CPAT logo
Cymraeg / English
Y Fflint
Rhagarweiniad
Lleoliad yn y dirwedd
Y Fflint yn y cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol cynnar
Y castell canoloesol, y dref a chefn gwlad
Y Fflint rhwng 1500 a 1700
Ehangu diwydiannol yn y Fflint rhwng 1700 a 1950

Eich Gymuned - Y Fflint

Archaeoleg a hanes cynnar y dref


Ehangu diwydiannol yn y Fflint rhwng 1700 a 1950


Y Fflint o’r dwyrain, yn edrych ar hyd y rheilffordd a’r ffordd dyrpeg. Y dref ganoloesol sydd yn rhan uchaf y llun yn y canol, gyda datblygiad diwydiannol yr 20fed ganrif y tu hwnt iddi. Adeiladwyd y tai yn y tu blaen, sy’n dyddio o’r 1930au a’r 1960au, ar ben caeau agored y dref ganoloesol. Llun: CPAT 08-c-193.

Gwelodd diwydiannu’r dref o tua 1700 newid pendant yn ei ffortiwn, gan drawsnewid yn gyflym yr hyn a oedd erbyn hynny’n fawr mwy na phentref bach gwledig yn dref ddiwydiannol fodern erbyn canol yr 20fed ganrif.

Tirweddau amaethyddol

O efallai dechrau'r 18fed ganrif, chwaraeodd amaethyddiaeth rôl a oedd yn raddol grebachu yn economi'r dref, ond roedd y dirwedd wledig yn parhau i gyfyngu ar dopograffeg y dref. Hyd ddechrau’r 19eg ganrif, roedd ffermdir yn parhau i ymestyn fwy neu lai at linell amddiffynfeydd canoloesol y dref, ac roedd y morfeydd heli ar hyd yr aber yn dal i gael eu defnyddio’n helaeth ar gyfer porfa.

Dengys mapiau o’r cyfnod rhwng canol y 18fed ganrif a chanol y 19eg ganrif fod y broses o gau caeau agored canoloesol y dref fwy neu lai wedi’i gorffen. Roedd hyn yn caniatáu cyflwyno dulliau ffermio gwell, er bod deiliadaethau ffermydd unigol a stadau yn aml yn parhau i fod wedi’u gwasgaru’n eang. Roedd bythynnod bach wedi ymddangos ar lonydd a ffyrdd trwy’r hen gaeau agored. Roedd llechfeddiannau bach y bythynnod gyda chaeau ynghlwm hefyd wedi dechrau ymddangos yn y stribed o dir comin gynt ar hyd nant Swinchiard i’r de o’r dref, yn yr ardal rhwng Ffordd Helygain a Ffordd Llaneurgain. Oherwydd bod tirddaliadaeth llawer o’r hen gaeau agored yn parhau i fod yn dameidiog, roedd tuedd i’r ffermydd mwy sylweddol, fel Fferm Coed-onn, Bryn Coch a Maes-gwyn ymddangos ar ymylon y caeau agored. Mae rhai o’r ffermydd hyn, fel Y Waen, yn tarddu o’r 17eg ganrif. Dengys Arolwg y Degwm fod cyfran resymol fawr o’r tir yn dal i gael ei thrin, er bod magu da byw hefyd yn bwysig. Roedd sefydlu ffald anifeiliaid ger mynediad deheuol y dref, yn yr ardal gerllaw lle saif Tŷ Fflint heddiw, ymhlith y mesurau i atal anifeiliaid rhag crwydro.

Un o’r mesurau cyffredin ar gyfer gwella ffrwythlondeb y pridd yn y cyfnod rhwng yr 16eg ganrif a’r 18fed ganrif oedd gwasgaru is-bridd o’r pyllau marl fel y’u gelwid, a fyddai’n ddiweddarach yn creu pyllau bach yn aml. Gwyddys am enghreifftiau o byllau marl yn yr hen gaeau i’r dwyrain o’r dref, bellach yn ardal Tir Hamdden Pentre ac yn nhiroedd Ysgol Gynradd y Santes Fair. Nododd ysgrifenwyr ar amaethyddiaeth ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif y byddai'r marl graeanog yng nghyffiniau'r Fflint yn cael ei wasgaru ar diroedd tyfu haidd gan amlaf, ac weithiau ar dir porfa a gwair, i wella ffrwythlondeb.

Tirweddau diwydiannol

Daeth yr hwb cyntaf i ddatblygu ac ehangu’r dref o tua dechrau’r 18fed ganrif o ecsbloetio dyddodion lleol o blwm a glo, sef dyddodion a oedd eisoes wedi’u gweithio am ganrifoedd lawer, er ar raddfa gymharol gyfyngedig ac, yn ôl pob tebyg, ar sail dymhorol. Daeth cyfleoedd i greu cyfoeth gyda’r datblygiadau ym maes mwyngloddio ac mewn technoleg prosesu, a bachodd diwydianwyr, perchnogion tir a buddsoddwyr yn y rhain yn eiddgar. Arweiniodd hyn at y Fflint yn dod i’r amlwg fel un anheddiad mewn cadwyn o aneddiadau diwydiannol bach fel Maes-glas a Bagillt ar hyd aber afon Dyfrdwy, lle sefydlodd nifer sylweddol o weithwyr o fannau eraill ym Mhrydain.

Arweiniodd elw ansicr o blwm ar adegau yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif at arallgyfeirio i amrywiaeth eang o ddiwydiannau a oedd weithiau’n gydberthnasol, un ar ôl y llall yn sydyn yn aml, ar yr un ardaloedd o dir. Daeth y broses i’w hanterth yn y diwydiannau cemegol a thecstilau ar raddfa fawr, wedi’u seilio ar ddeunyddiau wedi’u mewnforio a ddaeth yn rhan bwysicaf o economi’r dref hyd at y cyfnod ar ôl y rhyfel. Byrhoedlog oedd llawer o’r diwydiannau cynnar, ac weithiau cyfeirir atynt wrth basio yn unig mewn troed nodyn, ar gynllun neu mewn enw lle. Mae pob cenhedlaeth newydd wedi tueddu i glirio ymaith yr hyn a oedd yno’n gynharach er mwyn dechrau o’r newydd, gan adael ychydig arwyddion gweledol o’r hanes diwydiannol cyfoethog sydd bellach wedi’i gladdu o dan wahanol rannau o’r dref.

O’r cyfnod canoloesol, harneisiwyd pŵer dŵr i felino ŷd ym Melin y Fflint ar nant Swinchiard ychydig i’r de o’r dref ac ym melin Croes-ati ar y nant ym Mhentre Ffwrndan i’r dwyrain. Mae’n debyg bod cloddio cynnar am lo hefyd wedi datblygu o’r cyfnodau canoloesol ymlaen ar stribed o dir comin i’r de o’r dref. Yma, roedd llinellau ffawtiau daearegol wedi dod â gwythiennau o lo yn nes at yr wyneb, ac roedd yn haws eu cyrraedd gyda thechnoleg cloddio cynnar trwy byllau cloch gymharol fas, oherwydd dyffrynnoedd dyfnach. Fel yn achos y dref ei hun, roedd y tir ffermio a oedd yn parhau i gael ei weithio o amgylch y dref yn cyfyngu ar y lle oedd ar gael ar gyfer datblygu diwydiannau prosesu. Felly datblygodd canolbwynt y diwydiannau hyn ar lannau’r aber ar ymylon gogleddol y dref, lle cafwyd tir ar gyfer adeiladu trwy godi argloddiau ac adennill tir o’r aber. Yma hefyd, roedd cyflenwad rheolaidd o ddŵr ar gael o nant Swinchiard a gellid gwaredu gwastraff diwydiannol yn haws, boed yn solet neu’n hylifol, i mewn i’r aber. Dechreuodd problem llygredd godi ei phen ar ddechrau’r 19eg ganrif ac, am gyfnod byr, adleolwyd rhai o’r prosesau diwydiannol llai dymunol i lannau’r aber ym Mhentre Ffwrndan, yng nghyfeiriad y gwynt o’r dref, cyn eu cau yn y diwedd yn gyfan gwbl.

Parhau i fod yn gynhyrchiol wnaeth cloddio glo yn y Fflint trwy gydol y 18fed ganrif, ond dirywiodd yn ystod y 19eg ganrif oherwydd cystadleuaeth oddi wrth byllau glo mwy o lawer mewn lleoedd eraill. Ar ddechrau’r 19eg ganrif, roedd rhai o’r gweithfeydd bach ar wahân wedi’u dwyn at ei gilydd a’u gweithio gan un cwmni. Ymhlith y pyllau glo a oedd yn bodoli gynt y tu mewn i ffiniau’r dref, ac sydd bellach o dan adeiladau, mae pyllau yn ardal Mount Pleasant rhwng Ffordd Llaneurgain a Ffordd Helygain a chyffordd Ffordd Helygain a Ffordd Coed Onn (Green Pit, Pwll-y-Mwg, Mill Pit a Phwll Allt Goch), Pwll Marsh ger glannau afon Dyfrdwy (a orchuddiwyd yn ddiweddarach gan Weithfeydd y Castell Courtaulds) yn ardal y stad ddiwydiannol i’r gogledd-orllewin o ganol y dref, a hefyd Pwll Glo Bath, ychydig i’r dwyrain o ganol y dref. Gorweddai eraill ychydig y tu allan i’r dref, fel pwll Bryn Coch i’r de o Ysgol Uwchradd y Fflint, ychydig y tu allan i’r ffin i’r de, a Phwll Glo Flint Marsh ar hyd Hen Ffordd Llundain gerllaw’r Fynwent Newydd ac ychydig i’r gorllewin o Stad Ddiwydiannol Parc Aber, ychydig y tu allan i’r ffin i’r gogledd-orllewin. Roedd gan rai o’r pyllau beiriandai a yrrwyd gan ager ar gyfer cytiau weindio a phympiau draenio. Roedd gweithfeydd cynharach wedi bod yn ddibynnol ar naill ai pŵer dynol neu bŵer ceffyl. Wedi cyflwyno peiriandai a yrrwyd gan ager ar gyfer weindio a draenio, gellid suddo pyllau hyd ddyfnder o 300-500 troedfedd neu fwy. Fodd bynnag, roedd amodau gweithio’n parhau i fod yn galed, ac mor ddiweddar â’r 1840au, roedd ‘children of 8 or 9 years of age are set to work in the coal pits’ o hyd yn ôl y sôn. Roedd system tramffyrdd yn cysylltu Pwll Glo Marsh a phyllau Green Pit a Phwll-y-Mwg, gan ddilyn ymyl orllewinol y dref i’r gwaith toddi/man trawslwytho. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, edwino wnaeth cynhyrchu lleol oherwydd cystadleuaeth â’r pyllau glo mwy yn y Parlwr Du ac yn ardal Wrecsam. Erbyn y 1870au, Pwll Glo Flint Marsh yn unig oedd ar ôl yng nghyffiniau agos y Fflint, a daeth gweithgareddau’r pwll hwnnw i ben hefyd yn negawd cyntaf yr 20fed ganrif.

Cafodd diwydiannau lleol cloddio glo a phlwm gryn hwb gyda darganfod technegau i ddefnyddio glo i fwyndoddi plwm ar ddiwedd yr 17eg ganrif, ac fe arweiniodd hyn at adeiladu’r gwaith toddi plwm ger nant Swinchiard ar lannau’r aber ym 1699. Dyma un o’r diwydiannau prosesu cynharaf a sefydlwyd yn yr ardal hon er bod awgrym nad dyma’r cyntaf o bosibl. Ymddengys y gelwid y gwaith toddi plwm yn Gwaith-Halen yn yr 1780au, sy’n awgrymu bod diwydiant cynharach ar yr un safle. Daeth sgilgynhyrchion y diwydiant mwyndoddi plwm, yn bennaf arian, sinc, calamin ac ocsidau plwm, i ffurfio sail ar gyfer y diwydiannau cemegol a ddaeth yn bwysicach yn ddiweddarach wrth i’r diwydiant plwm ddirywio.

Roedd y gwaith toddi hefyd yn defnyddio mwyn plwm a gludwyd gan geffyl a chert o Fynydd Helygain, tua 5 cilometr i’r de, a hefyd mawn a gludwyd ar y môr o rannau eraill o Gymru nad oedd adnoddau glo ar gael iddynt, yn ogystal ag o Iwerddon a’r Alban. Erbyn ail ddegawd y 19eg ganrif, roedd marchnad brysur ar gyfer mwyn plwm wedi datblygu yn yr ardal, gydag arwerthiannau pob pythefnos yn y Fflint a Threffynnon, bob yn ail. Glo o byllau lleol oedd y tanwydd, ac erbyn y 1840au a’r 1850au roedd system o dramffyrdd ceffyl a adeiladwyd i’r gorllewin o’r dref yn ei gludo. Adeiladwyd glanfeydd a phierau i allforio dalennau, pibelli a barau plwm, yn ogystal ag i allforio glo ar hyd yr aber i Gaer a hefyd ar y môr i Lerpwl ac Iwerddon.

Ar ddechrau’r 1820au, adeiladwyd tŵr sylweddol, 140 troedfedd o uchder a 42 troedfedd mewn diamedr er mwyn casglu sylffwr o wahanol ffliwiau’r gwaith plwm. Sefydlwyd iardiau cychod ar raddfa fach i wneud cychod hwylio o bren, gerllaw’r gwaith toddi, a oedd yn parhau i weithio rhwng yr 1820au a’r 1860au. Erbyn y 1830au, roedd gwaith yn cynhyrchu boeleri ar gyfer peiriannau ager ymhlith diwydiannau atodol eraill; yn ddiamau, defnyddiwyd y rhain ym mhyllau glo’r cyffiniau ac mewn mwyngloddiau plwm ymhellach i ffwrdd.

Mae golygfa gynnar o’r gwaith toddi wedi’i chynnwys, efallai oherwydd ei newydd-deb, ar ymyl lluniad o gastell y Fflint gan Samuel a Nathaniel Buck yn y 1740au, a argraffwyd yn y gwaith rhifynnol, England Displayed a gyhoeddwyd ym 1769. Dengys yr olygfa un ar ddeg o simneiau’n poeri mygdarthau a oedd yn ddiamau’n wenwynig, a’r hyn sy’n ymddangos fel tŵr cloc gwaith cynnar. Ym 1810, disgrifiodd Thomas Pennant y dref fel ‘blackened with the smoke of smelting-houses’. Ymddengys golygfeydd eraill o’r gwaith toddi ar daleb un geiniog Gweithfeydd Plwm y Fflint yn dyddio o 1813 ac ar brint Henry Gastineau o ochr orllewinol y Fflint yn Wales Illustrated, a gyhoeddwyd ym 1830; mae mastiau a rigin llongau yn y cefndir yn pwysleisio arwyddocâd y lleoliad yn y ddwy enghraifft.

Roedd y diwydiant plwm wedi dirywio erbyn y 1840au pan ddisodlwyd y gwaith toddi gan ffatri’n cynhyrchu alcali a chlorid calch. Dywedwyd ei fod yn ‘one of the most extensive works of the kind in the world’, ac fe ehangodd dros safle glanfeydd cynharach ac iard adeiladu llongau, ar y safle a ddaeth i’w adnabod fel Gweithfeydd y Castell yn ardal Ystâd Ddiwydiannol Parc y Castell heddiw. Fel y gwaith plwm, roedd y gweithfeydd hyn ar eu hanterth yn cyflogi cannoedd lawer o weithwyr. Roedd llawer o’r rheiny a oedd yn gweithio yn y gwaith alcali yn newydd-ddyfodiaid, gan gynnwys nifer fawr o deuluoedd o Iwerddon yn chwilio am waith. Defnyddiwyd y cemegau hyn a gynhyrchwyd o ddŵr y môr a sylffwr i gynhyrchu powdr cannu, diheintydd a sebon. Roedd gweithfeydd alcali yn ddrwg-enwog am y llygredd roeddent yn ei greu, yn enwedig o allyriadau mygdarthau asid hydroclorig a oedd yn tueddu i gael effaith andwyol ar yr ardal wledig o amgylch. Nododd argraffiad 1849 Topographical Dictionary of Wales gan Samuel Lewis y ‘large alkali-works, which have . . . been suspended, and are not likely to be resumed, as the muriatic acid gas evolved from them deterred strangers from frequenting the town as a bathing-place’. Yn aml, ceisiwyd ateb trwy adeiladu simneiau talach i yrru'r mygdarthau ymhellach i ffwrdd neu, fel yn achos y Fflint, trwy symud y ffatri i rywle arall wrth fynd ati i ddatrys problem llygredd yn y cyfnod hwn. Symudwyd y gwaith alcali i Bentre Ffwrndan, yng nghyfeiriad y gwynt, lle parhaodd y gweithgareddau hyd ei gau yn y diwedd ym 1900.

Ymddengys fod y gweithfeydd gwydr wedi’u sefydlu erbyn y 1830au, a’u bod hefyd yn gysylltiedig â’r diwydiant alcali cynnar. Pan y’i cymysgwyd â saim, gellid defnyddio alcali i wneud sebon ac, o’i gymysgu â chalch a thywod, gellid ei ddefnyddio i wneud gwydr. Roedd glo a phlwm, sef dau arall o anghenion pwysig gwneud gwydr, ar gael yn lleol. Gwelir ‘tŷ gwydr’ crwn, o bosibl yn defnyddio’r simnai a godwyd i gasglu sylffwr yn yr 1820au, fel nod tir ar siart y morlys yn dyddio o’r 1830au. Dyma o bosibl hefyd y simnai frics neilltuol ar ffurf côn sydd i’w gweld ar brint Gastineau o’r Fflint a nodwyd uchod. Mae’n bosibl y bu’r diwydiant yn y dref yn hwy, gan fod cyfeiriadau yn yr 1880au at ddod o hyd i wastraff gwydr ger neuadd y dref.

Gyda dyfodiad y rheilffordd i’r Fflint ym 1848, roedd diwydiant yn gallu manteisio ar system drafnidiaeth fwy dibynadwy ar gyfer mewnforio deunyddiau crai ac allforio cynhyrchion gorffenedig. Ymhlith diwydiannau eraill a gododd yn y Fflint yn ystod y 19eg ganrif oedd gwaith haearn mawr a saif yn rhannol ar ben dyfrffos y castell ac ar bwys waliau’r castell. Roedd gweithfeydd haearn eraill, llai ym Mhentre’n gweithredu yn yr 1880au ar hyd Ffordd Helygain yn negawd cyntaf yr 20fed ganrif. Ym 1907, roedd gweithgynhyrchwr gwrtaith calsiwm ffosffad yn gweithredu yn rhan o Weithfeydd y Castell.

Dechreuodd cysylltiad y Fflint â’r diwydiant papur a thecstilau yn negawd olaf y 19eg ganrif. Ar ddiwedd y 1890au, codwyd melin bapur ‘vegetable parchment’ ar lan nant Swinchiard, yn ardal Parc Aber heddiw, i’r gogledd-orllewin o’r dref. Roedd hyn yn cynrychioli'r tro cyntaf i ddiwydiant dresmasu'n sylweddol ar hen gaeau agored canoloesol y Fflint. Troswyd y felin bapur yn ffatri decstilau yn negawd cyntaf yr 20fed ganrif gan gwmni o’r Almaen a oedd yn cynhyrchu ffibrau naturiol i ddechrau. Yn ddiweddarach, ym 1913, dechreuodd gynhyrchu’r ffibr synthetig, rayon fisgos a wnaed o seliwlos o wastraff cotwm neu fwydion coed a fewnforiwyd. Caeodd y gwaith ar ddechrau’r rhyfel byd cyntaf, ond ym 1917 daeth i feddiant Courtaulds a rhoddwyd yr enw Gweithfeydd Aber arno. Fe ehangodd y cwmni’n ddiweddarach, gan feddiannu’r gwaith Alcali i’r gorllewin o Gastell y Fflint ym 1920, lle roedd ffatri newydd, sef Gweithfeydd y Castell, yn gweithgynhyrchu rayon fisgos, ynghyd â Gweithfeydd Aber. Meddiannodd y cwmni Melin Glannau Dyfrdwy hefyd ym 1927, gan ddefnyddio’r hen waith nyddu cotwm arbrofol hwn ar gyfer prosesu edafedd.

O safbwynt fasnachol, roedd gan y safle nifer o fanteision. Roedd y rheilffordd a ffyrdd yn gallu cyflenwi’r gweithfeydd yn hawdd â glo o byllau glo’r Parlwr Du a Wrecsam. Roedd digonedd o lafur gan fod diwydiannau eraill yn yr ardal wedi dirywio. Gellid dod â mwydion coed o fforestydd y cwmni ei hun yn ne Affrica, trwy Lerpwl ac Ellesmere Port ar y rheilffordd, ynghyd â’r cemegau a gynhyrchwyd mewn ffatrïoedd mewn mannau eraill ym Mhrydain. Roedd cyflenwad dŵr dibynadwy ar gael o nant Swinchiard a oedd, ers y 1870au, wedi bod yn cymryd dŵr o system ddraenio dwfn Twnnel Helygain a grëwyd ar gyfer y mwyngloddiau plwm ar Fynydd Helygain a Chomin Treffynnon cyn belled i’r de â Rhyd-y-mwyn. Prynodd Courtaulds y twnnel ar ddiwedd y 19eg ganrif. Roedd y twnnel yn gollwng dŵr i Nant y Fflint (sef isafon nant Swinchiard) yng nghoedwig Coed y Cra, tua 2 cilomedr i’r de-orllewin o’r dref. Storiwyd y dŵr mewn cronfeydd dŵr mawr a grëwyd ym Morfa’r Fflint ar ochr yr aber i’r rheilffordd, gerllaw Panton Cop a oedd wedi’i adennill ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Byddai’r gwastraff yn cael ei drin mewn tanc storio ac yna’i ollwng i aber afon Dyfrdwy pan oedd y llanw ar drai.

Ar ei anterth, roedd Courtaulds yn cyflogi miloedd lawer o weithwyr. Fodd bynnag, arweiniodd cystadleuaeth gynyddol at gau ffatrïoedd a cholli swyddi o ddechrau’r 1950au. Caewyd Gweithfeydd Aber ar ddiwedd y 1950au (ac yn y 1960au daeth yn weithfeydd prosesu mwydion coed a’u cannu ar gyfer byrddau papur, wedi’i seilio ar fwydion o dde-orllewin Affrica). Caewyd Gweithfeydd y Castell yn y 1970au a Gweithfeydd Glannau Dyfrdwy yn yr 1980au.

Gyda chymorth Awdurdod Datblygu Cymru, cafodd ffatrïoedd Courtaulds eu dymchwel ac adeiladwyd unedau ffatrïoedd newydd, llai o lawer ar Ystâd Diwydiannol Parc Aber ac Ystâd Ddiwydiannol Parc y Castell gan gynyddu cyfleoedd gwaith yn yr 1980au. Daeth cwmnïau newydd i’r Fflint er mwyn manteisio ar y telerau arbennig, a chynyddodd cyflogaeth yno gyda diwydiannau newydd, gan gynnwys cynhyrchion gofal iechyd a glanweithdra yn yr 1980au ac wedyn prosesu bwyd yn y 1990au. Adeiladwyd Melin y Fflint, Melin Coleshill a Melin Delyn ar safle maes glas i’r gogledd-orllewin o’r dref a fu gynt yn safle Coleshill Farm. Datblygodd cyfleoedd gwaith hefyd yn y diwydiannau hamdden, gwasanaethau a manwerthu, gan gynnwys cyfleoedd yn yr awdurdod lleol a chyfleoedd yn sgil agor datblygiad newydd Parc Manwerthu Sir y Fflint.

Defnyddio deunyddiau adeiladu; gweithgynhyrchu brics a theils

Yn ddiamau, roedd adeiladau ffrâm bren a oedd yn dyddio o’r canol oesoedd a diwedd y canol oesoedd yn gyffredin ar un adeg yn y dref ond, yn raddol, fe’i disodlwyd gan adeiladau o garreg yn ystod yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif wrth i’r coetiroedd lleol leihau, wrth i gyflenwadau o bren addas ddod yn brinnach ac wrth i chwareli carreg masnachol lleol ddod i fodolaeth. Roedd gwellt lleol yn parhau i gael ei ddefnyddio’n helaeth ar gyfer toeau. Mae nodiaduron Celia Fiennes a ysgrifennwyd ym 1698 yn disgrifio’r dref fel ‘a very Ragged place many villages in England are better, ye houses all thatched and stone walls’. Mae print Gastineau o’r Fflint ym 1830, y soniwyd amdano uchod, hefyd yn dangos rhai o’r bythynnod to gwellt hyn ar ochr orllewinol y dref yn ardal tafarn The Ship. Tŷ preifat yn yr hen Swan Lane gynt, a redai’n gyfochrog â Duke Street, oedd un o’r adeiladau to gwellt olaf i’w weld yn y dref, ac fe’i disgrifiwyd yn yr 1880au fel ‘one of the few relics of the old town left’. Disodlwyd toeau gwellt yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif gan lechi a gludwyd ar y môr o chwareli gogledd-orllewin Cymru.

Arweiniodd datblygiad cyflym y dref yn y 19eg ganrif at alw am frics a morter, a nifer o ddiwydiannau lleol yn cynhyrchu’r deunyddiau adeiladu hyn yn y cyffiniau agos mewn ardaloedd sydd bellach o dan adeiladau. Roedd odynau calch a oedd yn defnyddio calchfaen a glo lleol ar waith ar ddiwedd y 19eg ganrif ar hyd Hen Ffordd Llundain mewn ardal o erddi modern ger Kingsbury Close, ac mewn llain heb ei datblygu ar ymyl Ffordd Helygain gyferbyn â Thair Derwen. Mewn amryw le, roedd pyllau tywod hefyd yn cynhyrchu, gan gynnwys un gerllaw Tyddyn, ar Ffordd Helygain, i’r de o’r dref. Roedd galw am frics ar gyfer adeiladu tai a ffatrïoedd. Nifer gymharol fach o iardiau brics, gydag odynnau o frics y byddai glo yn eu tanio, oedd ar waith o amgylch y dref rhwng tua’r 1840au a’r 1880au, yn gweithio o ddyddodion o glog-glai a ddisgrifiwyd fel ‘purple mottled marls’. Roedd yr iardiau brics cynharach yn gwneud teils a brics â llaw, ond roedd rhai wedi cyflwyno mecaneiddio’n ddiweddarach, gan ddefnyddio peiriannau ager. Mewn rhai achosion, roedd yr iardiau brics yn cael eu gweithio ar y cyd â phyllau glo lleol, a chan yr un perchnogion, ar gyfer tanwydd a deunyddiau llenwi. Roedd Gweithfeydd Brics a Theils y Fflint ar Ffordd Helygain yn ymgorffori siâl wedi’i hindreulio o domenni gwastraff Pwll Glo Dee Green gerllaw yn eu cynhyrchion. Dyma oedd y mwyaf o’r iardiau brics lleol, a bu’n gweithredu rhwng tua’r 1840au a’r 1880au. Roedd yna iard frics arall, llai a oedd yn gysylltiedig â phwll glo yn gweithredu gerllaw cyffordd Ffordd Llaneurgain a Ffordd Coed Onn tua’r adeg hon. Roedd y gwaith brics mwyaf ond un yn y Fflint, a oedd ar waith o ddechrau’r 1870au i ddechrau’r 1890au, yn gysylltiedig â phyllau clai yn ardal y rhandiroedd heddiw sydd ger Prince of Wales Avenue. Yn ogystal â chynhyrchu brics, teils a phibellau draenio, roedd hefyd yn hysbysebu ei fod yn gwneud cynhyrchion ar gyfer y diwydiannau cemegau a gwaith metel. Roedd iard frics arall ar Stryd Caer, yn ardal yr orsaf dân ac unedau diwydiannol heddiw, ar waith yn y cyfnod rhwng y 1850au a’r 1880au, ar safle Pwll Glo Bath gynt. Roedd iardiau brics eraill ar waith i’r de o Marsh Farm ac ym Mhentre Ffwrndan, i’r dwyrain o ganol y dref ac ar hyd Ffordd Coed Onn/ Lôn Allt Goch. Daeth yr odynnau lleol dan fwy o bwysau cystadleuaeth o du iardiau brics mwy ymhellach i ffwrdd, ac ymddengys nad oedd unrhyw rai o’r gweithfeydd lleol wedi parhau i weithredu ar ôl diwedd y 19eg ganrif.

Hanes teithio a thrafnidiaeth

Roedd trafnidiaeth ar y ffyrdd yn wael a bu’n rhwystr i ddatblygiad diwydiannol ac amaethyddol fel ei gilydd, ond fe’i gwellwyd gan fenter preifat trwy ymdrechion yr ymddiriedolaethau tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Roedd gwella glanfeydd a chyfleusterau dociau wedi bod o fudd i longau, a fu’n bwysig trwy gydol cyfnod y Rhufeiniaid a’r canol oesoedd. Rhaid oedd brwydro â thywod symudol a thraethlin a oedd yn raddol gilio hyd canol y 19eg ganrif, pan ddisodlodd y rheilffordd gludiant dŵr i bob pwrpas. Daeth enw da byrhoedlog y dref fel cyrchfan glan môr i ben hefyd gyda dyfodiad y rheilffyrdd. Hyd yn oed gyda’r rheilffordd, roedd mwyafrif y gweithwyr yn parhau i fyw ac i weithio yn y dref hyd nes i drafnidiaeth car ddod yn fwy eang yn ail hanner yr 20fed ganrif.

Roedd y llwybr o Gaer i Gaergybi trwy’r Fflint o bosibl yn un o’r prif ffyrdd yng ngogledd Cymru o’r Canol Oesoedd, a hyd nes cwblhawyd Ffordd Caergybi Telford (A5) yn yr 1820au, fe barhaodd yn un o’r prif gysylltau ag Iwerddon. Ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, fe wellodd Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir y Fflint y ffordd o Gaer i Gaergybi (yr A548 fodern) sy’n rhedeg trwy’r dref, a Ffordd Llaneurgain i’r de o’r dref, sef y ffordd dyrpeg o’r Fflint i’r Wyddgrug. Codwyd cerrig milltir ar y ffordd dyrpeg o Gaer i Gaergybi ger Fferm Pentre i’r dwyrain o’r dref, yn nodi pellteroedd i’r Fflint a’r Fferi Isaf (Queensferry), a ger yr hyn sydd bellach yn Stad Ddiwydiannol Parc Aber i’r gorllewin, yn nodi pellteroedd i’r Fflint a Threffynnon. Roedd yno hefyd garreg filltir yn nodi pellteroedd y Fflint, Llaneurgain a’r Wyddgrug ger Plas-y-mynydd, milltir yn unig o ymyl ddeheuol y dref ar ddechrau’r 19eg ganrif. Adeiladwyd tolldai a fyddai’n codi tollau i ad-dalu buddsoddwyr ar bob un o’r ffyrdd hyn, sef Tyrpeg y Fflint yn Summer Hill i’r dwyrain o ganol y dref, Tyrpeg Cwnsyllt i’r gorllewin a Thyrpeg Bryn Coch ar Ffordd Llaneurgain yn ardal Mount Pleasant i’r de. Fe wnaeth y ffyrdd tyrpeg barhau am tua chanrif, hyd yr 1880au pan drosglwyddwyd cyfrifoldeb am gynnal y ffyrdd a’u gwella i’r byrddau ffyrdd sirol.

Roedd trafnidiaeth ar y dŵr wedi bod yn elfen bwysig yn nharddiad y dref a’i datblygiad ers y cyfnodau cynnar. Ar hyn o bryd, mae morfa heli yn amgylchynu’r castell, ond ceir tystiolaeth eglur fod dŵr dyfnach wedi pendilio yn ôl ac ymlaen yn ystod y ddwy neu dair canrif diwethaf mewn ymateb i symudiadau yn sianel dŵr dwfn afon Dyfrdwy. Mae map Speed o’r dref ym 1610 yn awgrymu bod glanfeydd yn gwasanaethu’r castell a’r dref ychydig i’r dwyrain a’r de-ddwyrain o’r castell hyd efallai’r 17eg ganrif, ond mae’n bosibl y bu’n rhaid eu gadael yn segur oherwydd siltio yn yr ardal hon. Gwnaeth Samuel Lewis sylw yn hanner cyntaf y 19eg ganrif fod ‘the town is situated on the shore of the estuary of the river Dee, which sometimes flows close to it, occasionally receding, and approaching it again’ a nododd fod y môr yn tanseilio tŵr y gogledd-ddwyrain ac ‘which in high tides dashes with great violence against its base’. Lai na 50 mlynedd yn gynharach, nododd Pennant fod ‘the channel of the Dee is at some distance’ oddi wrth waliau’r castell ond bod ganddynt o hyd rai cylchoedd ‘to which ships were moored’. Ddeugain mlynedd yn gynharach, ym 1740, dengys y print gan Samuel a Nathaniel Buck ddŵr yn golchi waliau’r castell, tra bo cynllun Speed, ym 1610, yn awgrymu bod morfa heli’n ei amgylchynu yn y cyfnod hwnnw.

Cofnodir argloddiau ar hyd ymyl yr aber i’r gogledd-orllewin o’r castell tua cheg nant Swinchiard am y tro cyntaf ar gynlluniau'n dyddio o’r 1820au, ond mae’n debygol eu bod yn cael eu hadeiladu ers dechrau’r 18fed ganrif. Roeddent yn darparu tir ar gyfer datblygu diwydiannol a chreu glanfeydd a phierau i allforio glo, plwm a chemegau, er bod llongau’n dibynnu ar lanw llawn i hwylio ac yn aml nid oedd digon o ddyfnder i longau mwy a fyddai’n hwylio’r cefnfor. Ymhlith nwyddau eraill a fyddai’n cael eu hallforio o’r Fflint oedd grawn yn y 1770au a glo erbyn y 1830au; allforiwyd yr ail yn bennaf i Iwerddon. Yn ogystal â mwyn plwm, roedd mewnforion yn cynnwys llechi o ogledd-orllewin Cymru a phren o America. Roedd gwasanaethau dyddiol yn dal i fod yn gweithredu yn y 1840au i Parkgate ar benrhyn Cilgwri ac i Gaer, gyda gwasanaeth wythnosol i Ynys Manaw. Ymddengys fod yna lanfeydd atodol â lonydd yn mynd atynt ymhellach i fyny’r aber ym Mhentre Ffwrndan.

Roedd siltio yn yr aber ers y Canol Oesoedd yn raddol wedi lleihau pwysigrwydd Caer fel porthladd, gan wella sefyllfa’r Fflint fel man lle gellid dadlwytho nwyddau a’u cludo i Gaer ar dir. Aeth y fasnach hon ar drai yn sgil camlesu afon Dyfrdwy trwy gloddio’r Toriad Newydd ym 1737, er iddi gryfhau o bryd i’w gilydd oherwydd problemau parhaus â siltio. Dywedwyd ym 1848, ychydig cyn agor y rheilffordd, ‘The town was at one time a sea-port of considerable importance . . . The retreat of the sea, and a great influx of sand, which choked up the mouth of the Dee, rendered it a place of very little consequence; and the improvements in the navigation of the Dee . . . probably only tended still further to withdraw its remaining trade to that city; but although further improvements, or rather recleansings, of the river have been proposed, the obstructions to the navigation of the higher parts of the estuary, still produced by the shifting sands, do not affect that part of the channel by which the port of Flint is approached; and, in consequence, it has recently been becoming, in great measure, the port of Chester. Vessels discharge here, especially when laden with timber which is floated up, or taken in lighters to Chester; and the trade of the port of Flint is represented on all hands as rapidly reviving. The propriety of constructing docks, at no distant period, has been even recently considered; but the salt marshes of the river frontage had been surrendered to the company “for recovering and preserving the navigation of the river Dee” ’.

Daeth trafnidiaeth afon i ben yn weddol sydyn pan agorwyd y rheilffordd ym 1848, er i ychydig o drafnidiaeth reolaidd barhau hyd tua diwedd y rhyfel byd cyntaf.

Adeiladwyd rheilffordd Caer a Chaergybi, a agorwyd ym 1848, ar draws y dref ganoloesol, fwy neu lai yn gyfochrog â llinell y briffordd a chyda gorsaf reilffordd yn yr arddull Glasurol. Fe unodd â’r London and North-Western Railway ym 1858. Buddsoddodd y Cwmni Rheilffordd yn systemau ffyrdd a draeniad y dref a arweiniodd at greu Corporation Street a’r cwmni rheilffordd yn gosod rhai carthffosydd newydd. Adeiladwyd sied nwyddau a Castle Road, gyda’i phont a phentan dros y rheilffordd yn y 1860au.

Ehangu nifer y tai

Arweiniodd y twf mewn diwydiant at nifer fawr o weithwyr yn symud i mewn i’r dref mewn cyfnod byr, yn enwedig o ganol y 19eg ganrif. Roedd ychydig dros fil yno ym 1801, ond pedryblodd y nifer, a mwy, i ychydig yn llai na phum mil ym 1891. Hyd y 1870au a’r 1880au, gellid gweld gwahaniaeth eglur rhwng y dref a’r wlad, ac yn bendant roedd tai domestig wedi’u cyfyngu i graidd y dref ganoloesol a’r lonydd a ddaeth i’r amlwg uwchben ac ychydig y tu allan i’r amddiffynfeydd canoloesol. Er ei statws parhaus fel tref sirol, datblygodd y Fflint bron yn llwyr fel anheddiad i deuluoedd gweithiol. Bythynnod gwael eu hansawdd mewn terasau ar hyd strydoedd a lonydd y dref ganoloesol oedd yno’n bennaf. Ychydig o dai trefol mawr oedd yno, ac ychydig iawn o siopau ffasiynol, os oedd rhai o gwbl. Yn ystod degawd olaf y 19eg ganrif, ac yn y cyfnod a arweiniodd at y rhyfel byd cyntaf, dechreuwyd adeiladu blociau ar wahân o dai teras ar hyd y prif ffyrdd i mewn i’r dref. Fe'i gwelwyd ychydig o'r ffordd ar hyd Ffordd Treffynnon i'r gorllewin, ar hyd Ffordd Caer cyn belled â Phentre Ffwrndan i’r dwyrain, ac ar hyd Ffordd Helygain a Ffordd Llaneurgain i’r de, yn gyffredinol mor bell i’r de â Hen Ffordd Llundain. Roedd clwstwr o derasau o fythynnod gweithwyr wedi’u hadeiladu rhwng Ffordd Helygain a Ffordd Llaneurgain yn ardal Mount Pleasant, yn gysylltiedig â’r pyllau glo a’r iardiau brics a oedd yma. Adeiladwyd hefyd derasau a stadau bach o fythynnod gweithwyr yn ardaloedd Knight’s Green a Park Avenue, i’r de o Ffordd Caer ychydig i’r de-ddwyrain o ganol y dref ganoloesol. Maent yn cynrychioli’r tresmasu sylweddol cyntaf ar hen gaeau agored canoloesol y dref. Roedd adroddiad Tŷ’r Cyffredin ar ffin fwrdeistrefol arfaethedig Bwrdeistref y Fflint, a gyhoeddwyd ym 1837, wedi proffwydo twf y dref tua’r dwyrain. Nododd fod ‘the Town at present is almost entirely enclosed within the limits of the old Castle ditch, but as the land on the banks of the river to the east of the Town is now available for building, the extension, if any, is likely to take place in that direction’.

Yn y ganrif wedi’r 1790au, gellir mesur datblygiad graddol y dref â’r masnachwyr a restrir mewn cyfeirlyfrau fel The Universal British Directory of Trade and Commerce, Pigot’s Directory a Slater’s Directory. Roedd y masnachwyr hyn yn gwasanaethu trigolion y dref a’r rheiny a oedd yn teithio trwy’r dref, boed ar y ffordd neu ar y môr. Rhestrir y galwedigaethau a ganlyn yn y 1790au: gof, tafarnwr, masnachwr glo, gwehydd, ffermwr, pysgotwr, groser, töwr, gwneuthurwr torthau sinsir, ffarier, briciwr, saer dodrefn, crydd, saer olwynion. Yn yr 1820au, ymunodd teiliwr, dilledydd, llawfeddygon, deliwr blawd, cyfrwywr, bragwr, cowper, masnachwr plwm, plymwr a gwydrwyr a chanhwyllwr â nhw. Erbyn diwedd y 1850au, roedd pobydd, cigydd, fferyllydd, teisennydd, haearnwerthwr, gwniadwraig, peintiwr, deliwr mewn pren, saer olwynion, gweinydd baddondy, triniwr gwallt a briciwr ymhlith y galwedigaethau. Erbyn yr 1880au, roedd hefyd werthwr llyfrau a deunydd ysgrifennu, bragwr, masnachwr tsieni a gwydr, masnachwr ffrwythau, gwystlwr, adeiladwr, gwerthwr hadau, cyfreithiwr, gwneuthurwr watshis a chlociau a gwerthwr baco.

Cyflymodd y gyfradd datblygu tai yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, gan barhau â’r broses o lechfeddiannu’r caeau agored canoloesol i’r de a’r de-orllewin o ganol y dref. Sefydlwyd stadau sylweddol eu maint o dai’r awdurdod lleol yn yr ongl rhwng Ffordd Llaneurgain a Ffordd Coed-Onn a rhwng Ffordd Caer a Phen Goch Hill. Mae’r cyfnod ers yr ail ryfel byd wedi gweld ehangu parhaus stadau o dai’r awdurdod lleol a stadau tai preifat i’r dwyrain, mor bell â Phentre Ffwrndan, i’r de o Ffordd Coed-Onn i’r de-ddwyrain ac yn yr ongl rhwng Ffordd Helygain a Hen Ffordd Llundain i’r de-orllewin, gan gynnwys cyfran sylweddol o gaeau agored canoloesol y dref.

Ysgrifenwyr topograffigol a phobl ar eu gwyliau

Ysbrydolwyd nifer o weithiau artistig gan leoliad Castell y Fflint ar aber afon Dyfrdwy, gan helpu i roi’r dref ar y map. Ymddengys mai engrafiad o’r castell gan Samuel a Nathaniel Buck, y soniwyd amdano uchod ac a gynhyrchwyd ym 1740, yw’r cynharaf o’r rhain. Daeth gweithiau eraill i ddilyn, gan gynnwys engrafiad a ymddangosodd yn Flintshire gan Grose (1775) a’i The Antiquities of England and Wales (1790), The Principal Rivers of Wales gan Wood (1813), A Picturesque Description of North Wales gan McLean (1823), British Castles gan Fielding (1825), Wales Illustrated gan Gastineau (1830), a Wanderings and Excursions in North Wales gan Thomas Roscoe (1836). Golygfeydd pictiwrésg, gweddol gonfensiynol o’r adfeilion yw’r rhain yn bennaf, ond ambell dro cynhyrchwyd golygfeydd o Neuadd y Dref ac Eglwys y Santes Fair, yn ogystal â golygfa Gastineau o’r ffatrïoedd ar ochr orllewinol y dref, y soniwyd amdani uchod. Mae pob un yn darparu manylion hanesyddol diddorol. Y gweithiau mwyaf enwog a chyflawn yw’r rheiny gan yr arlunydd J. M. W. Turner, a ymwelodd â’r Fflint ar dri achlysur ym 1792, 1799 ac eto yn yr 1820au. Codiad haul ar yr aber a’r castell oedd testun brasluniau pensil a lluniau dyfrlliw awyr agored a oedd yn sail ar gyfer nifer o engrafiadau a gweithiau stiwdio a gynhyrchwyd rhwng 1795 a’r 1830au. John Ruskin, awdur yn oes Victoria oedd berchen ar un o’r paentiadau, ac fe’i disgrifiodd fel ‘the loveliest piece of pure-watercolour painting in my whole collection; nor do I know anything elsewhere that can compare, and little that can rival, the play of light on the sea surface and the infinite purity of colour in the ripples of it as they near the sand’. Yn ogystal â dangos y castell, mae darluniau Turner yn cofnodi manylion eraill, fel cychod wedi’u hangori, pysgotwyr yn trwsio rhwydi a physgotwyr yn cerdded trwy ddŵr bas gyda’u rhwydi berdysa. Ymhlith gweithiau gan artistiaid diweddarach mae braslun L. S. Lowry o’r castell a wnaed ar un o’i ymweliadau â Chymru yn y 1930au sydd, yn annodweddiadol efallai, yn canolbwyntio ar y castell yn hytrach na’r ffatrïoedd a safai ychydig y tu hwnt iddo.

Oherwydd gwelliannau mewn trafnidiaeth, a chyfoeth cynyddol rhai aelodau o’r gymdeithas ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, daeth cyfleoedd i deithio gartref a thramor. Mae ymdeimlad modern, annisgwyl i’r canlynol a ddaw o ragair A Picturesque Description of North Wales gan McLean:

‘At a time when the whole of the public attention seems to be engrossed by the attractions of foreign countries, whilst travellers of every class, possessing or wholly devoid of taste, are leaving their homes by thousands and tens of thousands in search of the picturesque and beautiful, it may be difficult, but no less laudable, to endeavour to draw back some small portion of regard for those luxurient and exquisite scenes that abound throughout the British Isles – scenes that cannot be surpassed, and very many of them unequalled. It is certainly to be regretted, that in the present day so many should be found, perfectly ignorant of the beauties of our own Islands, yet most eloquently fluent upon the merits of French and Italian scenery, &c. Nor is any thing more common than to meet on every part of the Continent, ‘soidisant’ people of taste, who have seen no other part of the British Dominions than the place which had the ‘honour’ to give them birth, and possibly twenty miles around it. An elegant writer has remarked, that, “no one should travel until he has seen his own Country,” but the reverse appears to be the present rage; and it has been the wish of the Author, in this small Sketch of Wales, to contribute his mite towards the revival of a kindlier feeling for the unparalleled beauties of our Native Land.’

Am gyfnod byr rhwng yr 1780au a’r 1840au, ystyriwyd y Fflint yn gyrchfan gwyliau glan môr ffasiynol. Dywed The Beauties of England and Wales gan John Evans, a gyhoeddwyd ym 1812, fod y dref yn ‘frequented by many of the haut-tôn [the fashionable set], as a bathing-place . . . but the marshy beach renders bathing both difficult and at times inconvenient’. Sonia Topographical Dictionary of Wales gan Samuel Lewis a gyhoeddwyd ym 1833 fod y dref, er ei bod yn ‘very inferior in appearance’ ac yn meddu ar ‘few recommendations as a place of residence’, yn ‘convenient situation for sea-bathing, which attracts a considerable resort of company during the summer months . . For the accommodation of persons who visit if for the benefit of the waters hot baths have been constructed on an extensive scale, and are provided with every requisite accommodation. The neighbourhood abounds with pleasing walks and rides through a tract of country rich in picturesque beauty and finely varied scenery.’ Sonnir am y baddonau, a oedd gynt yn y Bardyn ychydig i’r de-ddwyrain o’r castell, hefyd yn Cambrian Mirror gan Edward Parry, sef cydymaith i dwristiaid yng ngogledd Cymru, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1843. Sonia fod y dref yn ‘a very pleasant sail’ o Gaer, a bod nifer fawr o bobl o Gaer yn ‘avail themselves of this opportunity, to take their families to Flint during the bathing season, where lodgings and every accommodation may be had at very reasonable rates. For the convenience of persons who visit Flint for the benefit of the water, hot and cold baths have been constructed on an extensive scale, and visitors are provided, at the shortest notice, with every requisite accommodation. The air is salubrious and the surrounding scenery beautiful. The walks in the neighbourhood – particularly the one down the cop to meet the tide – are invigorating. A new and splendid Town Hall has lately been erected . . . and in one of the rooms there is a billiard table for the amusement of strangers’.

Roedd dyfodiad y rheilffordd ar ddiwedd y 1840au a thwf buddiannau diwydiannol ar draul buddiannau’r diwydiant twristiaeth. Daeth rheilffordd Caer i Gaergybi â thraethau Prestatyn, y Rhyl a Llandudno o fewn cyrraedd pobl o Gaer a threfi Gogledd a Gorllewin Canolbarth Lloegr a oedd ar eu gwyliau. Hefyd, roedd y Fflint ei hun erbyn hyn wedi datblygu enw fel tref ddiwydiannol, fel y mynegir yn y Chester Chronicle ym 1879: ‘at the best of times Flint does note wear a very attractive appearance, being generally enveloped in a halo of sulphurous smoke’.

Datblygu amwynderau dinesig

Yn ystod diwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ychwanegwyd amrywiol amwynderau dinesig a chrefyddol at y dref, a chyda hyn daeth ymwybyddiaeth gynyddol o statws a hanes y dref, yn rhannol ar sail darganfyddiadau archaeolegol a ddaeth i’r golwg yn ystod y datblygu. Mae newidiadau i rai o enwau’r mân strydoedd yn y dref yn y cyfnod hwn yn adlewyrchu twf cyflym, statws cymdeithasol a oedd yn newid ac yn pellhau oddi wrth ei tharddiad amaethyddol. Daeth Cow Lane (tua 1799) yn Parson’s Lane (1835), Munfords Lane (1835), Mumforth Street (1899) ac, yn y diwedd, Mumforth Walk (2000). Daeth Duck Lane (1835) yn Salusbury Street (1899).

Roedd Eglwys y Santes Fair, sef yr eglwys Anglicanaidd yng nghanol y dref, mewn cyflwr gwael a chafodd ei dymchwel ym 1846. Fe’i disodlwyd gan yr eglwys bresennol a gysegrwyd ym 1848. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd nifer fawr o fannau addoli eraill wedi codi, gan gynnwys eglwysi a chapeli niferus yr anghydffurfwyr fel rhai’r Annibynwyr neu’r Cynulleidfawyr Cymraeg, y Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg, y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg, y Bedyddwyr Cymraeg, yr Annibynwyr Saesneg, y Wesleaid Saesneg, yn enwedig yn ardal Stryd yr Eglwys a Stryd y Capel, ychydig i’r gorllewin o ganol y dref. Roedd llawer o’r enwadau anghydffurfiol wedi cyfarfod mewn tai preifat yn gyntaf. Roedd y Methodistiaid Calfinaidd, er enghraifft, yn cyfarfod gyntaf mewn tŷ yn Swan Lane yn yr 1780au, ac yna’u capel cyntaf yn Feather Street ym 1800. Adeiladwyd Eglwys Babyddol y Santes Fair yn Coleshill Street yn dilyn Deddf Rhyddfreinio 1829.

Caewyd y fynwent a oedd wedi’i chysylltu ag Eglwys y Santes Fair ym 1856 yn dilyn Deddfau Claddu’r 1850au ac agorwyd mynwent, ynghyd â chapel mynwent sydd bellach wedi’i ddymchwel, yn yr un flwyddyn ar Ffordd Llaneurgain i’r de o ganol y dref. Cafodd y fynwent ei hymestyn ym 1889 a’i throsglwyddo i’r awdurdod lleol ym 1900, ac agorodd yr awdurdod hwn ail fynwent ar Hen Ffordd Llundain i’r gorllewin o ganol y dref ym 1941.

Ceir tystiolaeth bod y carchar wedi’i symud o’r Tŵr Mawr yn y castell i adeilad yn Stryd yr Eglwys a ddisgrifir fel ‘an ancient loathsome place of confinement’ ar garreg gysegru’r carchar newydd. Dyma oedd carchar sirol Sir y Fflint, a adeiladwyd ym 1785 ym meili’r castell, a elwid ar y pryd yn Castle Yard. Cafodd ei ymestyn yn sylweddol yn ddiweddarach. Dywedir bod ‘a considerable portion’ o’r castell wedi’i ddymchwel ar gyfer adeiladu’r carchar, a nodwyd hefyd mai ‘breaking stones formed the more severe description of labour for the prisoners’. Erbyn y 1790au, roedd y brawdlys sirol wedi symud i’r Wyddgrug, a ddaeth yn ddiweddarach yn dref sirol y sir. Erbyn yr 1880au roedd carchar y sir wedi symud i Ruthun. Daeth carchar y Fflint yn glwb gweithwyr ac fe’i dymchwelwyd ar ddiwedd y 1960au.

Adeiladwyd Ysgol Genedlaethol ar gyfer bechgyn a merched ym 1820 ar y safle ger cyffordd Ffordd Llaneurgain a Stryd Helygain, sydd bellach yn faes parcio. Ond fe'i beirniadwyd yn hallt, fel llawer o gyfleusterau addysg eraill yng Nghymru, yn adroddiad drwg-enwog y Comisiynwyr ar gyflwr addysg yng Nghymru (y Llyfrau Gleision) a gwblhawyd ym 1847. Ymhlith adeiladau dinesig eraill roedd neuadd y dref newydd a adeiladwyd ar safle’r hen farchnad ym 1840 ac a ddisodlodd yr hen adeilad ffrâm bren yn dyddio o ddiwedd y canol oesoedd.

Ymhlith amwynderau a ddarparwyd yn y 19eg ganrif oedd cyflenwad dŵr o Gronfa Ddŵr Little London a adeiladwyd ger Hen Ffordd Llundain ym 1850, gyda’r gwaith dŵr yng Nghoed-Onn ym 1875 yn ychwanegu at y cyflenwad. Roedd nwy ar gael o waith nwy Cwmni Nwy a Dŵr y Fflint ym 1852. Roedd eu hadeiladau a’u tanciau nwy ar Ffordd Treffynnon, ger mynediad presennol Parc Manwerthu Sir y Fflint, a buont hefyd yn gyfrifol am osod pibellau nwy a dŵr yn y dref yn y cyfnod hwn. Cafodd y strydoedd a’r llwybrau troed eu palmantu ym 1876.

Roedd y farchnad wythnosol ganoloesol wedi peidio ond roedd y ffeiriau’n parhau, ar gyfer gwerthu gwartheg yn bennaf, a gwelodd y twf mewn poblogaeth a masnach yn y 19eg ganrif adfywiad y farchnad wythnosol yn y dref o tua 1855 ymlaen. Sefydlwyd corfflu o wirfoddolwyr o’r enw Gwirfoddolwyr Reifflwyr Sir y Fflint a Sir Gaernarfon yn y dref yn y 1860au. Roeddent yn ymarfer ar y maes saethu gyda chwt y sgoriwr a’r cocynnau hitio wedi’u hadeiladu ar ymyl y morfeydd heli i’r gogledd o Bentre Ffwrndan, ac mae olion i’w gweld hyd heddiw. Sefydlwyd Clwb Pêl-Droed Unedig Tref y Fflint ym 1886, ac roedd ei faes pêl-droed cyntaf yn rhan o’r hyn sydd bellach yn Barc Manwerthu Sir y Fflint, cyn i’r stadiwm symud i’w leoliad presennol ar lan yr aber i’r de-ddwyrain o’r castell. Ymhlith amwynderau arwyddocaol eraill a ychwanegwyd yn yr 20fed ganrif mae agor y llyfrgell gyhoeddus gyntaf ym 1903, ysbyty bach y Fflint, a chyflwyno trydan yn yr 1920au.

Daeth y dref yn gorfforaeth drefol ym 1835, gyda chyngor y dref yn cael ei reoli gan gynghorwyr a henaduriaid a ddisodlodd i bob pwrpas ffurf ganoloesol ar lywodraethu, gyda maer wedi’i benodi. Daeth yn gyngor bwrdeistref ym 1888, ond diddymwyd hyn pan ad-drefnwyd llywodraeth leol ym 1974, pan ffurfiodd y dref ran o Gyngor newydd Bwrdeistref Delyn. Daeth hwn i ben yn ei dro pan grëwyd awdurdod unedol newydd Sir y Fflint ym 1996.

A Tour in Wales a gyhoeddwyd yn yr 1780au gan Thomas Pennant, yr hynafiaethydd lleol, wnaeth ddwyn sylw yn gyntaf at ymwybyddiaeth o arwyddocâd y dref hon a’i hynafiaethau. Yna daeth gweithiau fel Topographical Dictionary of Wales gan Samuel Lewis, a gyhoeddwyd mewn amrywiol argraffiadau o 1833 ymlaen. Yn ddiamau, roedd hwn yn rhannol gyfrifol am amrywiol hynafiaethau’n ymddangos yn y dref ac o amgylch iddi mewn sgript Gothig a welwyd ar y mapiau cynnar a gyhoeddwyd gan yr Arolwg Ordnans yn ail hanner y 19eg ganrif. Ymhlith y rhain oedd ‘Castle’, ‘Ancient Ditch (Site of)’, ‘Supposed Site of Battle of Coleshill (Fought in 1157)’, ‘Supposed site of Atis Cross’, ‘Site of Ancient Furnaces (Discovered in 1840)’ a ‘Human Skeletons found here’ a ‘Roman Antiquities found here’. Ym 1883, cyhoeddodd Henry Taylor, hanesydd lleol a Chlerc Tref, Clerc i Ynadon y Fwrdeistref a Dirprwy Gwnstabl Castell y Fflint, lyfr hanes cyntaf y dref dan y teitl Historic Notices with Topographical and other Gleanings descriptive of the Borough and County-Town of Flint.

Er y diddordeb hwn, roedd llawer o hynafiaethau’r dref wedi dioddef anrheithiau yn ystod y cyfnod hwn gan gynnwys hyd yn oed y castell. Yn ôl y Topographical Dictionary of Wales, ‘the principal remains of the ancient fortress are the towers and the east and north walls, now fast going to decay: the foundations of the eastern tower are undermined by the sea, which, in high tides, dashes with great violence against its base. A considerable portion of this interesting and once important structure was taken down in 1785, for the purpose of erecting the county gaol; and another portion fell down in the month of May, 1848: other parts, also, have been removed at different times’. Mae’n bosibl bod y diolch am oroesiad y castell yn ddyledus i’r apêl leol lwyddiannus yn erbyn cynnig Comisiynwyr ei Mawrhydi i werthu’r castell yn y 1860au ‘which is still preserved to dignify the ancient Borough’.

(yn ôl i’r brig)