Cymraeg / English
|
|
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Mynydd Hiraethog:
Fawnog-fawr
Cymuned Bro Garmon, Gwynedd
(HLCA 1101)
Rhostir ar ymyl orllewinol Mynydd Hiraethog, wedi ei rannu yn amgaeadau mawr amlochrog ar ddiwedd yr 18fed a dechrau'r 19eg ganrif.
Cefndir hanesyddol
Mae'r ardal o fewn plwyf degwm 19eg ganrif, sef Llanrwst. Ychydig iawn o waith maes archeolegol a wnaed o fewn yr ardal, a chymharol ychydig o safleoedd archeolegol a gofnodwyd.
Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol
Fymryn dros 5km² o rostir tonnog yn wynebu'r gorllewin ar ymyl orllewinol Mynydd Hiraethog, rhwng 270 a 470 o fetrau dros y Datwm Ordnans yw'r ardal nodwedd, ac mae'n cynnwys copaon Foelasfechan, Moel Seisiog, Bron Alarch a Chefn Rhudd. Mae'r dwr yn llifo i'r gogledd trwy nentydd Derfyn a Chledwyn, sy'n lednentydd Afon Elwy, ac i'r gorllewin trwy nentydd Sychnant, Cyffdy, Iwrch, Cerrig-nadd, sy'n lednentydd i afon Conwy.
Nid oes tystiolaeth o anheddu yn yr ardal ar unrhyw adeg. Mae ffiniau presennol yr ardal â'r tir isel sydd wedi ei amgáu yr un yn eu hanfod â'r rheiny sydd ar fap degwm Llanrwst ym 1836, a waliau cerrig sy'n ffurfio rhai o'r ffiniau hyn, a ffensys pyst-a-gwifrau sy'n ffurfio'r gweddill. Ffensys pyst-a-gwifrau yw'r ffiniau o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif sy'n rhannu'r rhostir yn gaeau mawr amlochrog, a nifer o gorlannau ar hyd ymylon y rhostir yw'r unig dystiolaeth arall o weithgareddau amaethyddol. Mae nifer o lwybrau a thraciau yn croesi'r ardal ac yn rhoi cyfle i'r ffermydd is ger Nebo gyrchu'r rhostir. Mae'n debygol bod rhai ohonynt yn hynafol dros ben. Roedd rhai o'r traciau, er enghraifft y rheiny o Nebo i Fryn-cyplau ac ochr orllewinol Moel Seisiog, yn fodd o gyrchu'r mawnfeydd, a byddai rhai o'r rhain ar waith yn ystod y cyfnod o ganol y 19eg ganrif i ganol yr 20fed ganrif, ac o bosibl yn gynt. Mae'r mannau lle'r arferid torri mawn ar Fawnog-fawr ei hun bellach yn byllau bas. Mae'r dyddodion mawn sy'n goroesi o bwysigrwydd posibl i hanes amgylcheddol gorllewin Mynydd Hiraethog, ac i ffermydd ar hyd ymyl ddwyreiniol dyffryn Conwy.
Cofnod o Safleoedd a Henebion,
map degwm a dosraniadau Llanrwst
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.
|