Cymraeg / English
|
Archwilio Hanes ac ArchaeolegCyfres o deithiau cerdded hunan-dywys yng nghanolbarth Cymru
Moel Ty Uchaf. Mae Cymru wedi bod yn gyrchfan poblogaidd i gerddwyr ers talwm, ac mae cryn gyfiawnhad i hynny – yn enwedig copaon geirwon Eryri a Bannau mawreddog Brycheiniog. Ond mae gan ardaloedd eraill ddigonedd i’w gynnig hefyd. I’r cerddwyr hynny sydd â diddordeb mewn hanes ac archaeoleg, mae cyfres o deithiau cerdded hunan-dywys yn cael eu datblygu i’w helpu i archwilio amrywiaeth o safleoedd archaeolegol. Mae’r teithiau cerdded cyntaf sydd wedi’u datblygu’n canolbwyntio ar henebion angladdol a defodol cynhanesyddol, yn bennaf y cylchoedd cerrig, y meini hirion a’r carneddau claddu sy’n dyddio o tua 2300-1200 CC. Y gobaith yw y bydd teithiau cerdded eraill yn y gyfres hon yn archwilio thema tirweddau hanesyddol, gan helpu i esbonio sut mae’r dirwedd wedi esblygu a sut mae dyn wedi’i defnyddio a manteisio arni. Gellir lawrlwytho pob taith gerdded ar ffurf PDF, sy’n cynnwys disgrifiad manwl o’r daith gerdded, a gwybodaeth am yr hanes a’r archaeoleg, ynghyd â fersiwn gryno a map ar un dudalen. Gallwch chi argraffu’r adrannau hynny sydd eu hangen arnoch chi yn unig.
Defnyddio’r canllawiau
Cynhyrchwyd y gyfres hon o deithiau cerdded gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys â chyllid oddi wrth Cadw.
|