CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Tanat


TIRWEDDAU A AMDDIFFYNNWYD

Ceir tri grŵp o gloddweithiau amddiffynnol sy’n perthyn i gyfnodau gwahanol iawn o fewn Dyffryn Tanat - bryngaerydd cynhanesyddol diweddarach, tiroedd amgaeëdig a amddiffynnid ar batrwm rhai’r Oes Haearn a rhai Brython-Rufeinig, a chestyll cloddwaith canoloesol. Mae arwyddocâd yr henebion hyn o fewn y dirwedd yn swyddogaethol a symbolaidd, ac mae rhai ohonynt wedi’u lleoli’n ddigon amlwg fel eu bod yn rhannau mawr o ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol eu hunain, o ystyried cefndir tirwedd hanfodol.

Bryngaerydd cynhanesyddol diweddarach
Ceir dwy fryngaer fawr o fewn Dyffryn Tanat – bryngaer Craig Rhiwarth a bryngaer Llwyn Bryn-dinas. Mae bryngaer Craig Rhiwarth, a amddiffynnir gan un rhagfur carreg, ar y graig fawr ac ymwthiol ar ymyl deheuol mynyddoedd y Berwyn, sy’n edrych dros Langynog, tuag at ben gorllewinol Dyffryn Tanat. Prin yw’r cloddio a wnaed o fewn y fryngaer ac o ganlyniad nid oes llawer yn hysbys am ei hanes. Mae’r tu mewn i’r fryngaer yn unigryw yn y rhanbarth gan ei fod yn cynnwys nifer fawr o adeiladweithiau carreg crwn a ymddengys fel pe baent yn cynrychioli tai cynhanesyddol diweddar. Awgryma cymariaethau cyffredinol gyda Llwyn Bryn-dinas a bryngaerydd eraill yn y rhanbarth y gallai’r anheddiad fod wedi dechrau yn y cyfnod Efydd diweddar a’i fod o bosibl wedi parhau i’r Oes Haearn. Awgrymwyd mai un o swyddogaethau’r fryngaer efallai oedd rheoli adnoddau copr yn debyg o bosibl i’r fryngaer yn Llanymynech, i’r dwyrain o Ddyffryn Tanat. Mae’n bosibl mai cloddio cynhanesyddol oedd yn gyfrifol am yr agoriadau cynnar ar ochr ddeheuol y bryn, uwchben Llangynog.

Amddiffynir bryngaer Llwyn Bryn-dinas gan un rhagfur carreg, sy’n amgáu ardal o ychydig dros 3 hectar ar gopa’r bryn pigfain nodedig, ger y fan lle y mae’r dyffryn yn culhau, ychydig i’r dwyrain o Langedwyn. Mae cloddio ar raddfa fach ar y fryngaer wedi arwyddo ei bod wedi’i hamddiffyn gan ragfur carreg trawiadol a godwyd yn ddiweddarach yn yr Oes Efydd, yn y cyfnod rhwng 1100-800 CC. Ceir tystiolaeth hefyd fod y fryngaer yn breswylfan yn ystod yr Oes Haearn, yn y cyfnod rhwng tua 400-0 CC, a cheir tystiolaeth fod technoleg aloi haearn a chopr yn cael ei ddatblygu ar yr adeg honno, a’r ail gan ddefnyddio o bosibl fath nodedig o fwyn copr a allai fod wedi’i gloddio yn Llanymynech. Ymddengys na ddefnyddiwyd y bryngaerydd yn y rhanbarth fel aneddiadau a amddiffynwyd ar ôl y goresgyniad Rhufeinig ar ddiwedd y ganrif gyntaf OC.

Ni cheir unrhyw dystiolaeth bendant fod y naill fryngaer na’r llall yn cynrychioli aneddiadau parhaol a fu’n breswylfannau am gyfnodau hir iawn. Mae’n bosibl fod y ddau ohonynt wedi’u codi neu wedi bod yn breswylfannau er mwyn diogelwch neu er mwyn rheoli adnoddau mewn ymateb i argyfyngau tymor byr neu drefniadau argyfwng ar adegau arbennig o aflonyddwch, ac nid oes unrhyw sicrwydd fod y ddwy’n gyfoes. Mae’n debygol iddynt gael eu codi gan grwpiau llwythol gwahanol o dan awdurdod elît milwrol a’u bod yn cynrychioli un elfen yn unig o’r patrwm anheddiad cyfoes, y cynrychiolir rhannau ohono gan y tiroedd amgaeëdig a nodir isod.

Tiroedd amgaeëdig a amddiffynnid ar batrwm rhai’r Oes Haearn a rhai Brython-Rufeinig
Gwyddys am bum ffos amgaeëdig sengl neu ddwbl yn Nyffryn Tanat sy’n perthyn i fathau yr ystyrir yn gyffredinol eu bod yn dyddio o gyfnod cynhanesyddol diweddarach neu gyfnod Brython-Rufeinig, er bod yna bosibilrwydd y gallai rhai o’r safleoedd ddyddio o gyfnod Neolithig hyd yr Oes Efydd neu hyd yn oed o ddyddiad canoloesol cynnar. Safleoedd olion cnydau yw pedwar o’r safleoedd tiroedd amgaeëdig. Fe’u gwelwyd mewn ffotograffau a dynnwyd o’r awyr ac ni ellir eu gweld mwyach ond o’r awyr. Mae’n debygol fod safleoedd eraill o’r math hwn yn dal heb eu canfod. Saif yr holl safleoedd naill ai ar y llechweddau is neu ar waelod y dyffryn. Saif un o’r safleoedd, Plas Uchaf, ar fryncyn isel ar odre Llwyn Bryn-dinas ac mae olion llethrau a godwyd yn sgîl cloddio’r ffosydd amgaeëdig yn dal i fod yn weladwy yma, sy’n gwneud iddo edrych fel bryngaer fach. Mwy na thebyg fod y pridd o’r olion cnydau amgaeëdig wedi creu’r cloddiau amgáu a fwriadwyd i ddarparu ychydig o amddiffyniad ar gyfer adeiladau, eiddo a stoc a gedwid o fewn y tir amgaeëdig. Mae cloddio mewn mannau eraill o fewn y rhanbarth wedi dangos bod tiroedd amgaeëdig o’r math hwn yn debygol o gynrychioli ffermydd yr oedd grwpiau teuluol estynedig yn byw ynddynt, pobl oedd yn elitaidd yn gymdeithasol ac yn gysylltiedig ag economi âr cymysg a bugeiliol.

Cestyll cloddwaith
Ceir tri mwnt pendant ac un mwnt posibl yn Nyffryn Tanat – Tomen Cefn Glaniwrch, Tomen y Maerdy, Tomen Cefn-coch, ac o bosibl Castellmoch, er nad oes llawer o dystiolaeth ffisegol o’r diwethaf. Mae’r safleoedd yn rhan o’r casgliad o gestyll pren a adeiladwyd ar ffin Cymru ar ôl y Goresgyniad Normanaidd, yn y cyfnod rhwng tua 1100-1300 O.C. Nid oes llawer yn hysbys am hanes y safleoedd hyn yn Nyffryn Tanat, ond gellir lloffa ychydig oddi wrth eu lleoliad a’u ffurf, ac oddi wrth dystiolaeth enwau lleoedd.

Roedd Dyffryn Tanat yn ymestyn y tu hwnt i arglwyddiaethau’r Mers tan yr 1280au ac mae’n bosibl y gallai pob mwnt fod wedi’i adeiladu gan arglwyddi brodorol ychydig cyn rhannu Mochnant ym 1116 neu’n fuan wedi hynny. Roedd dau fwnt o fewn cwmwd Mochnant Is Rhaeadr a dau o fewn Mochnant Uwch Rhaeadr. Ceir awgrymiadau eraill o baru bwriadol. Mae’r holl safleoedd hyn tua’r un mor bell oddi wrth ffin y ddau gwmwd, ac yn y ddau achos mae un wedi’i leoli ar waelod y dyffryn, gerllaw’r Tanat, ac mae’r parau sydd ar ucheldir i’r gogledd rhwng 1.5-1.8km i’r gogledd. Fodd bynnag nid yw’r patrymu a welir yma yn amlwg mewn mannau eraill, ac felly mae’n ansicr faint y gellir ei ragdybio ar sail hynny.

Fel y nodir uchod, prin yw’r dystiolaeth sydd wedi goroesi o ffurf wreiddiol Castell Moch. Yn achos Tomen y Maerdy, y mwnt cyfatebol ger glannau’r Tanat, mae peth olion o feili allanol yn bosibl, er nad yw’n amlwg weladwy heddiw, I gyferbynnu â hynny, ymddengys fod y myntiau mawr yn Nhomen Cefn Coch a Thomen Cefn Glaniwrch heb feili cysylltiol. Yn annhebyg i Gastell Moch a Thomen y Maerdy mae’r ddau ohonynt wedi’u lleoli mewn mannau amlwg, gyda golygfeydd eang o’r dyffryn—i’r graddau y ceir un o’r golygfeydd mwyaf cynhwysfawr o’r dyffryn cyfan o Domen Cefn Coch. I'r graddau hyn, mae’r ddau fwnt yn edrych fel cadarnleoedd neu dyrau gwylio ar gyfer y ddau fwnt islaw. Yn wreiddiol byddai pob mwnt wedi’u hamgylchynu gan dramwyfa dros ffos eang, sef pont bren, gyda phalis pren yn goron iddi, a thŵr ac/neu adeiladau eraill oedd yn addas ar gyfer lletya neu amddiffyn llu bach ar adeg argyfwng yn gysylltiedig. Gan eu bod yn gostus i’w hadeiladu byddent yn ddi-os yn cynrychioli symbolaidd o bŵer, cyfoeth ac awdurdod yr arglwydd, a oedd yn parhau i fod yn amlwg ar ddiwedd y 14eg ganrif, ac a grisialwyd yn nisgrifiad Iolo Goch o gartref Owain Glyn Dŵr yn Sycharth, ychydig filltiroedd i’r dwyrain.

Gallai Castell Moch a Thomen y Maerdy fod yn brif fyntiau o fewn eu cymydau, y naill a’r llall yn gysylltiedig â llys yr arglwydd hyd yn oed cyn rhannu Mochnant, ac felly’n ganolfannau gweinyddiaeth sifil a chyfiawnder o fewn bob cwmwd. Mae’n bosibl mai Castell Moch – neu Gastell Mochnant – yw’r hynaf o’r ddau ac o bosibl yn ganolfan ffiwdal neu ganolfan pŵer y cwmwd cyn ei rannu. Yn wir, gallai’r enw ‘Maerdy’ ddangos fod tŷ stiward yr arglwydd (sef y maer) ac un o brif swyddogion y cwmwd ger y safle neu’n agos ato. Ni cheir unrhyw dystiolaeth fod arglwyddiaeth y Mers yn y Waun erioed wedi’i weinyddu gan swyddogion yn dwyn enw’r maer, a gallai hynny naill ai gadarnhau bod y mwnt wedi’i adeiladu cyn yr 1280au neu fod y maer y cyfeiriwyd ato yn swydd is, sef maer demên yr arglwydd.

Byddai pob mwnt wedi’i leoli o fewn demên neu ddaliad personol yr arglwydd, ond ni cheir unrhyw dystiolaeth glir bod unrhyw fwnt yn cynrychioli ffocws ar gyfer anheddiad cnewyllol mewn unrhyw gyfnod, ac yn wir ymddengys hynny’n annhebygol – gan fod Castell Moch wedi’i leoli ar dir wedi’i ddraenio’n wael ar ymyl y Tanat a Thomen y Maerdy wedi’i chuddio o’r golwg ar waelod dyfnant cul, heb unrhyw ffermdir da yn y cyffiniau cyfagos, a’r ddau fwnt atodol ar dir uchel ac o bosibl heb ei amgáu. Felly, mae’r dystiolaeth y mae’r myntiau’n eu darparu am yr aneddiadau’n gyfyngedig. Yn benodol, ni cheir unrhyw dystiolaeth glir eu bod yn uniongyrchol gysylltiedig â maerdrefi brodorol a oedd, fwy na thebyg, yn bodoli o fewn pob cwmwd. Byddai unrhyw swyddogaethau gweinyddol y byddai’r ddau fwnt yn Nhomen Mochnant Is Rhaeadr (Cefn Glaniwrch a Thomen y Maerdy) wedi meddu arnynt yn siwr o fod wedi cael eu trosglwyddo i Lanrhaeadr-ym-Mochnant wrth iddo ddatblygu’n dref farchnad yn y 13eg ganrif.

Roedd pwysigrwydd y ddau brif fwnt bron yn bendant wedi dechrau dirywio erbyn diwedd y 13eg ganrif ar yr hwyraf, sef yr adeg pan dderbyniodd Llanrhaeadr-ym-Mochnant ei siartr marchnad a phan fyddai wedi datblygu’n ganolfan gweinyddol Mochnant Is Rhaeadr.