CPAT logo


Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Wysg: Aberhonddu a Llan-gors


Introduction

Mae'r disgrifiad canlynol, a ddaw o'r Gofrestr Tirluniau Hanesyddol, yn nodi’r themâu hanesyddol hanfodol yn ardal tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Wysg.

CPAT PHOTO 05-C-104

Mae’r rhan o ddyffryn Wysg a nodir yma yn gorwedd i’r dwyrain a’r gorllewin o Aberhonddu yn ne Powys; ardal a ffinnir i’r de gan lethrau dwyreiniol Bannau Brycheiniog ac i’r gogledd gan odrau deheuol Mynydd Epynt. I’r dwyrain, mae ochr orllewinol llethrau’r Mynyddoedd Du yn edrych dros y basn bas sy’n cynnwys Llyn Syfaddan sydd wedi’i gynnwys yn yr ardal. Mae dyffryn Wysg yn ffurfio tramwyfa nodedig sy’n hawdd ei chyrraedd ar draws yr ardal, gyda’i lawr llydan, gwastad yn codi’n raddol o 120m uwchben SO yn Llansantffraid yn y dwyrain i 150m uwchben SO yn Aberbrân yn y gorllewin. Ar bob ochr i’r dyffryn, mae’r llethrau’n codi i dirwedd dyranedig, tonnog o fryniau isel, esgeiriau a dyffrynnoedd bas rhwng 150m a 300m uwchben SO.

Mae’r argraff weladwy o’r ardal wedi’i goruchafu gan y caeau bychain â chloddiau sy’n amgáu’r tir amaethyddol cyfoethog ar waelod y dyffryn, ac mae mewn sawl ffordd yn olygfa nodweddiadol yng Nghanolbarth Cymru. Deillia’r patrwm cyfoethog hwn o ddefnydd tir o’i hanes ffermio ac aneddiad cymhleth o ffermwyr Neolithig cynnar drwy ‘oresgynwyr’ Rhufeinig a Normanaidd, y Saint Celtaidd, i olion amaeth a masnach ganoloesol a diweddarach. Mae pob cyfnod o ddefnydd tir wedi ffurfio’r tirwedd a chafodd pob un yn ei dro ei orgyffwrdd gan a’i guddio’n rhannol gan y cyfnod a’i olynodd. Mewn cyferbyniad bron â’r parhad hwn, mae Canol Dyffryn Wysg hefyd yn enghraifft glasurol o dirwedd Cymreig o oruchafu, goresgyniad a newid gwleidyddol, ac mae llawer o’r elfennau archaeolegol a hanesyddol sy’n weladwy heddiw wedi deillio o’r ffordd y mynnodd dyn reoli’r tirwedd, nid yn unig yn y cyfnodau Rhufeinig a chanoloesol a chyfnodau diweddarach, ond hefyd yn y cyfnod cynhanesyddol.

Mae beddrod hir â siambrau claddu Neolithig Tŷ Illtud yn nodweddiadol o olion cynhanesyddol cynharach, ac mae’n gorwedd yn nwyrain yr ardal rhwng Aberhon ddu a Llyn Syfaddan. Mae’r beddrod megalithig 5000 mlwydd oed hwn yn cynnwys cyfres o siambrau adeiledig o gerrig sych a orchuddiwyd unwaith gan domen hir o bridd. Mae’r gofadail yn un o grŵp o feddrodau tebyg ym Mannau Brycheiniog a’r Mynyddoedd Du. Er mai cymharol brin yw’r olion o’r cyfnod pellennig hwn sydd wedi go roesi yn y tirwe dd hwn, neu unrhyw dirwe dd arall yng Nghymru, mae’r tomenni claddu cymunedol hyn yn rhoi cipolwg difyr ar fywyd a marwolaeth y ffermwyr Neolithig a oedd yn byw yng Nghanol Dyffryn Wysg. Yn ôl traddodiad lleol defnyddiwyd siambrau gwag Tŷ Illtud yn ddiweddarach fel cell meudwy gan Sant Illtud yn y 6ed ganrif, ac ar yr adeg honno cerfiwyd nifer o groesau a symbolau Cristnogol eraill ar eu muriau.

Cynrychiolir cynhanes diweddarach Oes yr Efydd gan nifer o feddrodau crwn a charneddau claddu ar y tir uwch sy’n edrych dros lawr cyfoethog dyffryn Wysg, sydd yn ei dro yn cynnwys nifer o feini hirion enigmatig.

I’r gorllewin o Aberhonddu mae olion trawiadol Caer Aberhonddu, yr enghraifft wychaf o gaer Rufeinig sydd wedi goroesi ym Mhowys. Wedi’i hadeiladu o fewn golwg i crug, mae’n gwarchod y ffordd Rufeinig sy’n arwain i Orllewin Cymru o Gaerllion wrth ei chyffordd â Sarn Helen wrth iddi ddod i lawr o Fforest Fawr i groesi’r Wysg a theithio tua’r gogledd i Ganolbarth Cymru. I’r dwyrain o Aberhonddu mae olion yr unig fila Rufeinig ym Mhowys lle y datgelodd gwaith cloddio yn y 18fed ganrif faddondy gwych â llawr mosäig. Nid yw maint yr aneddiad Rhufeinig yn yr ardal yn hysbys, ond does dim amheuaeth bod y Rhufeiniaid wedi efelychu a manteisio ar y patrwm aneddiad eisioes mewn bodolaeth a’r defnydd o’r tir y buasent wedi ei ddarganfod o amgylch y bryngaerau mawr Oes yr Haearn yn Allt yr Esgair, Slwch Tump, Pen-y-crug a Choed fenni-fach.

Hefyd i’r dwyrain o Aberhonddu,ger Llan-gors, mae Llyn Syfaddan, sy’n bwysig yn hanes a chwedloniaeth Cymru. Crëwyd yr ynys fechan,neu’r grannog,a wnaed gan ddyn, fel palas caerog gan Brychan, brenin Brycheiniog, ar ddiwedd y 9fed ganrif ac fe’i dinistriwyd, yn ôl Croniclau’r Eingl-Sacsoniaid, yn AD 916. Mae chwedl leol yn sôn am sut mae’r llyn yn cuddio olion dinas a reolwyd gan dywysoges greulon a barus a gytunodd i briodi gŵr tlawd dim ond os byddai’n dod â chyfoeth mawr iddi. Llofruddiodd y dyn fasnachwr cyfoethog er mwyn ennill llaw y dywysoges, ond er mwyn dial, creodd ysbryd y masnachwr storm ofnadwy a foddodd y deyrnas. Nid yw’n hysbys pryd y dechreuodd y chwedl, ond mae’n gynharach na’r gwaith cloddio archaeolegol cyntaf yn y grannog ym 1850 ac mae’n atgof gwerinol difyr a sylwgar. Yn fwy credadwy, fel canolfan frenhinol ac eglwysig bwysig ym Mrycheiniog,gallai’r grannog fod wedi bod yn fan cyfansoddi’r penillion Cymraeg cynnar, Canu Llywarch Hen, a ysgrifennwyd fwy na thebyg rhwng yr 8fed a chanol y 10fed ganrifoedd, yn ystod oes aur brenhinlin Llan-gors a Brycheiniog. Datgelwyd olion yr ynys yn llawn drwy waith cloddio ar ddechrau’r 1990au. Llyn Syfaddan yw’r unig grannog hysbys yng Nghymru, er ei bod yn ffurf gyffredin yn yr Iwerddon; awgrymir y cysylltiad Gwyddelig posibl hwn gan y nifer fawr o arysgrifau Ogam mewn eglwysi lleol. Mae gan bentrefi glan llyn Llan-gors a Llangasty sylfeini mynachaidd Celtaidd cynnar fwy na thebyg.

Cynrychiolir gorchfygiad ac aneddiad o’r cyfnod canoloesol yma hefyd ac mae hanes a thraddodiad yn awgrymu i’r frwydr derfynol rhwng byddinoedd Cymreig Bleddin ap Maenarch a byddin oresgynol Normanaidd Bernard de Neufmarché gael ei hymladd ger Y Batel ym 1092. Arweiniodd y fuddugoliaeth Normanaidd at orchfygu’r boblogaeth frodorol a thwf tref Aberhonddu. Roedd y castell cynharaf yn Aberhonddu yn un tomen a beili, ac fe’i disodlwyd yn ddiweddarach gan gastell o gerrig. Mae gan y dref hefyd olion priordy Benedictaidd, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1100, sydd, er gwaethaf iddo gael ei adnewyddu’n sylweddol gan y pensaer Fictoraidd mawr Syr Gilbert Scott, yn parhau i feddu ar nifer o nodweddion diddorol, megis ffenestri pigfain Cynnar Seisnig prin a’r adeiladau cwfeiniol o’r 16eg ganrif. Ym 1923, dewiswyd y priordy, a oedd erbyn hynny wedi dod yn Eglwys Blwyf Aberhonddu, fel Eglwys Gadeiriol Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, a oedd newydd gael ei ffurfio, un o ddwy esgobaeth newydd a sefydlwyd gan yr Eglwys yng Nghymru newydd, yn dilyn ei gwahanu o Eglwys Loegr. Mae’r dref hefyd yn cynnwys mynachlog Ddominicaidd,a sefydlwyd yn wreiddiol yn y 13eg ganrif, ac er ei bod bellach yn ysgol ac wedi cael ei newid llawer, dyma yn ôl y sôn yw’r grŵp unigol mwyaf o adeiladau Dominicaidd sydd wedi goroesi ym Mhrydain.

Ffurfiodd presenoldeb y castell a'r ddau adeilad eglwysig pwysig hyn y sail ar gyfer tref ganoloesol lewyrchus ac erbyn y 13eg ganrif, roedd yr aneddiad wedi lledaenu i’r tir is ar ymyl Afon Wysg, sydd bellach â phont gerrig wych drosti sy’n dyddio o 1563, a rhoddwyd amddiffynfeydd o gerrig arni. Er bod peth o’r ffabrig canoloesol hwn wedi goroesi mewn mannau, heddiw prif nodwedd pensaernïaeth Aberhonddu yw tai trefol o frics a cherrig cain o’r 18fed a’r 19eg ganrifoedd. Yn wir, roedd poblogaeth o 5026 yn ei gosod fel nawfed tref fwyaf Cymru ar ddiwedd y cyfnod hwn. Mae llawer o’r bensaernïaeth ddiweddarach hon yn parhau heb ei newid na’i difwyno gan ddatblygiad modern, ac mae hyn, ynghyd â’i gwreiddiau canoloesol yn ased bleserus a gwerthfawr, ac un sy’n gynyddol brin ymysg trefi eraill Cymru. Heddiw, mae Aberhonddu yn fyd-enwog am ei Gŵyl Jas flynyddol.

Adeiladwyd Aberhonddu, fel ei rhagflaenydd Rhufeinig, i gynnal dyffryn Wysg fel llwybr strategol i Orllewin Cymru, ac, fel y Gaer, fe’i gwarchodir gan aneddiadau brodorol cyfnod cynharach, megis Llanspyddid a Llanfrynach, sydd wedi’u lleoli o amgylch ymylon y dyffryn. Enillodd un o’r aneddiadau Cymreig cynnar hyn, Llanddew, fri yn y cyfnod canoloesol fel safle palas Esgobion Aberhonddu. Meddiannwyd y castell diymhongar hwn rhwng 1175–1203 gan Gerallt Gymro, sef Archesgob Aberhonddu, a ddisgrifiodd y castell fel un a oedd yn ‘well adapted to literary pursuits and the contemplation of eternity’ a dechreuodd ei daith enwog o gwmpas Cymru ar ddiwedd y 12fed ganrif. Mae gan y pentref gasgliad trawiadol o weithgareddau cloddiog canoloesol sy’n awgrymu ei faint a’i bwysigrwydd yn y gorffennol.

Mae Canol Dyffryn Wysg yn enwog am ei chestyll canoloesol, gan ei bod yn cynnwys enghreifftiau gwych o gestyll tomen a beili cynnar arglwyddi Normanaidd y gororau, megis y rheini yn Aberyscir, Alexanderstone a Threberfydd, cestyll cerrig megis Pencelli, a thŷtŵr canoloesol gwych diweddarach yn Scethrog. Mae llawer o’r dyffryn yn dal i gadw’r cymeriad canoloesol a gysylltir â’r cadarnleoedd hyn, gyda phentrefi bychain wedi’u cywasgu ac wedi’u hamgylchynu gan dir pori â gwrychoedd o’i hamgylch. Enghraifft drawiadol iawn o gyfoeth a phwysigrwydd blaenorol yr ardal hon yn ystod y cyfnod canoloesol yw Llanfihangel Talyllyn. Gellir gweld cyn-ffiniau’r pentref canoloesol yn glir yma, gyda gweithgareddau oddiog yn nodi hen strydoedd a llwyfannau adeiladau a oedd unwaith yn llenwi bron i chwarter y pentref. Mae’r ardal hefyd yn enwog am ei thai gwledig mawr, o’r 18fed a’r 19eg ganrifoedd, megis Penpont a Peterstone Court, a’u stadau cysylltiedig sydd wedi ‘trosargraffu’ ar dirwedd eu rhagflaenwyr canoloesol ac ôl-ganoloesol cynnar megis Tŷ Mawr yn Llangasty Talyllyn.

Cysylltodd datblygiad Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy (a ddechreuwyd ym 1799,a agorwyd gyntaf ym 1801 ac ymunodd â Chamlas Mynwy ym 1812), sy’n troelli ar hyd ymylon deheuol yr ardal, y dyffryn ag economïau diwydiannol ffyniannus De Cymru. Daeth y glanfeydd a’r stordai a ddatblygwyd yn sgîl hyn yn nherfynfa’r gamlas yn Aberhonddu yn ardal bwysig ar gyfer masnach amaethyddol a’r diwydiant brethyn. Yn yr 1860au, disodlwyd y gamlas gan Reilffordd Aberhonddu a Merthyr oedd yn cysylltu Aberhonddu â’r Rheilffordd Great Western yng Nghastell-nedd, trwy Ystradgynlais, yn y de ac yn ddiweddarach i Henffordd, trwy’r Gelli Gandryll, yn y dwyrain. Yn eironig mae’r cysylltiad gwythiennol hwn wedi hen ddiflannu tra bod y gamlas, sydd wedi’i chroesi gan bontydd sy’n codi a phontydd cefn crwm nodweddiadol, bellach yn darparu llwybr prydferth a phoblogaidd i dwrstiad ar hyd y dyffryn.

Llunio Tirwedd Canol Dyffryn Wysg

Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd hon o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru yn yr adrannau sy’n dilyn.

Amgylcheddau a Ffiniau

Tirweddau Gweinyddol

Defnydd Tir ac Anheddu

Adeiladau yn y Dirwedd

Tirweddau Diwydiannol

Trafnidiaeth a Chyslltiadau

Cysylltiadau Diwylliannol

Ffynonellau Gwybodaeth Eraill

Gellir darganfod gwybodaeth bellach am Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg mewn amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi.

Ffynonellau cyhoeddig

Ardaloedd nodwedd

Diffiniwyd yr ardaloedd nodwedd tir hanesyddol o fewn ardal y dirwedd hanesyddol.

Click for landscape description

Ardaloedd nodwedd a ddiffinnir yn Nhirlun Hanesyddol Canol Dyffryn Wysg


CPAT PHOTO 05-C-149

1170 Llansbyddyd ardal cymeriad. Caeau canolig a mawr ar ffurf reolaidd ar lawr a llethrau isaf dyffrynnoedd Wysg, Ysgyr isaf ac Aberbrân i’r gorllewin o Aberhonddu, gydag anheddau eglwysig canoloesol bach yn Llansbyddyd ac Aberysgyr ac elfennau hanes cludiant cysylltiedig â ffyrdd Rhufeinig, ffyrdd ôl-ganoloesol, a’r rheilffordd. Photo: CPAT 05-C-149. (Nôl i'r map )

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 05-C-141

1171 Pen-y-crug ardal cymeriad. Tirwedd amrywiol, donnog i’r gogledd ac i’r gorllewin o Aberhonddu gyda chaeau afreolaidd yn bennaf, ac ardaloedd o goetir conwydd a chomin agored ar ben bryniau, a dyffrynnoedd nentydd bach rhyngddynt. Adeileddau amddiffynnol cynhanesyddol a Rhufeinig, gan gynnwys bryngeyrydd mawr Pen-y-crug a Choed Fenni-fach o Oes yr Haearn a Chaer Aberhonddu o adeg y Rhufeiniaid. Elfennau sylweddol o hanes cludiant gan gynnwys y rhwydwaith ffyrdd Rhufeinig yn canolbwyntio ar Gaer Aberhonddu a Rheilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu o ddiwedd y 19eg ganrif. Photo: CPAT 05-C-141 (Nôl i'r map)

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 05-C-174

1172 Aberhonddu ardal cymeriad. Anheddiad cnewyllol mawr o’r canol oesoedd ar lan afon Wysg, a sefydlwyd gyntaf ar ddiwedd yr 11eg ganrif ochr yn ochr â’r castell a adeiladwyd gan Bernard de Neufmarché yn dilyn y goresgyniad Normanaidd, yn ddiweddarach yn dod yn un o’r trefi mwyaf yng Nghymru yn yr 17eg ganrif a phrif dref Sir Frycheiniog. Daliodd i ehangu a datblygu fel canolfan fasnachol a gweinyddol ranbarthol bwysig drwy gydol y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif o’i sefyllfa fel canolbwynt rhwydweithiau ffyrdd, camlesi a rheilffyrdd pwysig yn rhanbarthol. Yn ddiweddarach, bwriwyd pwysigrwydd y dref i’r cysgod yn ddiwydiannol ac yn economaidd gan gynnydd chwim diwydiannol trefi a dinasoedd de Cymru ar ddiwedd y 19eg ganrif. Photo: CPAT 05-C-174 (Nôl i'r map)

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 05-C-121

1173 Llan-ddew ardal cymeriad. Tirwedd o gaeau tonnog isel i’r dwyrain a’r gogledd-ddwyrain o Aberhonddu, yn cynnwys caeau rheolaidd mawr i ganolig, yn ôl pob tebyg o darddiad canoloesol a diweddarach, ynghyd â phentref canoloesol crebachog Llan-ddew a nifer o ffermydd mwy a gwasgaredig iawn o’r cyfnod ar ôl y canol oesoedd a bryngaer a chlostir efallai o’r cyfnod cynhanesyddol diweddarach. Photo: CPAT 05-C-121. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 05-C-93

1174 Tal-y-llyn ardal cymeriad. Tir isel tonnog yn ymylu ochr ogleddol dyffryn Wysg ac yn cynnwys rhan o wahanfa ddŵr afon Llynfi. Tirwedd o gaeau afreolaidd canolig i fawr yn bennaf, ffermydd gwasgaredig ac aneddiadau eglwysig bach o darddiad canoloesol a chanoloesol cynnar. Cofebion claddu a defod cynhanesyddol yn dangos anheddiad a defnydd tir cynnar. Aneddiadau bach wedi’r canol oesoedd cysylltiedig â thramffordd a rheilffyrdd segur bellach o’r 19eg ganrif. Photo: CPAT 55-C-93. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 05-C-101

1175 Pencelli-Talybont ardal cymeriad. Tirwedd isel o gaeau mawr afreolaidd, yn ôl pob tebyg yn cynrychioli amgáu cymharol ddiweddar o ddolydd comin blaenorol ar orlifdir llifwaddodol eang afon Wysg rhwng Aberhonddu a Thalybont ar Wysg, gyda chyfundrefn gymhleth ac egnïol o ddoleniadau a thoriadau’r afon, gyda Chamlas Mynwy a Brycheiniog yn ei chroesi, ac yn cynnwys aneddiadau cnewyllol bach o’r canol oesoedd yn Llanfrynach, Pencelli, a Thalybont ar Wysg. Cyfadail fila Rufeinig arwyddocaol ym Maesderwen ger Llanfrynach. Photo: CPAT 05-C-101. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 05-C-96

1176 Llyn Syfaddan ardal cymeriad. Llyn mawr, rhewlifol naturiol diweddar a ffurfiodd nodwedd ganolog ym Mrycheiniog cyn y Normaniaid ac, erbyn hyn, mae’n ganolbwynt gwarchod natur a chwaraeon dŵr. Mae’r llyn yn gysylltiedig â llawer o lên gwerin cynnar ac ynys neu grannog gwneud unigryw i Gymru oedd yn ffurfio preswylfa frenhinol o’r canol oesoedd cynnar. Tystiolaeth o weithgaredd Mesolithig llawer cynharach a gwaddodion o bwysigrwydd palaeoamgylcheddol rhanbarthol sylweddol. Photo: CPAT 05-C-96. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 05-C-76

1177 Llanfihangel Cathedin ardal cymeriad. Tirwedd o gaeau a rannwyd yn rheolaidd ar lethrau gorllewinol Mynydd Troed a Mynydd Llan-gors yn edrych dros Lyn Syfaddan, gyda ffermydd gwasgaredig, a amgaewyd yn ôl pob tebyg yn y cyfnod canoloesol diweddarach ac ôl-ganoloesol cynnar. Darganfyddiadau carreg yn dangos gweithgaredd cynhanesyddol cynnar. Safleoedd tai gadawedig ac anghyfannedd. Photo: CPAT 05-C-76. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd


I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.

1176 1176 1176 1176 1176 1176 1170 1172 1172 1177 1177 1173 1171 1175 1175 1175 1175 1175 1174 1174