CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Maestorglwydd
Cymunedau Gwernyfed, Llanigon a Thalgarth, Powys
(HLCA 1092)


CPAT PHOTO 1040-24

Troedfryniau islaw tarren ogleddol y Mynydd Du, wedi'u hollti gan gymoedd dyfnion yn cynnwys nentydd, gyda ffermdai gwasgaredig, rhai yn dai hirion o'r canol oesoedd, o fewn tirlun o gaeau bychain o siâp afreolaidd a thiroedd comin bychain ar gopa'r bryniau

Cefndir hanesyddol

Dangosir gweithgarwch cynnar yn ardal y tirlun hanesyddol gan ddarnau o fflint yma ac acw a'r garn hir gyda siambr Neolithig ar lethrau isaf Penyrwrlodd. Cymerir bod yr eglwys a gysegrwyd i Sant Eigon yn Llanigon yn cynrychioli anheddiad cnewyllol cyn-goncwest. Lleihawyd maint y plwyf eglwysig helaeth oedd yn perthyn i'r eglwys pan grëwyd plwyf newydd Y Gelli yn dilyn y goncwest Normanaidd. Daeth yr ardal wedi hynny yn rhan o frodoriaeth Gymreig arglwyddiaeth Y Gelli, Talgarth a'r Clas ar Wy. Erbyn hanner cyntaf y 14eg ganrif roedd patrwm anheddiad pendant yn dod i'r amlwg yn yr ardal, wedi'i nodweddu gan faenorau ffiwdal ac is-denantiaethau ar hyd ymylon isaf yr ardal, yn Felindre, Tregoyd a Llanthomas, gyda chlwstwr o aneddiadau brodorol yn ymestyn i'r bryniau a'r cymoedd uwchben, fel ym Maes-y-garn ac o bosibl Llwynbarried, Cwmcadarn, ?Pant-y-fithel, Maestorglwydd, ?Lower Island, Wenallt a mannau eraill. O gyfnod cynnar roedd y maenorau'n cael eu dal yn aml yn gyfnewid am wasanaeth milwrol tra bod yr aneddiadau Cymreig yn aml yn cael eu dal drwy dreth o wartheg y cyfeirid ati fel Calan Mai, treth a delid ddechrau mis Mai bob yn ail flwyddyn. Dim ond darnau bychain o dir âr oedd gan lawer o denantiaid yr aneddiadau Cymreig yn y 1340au. Roedd y naw tenant ym Maestorglwydd, er enghraifft, yn dal rhyngddynt tua 37 erw yn ychwanegol at dir comin ar gyfer pori. Roedd ffermydd eraill megis Llangwathan a Chilonw wedi ymddangos erbyn hanner cyntaf yr 16eg ganrif, sy'n awgrymu ehangu graddol a chlirio tir yn ystod cyfnod y canol oesoedd diweddar. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd yr ardal yn rhan o blwyfi Degwm Llanelieu, Y Clas ar Wy, Llanigon a'r Gelli.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Mae'r ardal wedi'i lleoli ar lethrau serth isaf y Mynydd Du, ar ochr ddeheuol dyffryn Gwy, wedi'i hollti gan gymoedd dyfnion Nant Felindre, Nant Ysgallen, Nant Digedi, Nant Cilonw a Nant Dulas. Rhwng 150 a 420m uwchlaw Datwm yr Ordnans yw'r uchder cyffredinol ac mae'r rhan fwyaf o'r tir yn wynebu'r gogledd-orllewin. Pridd mân cochlyd sy'n draenio'n dda a geir gan fwyaf (Cyfres Milford) yn gorwedd ar dywodfaen. Cofnodir dyddodion twffa ar Gomin Hen Allt, oedd gynt yn cael eu cloddio am ddeunydd adeiladu addurnol yn ogystal â'u defnyddio i losgi calch o bosibl. Mae coedlannau hynafol llydanddail lled-naturiol, yn cynnwys cyll, ynn a derw, wedi goroesi ar lethrau serth, a cheunentydd dyfnion yng Nghoed Blaenycwm, Wenallt-uchaf, ac ar hyd afon Cilonw a Nant Dulas. Ceir hefyd nifer o goedlannau hynafol a ailblannwyd, fel yn Allt Wood (Tregoed), Allt Wood (ger Wenallt), Rook Wood a Tylau Wood, yn ogystal â nifer o lecynnau newydd eu plannu gyda choed llydanddail megis yn Tack Wood. Defnyddir y tir erbyn heddiw yn bennaf ar gyfer pori gyda pheth tir âr ar gyfer cnydau porthiant.

Nodweddir yr anheddiad cyfoes gan ffermydd bychain a chanolig eu maint yng nghymoedd culion yr ucheldir ac ar y gwastatir tua gwaelodion y tir mynyddig. Fel arfer mae'r ffermydd yn agos at ei gilydd, yn aml o fewn 500-600m oddi wrth ei gilydd, gyda ffermydd unigol yn aml yn ffurfio clwstwr clos gyda ffermdy, ysgubor a beudy. Mae gan ffermydd y cymoedd uwch yn aml enwau cyffredin megis Cadarn ac Upper Cadarn, Blaenau-isaf ac uchaf, Lower, Middle ac Upper Maestorglwydd, Blaendigedi-fach, uchaf a fawr, Wenallt-isaf ac uchaf, ac maent yn ymddangos yn aml mewn clwstwr, sy'n awgrymu tarddiad yn nhrefn daliadaeth Gymreig yr oesoedd canol. Yr anheddiad eglwysig canol oesol yn Llanigon yw'r unig anheddiad cnewyllol yn yr ardal. Mae gan hwn gnewyllyn hyn sy'n cynnwys yr eglwys, y fynwent, a grwp o fythynnod carreg o'r 18fed a'r 19eg ganrif, a ffocws mwy diweddar gyda chnewyllyn pentrefol, sef ysgol, neuadd gymunedol a stad o dai sydd wedi tyfu ar y ffordd rhwng Talgarth a'r Gelli.

Cynrychiolir llinell derfyn gynnar o fewn yr ardal nodwedd gan nifer o adeiladau o'r 16eg a'r 17eg ganrif oedd yn wreiddiol yn ffermdai gyda ffrâm nenfforch neu ffrâm o goed, rhai o fath ty hir, math o adeilad oedd yn addas iawn i economi amaethyddol cymysg yr ardal, fel yn Wenallt-uchaf, Wenallt-isaf, a Llwynmaddy. Roedd Llangwathan yn wreiddiol yn dy neuadd gyda nenfforch, a'r hafoty ym Maes-coch yn neuadd un ystafell. Gyda'r rhan fwyaf fe ddisodlwyd y waliau coed allanol gwreiddiol gan gerrig, ac mae Ty-mawr, Llanigon, yn un o'r ychydig adeiladau lle mae'r ffrâm goed yn y golwg. Mae ysgubor gynnar gyda ffrâm nenfforch a waliau rwbel tywodfaen hefyd wedi goroesi ym Middle Maestorglwydd. Roedd gan lawer o'r ffermdai cynnar geginau ar wahân yn ôl pob tebyg, megis yr enghraifft brin o ddechrau'r 17eg ganrif yng Nghilonw.

Codwyd y ffermdai diweddarach o gerrig yn ddieithriad, fel yn achos adain 17eg ganrif y neuadd ym Mhenyrwrlodd, un o adeiladau brafiaf y cyfnod hwn yn yr ardal. Fe'i hadeiladwyd gan William Watkins, swyddog ym Myddin y Senedd yn ystod y Rhyfel Cartref, gyda thu blaen hyfryd wedi ei ychwanegu yn y 18fed ganrif. Mae tai o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif yn cynnwys ffermdy, adeiladau allanol a bwthyn yng Nghwm-dau-nant, Fferm New Forest, ffermdy Blaenau-isaf a Chilonw, yn aml gyda'r ffermdy carreg a'r adeiladau allanol wedi'u gosod o gwmpas y buarth.

Oherwydd uno ffermydd fe drowyd cefn ar rai o'r ffermydd mwyaf ymylol yn ystod yr 19eg a'r 20fed ganrif, fel yn achos Pen-y-comin, neu fe'u haddaswyd ar gyfer defnydd arall, fel yn achos Maes-y-lade sydd bellach yn ganolfan gweithgareddau awyr agored. Mae llawer o dai ac ysguboriau oedd yn rhan o ffermydd bychain gynt bellach yn adfeilion neu'n ddim mwy na phentwr o gerrig neu lwyfannau adeiladu a adawyd.

Mae hanes cymhleth i'r tirlun amaethyddol hynod o fewn yr ardal nodwedd. Cynrychiolir y cau tir a fu yn y cyfnod canol a'r cyfnod ôl-ganol cynnar gan batrwm o gaeau bychain afreolaidd yn y cymoedd cysgodol ac ar y llechweddau llai serth, gyda gwrychoedd aml-rywogaeth yn cynnwys drain gwynion, cyll ac ynn, a rhywfaint o blannu gwrychoedd wedi bod ac yn dal i fod heddiw. Yn gysylltiedig â'r caeau fe geir weithiau lasleiniau bas sy'n dangos llawer mwy o drin tir yn y gorffennol. Mae tarddiad rhai o'r cynlluniau caeau yma yn y daliadau brodorol Cymreig a gofnodwyd yn y 14eg ganrif, wedi cychwyn mewn rhai achosion fel tir âr oedd yn cael ei rannu. Mewn rhai enghreifftiau fe grëwyd ynysoedd unigol o dir caeëdig, fel yn achos Lower Island ar Waun Croes Hywel, sy'n cyfateb, mae'n ymddangos, i'r anheddiad Cymreig y cyfeirir ato fel Trefynes yn y 14eg ganrif.

Fe arweiniodd y broses raddol o glirio a chau yn y cyfnod canol a'r cyfnodau canol mwy diweddar at wahanu nifer o diroedd comin llai ar lechweddau a chopaon y bryniau sydd rhyngddynt, islaw tarren agored y Mynydd Du fel yn achos Comin Bychan, Hay Forest (Yr Allt), Comin Tregoed, Comin Hen Allt a Chomin Y Gelli. Ymddengys fod nifer o'r tiroedd comin hyn wedi cael eu cau ar ôl hynny wrth i welliannau amaethyddol gael eu cyflwyno tua diwedd y 18fed ganrif efallai. Cynrychiolir hyn gan nifer o ddarnau mawr caeëdig unionlin, rhai ohonynt wedi cael eu plannu â choed yn ddiweddarach. Mae gan rai o'r tiroedd caeëdig hyn ar yr ucheldir wrychoedd drain gwynion un rhywogaeth neu waliau sych, yn gysylltiedig â thomenni hel cerrig bychain, er enghraifft gerllaw Wenallt, gyda chloddiau isel a chloddiau wal sych neu gyda wyneb o gerrig sythion, sy'n diffinio ymyl y comin agored.

Roedd perllannau bychain yn gysylltiedig â nifer o ffermydd ar y tiroedd isel megis Penyrwrlodd, Llangwathan, New Forest, Llwynbarried, a Dan-y-common yn y 19eg ganrif, ac mae rhai gweddillion i'w gweld o hyd. Mae amryw o lonydd troellog a lonydd glas yn croesi'r ardal. Mae llawer o'r rhain yn ffurfio ceuffyrdd, rhai yn 6m o ddyfnder ac yn amlwg yn eithriadol o hen. Ymddengys fod rhai o'r lonydd yn tarddu o'r llwybrau hynafol rhwng ffermydd yr iseldir a thir pori'r ucheldir yn yr haf. Mae gweddillion y groes garreg ganol oesol sy'n dwyn yr enw Scottish Pedlar, i'r de o'r Gelli, yn ymddangos fel petae'n sefyll ar lwybr canol oesol rhwng Y Gelli a Llanthony drwy Gospel Pass. Roedd amryw o'r lonydd yn croesi nentydd drwy gyfrwng rhyd hyd at ddiwedd y 19eg ganrif, a chodwyd pontydd yn lle rhai ohonynt bellach.

Roedd yr hen ddiwydiannau prosesu oedd ar waith o fewn y tirlun hanesyddol yn seiliedig ar ynni dwr gan fwyaf, ac yn cynnwys Melin Penlan ar Nant Digedi i'r de o Lanigon. Roedd melinau papur yn troi am gyfnod yn Llangwathan ar nant sy'n rhedeg i Nant Dulas, mewn adeilad sydd bellach wedi'i drosi'n dy, a hen Felin Cusop Dingle ar Nant Dulas, i'r gogledd o Langwathan. Roedd diwydiannau cloddio yn cynnwys chwareli bychain ar gyfer cerrig adeiladu rwbl tywodfaen ac ar gyfer cerrig calch sydd i'w darganfod mewn ponciau cul o fewn tywodfaen y Mynydd Du. Dangosir odynnau calch ar fapiau Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd yn rhan olaf y 19eg ganrif, ym Mhlanigfa New Forest, i'r de-ddwyrain o Fferm New Forest, ger Llwynbarried, i'r dwyrain o Gomin Tregoed yng Nghefn a gerllaw Coed Blaenycwm, ac ym Mlaenau-uchaf ym mhen uchaf Nant Felindre, ac mae rhai o'r olion i'w gweld hyd heddiw yn y cae. Amlygir hen odynnau eraill gan enwau caeau megis 'Kiln Piece Field' i'r gorllewin o Langwathan a 'Limekiln Field' ger Dan-y-common, enwau a geir yn Rhaniad y Degwm yng nghanol y 19eg ganrif.

Ceir nifer o gofebau a thirluniau crefyddol yn yr ardal, gan gynnwys eglwys ganol oesol wedi'i gosod o fewn darn helaeth o dir ym mhentref Llanigon. Cofnodir capel atodol yng Nghilonw ym 1733 ond does dim lleoliad iddo. Mae addoldai anghydffurfiol yn yr ardal yn cynnwys Capel Pen-yr-heol, mewn lleoliad dramatig ar ymyl rhostir agored, ychydig o dan y Mynydd Du.

Ffynonellau


Bevan & Sothern 1991;
Cadw 1994b;
Cadw 1995a;
Cadw 1995c;
Jones & Smith 1964;
Lewes 1995-96;
Morgan 1995-96;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
RCAHMW 1997;
Soil Survey 1983;
Young 1776

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.