CPAT logo
Cymraeg / English
Y Fflint
Rhagarweiniad
Lleoliad yn y dirwedd
Y Fflint yn y cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol cynnar
Y castell canoloesol, y dref a chefn gwlad
Y Fflint rhwng 1500 a 1700
Ehangu diwydiannol yn y Fflint rhwng 1700 a 1950

Eich Gymuned - Y Fflint

Archaeoleg a hanes cynnar y dref


Y Fflint yn y cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol cynnar


Ardal Pentre Bridge/Pentre Ffwrndan ar ochr ddwyreiniol y Fflint o’r gogledd. O tua 60 AD ymlaen, yng nghyfnod y Rhufeiniaid, roedd cymhlethfa ddiwydiannol brysur yn ffynnu yma, yn mwyndoddi plwm o Fynydd Helygain. Daethpwyd o hyd i olion posibl cei bach ger y nant yn y gwaelod ar y chwith: mae’n debygol y bu plwm yn cael ei gludo oddi yno mewn cychod i Gaer a thu hwnt. Yn ôl pob tebyg, roedd y ffordd Rufeinig ar hyd arfordir gogledd Cymru yn dilyn fwy neu lai yr un llwybr â Ffordd Caer heddiw (ychydig y tu hwnt i’r rheilffordd yma). Darganfuwyd olion tŷ o statws uchel gerllaw'r ffordd hon, i’r gorllewin o’r gweithfeydd diwydiannol, ac mae’n debyg mai swyddog Rhufeinig pwysig oedd yn byw yno. Llun: CPAT 08-c-196.

Yn ystod y cyfnod ôl-rewlifol cynnar roedd lefel y mor tua 35 metr yn is na’i lefel bresennol. Byddai’r ardal lle saif y dref heddiw wedi bod ar ymyl dyffryn afon dwfn a llydan, ymhell i’r mewndir ar wastadedd arfordirol isel yn ymestyn o arfordir gogledd Cymru ar draws Bae Lerpwl i Ynys Manaw ac Ardal y Llynnoedd. Cafwyd codiad cyflym yn lefel y môr rhwng tua 10,000 a 3,000 CC o ganlyniad i doddi’r rhewlifau; o ganlyniad, fe greodd y llifogydd ar y gwastadedd arfordirol mawr hwn yr hyn sydd bellach yn Fae Lerpwl ac, yn y dyffryn afon llydan, aber afon Dyfrdwy.

Ar hyd yr arfordir, ymhellach tua’r gorllewin, yn arbennig rhwng Prestatyn a’r Rhyl ac i fyny aber afon Clwyd i Ruddlan, mae tystiolaeth wedi dod i’r fei yn ddiweddar o sut bu helwyr-gasglwyr Mesolithig yn defnyddio’r ardal yn ystod y cyfnod dynamig hwn o newid amgylcheddol o tua 8,000 CC, a sut bu cymunedau Neolithig yn ei defnyddio o tua 4,000 CC. Mae presenoldeb tomenni cregyn cocos a chregyn gleision o’r cyfnodau hyn, sydd wedi’u cloddio ym Mhrestatyn, yn dwyn sylw at bwysigrwydd tymhorol adnoddau morol ac aberol. Ceir tystiolaeth hefyd o amaethyddiaeth yn gysylltiedig ag aredig a magu gyrroedd domestig o anifeiliaid gan gymunedau ffermio mwy sefydlog yn yr ardal honno o ddyddiad mor gynnar â thua 3,500 CC.

O ystyried lleoliad y dref ger y dyffryn gynt, ac yna ger aber afon Dyfrdwy, gellid disgwyl gweithgareddau dynol cynnar yng nghyffiniau agos y dref ddiweddarach, er nad oes unrhyw dystiolaeth bositif wedi dod i’r golwg hyd yma. Mae’r dystiolaeth gynharaf o weithgareddau a welwyd hyd yma yn ardal y Fflint yn tarddu o'r Oes Efydd Gynnar, yn y cyfnod rhwng tua 2,000 a 1,500 CC, ar sail darganfod bwyell efydd lefn ar hap yn ardal Pentre Ffwrndan i’r dwyrain o ganol y dref yn y 18fed ganrif.

Aros i’w darganfod mae tystiolaeth o weithgareddau yn yr Oes Efydd a’r Oes Haearn drwyddynt draw, er ei bod yn debygol bod yno gymunedau ffermio bach, a oedd o bosibl yn wasgaredig, dros gyfnod o sawl milenia cyn i’r Rhufeiniaid goncro’r ardal yn ail hanner y ganrif 1af OC. Mae’n debyg bod llwyth neu grŵp gwleidyddol y galwai’r ysgrifenwyr Rhufeinig cynnar yn Deceangli yn byw yn yr ardal o ddyddiad ymhell cyn y goncwest. Estynnai eu tiroedd dros ardal arfordirol gogledd-ddwyrain Cymru. Mae enw afon Dyfrdwy wedi goroesi o’r cyfnod hwn ac yn tarddu o wraidd Celtaidd a ddaeth yn ‘Dwy’ mewn Cymraeg modern, gan roi ei enw i Deva, sef enw’r Rhufeiniaid am Gaer.

Daw’r dystiolaeth gynharaf o weithgareddau diwydiannol yng nghyffiniau agos y dref o tua chanol y 60au OC. Dyma'r cyfnod pan fyddai mwynau plwm o Fynydd Helygain, 3-4 cilomedr tua'r de-orllewin, yn cael eu prosesu a’u mwyndoddi yn yr hyn a oedd, o bosibl, yn weithfeydd cynharaf a mwyaf eang y Rhufeiniaid yng Nghymru. Ymddengys mai menter fasnachol breifat oedd y diwydiant ar y dechrau, o bosibl dan law gweithredwr mwyngloddio sifilaidd yn prysur ddilyn ôl troed byddin Rhufain, ond yn ddiweddarach ymddengys ei fod dan reolaeth fwy cadarn awdurdodau milwrol Rhufeinig.

Ychydig o safleoedd mwyngloddio go iawn o’r cyfnod Rhufeinig a nodwyd ar Fynydd Helygain, o bosibl oherwydd gweithgareddau mwyngloddio diweddarach, ond gwyddys am dystiolaeth bositif o’r safleoedd ar lannau afon Dyfrdwy yn y Fflint lle roedd y mwyn plwm a gludwyd i lawr o Fynydd Helygain gan geffyl a chert yn cael ei brosesu cyn trawslwytho’r metel pur. Tybiwyd, ers diwedd y 18fed ganrif o leiaf, bod gweithfeydd hynafol prosesu plwm yn ardal Pentre Ffwrndan, fel y disgrifia Thomas Pennant yn eithaf manwl yn ei Tour in Wales. Mae Pennant yn cofnodi’r traddodiad ‘that in very old times stood a large town at this place’ a nododd bresenoldeb ‘great quantities of scoria [cinders/slag] of lead, bits of lead ore, and fragments of melted lead’ a oedd wedi’u hailweithio’n ddiweddar i adfer plwm. Roedd Pennant yn cysylltu’r gweithgaredd hwn â chyfieithiad o ‘ffwrndan’, sef ail elfen yr enw lle, fel ‘place of the fiery furnace’. Mewn gwirionedd, gellir olrhain y traddodiad o anheddu cynharach yn yr ardal hon ddwy ganrif cyn y cyfnod pan oedd Pennant yn ysgrifennu. Wrth ysgrifennu am ardal Croes-ati ym 1574, nododd yr ysgolhaig John Dee fod ‘in ancient tyme stode a town...now utterly defaced, no ruyn thereof or monument appearing’. Wrth ysgrifennu ym 1699, dywedodd Edward Lhuyd, ail ysgolhaig o dras Cymreig, ‘according to tradition there stood a Church heretofore at Pentre Attiscrosse half a mile from Flint; for Gravestones have been found here’. Gorweddai rhan helaeth o ardal Pentre Ffwrndan yng nghaeau agored canoloesol y Fflint hyd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Ymddengys yn debygol o’r hanesion hyn fod tomenni sbwriel, olion adeiladau ac, o bosibl, claddiadau’n perthyn i’r anheddiad Rhufeinig gynt wedi dod i’r golwg yn dilyn aredig bob hyn a hyn yn yr ardal hon dros ganrifoedd lawer. Roedd diwydiannau cynnar prosesu plwm yn aneffeithlon yn aml, ac nid peth anghyffredin oedd ailweithio tomenni sbwriel Rhufeinig gyda gwelliannau diweddarach mewn technoleg prosesu. Yn ôl pob tebyg, roedd Pennant yn cyfeirio at adeiladu cerwyni ar ffurf petryal wrth sôn am ddefnyddio ‘washes’ i echdynnu’r plwm ym Mhentre Ffwrndan. Roedd y rhain o’r math a ddefnyddid yn aml wrth brosesu mwynau metel, gyda nant gyfagos yn bwydo’r dŵr.

Mae darganfyddiadau a wnaed yn yr ardal yn wyneb datblygiadau diwydiannol ac adeiladu tai o’r 1840au hyd heddiw yn awgrymu bodolaeth anheddiad diwydiannol Rhufeinig wedi hen sefydlu dros ardal o 3 hectar neu fwy o bob tu i Ffordd Caer (A 458) yn ardal Pentre Bridge, rhwng Eglwys Dewi Sant a thafarn The Yacht (The Ship gynt). Ymhlith darganfyddiadau mae olion nifer o ffwrneisi, adeiladau o garreg ac, yn ôl pob tebyg, adeiladau stribedi pren yn ogystal â nifer o gladdiadau dynol. Gwelwyd bod rhai o’r olion diwydiannol mewn cyflwr gwael o ran cadwraeth, yn ddiamau oherwydd yr ailweithio diweddarach y soniodd Pennant amdano. Defnyddiwyd yr anheddiad am gyfnod o ddwy ganrif o leiaf, o ganol yr 80au i ganol y 3ydd ganrif OC.

Datgelodd gwaith cloddio gyferbyn â Fferm Pentre ar ddiwedd y 1970au a dechrau’r 1980au gymhlethfa o adeiladau o statws uchel yn dyddio o’r cyfnod rhwng dechrau’r 2il ganrif a chanol y 3ydd ganrif. Adeiladwyd y gymhlethfa yn wreiddiol o bren ac yn ddiweddarach o garreg, ac mae rhannau ohoni’n ymestyn islaw Ffordd Caer. Roedd yn cynnwys baddondy bach, ac roedd yno ystafelloedd wedi’u haddurno â phlastr wal wedi’i baentio. Mae presenoldeb teils â stamp yr Ugeinfed Lleng, a ddaeth yn lle’r Ail Leng yng Nghaer tua 90 OC, yn awgrymu mai dyma gartref a chymhlethfa weinyddol swyddog preswyl gyda chyfrifoldeb am oruchwylio’r diwydiant gweithio metel. Mae’n bosibl bod y gymhlethfa wedi’i llunio fel ei bod yn gyfochrog â llwybr ffordd Rufeinig a redai ymhellach i’r de, ac efallai nad trwy ddamwain fod safle’r plasty hwn fwy na 150 metr yn groes i’r gwynt o’r gwaith prosesu plwm.

Roedd ystod eang o ddibenion i blwm yn y cyfnod Rhufeinig, gan gynnwys pibellau dŵr, tanciau dŵr ac eirch. Roedd plwm o feysydd mwyn Sir y Fflint yn cynnwys cyfran gymharol uchel o arian y gellid ei echdynnu trwy'r broses goethi a fyddai wedi ychwanegu'n sylweddol at ei werth. Byddai hyn efallai yn esbonio’r hyn sydd, i bob golwg, yn bresenoldeb uchel-swyddog Rhufeinig yn yr anheddiad. Daethpwyd o hyd i hychod plwm (sef barau o blwm wedi’i brosesu) yn pwyso 70 cilo nid yn unig yng Nghaer, a fyddai wedi darparu marchnad barod ar gyfer plwm Sir y Fflint o’r 70au OC, ond hefyd mor bell i ffwrdd â phentref Hints yn ne Swydd Stafford, dros 100 milltir i ffwrdd. Roedd yr hychod hyn wedi’u castio mewn mowld â’r llythrennau DECEANGL ar un ochr, sef talfyriad o enw llwythol yr Oes Haearn mewn cymalau fel Deceanglicum plumbum (plwm Deceanglia)

Ymddengys fod anheddiad diwydiannol ym Mhentre Ffwrndan wedi’i leoli ar lannau aber afon Dyfrdwy er mwyn manteisio ar drafnidiaeth ar y môr ac ar y tir – yr enghraifft gyntaf o’r hyn a fyddai’n digwydd dro ar ôl tro yn hanes diwydiannol diweddarach y Fflint. Ymhlith ffactorau eraill a allai fod wedi dylanwadu ar leoliad yr anheddiad oedd bod dŵr ar gael o’r nant a oedd yn ymuno ag afon Dyfrdwy ym Mhentre Ffwrndan, a bod tanwydd hefyd ar gael. Hyd at ddiwedd yr 17eg ganrif, roedd mwyndoddi plwm yn parhau i ddibynnu’n helaeth ar ddefnyddio siarcol, ac mae’n debygol bod cwympo coed lleol wedi cael effaith sylweddol ac, o bosibl, effaith hirdymor ar yr amgylchedd yn y cyfnod hwn.

Daw peth tystiolaeth o’r economi a pherthynas y trigolion â'u hamgylchedd yn ystod y cyfnod Rhufeinig o ddarganfyddiadau yng ngwaith cloddio Fferm Pentre. Dengys y rhain fod adnoddau morol lleol hefyd yn elfen sylweddol o’r diet, yn ogystal â bwyta gwartheg, moch a defaid. Ymhlith y rhywogaethau a gofnodwyd mae cregyn gleision, cregyn cocos ac wystrys brodorol, esgyrn gwyddau, naill ai rhai gwyllt neu rai dof, a chrychyddod (o bosibl, dyma’r crychyddod cyntaf i’w cofnodi ar safle archaeolegol yng Nghymru), ac esgyrn mecryll, lledod a physgod o fath penfras, sy’n awgrymu diwydiant lleol pysgota môr prysur.

Ymddengys fod nodi sianel lanwol Rufeinig ag arwyneb pren arni yn ddiweddar iawn, i’r dwyrain o The Yacht – ychydig gannoedd o fetrau o’r marc llanw uchaf cymedrig presennol – yn cadarnhau awgrymiadau cynharach bod y metel pur yn fwy na thebyg yn cael ei allforio ar y môr o lanfeydd ar hyd aber afon Dyfrdwy. Mae’n bosibl bod tua 20 o hychod plwm Deceanglia a ddarganfuwyd ar ddiwedd yr 16eg ganrif yn Runcorn, sef taith o ryw 25 milltir ar y môr o amgylch penrhyn Cilgwri, wedi dod o safle llongddrylliad yng nghyfnod y Rhufeiniaid.

Credwyd yn y gorffennol bod y ffordd Rufeinig i’r gorllewin o Gaer yn dilyn llwybr ar hyd yr aber, fwy neu lai yr un fath â llwybr Ffordd Caer (A458) heddiw, cyn troi am le o’r enw Varis nad yw ei leoliad yn hysbys hyd yma (o bosibl yn Llanelwy) ac yna ymlaen i Canovium (Caerhun). Dogfennwyd hyn yn y gofrestr o’r enw Antonine Itinerary sy’n dyddio, yn ôl pob tebyg, o ddechrau’r 3edd ganrif. Mae gwaith cloddio diweddar wedi datgelu darn o’r ffordd i’r de o The Yacht ym Mhentre Ffwrndan, gyda dau ddarn o arian o ganol y 3edd ganrif ar ei hwyneb â metlin. Yma, roedd y ffordd hyd at 12 metr o led o bosibl ac yn fforchio o lwybr y ffordd fodern, gan dorri trwy’r anheddiad diwydiannol ym Mhentre Ffwrndan. Ceir olion pendant nesaf y ffordd ger Rhuallt, tua 15 cilomedr i'r gorllewin. Yn draddodiadol, credwyd ei bod fwy neu lai’n dilyn llwybr ffordd yr A485 heddiw ond, mewn gwirionedd, nid yw hynt go iawn y ffordd o dan yr ardal lle saif tref y Fflint heddiw wedi'i ddarganfod hyd yma.

Nodwyd darganfyddiadau Rhufeinig eraill, llai sicr, mawn mannau eraill yn y Fflint. Dywedir y daethpwyd o hyd i ddarnau o arian Rhufeinig yn ystod adeiladu Neuadd y Dref newydd ym 1840, er nad oes sicrwydd p’un a ddaethant o gyd-destun gwreiddiol ai peidio. Dyma o bosibl yr un darnau o arian y dywedir iddynt gael eu darganfod yn y castell cyn 1850, neu gerllaw iddo. Darganfyddiad arall nad oes sicrwydd amdano yw’r ‘Roman hypocaust, or hot-bath’ y dywedir iddo gael ei ddarganfod yn ardal yr hen waith toddi i’r gorllewin o’r castell tua 1700 ‘whilst digging for foundation of a copper-works’. Mae ansicrwydd tebyg ynghylch y cofnod fod ‘Roman tiles and bricks were also brought to light’ pan gafodd y gweithfeydd eu hymestyn yn negawdau cynnar y 19eg ganrif. Roedd Thomas Pennant, wrth ysgrifennu ar ddiwedd y 18fed ganrif, wedi cymryd yn ganiataol bod tref y Fflint ei hun yn tarddu o gyfnod y Rhufeiniaid oherwydd cynllun rheolaidd ei strydoedd. Fodd bynnag, fel y gwelwn isod, gwyddys yn eithaf pendant bellach mai tarddiad canoloesol sydd i’r dref ei hun.

Ychydig a wyddys yn fanwl hyd yma am hanes cyffiniau agos y Fflint yn ystod bron iawn 800 o flynyddoedd rhwng diwedd cyfnod y Rhufeiniaid ar ddiwedd y 3ydd a’r 4ydd ganrif, a Choncwest y Normaniaid ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Yn sicr, awgryma llawer o’r enwau lleoedd o bwys a ddaeth i’r amlwg yn ystod y cyfnod hwn fod y rhanbarth yn ffurfio parth ffiniol cymhleth, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol, rhwng y teyrnasoedd Cymreig ac Eingl-Sacsonaidd a oedd yn datblygu, gydag anheddwyr o Lychlynwyr a deithiodd dros yn môr yn symud i mewn hefyd. Ceir awgrym o statws gwleidyddol ansefydlog a bregus y rhanbarth yn yr enw Perfeddwlad fel y’i gelwid gan y Cymry. Dyma diriogaeth yn ymestyn am ddeng milltir ar hugain ar hyd arfordir gogleddol Cymru rhwng yr hyn sydd heddiw’n Llandudno a Phenarlâg. Tegeingl oedd enw’r Cymry ar y cantref (sef yr ardal weinyddol) a oedd yn cynnwys y Fflint, ond Englefield oedd enw’r Eingl-Sacsoniaid arno, gan roi adlais o’r enw llwythol Deceangli, cyn cyfnod y Rhufeiniaid.

Erbyn yr 8fed ganrif, roedd yr ardal arfordirol hon o’r Fflint ar ochr Lloegr o Glawdd Offa a Chlawdd Wat, sef clawdd a oedd yn dilyn ymyl y gefnen ucheldirol ryw 4 cilomedr yn unig i’r de-orllewin o’r Fflint. Roedd y cloddiau hyn wedi’u codi i ddiffinio ffin orllewinol teyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia ar ddiwedd yr 8fed ganrif, os nad yn gynharach. Erbyn yr 920au, roedd Rhuddlan, a oedd yn fwy nag 20 cilomedr ymhellach tua’r gorllewin, wedi’i sefydlu fel safle ffiniol Mersia, ac er iddo gael ei ailgipio gan deyrnas Gymreig Gwynedd yn ystod llawer o ddechrau a chanol yr 11eg ganrif, erbyn cyfnod y Goncwest Normanaidd roedd teyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia unwaith eto wedi hawlio’r diriogaeth rhwng Rhuddlan a Chaer. Rhestrwyd Rhuddlan ac aneddiadau gwasgaredig ar hyd aber afon Dyfrdwy yn rhan Swydd Gaer o Lyfr Domesday, a luniwyd ar gyfer William I ym 1086. Ni ddaeth y Fflint ei hun i fodolaeth am ddwy ganrif arall, ond roedd mân aneddiadau eraill yn y cyffiniau agos yn rhan o gantref Atiscros yn swydd Gaer. Roedd hwn yn cwmpasu’r un ardal â Thegeingl, ac mae’r enwau personol yn yr ardal yn awgrymu bod perchnogion stadau o darddiad Mersiaidd a tharddiad Llychlynnaidd yn dal tiroedd ar ddwy ochr aber afon Dyfrdwy. Dengys cofnodion yn Llyfr Domesday ar gyfer Coleshill (Cwnsyllt) a Leadbrook (wedi’u sillafu Coleselt a Latbroc), ychydig i’r gorllewin ac ychydig i’r dwyrain o’r dref, bod ardaloedd bach iawn o dir wedi’u haredig yn yr ardal yn y cyfnod hwnnw ac, yn achos Leadbrook, roedd ardal eang o goetir, ‘1 league long and as wide’.

Cafodd cantref Domesday Atiscros ei enw ar ôl croes hynafol gynt o’r enw Croes-ati yn Gymraeg. Yn ôl pob tebyg, bu’n nod tir amlwg ar un adeg, ac yn draddodiadol fe safai i’r gogledd o Lôn Croes-ati, Pentre Ffwrndan, y Fflint, mewn ardal lle mae bellach stad o dai a adeiladwyd ar ôl y rhyfel. Sonia’r ysgolhaig John Dee am ‘an old cross which place is called Adecross’ ym 1574, ac ym 1699 mae Edward Lhuyd hefyd yn cyfeirio at ‘an old cross which place is called Adecross’. Awgryma hyn ei bod yn parhau i sefyll ar ddechrau’r 18fed ganrif, ond cofio gweld ei ‘pedestal’ yn unig a wna Thomas Pennant a oedd yn ysgrifennu yn yr 1780au. Methodd gwaith cloddio yn y 1930au â dangos unrhyw olion yn y lleoliad a gofnodwyd ar argraffiadau cynnar Map yr Arolwg Ordnans. Nid oes unrhyw ddisgrifiad o’r groes wedi goroesi, ond ymddengys fod posibilrwydd ei bod yn perthyn i’r un traddodiad â’r croesau ar eu traed eu hunain y dylanwadodd y Llychlynwyr arnynt yng ngogledd-ddwyrain Cymru, Swydd Gaer a Chilgwri. Ymhlith y rhain mae Maen Achwyfan ym mhlwyf Chwitffordd, Sir y Fflint sydd wedi’i osod mewn soced sylweddol o garreg ac yn dyddio o ddiwedd y 10fed ganrif neu ddechrau’r 11eg ganrif. Yn ddiddorol ddigon, mae lleoliad tybiedig y groes yn agos iawn at olion Rhufeinig ym Mhentre Ffwrndan. Un posibilrwydd yw parhad aneddiadau neu ddeiliadaethau stad o ddiwedd cyfnod y Rhufeiniaid i ddiwedd y 10fed ganrif, ond ymddengys braidd yn annhebygol. Neu, yn wyneb cysylltu safleoedd Cristnogol cynnar yn aml â chladdiadau a thomenni cynharach o lawer – fel y clwstwr o domenni claddu cynhanesyddol posibl sy’n agos at Faen Achwyfan – ymddengys yn bosibl bod hen domenni sbwriel gweithio plwm y Rhufeiniaid wedi awgrymu gweddillion y gorffennol paganaidd.

Newidiodd perchnogaeth Perfeddwlad rhwng teuluoedd brenhinol Gwynedd a Lloegr ar sawl achlysur yn ystod y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Dychwelodd i ddwylo’r Cymry pan gyfeddiannodd Owain Gwynedd y diriogaeth tua 1150 mewn cyfnod o gynnwrf yn Lloegr yn ystod teyrnasiad y Brenin Stephen, fel rhan o Wynedd Is-Conwy. Bu dwy ymgais yn yr ardal i’w hadennill, ond bwriodd Owain Gwynedd y ddwy yn ôl. Lluoedd Ranulf, Iarll Caer a Madog ap Maredudd, tywysog Powys ar y cyd ym 1150 oedd yn gyfrifol am y gyntaf, a byddinoedd Harri’r II ym 1157 ym Mrwydr Cwnsyllt, fel y'i gelwir, oedd yn gyfrifol am yr ail. Nid oes union sicrwydd ynglŷn â safle’r naill frwydr na’r llall ond, yn ôl traddodiad, roedd safle’r ail frwydr yn yr ardal gerllaw Melin y Fflint yn Stad Ddiwydiannol Parc Aber, ar ochr ogledd-orllewin y dref. Ailgoncrodd Harri’r III y diriogaeth i goron Lloegr yn y 1240au ond, yn ddiweddarach, fe adenillodd Llywelyn ap Gruffudd y tir a’i ailuno â theyrnas Gwynedd ym 1256.

Erys llawer iawn i’w ddarganfod o hyd am ffordd o fyw pobl gyffredin yn ystod y cyfnod hwn, ac felly mae’n anochel mai digwyddiadau gwleidyddol sy’n cael y lle blaenllaw yn yr hanes, er nad oeddent o bosibl yn effeithio rhyw lawer ar y bobl hynny. Gellir cael rhywfaint o wybodaeth am natur y dirwedd ac economi'r ardal o Journey through Wales a Description of Wales gan Gerallt Gymro, a ysgrifennwyd ar ddiwedd yr 1180au a dechrau’r 1190au. Yn ddiamau, roedd ffermio’n parhau ond roedd ardaloedd mawr o goetir o hyd, fel Coed Ewlo (a sillafodd Pennant yn Eulo) a oedd, yn ôl y sôn, yn ymestyn o Benarlâg i Gwnsyllt; dyma’r man lle cudd-ymosodwyd ar luoedd Harri’r II. Roedd llongau’n mynd a dod ar hyd arfordir Gogledd Cymru, yn symud pobl a nwyddau fel ei gilydd. I bob golwg, roedd meysydd plwm Sir y Fflint yn parhau i gael eu gweithio i adennill plwm ac arian ‘by delving deep’. O bosibl, dyfalu mae Gerallt wrth sôn am darddiad yr enw lle Cwnsyllt (Coleshulle) i’r gorllewin o’r Fflint fel ‘the hill of coal’ (sy’n cael ei roi yn y Lladin, sef Carbonis collem), ond mae o leiaf yn awgrymu bod dyddodion glo yn hysbys ac yn cael eu gweithio yn yr ardal erbyn y dyddiad hwn. Erbyn dechrau’r 14eg ganrif, gwelir Coleshill hefyd ar ei ffurf Gymraeg fel ‘Mynydd y glo’.

(yn ôl i’r brig)