Cymraeg / English
|
|
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Mynydd Hiraethog
Mae'r disgrifiad canlynol, a godwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Ardaloedd cymeriad a ddiffinnir yn Nhirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog
|
Mae Mynydd Hiraethog ym mhen gogleddol Mynyddoedd y
Cambria ac mae’n cwmpasu rhannau mynyddig darnau eang a
naturiol o dir i’r de, rhwng prif ddyffrynnoedd afonnydd Clwyd
a Chonwy yng Ngogledd Cymru.Mae’n ardal llwm ac anial o
rostir tonnog sydd,ar y cyfan rhwng 400 a 500m uwchben SO,
ond sydd â sawl dyffryn yn torri ar draws yr ochrau gogleddol
a dwyreiniol gan dreiddio i’r craidd mynyddig. Fodd bynnag,
rhannau gogleddol a gorllewinol y massif yn unig yw’r
ardaloedd a ddisgrifir yma fel tirwedd sydd yn cynnwys goroesiad
trwch di-dor o rostir grug,sydd yn brin iawn yng
Nghymru,a reolwyd ac a gynhaliwyd yn fwriadol fel rhostir
ceiliog y mynydd a stad saethu ar ddechrau’r 20fed ganrif.
Cafodd ei ddethol i beidio â chynnwys y rhan fwyaf o’r rhan
ddwyreiniol sy’n cynnwys planhigfeydd coedwigaeth helaeth
sy’n rhan o Fforest Cloclaenog,a oedd yn wreiddiol yn ymdebygu
ac yn barhad i’r ardal a ddisgrifir yma.
Mae’r tirwedd rhostir hwn, fel sawl ardal fynyddig
arall yng Nghymru wedi tarddu o economïau ucheldir
Neolithig ac Oes yr Efydd neu,yn ôl dehongliadau o dystiolaeth
archaeolegol o rannau eraill o Brydain,sydd
hwyrach a’i wreiddiau yn y cyfnod Mesolithig blaenorol,
pryd yr awgrymir i ardaloedd rhostir gael eu llosgi a’u
clirio’n fwriadol ar gyfer hela.Newidiodd tirwedd cynhanesyddol
yr ucheldiroedd wedi hynny wrth iddynt gael
eu defnyddio ar gyfer pori yn yr haf dros sawl tymor, arfer
a oedd yn seiliedig ar aneddiadau dros dro yn ystod yr haf
neu’r hafodau a leolwyd yn y dyffrynnoedd neu ar hyd ymylon
y rhostir. Ar adegau o orboblogi neu well hinsawdd,hwyrach
y preswyliai pobl ar rai o’r safleoedd hyn yn barhaol,ac yn
sicr ceid aneddiadau parhaol mewn hafodydd yn ystod y cyfnod
ôl-ganoloesol.Roedd llawer o dori mawn yn digwydd yn yr
ardal yn ystod y ganrif ddiwethaf,a gwelir olion toriadau a
thomenni sychu o hyd,ynghyd â gweddillion y ffermydd
ôl-ganoloesol a oedd yn ymelwa ar y mawn.
Ar Fynydd Hiraethog,diflannodd y tirwedd cynharaf hwn
yn ei dro, a bellach gwelir olion trefn o reoli rhostir grug a
osodwyd arno ar ddechrau’r 20fed ganrif.Tra bod y tirwedd
hwn yn greadigaeth gymharol fodern,mae’r ehangder di-dor
sydd wedi goroesi yn dal i fod yn brin yng Nghymru ac felly o
werth hanesyddol;mewn mannau eraill gwaredwyd y rhostir
grug a fu o dan reolaeth i geiliogod y mynydd yn ystod y 50
mlynedd diwethaf.
Mae ehangder y tirwedd a nodir yma wedi ei ddewis i gynnwys
y rhannau hyn o rostir grug sydd wedi goroesi a hefyd i
adlewyrchu darnau o dir sydd wedi goroesi na fuont o dan y
fath reolaeth ac sydd y tu allan i’r gyfundrefn.Mae llawer o hyn
wedi goroesi oherwydd creadigaeth stad saethu gan Is-Iarll
Devonport rhwng 1908 a 1925.Wedi’u gwasgaru dros ran
helaeth o’r ardal mae olion ffosydd targedau a chysgodfannau
o gerrig sychion ynghyd â waliau caeau,arwyddion ffiniau a
gwaith cloddiog sy’n dyddio o’r cyfnod hwn fwy na thebyg.
Mae’r ardal hefyd yn ymfalchïo mewn adfail o gaban hela yng
Ngwylfa Hiraethog sef bwthyn caboledig a adeiladwyd ym
Ngwylfa Hiraethog sef bwthyn caboledig a adeiladwyd ym
1908–11 ar gyfer partïon hela.Tybir mai’r adeilad hwn, a
gymerodd le bwthyn pren cynharach a fewnforiwyd o Norwy,
ac sy’n dal i gael ei adnabod fel y Plas Pren,oedd y tyˆ preswyl
uchaf yng Nghymru gyda’r golygfeydd ehangaf ym Mhrydain.
Mae’r adfeilion yn dirnod amlwg o hyd y gellir eu gweld ar
draws yr ardal o sawl cyfeiriad.
Ar ben pob un o’r copaon lleol ceir grwpiau o garneddi
claddu o Oes yr Efydd sydd bellach wedi eu gorchuddio gan
y tirwedd cyfoes ac sydd yn ôl pob tebyg,yn dystiolaeth o
weithgaredd ehangach yn y cyfnod hwn.Ni cheir tystiolaeth
o aneddiadau cysylltiedig,er y canfuwyd grwpiau o aneddiadau
diweddarach o fath cynhanesydddol a gloddiwyd yn archaeolegol
yn ddiweddar yn ardal ddwyreiniol Hiraethog
na chaiff ei gynnwys yma.Canfuwyd llawer o fflint gweithiedig
yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig i Oes yr Efydd o amgylch
ardal cronfa ddwˆ r Llyn Aled a Llyn Aled Isaf.
Mae cronfa ddwˆ r y Brenig,a adeiladwyd rhwng 1973 a
1976,a’r goedwigaeth o‘i hamgylch,sydd hefyd yn cynnwys
nifer o safleoedd Oes yr Efydd ac ôl-ganoloesol,yn goruchafu’r
tirwedd o’r de. Cafodd sawl cofadail a oedd yn agos i’r gronfa
ddwˆ r neu a foddwyd ganddi,eu cloddio cyn adeiladu’r gronfa,
ac ailadeiladwyd sampl ohonynt fel rhan o lwybr neu daith
archaeolegol.Mae rheoli adnoddau dwˆ r hefyd yn thema ac yn
swyddogaeth bwysig yn y rhan o ardal Hiraethog y sonnir
amdani yma,gan fod y tirwedd yn cynnwys crynhoad dwˆ r
cronfa ddwˆ r Alwen a adeiladwyd yn gynharach rhwng 1911
a 1916 i gyflenwi dwˆ r i Gorfforaeth Penbedw, ynghyd â chronfeydd
dwˆ r llai Llyn Aled a Llyn Aled Isaf a adeiladwyd yn
y 1930au i gyflenwi dr i gyrchfan gwyliau y Rhyl ar yr arfordir.
Yr Amglychedd Naturiol
Tirweddau Gweinyddol
Tirweddau Anheddiad
Defnydd Tir
Trafnidiaeth a Chyfathrebu
Tirweddau Diwydiannol
Llynnoedd, Cronfeydd dwr a Phyllau
Nodweddion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol
Cadwraeth a Hamdden
Ardaloedd cymeriad
1099 Moel Maelogen ardal cymeriad.
Porfeydd amgaeëdig wedi’u gwella ar ymyl ogledd-orllewinol Mynydd Hiraethog, yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau’r 19eg ganrif.
Photo: CPAT cs013138.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1100 Ffrithuchaf
ardal cymeriad.
Rhostir heb ei amgáu ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog, yn tremio dros Wytherin a dyffryn serth Afon Cledwen.
Photo: CPAT 01c215.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1101 Fawnog-fawr
ardal cymeriad.
Rhostir ar ymyl orllewinol Mynydd Hiraethog, wedi ei rannu yn amgaeadau mawr amlochrog ar ddiwedd yr 18fed a dechrau'r 19eg ganrif.
Photo: CPAT 01c214.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1102 Creigiau Llwydion
ardal cymeriad.
Rhostir heb ei amgáu ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog, ynghyd â mannau unigol fu’n gorgyffwrdd â’r rhostir ers y canol oesoedd a chyfnodau diweddarach.
Photo: CPAT 01c211.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1103 Cronfa ddwr Aled Isaf ardal cymeriad.
Cronfa fodern y mae Afon Aled yn ei bwydo mewn dyffryn ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog.
Photo: CPAT 01c177.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1104 Llyn Aled ardal cymeriad.
Llyn uwchdirol naturiol wedi ei ymestyn yn gronfa ddwr ar ddechrau’r 20fed ganrif yng nghanol ardal rostirol Mynydd Hiraethog.
Photo: CPAT 01c182.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1105 Llyn Alwen ardal cymeriad.
Roedd yr ardal o fewn plwyf degwm 19eg ganrif, sef Tiryrabad-isaf (Pentrefoelas).
Photo: CPAT 01c183.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1106 Moel Rhiwlug ardal cymeriad.
Rhostir grugiog wedi ei rannu yn gaeau amlochrog ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif. Rheolid ef fel rhan o stad saethu yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, ac mae henebion angladdol cynhanesyddol wedi eu gwasgaru yma a thraw, a thystiolaeth o anheddu tymhorol yn yr oesoedd canol ac wedi hynny.
Photo: CPAT 01c217.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1107 Moel Bengam ardal cymeriad.
Rhostir heb ei amgáu, tir comin, corlan, carnedd gron fawr, nodau ffiniau ar ffin y plwyf a phorthdy saethu adfeiliedig o’r cyfnod Edwardaidd.
Photo: CPAT 01c190.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1108 Tan-y-graig
ardal cymeriad.
Ffermydd ôl-ganoloesol gwasgaredig yn gorgyffwrdd â’r rhostir ar lethrau deheuol cysgodol gan edrych tuag at ymyl ddeheuol y rhostir, peth tir wedi’i ddraenio a’i wella, a phlanhigfeydd conifferaidd bychain.
Photo: CPAT 01c168.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1109
Sportsman’s Arms ardal cymeriad.
Amgaead o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif ar hen dir comin a chan gynnwys tafarn ar hyd yr hen ffordd dyrpeg o'r 19eg ganrif ar ymyl ogleddol y rhos.
Photo: CPAT 01c192.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1110
Bryn-y-gors-goch ardal cymeriad.
Planhigfa coedwig gonifferaidd fodern dros dirwedd ganoloesol a hwyrach sy'n cynnwys ffermydd gwasgaredig â chyfundrefnau caeau cysylltiedig a chwareli cherrig.
Photo: CPAT 01c156.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1111
Cronfa Ddwr Alwen ardal cymeriad.
Cronfa ddwr gynharach o’r 20fed ganrif ar dirwedd wedi ei hamgáu o’r canol oesoedd a chyfnod cynharach.
Photo: CPAT 01c170.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1112
Cronfa Ddwr Brenig ardal cymeriad.
Cronfa ddwr fawr o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn dyffryn llydan tuag ymyl ddwyreiniol Mynydd Hiraethog, ar ben tirwedd ganoloesol a diweddarach a oedd yn cynnwys ffermydd a chaeau.
Photo: CPAT 01c152.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
1113
Maen-llwyd ardal cymeriad.
Rhostir grug â pheth glaswelltir wedi’i wella, wedi’i rannu’n rhannol yn amgaeadau amlochrog mawr yn y 18fed/19eg ganrif, tirwedd angladdol a defodol o’r Oes Efydd, corlannau canoloesol wedi’u hamgáu, hafodydd a ffermydd canoloesol a hwyrach, llwybr archeolegol.
Photo: CPAT 01c160.
(Nôl i'r map)
|
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.
|