Cymraeg / English
|
Disgrifio Nodweddion Tirwedd HanesyddolDyffryn TanatTRAFNIDIAETH A CHYSYLLTIADAUPriffyrdd a mân ffyrdd hynafolYn ôl pob tebyg sefydlwyd y llwybrau a’r troedffyrdd cyntaf yn Nyffryn Tanat yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Mae’r prif lwybrau, a bennir gan dopograffeg naturiol a chan groesfannau afonydd, yn mynd i’r Bala tua’r gogledd-orllewin trwy Langynog, i Lansilin a Chroesoswallt tua’r gogledd-ddwyrain trwy Lanraeadr-ym-Mochnant, i’r Amwythig tua’r de-ddwyrain trwy Langedwyn, i Lanfyllin a’r Trallwng tua’r de trwy Benygarnedd, ac i Hirnant a Llanwddyn trwy Ben-y-bont Fawr i’r de-orllewin. Ymddengys fod pen gorllewinol y dyffryn yn gwbl gaeedig tan ail hanner y 18fed ganrif, gan na ddangosir unrhyw ffyrdd yn croesi’r ardal, er enghraifft, ar fap Robert Morden o Ogledd Cymru dyddiedig 1695, er y rhedai llwybr arall, y dywedir iddo gael ei ddefnyddio gan borthmyn, tua’r gogledd o Lanraeadr-ym-Mochnant, i fyny dyffryn Afon Iwrch ac ar draws y wahanfa ddðr i ddyffryn Dyfrdwy yn Llandrillo yn Edeyrnion. Mae’r mwyafrif o’r isffyrdd a’r lonydd yn cael eu mapio am y tro cyntaf ar fapiau degwm yr 1830au a’r 1840au, ac maent yn ffurfio rhwydwaith sy’n cysylltu ffermydd unigol, daliadau a bythynnod. Mae nifer o’r llwybrau hyn wedi goroesi fel lonydd gwyrddion sydd weithiau, yn ffurfio ceuffyrdd amlwg, hyd at 4-5m o ddyfnder mewn mannau, a ymffurfiodd yn y canrifoedd cyn i ddraeniau ffyrdd gael eu gosod. Yn ôl pob tebyg mae rhai o’r ffyrdd a’r lonydd hyn yn dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol cynnar, yr Oesoedd Canol a'r Oesoedd Canol diweddar ac maent yn bwysig i’n dealltwriaeth o hanes economaidd a chymdeithasol y cymunedau unigol a’r ffordd y rhyngweithient â chymunedau cyfagos ac â marchnadoedd ymhellach i ffwrdd. Byddai wedi bod yn amhosibl i gerbydau ag olwynion ysgafn fynd ar hyd y mwyafrif o’r ffyrdd hyn os nad y cyfan ohonynt a byddent wedi bod yn fwy addas ar gyfer cerdded, marchogaeth, symud nwyddau ar wagen, neu symud da byw ar droed. Yn wir, dywedir bod cerbydau ag olwynion ar gyfer cario pobl yn dra anghyfarwydd tan ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd y broses o roi ceffylau yn lle ychen fel anifeiliaid gwedd i aredig a thynnu yn digwydd mor hwyr â’r 18fed ganrif ar ffermydd cyffredin yng Nghymru ac o’r cyfnodau cynharaf dim ond y rhai cyfoethog a allai fforddio teithio hyd yn oed ar gefn ceffyl. Nid oes amheuaeth nad ychwanegwyd at statws y tywysog Brochwel ac yntau allan yn hela, fel y’i potreadir ar y groglen o ddiwedd y 15fed ganrif yn eglwys Pennant Melangell, yng ngolwg pobl y cyfnod trwy ei bortreadu ar gefn ceffyl. Roedd cryn fri yn dal i gael ei roi ar fod yn berchen ar geffylau tan ddechrau’r 20fed ganrif. Ystyrid bod mabwysiadu ceffyl gan ffermwyr cyffredin yn rhan hanfodol o’r broses o fabwysiadu Saesneg ac agweddau diwylliannol Cymreig wedi'u seisnigeiddio. Cyn yr 20fed ganrif gwneid y mwyafrif o deithiau ar droed – i’r gwaith, i’r farchnad, i’r ysgol, i siopa ac i ymweld â phobl – gan adael y lonydd gwyrddion, y ceuffyrdd a’r troedffyrdd sy’n mynd yn groesymgroes ar draws y tir caeëdig rhwng ffermydd a thyddynnod Dyffryn Tanat yn etifeddion i ddigynyddion. Er ei fod yn eithriad efallai, cerddai Robert Thomas bob dydd Sul i’r capel yn Hirnant, taith gron o 17 o filltiroedd o’i gartref ym Mlaen-y-cwm yng Nghwm Maengwynedd. Mae’n debyg y byddai taith Thomas wedi mynd ag ef fel yr hed y frân, ar y droedffordd ar draws ucheldiroedd Godor, rhwng Cwm Maengwynedd a Chwm Blowty, wedyn ar hyd troedffordd ar draws ucheldiroedd Y Garn i Ddyffryn Tanat, ac oddi yno i Gwm Hirnant. Mae’n rhaid bod y troedffyrdd hyn yn bwysig ers y cyfnodau cynharaf er mwyn helpu cymunedau yn y dyffrynnoedd anghysbell dwfn yng ngorllewin Dyffryn Tanat i aros mewn cysylltiad â’i gilydd. Mae ffermydd sy’n llai na milltir oddi wrth ei gilydd ar draws y bryniau rhwng blaen Cwm Pennant a Chwm Rhiwarth dros bum milltir oddi wrth ei gilydd ar hyd y ffordd. Roedd troedffyrdd a llwybrau a âi i fyny i'r bryniau o waelod y dyffryn hefyd o gryn bwysigrwydd economaidd ar gyfer dod â mawn i lawr o’r mawnogydd ar yr ucheldiroedd (gweler isod) ac ar gyfer darparu mynediad i ffriddoedd. Fel heddiw mae’n debyg y câi’r ffriddoedd hyn eu defnyddio yn ôl y tymor. Byddai’n golygu symud y stoc i fyny i'r ucheldiroedd yn y gwanwyn a dod â hwy i lawr unwaith eto yn yr Hydref ac, yn ôl pob tebyg, o’r cyfnod cynhanesyddol tan y 18fed ganrif, roedd yn golygu trawstrefa rhwng hendref yr iseldir a hafod yr ucheldir. Fel y nodwyd uchod yn yr adran ar aneddiadau ceir tystiolaeth dda yn rhan orllewinol Dyffryn Tanat ei bod yn hysbys bod rhai o brif lwybrau’r ucheldiroedd yn cysylltu ffermydd penodol a’u hafod yn yr ucheldiroedd. Mae llethrau’r dyffrynnoedd yn rhan orllewinol Dyffryn Tanat mor serth fel bod y mwyafrif o’r llwybrau sy’n mynd i fyny ar gopaon agored y mynyddoedd yn y fan hon wedi’u cyfyngu o reidrwydd i’r llechweddau mwy esmwyth a dorrir gan nentydd y mynydd ar hyd ochrau neu ym mlaenau’r dyffrynnoedd. Mae dosbarthiad y corlannau yn nodi llawer o’r llwybrau haws eu cerdded i fyny ar y bryniau, ac mae’n debyg bod llawer o’r llwybrau hyn yn cael eu defnyddio ers y cyfnodau cynharaf. Fel y nodwyd mewn adran gynharach roedd patrwm anheddu yn seiliedig ar dyddynnod wedi datblygu erbyn diwedd y cyfnod canoloesol. Patrwm ydoedd o ffermydd gwasgaredig wedi’u lleoli’n nodweddiadol ar ymyl y dyffryn, ychydig islaw ymylon isaf y môr o ucheldiroedd agored. Mae’r mapiau degwm o ddechrau’r 19eg ganrif yn dangos yn aml dafodau o dir comin agored yn ymestyn i lawr y nentydd trwy’r tir caeëdig, o’r ucheldiroedd i lawr tuag at lawr y dyffryn, gan alluogi’r ffermydd mwy tirgaeëdig sydd ymhellach i ffwrdd o ymyl y mynydd i gyrraedd yr ucheldiroedd. Mae’r llwybrau hyn ar ffurf twmffat sy’n arwain i fyny at y tir uwch yn dal i fod yn un o nodweddion pwysig ymyl yr ucheldiroedd ac yn aml maent yn ymddangos fel ceuffyrdd wedi’u treulio o'u troedio gan anifeiliaid a dynion yn ogystal â chan fathau eraill o drafnidiaeth heb olwynion. Deuid â mawn, prif ffynhonnell tanwydd tan hanner cyntaf y 19eg ganrif o leiaf, i lawr o fawnogydd ar y mynyddoedd ar geir llusg, a elwid yn lleol yn ‘drages’ yn y 18fed ganrif. Deuid â cherrig adeiladu a llechi i lawr y mynydd hefyd yn y ffordd hon, a nododd Lewis y byddid yn dod â llechi o chwareli Llangynog ‘gyda dirfawr berygl i’r sawl a fyddai wrthi’n cyflawni’r dasg lafurus hon’. Nid oes amheuaeth nad oedd y ceir llusg o fath a oedd yn gyfarwydd mewn mannau eraill, ac weithiau defnyddid nerth dynol yn hytrach na nerth anifeiliaid i’w ffrwyno a’u llywio. Y Ffyrdd Tyrpeg
O dan delerau deddfau'r ffyrdd tyrpeg, rhoddwyd yr hawl i’r Ymddiriedolwyr gymryd deunyddiau i atgyweirio ffyrdd o ‘unrhyw Dir Comin Diffaith neu Afon heb dalu unrhyw beth amdanynt’, ac mae’n debyg fod llawer o’r chwareli gro a cherrig llai o faint, anghysbell, a leolid ar dir comin yn agos at ffyrdd tyrpeg ac nad oes llawer o dystiolaeth ysgrifenedig amdanynt yn dyddio o'r adeg hon. Cynrychiola llawer o’r ffyrdd tyrpeg cynharaf welliant i ffordd a fodolai eisoes yn hytrach na ffordd hollol newydd, ond mewn mannau mae’n bosibl gweld y llinell a gymerai'r hen ffordd lle y cymerodd y ffordd dyrpeg lwybr ychydig yn wahanol, fel llinell yr hen ffordd i Ben-y-bont Fawr, er enghraifft, sydd ychydig i’r gogledd o Benygarnedd. Hefyd cafodd cysylltiadau eu gwella’n sylweddol bryd hynny o ganlyniad i adeiladu pontydd cerrig ar hyd y ffyrdd tyrpeg ar draws afon Tanat a’i hisafonydd, a gymerodd le pontydd pren cynharach neu rydiau. Cysylltiadau â’r rhwydweithiau afonydd, camlesi a rheilffyrdd
Herbertiaid Castell Powys oedd wedi dechrau mwyngloddio o ddifrif am blwm yn Nyffryn Tanat a hynny tua 1705. Cyrhaeddodd cynhyrchiad ei anterth ym 1737 pan ddaeth yn un o'r mwyngloddiau cyfoethocaf yn y wlad yn ei ddydd, pan gynhyrchwyd cyfanswm o bron 3,000 o dunelli o fwyn. Ymgymerid â’r gwaith o doddi mwyn o’r rhan hon o fwynglawdd Llangynog yn ‘ffwrnais gron yr Ardalydd’ ar lan afon Hafren yng Nghei’r Trallwng, a ddechreuodd gynhyrchu ym 1706, ac a oedd yn lle cyfleus ar gyfer dod â thanwydd i mewn a chludo plwm crai allan ar y dðr. Gorfodid i denantiaid yr Ardalydd ddarparu’r drafnidiaeth angenrheidiol 15 milltir i ffwrdd ar draws y bryniau trwy Lanfyllin i’r de-ddwyrain, gyda’r bygythiad y caent eu troi allan pe gwrthodent. Yn wreiddiol câi’r mwyn ei gario ar geirt mewn sachau ond yn ddiweddarach câi ei gario yn rhydd – ac roedd y dasg yn arbennig o amhoblogaidd gan y byddai’r tymor gorau ar gyfer symud y mwyn yn cyd-daro hefyd ag adeg y cynhaeaf. Yn y 1730au câi mwyn ei gario ar geirt o’r rhan o fwynglawdd Llangynog a leolid yn y Waun Ddu i Landrinio sef taith o 12 milltir. Yno fe’i trosglwyddid i gwch camlas a’i gludo i lawr yr afon i fwyndoddfeydd yn Benthall. Byddai cludo nwyddau ar afon bob amser yn broses anrhagweladwy, fodd bynnag, ac ym 1761 cafodd llwyth o blwm crai a oedd i gael ei gludo ar yr afon o Gei’r Trallwng ei rwystro ar ei daith i Fryste am dros ddau fis oherwydd bod y dðr yn isel i fyny’r afon. Câi gwahanol nwyddau eraill eu symud hefyd ar hyd y ffordd ac wedyn mewn cychod: yn y 1770au câi llechi Llangynog eu cludo ar geirt i Lanfa Clawdd Coch ar afon Efyrnwy ger Llanymynech ac oddi yno i lawr afon Efyrnwy ac afon Hafren i’r Amwythig; cyrhaeddodd cloch newydd ar gyfer yr eglwys ym Mhennant Melangell a brynwyd gan Ffwndri Rudhall, Sir Gaerloyw, ym 1794, mewn cwch a oedd wedi teithio i fyny afon Hafren. Roedd yn rhaid dod â llawer o nwyddau amrywiol i mewn i’r dyffryn hefyd i gynnal y diwydiant mwyngloddio – glo, powdwr gwn, canhwyllau, pren, haearn a dur, calch. Bu gostyngiad cyflym ym maint y mwyn plwm a gynhyrchid yn y 1740au, a chaeodd mwyndoddfa Cei’r Trallwng o’r diwedd ym 1762. Roedd mwyndoddfa fach wedi’i hadeiladu yn Llangynog yn y 1750au ond yn y 1780au a’r 1790au anfonid y meintiau llai o fwyn plwm a gâi eu cynhyrchu i’r Mwynglawdd. Ar ôl cwblhau Camlas Sir Drefaldwyn ym 1797 trwy’r system gamlesi yr oedd y brif farchnad ar gyfer nwyddau i’w chyrraedd er bod afonydd yn dal i gael eu defnyddio ar gyfer masnachu ymhell ar ôl i’r gamlas agor gan na fyddai’n datblygu’n ddull cludo nwyddau o bwys i ganolbarth ac i dde Lloegr nes iddi gael ei chysylltu â’r brif system gamlesi ym 1833. Erbyn y 1860au gellid dwyn llechi o chwareli Llangynog a Chwm Rhaeadr i’r pen rheilffordd ym Mhorth-y-waun, gyda rhai o’r cerbydau ysgafnach yn defnyddio’r pen rheilffordd yn Llanfyllin. Roedd cael y nwyddau i’r farchnad yn parhau i fod yn broblem, fodd bynnag, a gorfodwyd i chwareli llechi Cwm Maengwynedd gau yn y 1870au oherwydd y niwed a achoswyd i ffyrdd o ganlyniad i ddefnyddio peiriant tynnu i lusgo’r llechi i Borthywaun. Rheilffordd Ysgafn Dyffryn Tanat
Yr oeddid wedi gobeithio y byddai’r rheilffordd yn symbylu’r diwydiant mwynau lleol a oedd wedi crebachu i gryn raddau erbyn i’r rheilffordd agor. Fel y digwyddodd, cynnyrch amaethyddol – da byw, pren, grawn a chynnyrch llaeth – oedd llawer o’r nwyddau a gâi eu cludo allan yn ystod y blynyddoedd cynnar, ac ymhlith y nwyddau a ddeuai i mewn roedd glo, calch, bwydydd anifeiliaid a gwrteithiau; roedd yna hefyd gwasanaeth i deithwyr. Er i’r mwyngloddiau metel adfywio rhywfaint, gyda gwaith yn ailgychwyn ym mwynglawdd plwm Cwm Orog rhwng 1908-11, a mwynglawdd Llangynog a weithiwyd ar gyfer plwm ar raddfa fach o 1900-12, mwynglawdd plwm Craig-y-mwyn a weithiwyd ar raddfa fach o 1900-11, roedd y rheilffordd wedi cyrraedd Llangynog yn rhy hwyr i gael llawer o effaith ar y diwydiant cloddio am fwynau plwm – unwaith yr oedd y prif wythiennau wedi’u dihysbyddu. Rhoddodd y rheilffordd hwb i’r diwydiant chwarelu, fodd bynnag, gan gynnwys chwarel lechi Cwm Maengwynedd tan 1910, mwynglawdd Llangynog a weithiwyd am farytes ym 1916, chwarel lechi Gorllewin Llangynog tan 1937, a chwarel lechi Craig Rhiwarth yn Llangynog. Chwarel cerrig ffordd Llangynog oedd prif gynheiliad y rheilffordd yn y 1920au a’r 1950au, a bu’n gymorth iddi oroesi yn llawer hwy nag y byddai wedi gwneud fel arall. Yn wreiddiol eid â’r cerrig i’r orsaf ar geffyl a chart, ond yn y 1920au cymerodd y lori godi eu lle. Yn y pen draw arweiniodd y defnydd cynyddol a wneid o’r ffordd yn hytrach nac o’r rheilffordd i gludo cerrig yn 1940au a da byw o’r 1950au at dranc y rheilffordd. Daeth y gwasanaeth i deithwyr i ben ym 1951. Gorffennodd pob gwasanaeth i’r gorllewin o Orsaf Llanrhaeadr ym 1952 a chaewyd y llinell gyfan hyd at Gyffordd Blodwel o’r diwedd ym 1964. Chwaraeodd y rheilffordd ran bwysig er byrhoedlog yn hanes Dyffryn Tanat. Erbyn hyn mae’r trac wedi’i godi ond mae’r rhan fwyaf o lwybr y rheilffordd wedi’i gynrychioli o hyd yn y dirwedd gan derfynau caeau, hafnau neu argloddiau a gellir adnabod o hyd safleoedd y rhan fwyaf o’r gorsafoedd a’r arosfannau unigol. Roedd angen ffatri beirianyddol arbennig lle y croesai’r rheilffordd ddyfrbont Llyn Efyrnwy i’r gorllewin o Ben-y-bont Fawr a chafodd rhan o gwrs afon Tanat ei sythu ychydig i’r dwyrain o Langedwyn i’w hatal rhag tanseilio’r rheilffordd. Dyfrbont Efyrnwy
|