Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Mynydd Hiraethog:
Llyn Alwen
Cymuned Pentrefoelas, Conwy
(HLCA 1105)
Llyn naturiol uwchdirol yng nghanol ardal y rhostir.
Cefndir hanesyddol
Roedd yr ardal o fewn plwyf degwm 19eg ganrif, sef Tiryrabad-isaf (Pentrefoelas).
Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol
Mae'r llyn yn cwmpasu arwynebedd o tua 0.3² ar uchder o tua 380m dros y Datwm Ordnans ac mae tir uwch o amgylch y rhan fwyaf ohono, ar flaen Afon Alwen. Mae dyddodion hynafol dan ddwr ar waelod y llyn yn arwyddocaol o bosibl i amgylchedd a hanes defnydd tir Mynydd Hiraethog. Adeiladwyd ty cychod a jeti yn Ty'n-y-llyn ar ben gogleddol y llyn yn y 1870au, ac mae modd eu cyrraedd o lwybr ar draws y rhostir o gyfeiriad Pentrefoelas.
Cofnod o Safleoedd a Henebion YACP
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.
|