau mewn caeau yn dangos erydu ar un adeg gan erydr; darnau o drin tir aredig rig cul mewn rhai ardaloedd ymylol; a chomin rhostir agored ar yr ucheldir. Mae amryw o gwestiynau cadwraeth a rheolaeth yn codi, ond yr elfennau mwyaf bregus sy'n bwysig o ran datgelu hanes defnydd tir yn yr ardal yw'r amrywiaeth o fathau o derfynau caeau, gan gynnwys gwrychoedd, cloddiau, waliau a glasleiniau, rheolaeth coedlannau hynafol llydanddail, a chadwraeth dyddodion dan ddwr a gwaddodion eraill sy'n cadw o'u mewn dystiolaeth am newidiadau amgylcheddol.