Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol
Dyffryn Tanat:
Maesmochnant, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys
(HLCA 1002)
Caeau hirsgwar mawr gyda gwrychoedd fel terfynau ar deras gwastad ychydig yn uwch na llawr y dyffryn, gydag amrywiaeth o gofaleiliau ôl cnydau, cynhanesyddol ac angladdol a maen hir.
Cefndir Hanesyddol
Mae'r ardal cymeriad o fewn plwyf eglwysig canoloesol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ac mae o fewn hen gwmwd Mochnant Is Rhaeadr, Sir Ddinbych.
Dangosir gweithgarwch tebygol o'r cyfnod Neolithig hwyr a'r Oes Efydd gynnar yn yr ardal cymeriad gan hengor tebygol a dau gylch pren a'r maen hir mawr ym Maesmochnant, sy'n gyfadail cynhanesyddol defodol o bwys rhwng Meusydd a Maesmochnant-uchaf. Mae'r cyfadail hefyd yn cynnwys nifer o ffosydd crwn, sef mae'n debyg dwmpathau claddu sydd wedi eu haredig. I bob golwg, mae twmpath mawr ychydig i'r dwyrain o faen hir Maesmochnant, wrth ymyl y teras, yn dwmpath claddu mawr sydd wedi goroesi'r aredig yn rhannol. Hefyd, yn ardal Meysydd, i'r gogledd-orllewin - ac yn ymyl mynwent fodern, trwy gyd-ddigwyddiad - fe ddangosodd ffotograffiaeth o'r awyr fynwent yn cynnwys o leiaf 40 bedd sy'n gorwedd tua dwyrain-gorllewin. Nid yw cyd-destun hanesyddol y fynwent hon yn sicr, o gofio bod eglwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant, i bob golwg, wedi ei sefydlu erbyn y nawfed ganrif o leiaf, ond mae dyddiad yn y cyfnod canoloesol cynnar yn ymddangos yn fwy tebygol. Gwyddys am nifer o olion cnydau eraill yn yr ardal sydd i bob golwg yn awgrymu patrwm o gaeadleoedd neu derfynau caeau, ond ansicr yw eu dyddiad.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Teras gwastad ychydig yn donnog ac ychydig yn uwch na llawr y dyffryn, rhwng tua 120-50m uwch lefel y môr. Mae'r ardal wedi ei draenio'n dda a dani mae graean gyda nifer o balaeosianelau plethog o'r cyfnod rhewlifol hwyr neu'r cyfnod ôl-rewlifol cynnar sydd i'w gweld ar ffurf olion cnydau mewn awyrluniau.
Cyfyngir anheddiad modern yn yr ardal i ddwy fferm yn bennaf, sef Maesmochnant-uchaf a Maesmochnant-isaf, ychydig yn llai nag 1km ar wahân i'w gilydd. Mae gan Maesmochnant-uchaf ffermdy carreg o'r 18fed ganrif gydag adeiladau allanol o gerrig o'r 18fed/19eg ganrif ac adeiladau allanol o frics o'r 20fed ganrif. Mae'r adeiladau carreg wedi eu gwneud o gerrig crynion a gafwyd mae'n debyg trwy glirio caeau ac o afonydd. Mae gan Ty'n-y-maes ffermdy cerrig o'r 19eg ganrif ac adeiladau allanol, y mae rhan ohonynt wedi eu gwneud o frics. Mae'r tai modern ym Meysydd y tu allan i'r ardal cymeriad hon.
Caeau hirsgwar mawr gyda gwrychoedd aeddfed a dorrwyd yn isel fel arfer, ac sy'n cynnwys rhywogaethau cymysg gan gynnwys y ddraenen wen, collen, onnen. Ceir coed derw aeddfed gwasgaredig yn y terfynau caeau a gwern talach ar lannau'r Afon Iwrch ac Afon Rhaeadr. Yn ystod y canoloesoedd cynnar a'r canoloesoedd, mae'n debyg bod yr ardal yn cynnwys y cae aredig agored neu gaeau'r dref a oedd yn perthyn i dref farchnad fechan Llanrhaeadr-ym-Mochnant sydd tua 1km i'r gogledd-orllewin. Mae gan nifer o gaeau enwau â'r gair 'maes', sy'n awgrymu eu bod yn dir aredig agored, yn ogystal â'r tair fferm ar ymylon yr ardal - Ty'n-y-maes, Maesmochnant-isaf a Maesmochnant-uchaf. Mae'n ymddangos felly fod y patrwm caeau modern a rheolaidd yn ganlyniad i gau caeau canoloesol y dref yn ystod y 18fed ganrif.
Nifer o byst giatiau carreg sgwâr wrth fynedfeydd i'r caeau ar y brif ffordd.
Mae'r gyffordd bwysig lle mae'r ffordd o Langedwyn i Lanrhaeadr-ym-Mochnant yn gadael y ffordd i Langynog yn gorwedd yng ngahnol yr ardal hon. Ffyrdd tyrpeg o flynyddoedd olaf y 18fed ganrif yw'r rhain; maent ychydig yn uwch na lefel y caeau o'u cwmpas ac maent yn torri ar draws nifer o derfynau caeau blaenorol. Mae'r ffyrdd llai yn yr ardal yn rhedeg mewn ceuffyrdd. Croesir yr ardal gan Reilffordd Dyffryn Tanat y gellir ei holrhain mewn mannau, ac mewn mannau mae coed a phrysgwydd wedi ymsefydlu erbyn hyn. Mae rhan o iard gorsaf 'Llanrhaiadr Mochnant', i'r gogledd o Faemochnant-uchaf, yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer cadw nwyddau.
Yn ôl y traddodiad codwyd maen hir Maes Mochnant er mwyn rhwystro'r difrod a achoswyd yn y wlad o gwmpas gan ddraig neu sarff - a lladdwyd y creadur yn y diwedd pan daflodd ei hun yn erbyn y garreg.
Britnell 1991
Hancock 1871
Sayce 1930
St Joseph 1979
Richards 1934b
Wren 1968
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|