Nid yw'r gwaith o ddisgrifio nodweddion yr ardal Tirwedd Hanesyddol hon wedi dechrau hyd yma.
Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Mae Afon Clywedog yng Nghanolbarth Cymru yn draenio
llethrau gogledd ddwyrain Mynyddoedd Cambria,y torrwyd
ei dyffryn cul,troellog yn ddwfn i mewn iddynt.Mae Afon
Clywedog yn un o is afonydd Afon Hafren,sydd lawer yn fwy,
ac mae’n ymuno â hi yn Llanidloes.O safle’r dref farchnad
hanesyddol,nodedig a darluniadwy hon,mae’r bryniau a’r
esgeiriau bob ochr i Ddyffryn Clywedog yn codi’n raddol o
300m uwchben SO i gyrraedd 500m uwchben SO ger Dylife,
ychydig y tu hwnt i’r cefn deuddwˆ r yn y gogledd orllewin.
Cysylltir ffyniant Dyffryn Clywedog a’i ddalgylch a nodir yma
fel arfer gyda’r diwydiannau cyferbyniol o fwyngloddio am
blwm a gwlân,a gafodd effaith sylweddol ar y tirwedd.
Dangosir pwysigrwydd cynnar mwyn plwm lleol gan y
fryngaer fawr, o ddiwedd Oes yr Efydd/Oes yr Haearn,yn
Ninas,y tybir bod ei maint a’i lleoliad yn ganlyniad i ddymuniad
i warchod a manteisio ar y cyfoeth o adnoddau naturiol.Ceir
hefyd aneddiadau llai Oes yr Haearn sy’n amgylchynu ymylon
yr ardal hon. Fodd bynnag,mae datblygiad diweddarach yr
ardal,a’i phatrymau o ddefnydd tir ac aneddiadau, wedi’u
cysylltu’n annatod â mwyngloddio plwm.Y dystiolaeth gynharaf
yw gwaith Rhufeinig posibl yn Nylife, sy’n gorwedd gerllaw’r
gaer Rufeinig ym Mhenygrocbren,ond dechreuodd y prif gyfnod
mwyngloddio yn ystod yr 17eg ganrif a pharhaodd tan yn
gynharach y ganrif hon.Mae’r pentref ei hun yn enghraifft dda
o aneddiad mwyngloddio bychan sydd heb newid ryw lawer yn
y blynyddoedd diwethaf.Mae dylanwad cloddio yn dal i fod yn
amlwg, gydag olion siafftiau,tramffyrdd a dwy gronfa ddwˆ r
oedd yn darparu pwˆ er ar gyfer y lloriau dresin.
Mae Dylife yn ganolbwynt sawl chwedl, gyda’r mwyaf
enwog ohonynt yn dyddio o ddechrau’r 18fed ganrif ac yn
ymwneud ag un o’r llofruddiaethau mwyaf erchyll yn hanes
Cymru,pan lofruddiodd y gof lleol ei deulu a thaflu eu cyrff i
lawr un o’r tyllau mwyngloddio. Cafodd y weithred ei darganfod
yn fuan a phan gafwyd y gof yn euog fe’i gorfodwyd i
wneud cewyll pen a chorff ar gyfer ef ei hun a haearn y
grocbren.Yn y 1930au,darganfuwyd y gawell pen haearn gyda’r
benglog yn dal i fod y tu mewn iddi ym Mhenygrocbren,sef lleoliad
y grocbren,a bellach fe’i cedwir yn Amgueddfa Werin
Cymru yn Sain Ffagan,Caerdydd.
Mae’r clwstwr mwyngloddio arall yn ymestyn mewn band
o’r dwyrain i’r gorllewin i’r gogledd o Lanidloes,sy’n cynnwys
mwyngloddiau Y Fan Dwyreiniol,Y Fan,Bryntail a Phenyclun.
Roedd y rhain i gyd yn weithredol yn ystod ail hanner y 19eg
ganrif gan fwyaf.Bryd hynny mwynglawdd Y Fan oedd y mwyaf
yn y byd,ac mae llawer o’r tirwedd mwyngloddio yn parhau
er gwaethaf gweithgareddau adennill tir. Rhwng 1870 a 1878,
cynhyrchodd Sir Drefaldwyn rhwng 7000 a 9000 o dunelli o
fwyn plwm y flwyddyn,a daeth y cwbl bron o gymhlethfa Fan-
Dylife.Ym 1879, gostyngodd cynnyrch plwm Cymru yn gyflym,
oherwydd darganfyddiadau mwy o fwyn mewn mannau eraill,
a dim ond 200 tunnell y cynhyrchodd Y Fan y flwyddyn honno.
Mae gwreiddiau Llanidloes wedi’u gosod yn gadarn yn y
cyfnod canoloesol, gydag Edward I yn cyflwyno siarter i’r dref
ym 1280.Ynghanol y dref saif neuadd y farchnad â’i ffrâm
bren sy’n dyddio o tua 1600,sef y gwychaf o’i math yng
Nghymru.Cysylltir ffyniant y dref yn hanesyddol â ffyniant y
diwydiant gwlân a gwau a’r ardal fwyngloddio bwysig i’r
gogledd orllewin.Yn ystod y 1830au Llanidloes oedd un o
ganolfannau mwyaf gweithgar mudiad y Siartwyr ac yn anterth
y terfysgoedd meddiannwyd y dref gan wehyddwyr lleol am
bum diwrnod
cyn iddynt gael eu gorchfygu.
Mae cronfa ddwˆ r Clywedog yn ffurfio canolbwynt modern
i’r tirwedd.Yn ogystal â darparu dwˆ r yfed i ddefnyddwyr
o Lanidloes i Fryste, ei phrif swyddogaeth yw unioni’r amrywiadau
naturiol yn y glawiad a fyddai fel arall yn achosi
llif anghyson,ac felly lleihau’r perygl o orlifo yn ardaloedd is
pen uchaf dyffryn Hafren.Cwblhawyd strwythur 72m o uchder
y prif argae ym 1966,gan ddefnyddio mwy na 200,000m ciwbig
o goncrid a dyma’r argae màs concrid mwyaf ym Mhrydain.
Yn fwy diweddar, datblygodd yr argae a’i gronfa ddwˆ r yn atyniad
poblogaidd i dwristiaid.
|