Cymraeg / English
|
Disgrifio Nodweddion Tirwedd HanesyddolDyffryn TanatTIRWEDDAU ANGLADDOL, EGLWYSIG A CHEWDLONOLTirweddau Chwedlonol
Yn chwedl Math fab Mathonwy yn y Mabinogi ceir esboniad dychmygol o darddiad yr enw Mochnant, (h.y. nant neu ddyffryn y moch), sef enw’r cwmwd, sydd wedi goroesi mewn nifer o enwau lleoedd modern, megis Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Maes Mochnant, a Chastellmoch. Yn y chwedl, Mochnant yw un o’r lleoedd lle y treuliodd Gwydion noson tra oedd yn dod â moch i Math oddi wrth Pryderi, brenin Ceredigion. Yn ôl traddodiad codwyd Maenhir y Maes Mochnant er mwyn rhoi terfyn ar y llanastr oedd yn cael ei greu yn y wlad oddi amgylch gan ddraig neu sarff. Lladdwyd y bwystfil pan daflodd ei hun yn erbyn y garreg a elwid hefyd yn Bost Coch, Post y wiber (Hancock 1871, 236; Sayce 1930, 750). Credid bod Pengarnedd ‘yn fyw o ddreigiau’, a’r enw a roddid ar un o’r lleoedd lle y llechent oedd Nant y Wiber ger Penygarnedd. Dywedid bod aelodau direidus o’r tylwyth teg yn cerdded Craig Rhiwarth, llecyn y dywedid y dylid ei ‘osgoi ar bob cyfrif’. Cysylltir y cawr a adwaenir fel Cawr Berwyn â Chwm Blowty ac â Chwm Pennant. Dywedir i’r tair carreg enfawr sydd ar waelod Pistyll Rhaeadr, ym mlaen Cwm Blowty, gael eu taflu gan y cawr, ei wraig a’i forwyn wrth iddynt groesi’r rhaeadr ar eu ffordd i Bennant Melangell a gelwid y cerrig hynny yn Baich y Cawr, Baich y Gawres a Ffedogaid y Forwyn. Ar achlysur arall dywedir i Cawr Berwyn roi naid enfawr o gopa Moel Dimoel, y mynydd mwyaf sy’n ymddyrchafu uwchben Cwm Pennant, gan lanio mewn cae y dywedir ei fod yn dwyn yr enw Wern Blaen y Cwm (yr un cae efallai â’r cae a gelwid yn ‘Weirglodd Blaen y Cwm’ ac a restrir yn nosraniad y degwm) ar ochr arall y cwm gyferbyn â fferm Tyddyn yr Helig. Dywedid bod ffynnon o ddðr croyw, a lifodd allan cyn gynted ag y cyffyrddodd sawdl y cawr â’r tir, yn arfer dynodi’r fan lle y glaniodd, a gelwid y llethr y tu ôl i'r fferm yn ‘Baich y Cawr’. Mewn fersiwn arall neidiodd y cawr i mewn i fuarth Rhyd y Felin, un o’r ffermydd wrth droed Moel Dimoel. Mae gan yr asgwrn morfil mawr sydd wedi’i osod ar wal corff eglwys Pennant Melangell ddau enw gwahanol, sef Asen y Gawres ac Asen Melangell (nawddsant yr eglwys). Mewn un adroddiad dywedir iddo ‘gael ei ddarganfod mewn bedd lle y dywedid bod Melangell wedi’i chladdu’ ond dywed adroddiad cynharach y mae’n debyg ei fod yn fwy dibynadwy iddo gael ei ddarganfod ar y mynydd rhwng y Bala a Phennant Melangell, er nad esbonnir beth roedd yn ei wneud yma. Cysylltir nifer o leoedd yng Nghwm Pennant a’r ardal o’i amgylch â’r Gwylliaid Cochion, sef criw o ysbeilwyr chwedlonol o Ddinas Mawddwy yn y 15fed ganrif a’r 16eg ganrif. Dywedid iddynt ysbeilio Dyffryn Tanat yn aml ac fe’u cysylltir ag ardaloedd cyfagos eraill. Yn yr un modd dywedir i nifer o fodrwyon a darnau arian gael eu darganfod o dan garreg wastad fawr a gelwir yn Bwrdd y Gwylliaid Cochion sydd rywle ger blaen Cwm Llech. Yn ôl y traddodiad lleol, dangosai’r rhychau ar gerrig mawr naturiol ger pen Cwm Llech ac ar gopa’r Gribin, ar ochr arall Cwm Pennant, y fan lle'r oedd y Gwylliaid Cochion wedi hogi eu clefyddau. Tirweddau angladdol a defodol cynhanesyddol diweddarach
Gellir dosbarthu’r mwyafrif o’r safleoedd ar y tir uwch yn feddrodau crynion, yn garneddau cylchog, ac yn feini hirion. At ei gilydd cofebau angladdol yw’r beddrodau crynion, a adeiladwyd naill ai o bridd neu’n fwy aml o gerrig. Fe’u cysylltir naill ai â chladdu mewn pridd neu â chorfflosgi. Dangosodd cloddfeydd a gynhaliwyd mewn mannau eraill ym Mhrydain fod beddrodau neu garneddau mewn rhai achosion yn gorwedd dros fedd un unigolyn uchel ei statws o fewn y llwyth. Er hynny, mewn achosion eraill, dangoswyd y gallai’r garnedd fod wedi’i defnyddio ar gyfer claddu mwy nag un unigolyn, a hynny dros gyfnod o gannoedd o flynyddoedd. Mewn rhai achosion dangoswyd bod gan garneddau adeiladwaith mewnol cymhleth yn cynnwys beddrodau â chylchoedd o gerrig, cyrbau, a chistiau wedi’u leinio â cherrig. Ni wyddys yn iawn pa ganran o boblogaeth Oes Newydd y Cerrig a’r Oes Efydd a gladdwyd fel hyn, ond mae yna dystiolaeth dda sy’n dangos i’r math hwn o ymarfer claddu beidio yn ystod y cyfnod rhwng canol a diwedd yr Oes Efydd, ac iddo gael ei ddisodli gan y math o fynwent amlosgi a ddarganfuwyd ym Mhennant Melangell (gweler isod). Mae carneddau cylchog yn fath arall o heneb sy’n perthyn i’r cyfnod hwn. Dangoswyd bod yna gysylltiad rhwng y carneddau hyn a beddrodau, celciau angladdol symbolaidd, a hefyd gweithgarwch yr ymddengys ei fod yn ddefodol ei natur. Yn yr un modd cysylltwyd meini hirion â gweithgarwch defodol yr Oes Efydd, er ei bod yn bosibl bod rhai ohonynt yn cynrychioli arwyddion terfyn llawer mwy diweddar. At ei gilydd mae’r meini hirion i’w canfod ar dir uwch, ac eithrio wrth gwrs faen hir ardderchog Maes Mochnant sy’n 3.65m o uchder ac sy’n gorwedd ar lawr y dyffryn i’r de-ddwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. Cynrychiolir gweithgarwch defodol yr Oes Efydd gan gylch cerrig a rhes gerrig Rhos-y-Beddau a chylch cerrig Cwm Rhiwiau ger blaenddyfroedd Afon Rhaeadr, uwchben Pistyll Rhaeadr. Ymhlith mathau pwysig eraill o henebion y mae ffosydd cylchog, heneb sy’n debygol o fod yn feingylch a dau gylch pwll, ac y mae pob un ohonynt wedi’i leoli ar lawr y dyffryn. Mae pob un o’r mathau hyn o henebion yn safleoedd a ddynodir gan gnydau ac a ddarganfuwyd o ganlyniad i ragarchwilio a wnaed o’r awyr, ac fel rheol nid ydynt wedi goroesi fel cloddweithiau y gellir eu gweld ar lefel y ddaear. Mae’n debyg bod y ffosydd cylchog at ei gilydd yn cynrychioli carneddau sy’n debyg i feddrodau crynion a charneddau’r ucheldiroedd a nodwyd uchod. Mae’n debyg bod gan y mwyafrif ohonynt dwmpathau pridd a lefelwyd ers yr adeg hynny o ganlyniad i aredig, er bod yr hyn a all fod yn feddrod crwn mawr wedi goroesi hyd heddiw fel twmpath ger maen hir Maesmochnant, rhywbeth sy’n anarferol. Mae’r heneb sy’n debygol o fod yn feingylch a’r ddau gylch pwll i gyd wedi’u lleoli yn agos at ei gilydd i’r de-ddwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant ac mae’n debyg eu bod yn cynrychioli cyfadeilad defodol yn yr iseldir sy’n debyg i’r cyfadeilad yn yr ucheldir a nodwyd yng nghyffiniau Rhos-y-beddau. Math o heneb a amgaeir gan glawdd crwn yw’r heneb sy’n debygol o fod yn feingylch, ac mae’n bosibl bod y ddau gylch pwll yn gylchoedd pren yn wreiddiol. Fel y nodwyd uchod, mae ein gwybodaeth am ddosbarthiad y safleoedd hyn yn Nyffryn Tanat yn rhannol ac yn ddamweiniol. Y tebyg yw i’r safleoedd yn yr ucheldiroedd, sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd o amaethu ymylol, oroesi oherwydd y defnydd llai dwys a wneid o’r tir yn yr ardaloedd hyn, tra bod yr amaethu grawn dwys ar y tir amaethyddol ysgafnach a gwell ei safon ar lawr y dyffryn wedi helpu olion cnydau i ffurfio a ddefnyddiwyd i nodi’r safleoedd. Hefyd i ryw raddau mae dosbarthiad y safleoedd yn yr ucheldiroedd yn ddibynnol ar ardaloedd lle y cyflawnwyd gwaith maes mwy dwys – gan fod y gwaith maes a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi canolbwyntio ar gornel dde-orllewinol yr ardal. Enghraifft o safleoedd sydd wedi goroesi a hynny mewn dull detholiadol yw’r math anarferol o safle angladdol neu ddefodol cynhanesyddol a ddarganfuwyd wrth gloddio yn eglwys Pennant Melangell. Roedd yn rhan o fynwent amlosgi o ganol yr Oes Efydd, yn dyddio o’r cyfnod tua 1,200 CC. Er nad oes fawr ddim tystiolaeth o’r aneddiadau a fodolai yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer gyffredinol yr henebion yn dangos bod pobl wedi ymsefydlu ar hyd ac ar led Dyffryn Tanat erbyn y cyfnod hwn. Dengys dosbarthiad yr henebion, ar waelod y dyffrynnoedd ac ar gopaon y mynyddoedd fod pobl yn gwneud defnydd o ystod eang o gynefinoedd gwahanol yr adeg honno. Mae’n bosibl bod y dosbarthiad hwn eisoes yn adlewyrchiad o’r patrwm trawstrefa rhwng aneddiadau sefydlog yn yr iseldir ac aneddiadau dros dro yn yr ucheldir y gwyddys ei fod yn bodoli yn yr ardal tan tua’r 18fed ganrif. Mae’r cyfadeiladau defodol yn Rhos-y-beddau a ger Maesmochnant yn awgrymu bod ardaloedd penodol wedi’u dynodi’n dirweddau defodol yn y cyfnod cynnar hwn. Yn yr un modd, mae’r beddrodau crynion yr ymddengys eu bod wedi’u crynhoi yn yr ucheldiroedd yng nghornel dde-orllewinol y dirwedd hanesyddol ac ar lawr y dyffryn yn y gornel dde-ddwyreiniol fel pe baent yn dynodi rhai ardaloedd yn dirweddau angladdol. Yn achos y cyfadeiladau ar lawr y dyffryn o leiaf mae yna gyffelybiaeth rhwng y cyfadeiladau defodol cynhanesyddol diweddarach ac ardaloedd mynwentydd yr awgrymwyd eu bod yn bodoli mewn rhannau eraill o wahanfa ddðr Hafren uchaf. Yn achos y ddau gyfadeilad yn Nyffryn Tanat mae yna awgrymiadau clir bod eu lleoliadau o fewn y dirwedd yn llawn arwyddocâd – gyda Rhos-y-beddau wedi’i leoli ger blaenddyfroedd Afon Rhaeadr, uwchben rhaeadrau enwog Pistyll Rhaeadr, a chyfadeilad Maesmochnant wedi’i leoli o fewn rhan letaf llawr dyffryn Tanat uchaf, rhwng ei chymer ag Afon Rhaeadr ac Afon Iwrch. Er ei bod yn debyg bod carneddau yn yr ucheldiroedd a ffosydd cylchog yn yr iseldiroedd yn rhannu swyddogaeth debyg fel henebion angladdol mae yna arwyddion bod gan yr henebion mewn gwahanol leoliadau arwyddocâd gwahanol o ran y dirwedd. Mae llawer o’r beddrodau crynion yn yr ucheldiroedd yng ngogledd-orllewin yr ardal, er enghraifft, yn henebion unig sydd wedi’u gosod ar bennau bryniau neu mewn lleoliadau amlwg eraill. I’r fath raddau nes y credid bod rhai ohonynt yn darnodi gwahanol derfynau gwleidyddol a gweinyddol. Er enghraifft mae’r garnedd ym Moel Sych, sydd bron yn 830m o uchder ac sydd wedi’i lleoli ger blaen gogleddol Dyffryn Tanat, wedi dynodi’r fan lle y mae terfynau Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn a Sir Ddinbych yn cyfarfod ers iddynt gael eu creu gan y Ddeddf Uno ym 1536, ac yn ystod y canrifoedd cyn hynny mae’n debyg ei bod wedi dynodi’r fan lle y cyfarfu cymydau canoloesol Edeyrnion, Mochnant Is Rhaeadr a Mochnant Uwch Rhaeadr. Yn wir, mae’n bosibl bod carneddau cynhanesyddol mewn lleoliadau amlwg yn yr ucheldiroedd wedi’u defnyddio i ddynodi tiriogaethau gwahanol ers iddynt gael eu hadeiladu - gan y byddai’r weithred o gladdu olion hynafiaid y llwyth o fewn carnedd wedi helpu i nodi terfynau tiriogaeth yr oedd y llwyth hwnnw'n hawlio. Yn achos rhai o’r beddrodau a leolir yn yr iseldir mae’n glir bod patrwm gwahanol yn cael ei gynrychioli. Yn Banadla, i’r dwyrain o Langedwyn gellir gweld yn glir i fyny at bump neu chwech o ffosydd cylchog wedi’u gosod mewn sawl llinell. Efallai bod pob un o’r grwpiau’n cynrychioli claddfeydd gwahanol grwpiau llwythol, ac mewn rhai achosion mae’r ffaith iddynt gael eu gosod mewn llinellau yn dangos o bosibl iddynt gael eu gosod ar hyd terfyn neu ar hyd ymylon caeau, fel yr awgrymir gan dystiolaeth o ardaloedd eraill ym Mhowys. Ar wahân i’r ffaith eu bod yn bwysig ynddynt eu hunain, mae nifer o’r henebion angladdol a defodol hyn o’r cyfnod cynhanesyddol yn bwysig hefyd am eu bod yn cadw dyddodion megis arwynebau daear claddedig o dan feddrodau crynion a phriddoedd claddedig mewn ffosydd cylchog sy’n cynnwys tystiolaeth bwysig y gellir ei dyddio’n fanwl gywir yn ymwneud ag amgylchedd cynnar Dyffryn Tanat a hanes y defnydd a wneid o’i dir. Gweithgarwch angladdol a defodol ar ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol ac yn ystod y cyfnod Brython-Rufeinig
Nid yw’r ffaith nad oes tystiolaeth o weithgarwch angladdol yn Nyffryn Tanat yn ystod y cyfnod hwn yn anarferol o bell ffordd, gan nad oes fawr ddim tystiolaeth i’w chael unrhyw le arall o fewn yr ardal, ac o ganlyniad ymddengys bod beddrodau'r cyfnodau hyn ac yn wir feddrodau yr Oes Efydd ddiweddarach ar ffurf nas cynrychiolir yn y cofnod archeolegol. Tirweddau eglwysig
Gwyddys am bum eglwys ganoloesol yn Nyffryn Tanat – Dogfan Sant, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Cynog Sant, Llangynog a Santes Melangell, Pennant Melangell, Sant Garmon, Llanarmon Mynydd Mawr a Chedwyn Sant, Llangedwyn. Mae’r eglwysi yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llangynog a Phennant i gyd wedi’u lleoli o fewn trefgorddau sy’n dwyn yr enw Tre’r-llan – sef, mae’n debyg, y prif drefgordd o fewn pob un o’r plwyfi canoloesol, ond fel y nodwyd mewn man arall dim ond yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant y ceir tystiolaeth glir fod yr eglwys yn rhan o anheddiad cnewyllol canoloesol. Ar sail tystiolaeth y gwaith maen cerfluniedig sefydlwyd safle eglwysig yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant erbyn o leiaf y 9fed ganrif ar lan ogleddol Afon Rhaeadr. Mae’n amlwg ei bod yn eglwys bwysig yn gynnar yn ei hanes ac er mai ychydig sy'n hysbys am hanes cynnar y safle mae wedi’i leoli o fewn mynwent gromliniol fawr ac mae ganddi gysylltiadau â brenhinoedd ac mae’n cadw darnau o feddrod Romanésg sydd o bosibl wedi’i chysegru i’r nawddsant, sef Dogfan Sant. Yn yr un modd ceir olion beddrod Romanésg ym Mhennant Melangell. Fe’i sefydlwyd yn gynt nag eglwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant, tua’r 8fed ganrif o bosibl, ac fe’i cysylltir â chwedl Melangell. Er na ellir pennu dyddiad pendant i’r chwedl ac er ei bod yn hanesyddol annibynadwy, mae’r chwedl yn bwysig oherwydd y cwestiynau y mae’n eu codi am strwythur cynnar yr eglwys Gristnogol yn Nyffryn Tanat. Mae’r fersiwn ysgrifenedig cynharaf sydd wedi goroesi yn destun Lladin o ddechrau’r 16eg ganrif ond mae’n debyg ei fod yn seiliedig ar ffynonellau ysgrifenedig neu lafar sy’n dyddio yn ôl i’r 13eg ganrif o leiaf. Darlunnir y stori hefyd ar y groglen gerfiedig gywrain yn eglwys Santes Melangell sy’n dyddio o’r 15fed ganrif. Mae’r chwedl yn adrodd hanes Brochwel, tywysog Powys, a oedd yn hela mewn lle o’r enw Pennant pan ddaeth ar draws gwyryf hardd o’r enw Melangell (Monacella) mewn llwyn, ac yn cael lloches ym mhlygiadau ei sgerti roedd ysgyfarnog a oedd yn cael ei ddilyn gan gŵn y tywysog. Gofynnodd Brochwel iddi ym mha le yr oedd yn byw ac atebodd hithau ei bod wedi byw ar ei phen ei hun yn y diffeithwch hwn ers blynyddoedd lawer, ar ôl iddi ffoi o Iwerddon, ei gwlad enedigol, i ddianc rhag priodi uchelwr yr oedd ei thad, y brenin, am ei gorfodi i’w briodi. Rhoddodd Brochwel y tiroedd iddi yn noddfa am byth, a sefydlwyd lleiandy yno gan Melangell. Mae’r chwedl yn rhoi i ni nifer o ddelweddau symbolaidd cynnar a phwysig o’r dirwedd yr ymddengys eu bod yn rhan hanfodol o’r chwedl wreiddiol ac sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yng Nghwm Pennant – sef tiroedd hela’r brenin, y diffeithwch a’r goedwig (rubum guendam et spinosum). Mae’n bosibl mai’r goedwig a bortreadir gan y dail toreithiog mewn dull Celtaidd diweddar sy’n addurno’r beddrod Romanésg.Themâu eraill sy’n rhedeg drwy’r chwedl yw’r rhai sy’n ymwneud â noddfa a pharhad, h.y. lle sydd wedi’i osod ar wahân i’r byd fel lloches dragwyddol (perpetuum sit asylum). Saif yr eglwys ym Mhennant, fel eglwys Dogfan Sant yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, o fewn mynwent gromliniol gymharol fawr. Y gred yn draddodiadol yw bod y fynwent hon yn dynodi’r noddfa, ac mae hefyd yn cael ei hamgylchynu gan gylch o goed yw mawr a hen iawn. Mae’r rhannau cynharaf o’r eglwys sydd wedi goroesi yn dyddio o’r 12fed ganrif ac fe’u hadeiladwyd fel pererinfa ac i orchuddio beddrod Melangell, a hynny efallai o dan nawdd yr uchelwr Rhirid Flaidd a ddisgrifir yn un o englynion Cynddelw, bardd mwyaf Cymru yn ail hanner y 12fed ganrif, fel ‘Perchennog Pennant’ (Priodawr pennant pennaf). Mae Cynddelw hefyd yn cysylltu Rhirid â Dinmawr neu Foel Dimoel, y bryn amlwg ar ochr ddeheuol Cwm Pennant, bryn a gysylltir â chwedl Cawr Berwyn. Mae chwedl Melangell hefyd wedi’i gosod yn y dirwedd oddi amgylch – a gelwir sil carreg rai cannoedd o fedrau i’r de o’r eglwys a nodwyd yn gyntaf gan Thomas Pennant yn y 18fed ganrif ac yr arysgrifennwyd y geiriau ‘St Monacella’s Bed’ arni rywbryd tua diwedd y 19eg ganrif yn ôl pob tebyg yn Gwely Melangell. Mae’n debyg mai tarddiad gwerin sy’n gyfrifol am y cysylltiad hwn a’r tebyg yw bod yr enw’n tarddu o gae cyfagos o’r enw Cae Gwelu, sy’n cyfeirio at system Gymreig ganoloesol o ddal tir gan grðp teuluol. Daeth beddrod Melangell ym Mhennant yn ganolfan bwysig yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae’n amlwg o gerddi Guto’r Glyn ei bod yn denu, erbyn y 15fed ganrif, bererinion o hirbell a geisiai feddyginiaeth at eu salwch; ystyrid hefyd ei bod yn orffwysfan derfynol ar gyfer cyn bererinion. Yn ystod y cyfnod canoloesol ac ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr eglwys, fel mewn mannau eraill yng Nghymru, yn ganolbwynt pwysig ar gyfer y gymuned wledig wasgaredig a wasanaethid ganddi. Mewn cyfarfodydd a gynhelid yn festri’r eglwys trafodid gwahanol faterion yn ymwneud â’r plwyf, megis cynnal a chadw’r ffyrdd, prentisiaethau a gweinyddu’r cymorth a roddid i’r tlodion. Daeth y llan – gydag ystyr llan yma yn golygu’r ardal o amgylch yr eglwys yn ogystal â chlos yr eglwys – yn ganolfan ar gyfer amryw weithgareddau masnachol gan gynnwys gemau pêl, ffeiriau a gðyl flynyddol y mabsant. Mae gan y lawnt fach sydd ychydig y tu hwnt i borth y fynwent ym Mhennant Melangell syn perthyn i’r cyfnod megalithig dalwrn ceiliogod a buwyd yn defnyddio’r lawnt hyd at ddiwedd y 18fed ganrif o bosibl ar gyfer perfformiadau theatrig. Gyda thwf Piwritaniaeth yn ystod y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19eg ganrif rhoddwyd terfyn ar lawer o’r gweithgareddau hyn, a lleihaodd pwysigrwydd eglwys y plwyf fel canolbwynt o ganlyniad i symudiad o ran y boblogaeth a’r cynnydd yn nifer y capeli anghydffurfiol ledled y wlad. Mae llawer i’w ddysgu o hyd am dirwedd blwyfol gynnar Dyffryn Tanat. Roedd eglwysi'r plwyf eisoes yn bodoli erbyn canol y 13eg ganrif ym Mhennant Melangell, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Eglwys y clas neu fameglwys oedd Llanrhaeadr o dan reolaeth abad lleyg, a hyd efallai ryw adeg rhwng y 9fed ganrif a’r 11eg ganrif mae’n bosibl mai hi oedd y brif eglwys neu’r unig eglwys ym Mochnant, a hithau yn ganolbwynt plwyf eglwysig mawr oedd yn cyd-fynd â thiriogaeth y cantref. Erbyn diwedd y 13eg ganrif ac ar ôl i Fochnant gael ei isrannu yn ddau gwmwd cyfansoddol, eithriad prin oedd Llanrhaeadr o un plwyf yn cyd-fynd â chwmwd cyfan – sef Mochnant Is Rhaeadr. Yr adeg honno roedd yr eglwysi yn Llanarmon Mynydd Mawr a Llangedwyn yn gapeli (capellae) oedd yn ddibynnol ar Lanrhaeadr a dim ond yn ddiweddarach y daethant yn eglwysi plwyf annibynnol ohonynt eu hunain. Ymddengys fod y stori ym Mochnant Uwch Rhaeadr yn fwy cymhleth. Roedd rhan sylweddol o’r cwmwd yn rhan o blwyf Llanrhaeadr, ac roedd y gweddill ohono wedi’i rannu rhwng plwyfi Pennant Melangell a Llangynog, yn ogystal â Hirnant a Llanwddyn. Mae’n bosibl bod hyn yn adlewyrchu’r ffaith i ardal eglwysig fwy o faint oedd wedi’i seilio ar eglwys y clas yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant gael ei rhannu. Yn wir, mae yna awgrymiadau i eglwysi fel Santes Melangell ym Mhennant Melangell ddechrau o bosibl fel mynwentydd amgaeëdig yn unig, ac mai dim ond mor ddiweddar â’r 11eg ganrif neu’r 12fed ganrif y sefydlwyd eglwysi yno. Mae yna dystiolaeth bellach i awgrymu y gall hanes Pennant Melangell fod wedi bod yn fwy cymhleth byth, gan fod y fynwent Gristnogol gynnar fel pe bai wedi’i sefydlu uwchben mynwent baganaidd sy’n perthyn i ganol yr Oes Efydd. Ymddengys fod hyn yn brawf hynod o barhad o fewn y dirwedd. Safleoedd eraill â chysylltiadau eglwysig
Yn Nyffryn Tanat roedd gweithgarwch gan yr anghydffurfwyr cynnar yn gymharol fach a thystiolaeth sy'n dilyn y diwygiad Methodistaidd a welwyd ar ddechrau y 19eg ganrif yw'r dystiolaeth archeolegol o anghydffurfiaeth sydd wedi goroesi. Mae’n cynnwys llawer o gapeli sy’n perthyn yn bennaf i’r Methodistiaid Wesleaidd, y Methodistiaid Calfinaidd, a’r Annibynwyr. Fel mewn mannau eraill yng Nghymru mae dwy duedd yn amlwg o ran dosbarthiad y capeli anghydffurfiol o fewn y dirwedd. Yn gyntaf, codwyd capeli yn y nifer gymharol fach o aneddiadau cnewyllol sef Llangynog, Pen-y-bont Fawr a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Yn ail, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr addoldai yng nghefn gwlad ar y tir uwch i ffwrdd o lawr y dyffrynnoedd, fel arfer heb fod yn fwy na 2-3km oddi wrth ei gilydd. Mae hyn yn cynrychioli proses a arweiniodd at wneud sylw cyffredin mewn perthynas â’r gororau bod ‘poblogaeth yr ucheldiroedd yn gynulliedfa o Anghydffurfwyr yn hytrach nag o Eglwyswyr’. |