CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog: Moel Rhiwlug
Cymunedau Pentrefoelas a Cherrigydrudion, Conwy
(HLCA 1106)


CPAT PHOTO cs013108

Rhostir grugiog wedi ei rannu yn gaeau amlochrog ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif. Rheolid ef fel rhan o stad saethu yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, ac mae henebion angladdol cynhanesyddol wedi eu gwasgaru yma a thraw, a thystiolaeth o anheddu tymhorol yn yr oesoedd canol ac wedi hynny.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal o fewn plwyfi degwm y 19eg ganrif Tiryrabad-isaf (Pentrefoelas) a rhan fechan o Gerrigydrudion ar hyd yr ymyl dde-ddwyreiniol. Gwnaed gwaith maes archeolegol helaeth yn oddeutu hanner yr ardal yn ystod yr 1980au a'r 1990au ac, yn ystod y cyfnod yma, cofnodwyd nifer o safleoedd archeolegol na nodwyd mohonynt cynt, yn enwedig o safbwynt hanes diweddarach y rhos. Mae trwch y grug yn awgrymu, fodd bynnag, bod yma fwy o safleoedd nad ydynt eto wedi eu darganfod. Ychydig iawn o ddadansoddi manwl sydd wedi digwydd, fodd bynnag, ac mae dyddiadau llawer o'r safleoedd yn parhau i fod yn ansicr.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Ardal rostirol donnog o ryw 29km² ar ochr dde-orllewinol Mynydd Hiraethog yw'r ardal nodwedd, ar uchder o rhwng 270 a 530 o fetrau dros y Datwm Ordnans, ac mae'n cynnwys pwynt uchaf Rhos Dinbych ar Fwdwl-eithin, ar uchder o 532m. Ymhlith y copaon eraill mae Moel Llyn, Pen yr Orsedd, llethrau deheuol Moel Seisiog, Pen Bwlch-y-garnedd, Graig Hir, Moel Derwydd, Penbryn-ci, Braich y Tarw a Moel Rhiwlug. Nid oes unrhyw gyfeiriad goruchafol y bydd y llygad yn dilyn yr olygfa yn yr ardal. Mae'r nentydd yn llifo i'r gogledd trwy Wauneos, Nant Goch, Caledfryn, sef llednentydd Afon Cledwen sy'n bwydo system Afon Elwy, ac i'r de trwy Laethog, Twllan, Nug, Nant y Foel, a Chadnant, sef llednentydd system afon Conwy.

Gwelir olion gweithgareddau cynnar yn yr ardal yn y waywffon socedog o'r Oes Efydd a ddarganfuwyd ar uchder o 370m dros y Datwm Ordnans ar Ffrith-y-foel yn ystod cyfnodau torri mawn ddiwedd y 19eg ganrif. Gwelir olion anheddu cynnar, o'r cyfnod cynhanesyddol o bosibl, yn y nifer o gylchoedd cutiau gwasgaredig rhwng 5-6m mewn diamedr, tuag ymyl de-ddwyreiniol y rhos, dau ar Fwlch-y-garnedd, ar flaen nant Afon Twllan ac un ar flaen Afon Nug, a oedd o bosibl yn gysylltiedig â tomenni hel cerrig ac olion hen gyfundrefn caeau greiriol, sy'n awgrymu anheddu parhaol. Mae'n bosibl bod grwp o dri o lwyfannau crwn tua chanol y rhos, ger Afon Alwen i'r gogledd o Nant Heilyn, hefyd yn olion anheddiad cynhanesyddol. Gwelir olion anheddu diweddarach, o gyfnod canoloesol ac ôl-ganoloesol o bosibl yn yr amrywiaeth o strwythurau fu'n segur ers amser maith ac sydd wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y rhostir, gan gynnwys llwyfannau adeiladau, neu sylfeini cerrig y cytiau hirion hyd at ryw 15m wrth 6m sydd wedi'u lleoli gan amlaf yn nyffrynnoedd mwy cysgodol y nentydd, weithiau mewn grwpiau bychain, ond yn fwy aml, fesul un. Ymddengys bod rhai o'r strwythurau yn debygol o fod yn aneddiadau tymhorol neu hafodydd yn gysylltiedig â defnyddio porfeydd yr uwchdiroedd, er ei bod yn ymddangos bod nifer o strwythurau, er enghraifft fel y rheiny sydd ar ochr ddeheuol Mwdwl-eithin, yn gysylltiedig ag amgaeadau â chloddiau, a thomenni hel cerrig, gan awgrymu anheddu parhaol am gyfnod, yn y cyfnod ôl-ganoloesol o bosibl. Ceir awgrym o anheddu parhaol yn y cyfnod canoloesol diweddar a'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar yn narganfyddiad carreg isaf breuan a gafwyd ar uchder o 380m dros y Datwm Ordnans ar Foel Derwydd. Gadawyd pob safle anheddu yn yr ardal yn segur erbyn o leiaf dechrau'r 19eg ganrif, ac ni welir dim ar fapiau degwm Tiryrabad-isaf (Pentrefoelas) na Cherrigydrudion.

Mae nifer o garneddi claddu cynhanesyddol, a strwythurau tebyg eraill i'w gweld yn yr ardal, weithiau fesul un, ond yn fwy aml fesul grwp bychan o fewn sawl can metr. Nid oes unrhyw gysylltiad eglur â safleoedd anheddu cyfoes, ac mae'n bosibl y gallai'r carneddi fod wedi helpu diffinio tiriogaeth gwahanol grwpiau teuluol. Mae grwpiau bychain o'r maint yma i'w gweld ar ochr ddwyreiniol Moel Seisiog, ac ochr orllewinol Moel Rhiwlug, ac ar lethrau deheuol Pen yr Orsedd. Mae'r carneddi yn amrywio o ryw 2.5m a 11m yn eu diamedr, ac mewn ambell achos mae ganddynt gist gladdu ganolog neu ymyl allanol o gerrig. Ymhlith yr henebion eraill allai fod yn henebion defodol cynhanesyddol mae gosodiad o saith carreg fawr ar ffurf hirgrwn ger Nant Heilyn.

Gwelir olion gwaith canoloesol, ôl-ganoloesol a hwyrach ar dir pori helaeth ond gwael y rhosydd yn y corlannau a'r cysgodfeydd cerrig i ddefaid. Defnyddir rhai ohonynt o hyd, ond mae eraill yn segur ers talwm. Mae'r cysgodfeydd yn amrywio o ran siâp er mwyn amddiffyn rhag y gwynt, o ba gyfeiriad bynnag yr oedd yn chwythu. Roedd rhan helaeth o'r rhostir a rannwyd gan ffensys i ddechrau yn gaeau amlochrog tua diwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif, at ddiben rheoli diadelloedd o ddefaid, a byddai ffiniau newydd yn parhau i gael eu sefydlu yma ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Ceir cerrig ffin a charneddi nod niferus ar wahanol ffurfiau o fewn y rhostir yma fyddai fel arall yn ddinodwedd, ac mae'n bosibl bod y rhan fwyaf o'r rhain yn dyddio o'r 18fed ganrif neu'n ddiweddarach, ac yn aml byddent yn diffinio ffiniau plwyfi aneglur, a byddai nentydd yn nodi ffiniau eraill. Ceir cerrig nod a rhai carneddi nod â rhyw 50-200m rhyngddynt ym mhlwyfi degwm Gwytherin a Thiryrabad-isaf (Pentrefoelas). Mae nifer o gerrig ffin ar y ffin rhwng plwyfi Pentrefoelas a Cherrigydrudion yn cynnwys y geiriau HIRAETHOG neu leoliad fel HIRAETHOG/GARREG LWYD neu HIRAETHOG/PONT ALICE HUGH, ac mae rhai o'r rhain wedi eu gosod â bylchau o 2 ystaden (440 llath) rhyngddynt. Mae carneddi nod eraill, o'r 19eg ganrif neu ddechrau'r 20fed ganrif mae'n debyg, wedi eu gosod fesul un neu mewn grwp ar gopaon lleol neu ger y copaon hynny, ac mae'n ymddangos eu bod yn gysylltiedig â rheoli'r stad saethu, ac mae'n amlwg ambell waith eu bod yn nodi carnau saethu. Mae rhai ohonynt ar ffurf carneddi cerrig ar siâp pyramid tua metr ar draws a metr o uchder.

Ymhlith y nodweddion eraill sy'n gysylltiedig â rheoli'r stad saethu gynt mae nifer o garnau saethu a chysgodfeydd, ac mae'r cyntaf yn cynnwys amrywiaeth o siapau crwn, petryal neu hanner crwn â chloddiau neu furiau cerrig hyd at 3-4m ar draws, yn aml wedi eu hadeiladu o strwythurau cynharach. Mae'r cysgodfeydd saethu yn fychain, a bellach yn strwythurau cerrig petryal adfeiliedig, 3-5m ar draws. Roedd iddynt doeau ar un adeg, yn ogystal â simneiau a meinciau carreg. Mae'r carnau saethu i'w cael mewn nifer o grwpiau pendant o 3 i 6, ac yn aml maent mewn llinell â 80-100m rhyngddynt, ar hyd llwybr. Ceir grwpiau o'r math yma ar Foel Seisiog, Penbryn-ci, Moel Derwydd, Pen yr Orsedd, Bwlch-gwyn, Bwlch-y-garnedd a Nant Heilyn ar ochr orllewinol Afon Alwen ac ar ystlysau Mwdwl-eithin.

Mae ffordd fodern Pentrefoelas i Ddinbych (A543) yn croesi'r ardal. Ffordd dyrpeg newydd yw hon a adeiladwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif trwy Sportsman's Arms a Bylchau gan gynnwys tollty ar ymyl y rhostir yn Nhyrpeg Mynydd, gan ddisodli'r hen ffordd ar draws y rhos trwy Nant-heilyn, Tan-y-graig a Nantglyn, sy'n dyddio mae'n debyg o'r canol oesoedd neu gyfnod cynharach. Mae nifer o nodweddion sy'n gysylltiedig ag adeiladu ffordd dyrpeg wedi goroesi, gan gynnwys Cottage Bridge, sef pont garreg un-fwa, mân chwareli ar ochr y ffordd, ac ambell ddarn o fur neu wal gynnal. Sefydlwyd y chwarel fwy ar ochr y ffordd ym Mwlch-gwyn yn gynt, tua diwedd y 19eg ganrif, yn sgîl adeiladu'r ffordd dyrpeg newydd. Mae traciau a llwybrau eraill yn cysylltu cymunedau ar ochrau gogleddol a deheuol y rhos.

Gwelir olion cloddio am fawn at ddibenion y cartref hyd at oddeutu'r 1950au yn y toriadau mawn petryalog, y llwyfannau sychu a'r pentyrrau mawn a adawyd, yn enwedig ym masnau'r nentydd mwyaf amlwg, fel ym Mwlch-y-garnedd, ochr ddeheuol Mwdwl-eithin ac ochr ddeheuol Penbryn-ci. Mae mân chwareli cerrig at ddibenion codi waliau, cysgodfeydd a chorlannau wedi eu gwasgaru yma a thraw ar hyd a lled y rhos, fel ar Graig-hir, Mwdwl-eithin a Phen yr Orsedd. Mae nifer o chwareli hefyd ger ymyl y rhostir, ac mae'n debygol i'r rhain gael eu defnyddio i adeiladu ffermdai a chytiau fferm ar dir is, fel yn achos nifer o fân chwareli ar yr esgair uwchlaw Bryn-du, i'r gogledd o Lasfryn.

Ceir dyddodion mawn, pridd wedi'i gladdu a gwaddodion mewn amrywiol leoedd ar y rhostir, ac ni chynhaliwyd astudiaeth ar lawer o'r rhain, ond maent yn ffynhonnell bwysig o hanes defnydd tir a thyfu cnydau ar Fynydd Hiraethog.

Ffynonellau


Cofnod o Safleoedd a Henebion YACP

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.