Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Mynydd Hiraethog:
Cronfa ddwr Aled Isaf
Cymuned Llansannan, Conwy
(HLCA 1103)
Cronfa fodern y mae Afon Aled yn ei bwydo mewn dyffryn ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog.
Cefndir hanesyddol
Daw'r ardal o fewn plwyf degwm y 19eg ganrif, Llansannan, ac ardal o rostir moel ydoedd hyd nes adeiladwyd y gronfa ddwr ar ddechrau'r 20fed ganrif. Fe arweiniodd hyn at fawr mwy nag arallgyfeiriad bychan o'r ffordd fechan ar hyd y lan ddwyreiniol a boddi cyn gorlan, rhyd a sarnau.
Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol
Cwblhawyd y gronfa ddwr ym 1938. Mae'n mesur tua 1.3km o un pen i'r llall, a thua 200m ar ei thraws ac mae'r arwynebedd bron yn 0.3km². Mae'r argae concrid tal dros Raeadr y Bedd ar Afon Aled ar uchder o ryw 360m dros y Datwm Ordnans ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog. Mae'r ardal yn wynebu'r gogledd yn bennaf. Mae'r nentydd yn llifo tua'r gogledd ac yn bwydo system Afon Elwy.
Mae gwasgariad deunyddiau lithig o'r cyfnod Mesolithig a'r Oes Efydd mewn ardaloedd lle mae'r pridd yn erydu o amgylch min y gronfa ddwr yn ystod cyfnodau o sychder yn y 1970au a'r 1980au yn dangos arwydd o weithgareddau anheddu tymhorol neu barhaol.
Argae crwm o flociau concrid â thwr falfdy concrid plaen sy'n cludo ffordd fach.
Cofnod o Safleoedd a Henebion YACP;
Brassil 1989;
Hollett 2000.
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.
|