Cymraeg / English
|
Disgrifio Nodweddion Tirwedd HanesyddolDyffryn TanatTIRWEDDAU DIWYDIANNOL Diwydiannau Cloddio
Lleolwyd y prif byllau a chwareli yn ardal Llangynog gerllaw. Yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn gymharol adnabyddus, ond ceir dosbarthiad ehangach o weithfeydd neu dreialon bach am fwynau metel a llechfaen yn gyffredinol ledled rhan orllewinol Dyffryn Tanat, nad oes gwybodaeth ddogfennol fanwl am lawer ohonynt. Gellir diffinio nifer o dirweddau cloddio a chwarela pwysig a nodweddiadol o fewn Dyffryn Tanat, gan ystyried yr ardaloedd cloddio a phrosesu gweladwy a nodweddion cysylltiedig y tirweddau yn cynnwys adeiladau cynorthwyol, llwybrau ffyrdd, ffiniau, cronfeydd dŵr a ffrydiau – yn arbennig yn Llangynog, Craig-y-mwyn a Chwm Orog. Cloddio plwm
Bu cynnydd cyflym yn y gwaith cloddio ôl-ganoloesol yn nosbarth Llangynog yn gynnar yn y 18ed ganrif, a dilynwyd hynny gan ddirywiad hir tuag at ddiwedd y 19eg ganrif. Fodd bynnag, yn ystod hanner cyntaf y 18fed ganrif y cyrhaeddodd y gwaith cynhyrchu ei uchafbwynt, yn wahanol i byllau enwog eraill yng nghanolbarth Cymru megis Fan a Dylife a fu’n llewyrchus yn ystod y 19eg ganrif, ac a ystyriwyd ar un adeg fel y pyllau plwm mwyaf cynhyrchiol yng nghanolbarth Cymru. Mae i’r hanesion am ddarganfod un o’r prif wythiennau cyfoethocaf o fwyn plwm yn Llangynog naws ramantus, gan i’r plwm gael ei ddarganfod, yn ôl y sôn, ym 1692 ‘gan fugail yn rhedeg ar ôl ei braidd, ac yn troedio ar arwynebedd llithrig fflochen neu fwyn, a’r mwsogl yn symud o dan ei esgid bren, a’r mwyn gloyw yn ymddangos’. Mae hanesion eraill yn honni mai bugeiles a wnaeth y darganfyddiad. Cyflawnwyd y gwaith cloddio cynharaf ym mhyllau De Llangynog, Cwm Orog a Chraig-y-mwyn gyda chyfalaf lleol. Fe’i cychwynnwyd erbyn tua 1705 gan deulu’r Herberts o ystad Castell Powys, a pharhaodd i ryw raddau am tua 50 mlynedd, a chyrhaeddodd cynhyrchiant yn Ne Llangynog ei uchafbwynt ym 1737, pan ddaeth Llangynog, am gyfnod byr, yn un o’r gweithrediadau cynhyrchu plwm mwyaf yn Ewrop. Gweithiwyd ar adran gyfagos i bwll De Llangynog a phyllau eraill yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn gan y Myddletons o ystad Castell y Waun. Deilliodd nifer o broblemau cymdeithasol o ganlyniad i fewnlifiad gweithwyr pyllau Seisnig yn ystod y 18fed ganrif, a chafodd yr eglwys yn Llangynog anhawster i ddarparu gwasanaethau nad oeddynt yn Gymraeg. Cyfrannodd yr holl gymuned at y gwaith am gyfnod: cyfrannodd gwragedd y cloddwyr at y gwaith o olchi mwynau a gorfodwyd ffermwyr-denantiaid lleol, yn aml yn groes i’w dymuniadau, i gludo’r mwynau ar yr heol i fwyndoddfeydd yn Pool Quay ac mewn mannau eraill neu gael eu troi o’u cartrefi. Gwnaeth adran Powys o byllau Llangynog gyfanswm o £121,000 o elw dros y cyfnod 1724-44. Aeth llawer ohono i dalu eu dyledion, a chyfrifodd Marcwis Powys fod cyfanswm o dros £171,000 wedi’i wario ar glirio dyledion ei ferch o ganlyniad i’r gwariant trychinebus ar Gyfnewidfa Stoc Paris ac mewn buddsoddiadau dielw yn y pyllau Sbaenaidd yn Rio Tinto. Ym 1740, roedd gwerth £4,500 o gyflogau’n ddyledus i’r gweithwyr, ac ym 1741, ysgrifennodd rheolwr y Marcwis, James Baker, bod Llangynog fel ‘dyn ar farw’. Eto cynyddodd y galwadau ar y pwll ac ar ei weithlu. Roedd y gwaith o ddraenio pyllau a chludo mwynau i fwyndoddfeydd y tu allan i Ddyffryn Tanat bob amser yn bwysig i ddichonoldeb economaidd pyllau Llangynog. Yn dilyn dirywiad mewn cynnyrch yn ddiweddarach yn y18fed ganrif dechreuodd iarll Powys roi prydlesi i bobl o’r tu allan, a daeth y diwydiant, o ail hanner y 18fed ganrif ymlaen, yn gynyddol ddibynnol ar gyfalaf mentro a ddarparwyd gan hapfuddsoddwyr o’r tu allan yn hytrach na chan dirfeddianwyr lleol. Parhaodd y cloddio ar raddfa fach yn ystod y cyfnod rhwng diwedd y 18fed ganrif a diwedd y 19eg ganrif, gyda phyliau byr ac ysbeidiol o weithgaredd ar safleoedd cloddio amrywiol gan amryw ddeiliaid prydles gwahanol yn aml yn dilyn amrywiadau ym mhris plwm ar y farchnad. Gwnaethpwyd rhai buddsoddiadau sylweddol yn ystod y cyfnod hwn, yn cynnwys, er enghraifft, adeiladu cronfa ddŵr Llyn y Mynydd ac adeiladwyd argae craig a daear sylweddol tua 1864 uwchben Cwm Llech, a gysylltwyd gan system o ffrydiau i bwll De Llangynog, tua 4km i’r dwyrain. Cafwyd amryw straeon hefyd megis y rhai hynny ym Mwlch-greolan, i’r de o Benygarnedd, a Chraig-y-mwyn rhwng y 1850au a’r 1880au pan dybiwyd i brydlesi pylloedd gael eu gwerthu am elw enfawr ar sail gwybodaeth dra chamarweiniol. Daeth y rhan fwyaf o’r gwaith cloddio i ben erbyn tua 1900, ac er i adfywiad byr ddigwydd ym mhyllau Cwm Orog a Chraig-y-mwyn yn dilyn agoriad Rheilffordd Fach Dyffryn Tanat ym 1904, roedd y ddwy fenter hon wedi dod i ben erbyn 1912. Toddwyd y rhan fwyaf o’r mwynau a gloddiwyd yn nosbarth Llangynog naill ai yn Pool Quay lle yr adeiladwyd mwyndoddwr gan Iarll Powys ym 1706, neu Benthal, Coalbrookdale, ac yn hwyrach ym Mwynglawdd, er bod mwyndoddwr ar raddfa lai yn Llangynog yn y 1750au. Chwarela llechfaen a charreg
Roedd y galw am garreg adeiladu yn cynyddu o ddiwedd y 16eg ganrif ac yn enwedig o ddechrau’r 17eg ganrif ymlaen gan fod arddulliau adeiladu brodorol ar gyfer cartrefi cyntaf o bosibl ac yna ysguboriau yn rhoi mwy o bwyslais ar garreg yn hytrach na choed fel deunydd adeiladu, ond nid oedd i barhau’n ddiwydiant lleol a oedd yn darparu ar gyfer marchnad leol yn unig. Cynyddodd y galw lleol am garreg ffordd addas gyda dyfodiad y tollbyrth yn ystod y 18fed ganrif ddiweddarach, gan y nodwyd mewn man arall bod nifer o’r chwareli llai ar hyd ochr y ffyrdd yn perthyn i gyfnod pan roddwyd yr hawl i ymddiriedolwyr y tollbyrth gymryd deunyddiau ar gyfer adeiladu ac atgyweirio heolydd o dir gwastraff a thir comin. Dechreuwyd gwaith chwarela ar gyfer carreg ffordd ar raddfa fwy masnachol ar nifer o safleoedd yn Llangynog gerllaw tua 1910 a dyma oedd prif gynhaliaeth Rheilffordd Fach Dyffryn Tanat a oedd yn cyflogi carcharorion rhyfel Almaenig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dirywiodd y diwydiant yn ystod y 1930au a daeth i ben yn derfynol yn y 1950au. Chwarela ffosffad a chalchfaen
Diwydiannau prosesu a chrefft
|