CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Tanat

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Tanat


TIRWEDDAU AMAETHYDDOL

Fel yn achos llawer o dir ar ffin Cymru, seiliwyd economi amaethyddol modern Dyffryn Tanat ar nifer o elfennau sylfaenol a dibynnol, sy’n hawdd eu hadnabod o fewn y dirwedd – porfeydd heb eu hamgáu yn yr ucheldir a’r porfeydd amgaeëdig a’r porfeydd âr yn yr iseldir.  Heddiw mae’r cynhyrchiant âr yn gymharol fach er bod cnydau porthi yn dal i fod yn hanfodol ar gyfer treulio’r gaeaf.  Dechreuodd y patrwm hwn o ddefnydd tir erbyn diwedd y 14eg a’r 15fed ganrif, fwy na thebyg, gyda diflaniad y system ganoloesol Gymreig o ddaliadau llwythol – y gwelau a’r gafaelion – wrth i'r gwaith o amgáu ac uno'r dailiadau greu tirwedd yn y pendraw o ffermydd gwasgaredig yn cynnwys dosbarth o weithwyr gwerinol a boneddigion llai.  Cafodd traddodiadau etifeddu canoloesol effaith sylweddol ar y dirwedd, gyda’r system o gyfran neu rannu rhwng pob etifedd gwrywaidd yn peri amgáu ffriddoedd o amgylch yr hen ganolfannau llwythol, proses a ddisodlwyd yn ddiweddarach gan bwysau poblogaeth.  Fodd bynnag, nid yw hen draddodiadau’n cilio’n hawdd, ac mor hwyr â thua 1560 fe wnaeth Maurice ap Meredith osgoi’r arferiad Tuduraidd o gyntafanedigaeth drwy rannu ystad fach Lloran-uchaf yng nghornel gogledd-ddwyreinol Dyffryn Tanat ymhlith ei wyth mab a oroesodd.  Yn ystod y 17eg a’r 18fed ganrif datblygwyd ystadau mawr, ac roedd perchenogion tiroedd mawr yn Nyffryn Tanat yn cynnwys teulu Herbert o Gastell Powys a’r Williams-Wynn o Wynnstay.  Gwnaed gwelliannau mawr o ran arferion amaethyddol a gwelwyd sefydlu daliadau llai a bythynnod i ffermwyr defaid yn ystod y blynyddoedd o ‘brinder tir’ ar ddiwedd y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19eg ganrif.  Yn sgîl dirwasgiad amaethyddol diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif cefnwyd ar rai daliadau bach ar y tir mwy ymylol, ac ar ddechrau’r 20fed ganrif rhannwyd nifer o ystadau a chynyddwyd nifer y perchenogion a oedd yn byw ynddynt.

Mae’n debyg ei fod yn arwyddocaol yn y rhan hon o Ddyffryn Tanat fod trawsnewidiad sydyn yma rhwng llawr y dyffryn a chopa’r mynydd.  Pan oedd y tir amaethyddol cyfyngedig ar lawr y dyffrynnoedd cyffiniol wedi ei ddefnyddio’n llawn, yn ystod y cyfnod canoloesol fwy na thebyg, byddai wedi bod yn angenrheidiol ymestyn at gopa’r mynydd er mwyn cael gafael ar fwy o dir amaethyddol gan mor serth oedd ochrau'r dyffrynnoedd.  Mae sefyllfa wahanol i’w gweld yn rhannau dwyreiniol Dyffryn Tanat, lle mae’r trawsnewidiad rhwng gwaelod y dyffryn a chopa’r mynydd yn llai dramatig a lle’r oedd clytiau o diroedd mwy ymylol yn parhau i gael eu defnyddio o amgylch ymylon agos y tir amgaeëdig yn ystod rhan helaeth o’r 19eg ganrif.  Mae maint y comin ucheldir a geir heddiw yn Nyffryn Tanat yn cynrychioli cyfran fach o’r tiroedd gwastraff a’r tiroedd comin heb eu hamgáu a oroesai mor ddiweddar â dechrau’r 19eg ganrif, fel y dangosir ar y map degwm, ac mae’n glir fod y waliau’n parhau i gael eu hadeiladu a bod gwrychoedd yn cael eu plannu yn ystod diwedd y 19eg ganrif.

Tiroedd comin uchel
Fel mewn nifer o fannau yng Nghymru, mae’r defnydd o borfeydd y tiroedd comin uchel dros yr haf wedi bod yn rhan bwysig a chanolog o’r economi gwledig yn Nyffryn Tanat ers sawl canrif ac wedi gwella potensial economaidd y ffermydd o faint cymedrol ar yr iseldir, rhywbeth sydd o bwys arbennig o ran hwsmonaeth gwartheg.  Roedd y trawstrefa, neu ymfudo tymhorol, o’r hendre/hendref neu fferm barhaol ar yr iseldir at yr hafod/hafoty neu’r annedd ar yr ucheldir yn ystod yr haf (haf + bod, sef annedd neu dŷ) hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y cylch amaethyddol blynyddol drwy gadw anifeiliaid oddi ar y dolydd âr a silwair cyffredin yn yr iseldir.  Byddai cyswllt rheolaidd wedi’i gynnal gyda’r hendref drwy gydol misoedd yr haf, drwy fynd â chynnyrch llaeth gartref, a thorri mawn.  Mae’n dra thebygol fod y trawstrefa yn Nyffryn Tanat yn dyddio o gyfnod cynharaf amaethyddiaeth sefydlog, ac wedi dechrau’n lleol, fwy na  thebyg, yn ystod y cyfnod Neolithig.  Yn wir, gwnaed awgrymiadau mewn mannau eraill ym Mhrydain, fod ei wreiddiau yn arferion grwpiau hela a chasglu yn ystod y cyfnod Rhewlifol Diweddar a’r cyfnod Ôl-Rewlifol cynnar, grwpiau a ddilynai drywydd gyrroedd o lysysorion fel elc a cheirw a oedd yn ymfudo i’r ucheldiroedd er mwyn bwydo ar y porfeydd dros yr haf.  Gallai presenoldeb carneddau claddu amlwg o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar ar yr ucheldir hefyd fod yn gysylltiedig â defnydd tymhorol o borfa’r ucheldir yn hytrach na thrwy gydol y flwyddyn.

Erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar o leiaf rhoddwyd pris mawr ar hawliau comin, ar sail y nifer o dda byw y gellid eu cadw ar yr hendref yn ystod y gaeaf.  Erbyn y 18fed ganrif roedd y ‘dogn’ neu ddosraniad o anifeiliaid y caniateid i’r ffermwyr eu rhoi i bori ar y tiroedd comin yn gyffredinol yn gymesur â maint y fferm ar yr iseldir, gan bwysleisio’r hen gyswllt hanfodol rhwng y porfeydd ar yr ucheldir a’r ffermydd ar yr iseldir.  Mae’n debygol fod trawstrefa’n arferiad hynafol yn Nyffryn Tanat, ond hyd yma prin iawn yw’r dystiolaeth ohono ar wahân i dystiolaeth a geir mewn enwau lleoedd.  Yn gyffredinol dim ond dangos maint y tir a amgaewyd a wna’r mapiau degwm, er y gellir gweld ambell hafod ar ymylon yr ucheldiroedd lle’r oedd wedi’i hamgáu gan orgyffyrddiad darniog y tiroedd comin uchel a wnaed yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif.  Cofnodwyd y rhan fwyaf o ucheldiroedd Dyffryn Tanat ar rifyn cyntaf mapiau perthnasol 6 modfedd yr Arolwg Ordnans, a gyhoeddwyd rhwng 1879-92.  Y mapiau hyn, a gyhoeddwyd dros ganrif a mwy ar ôl i nifer o’r hafodydd gael eu hesgeuluso, yw’r cofnod cyntaf o’r rhan fwyaf o enwau lleoedd yn ucheldiroedd Dyffryn Tanat.  Mae’r nifer gymharol fach o enwau hafodydd a gofnodwyd ar y map degwm ac ar rifyn cyntaf Arolwg Ordnans 6 modfedd i’w canfod yn bennaf ar ymylon tiroedd amgaeëdig ac mae’n debygol fod enwau lleol tebyg eraill o fewn yr ardaloedd o rostir uchel bellach wedi mynd yn angof.

Mae'n ddiddorol gweld y gellir cysylltu enw un o’r hafodydd prin a oroesodd yn uniongyrchol â hendref amlwg neu fferm ar yr iseldir.  Mae’n amlwg fod Hafoty Arllen-fawr ar uchder o 450m ar y rhostir i’r de-orllewin o Bennant Melangell yn dŷ haf Arllen-fawr, sef fferm ar lawr y dyffryn ger Pen-y-bont Fawr tua 9km i’r gogledd-ddwyrain, y gellir ei olrhain o leiaf at ail hanner y 16eg ganrif.  Roedd yr hwylan neu’r gilffordd yn ffordd hanfodol o gysylltu’r ffermydd ar yr iseldir â’r tiroedd comin uchel.  Peth arall diddorol yw fod hendre a hafod Arllen-fawr wedi'u cysylltu â ffordd gyhoeddus ac yna gan lwybr a elwir yn Ffordd Gefn, sef un o nifer fach o’r prif drywyddau sy’n cysylltu ffermydd y dyffryn gyda’r ucheldiroedd yn y gorllewin.  Gellir olrhain yr enw lle Hafoty Arllen-fawr i rifyn 1af yr Arolwg Ordnans 6 modfedd, a gyhoeddwyd yn 1890, ac mae’n dal i ymddangos ar fapiau modern.  Roedd yr un enw, ond ar ffurf Garthgelynen-fawr, yn enw ar un o brif drefgorddau plwyf Pennant Melangell, ac mae'n bosibl fod y fferm a’i gysylltiadau gyda hafod ar yr ucheldir yn dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar.  Heddiw, mae Hafoty Arllen-fawr yn grŵp o gorlannau defaid, ond mae gwaith maes diweddar wedi awgrymu bod olion waliau cynharach gerllaw’r gorlan ddefaid yn ogystal â nifer o lwyfannau adeiladau eraill ac o bosibl hafodydd eraill a esgeuluswyd yn y cyffiniau.  Gellir gweld sefyllfa debyg yn Hafoty Cedig, sef grŵp pellach o gorlannau defaid i’r gorllewin.  Mae olion nifer o hafodydd eraill wedi’u nodi yn y cyffiniau, ond yn sgîl prinder gwaith maes systematig mewn mannau eraill ar ucheldiroedd Dyffryn Tanat nid oes gwybodaeth drylwyr am wasgariad yr hafodydd posibl ar gael.

Corlannau defaid yw’r adeiladweithiau ffermio hanesyddol amlycaf sy’n weladwy yn yr ucheldiroedd.  Mae eu gwasgariad yn gyffredinol yn ymylol i’r tiroedd comin ac maent yn bwysig o ran dangos trywydd arferol mynediad at gopa’r mynydd.  Mae’r mwyafrif o'r corlannau defaid, fwy na thebyg, yn perthyn i ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ac yn cyd‑fynd â chynnydd ym mhwysigrwydd ffermio defaid yn ystod y cyfnod hwn.  Dangosir y rhan fwyaf o'r corlannau defaid sy’n bodoli heddiw ar rifyn cyntaf Arolwg Ordnans 6 modfedd, a gyhoeddwyd rhwng 1879-92, er bod nifer ohonynt yn edrych fel pe baent yn ymddangos gyntaf ar fapiau a gyhoeddwyd ar ddechrau’r 20fed ganrif.  Ceir tystiolaeth bod rhai corlannau defaid wedi’u hadeiladu mewn cyfnodau gwahanol, ac fel y gwelsom, mae’n bosibl fod rhai ohonynt yn gorgyffwrdd â’r hafodydd cynnar.

Gallai nifer o elfennau eraill enwau lleoedd sy'n ymddangos yn llai amlwg yn lleol fod ag ystyron tebyg i hafod, ond na fu ymchwilio llawn i'w bodolaeth o fewn Dyffryn Tanat.  Mae’r elfen yn yr enw lle meifod (annedd ym mis Mai) yn ymddangos yn yr enw Gwernfeifod, sef fferm ar uchder o 380 metr ychydig i’r gogledd o Gwm Blowty, er bod dau gae cysylltiedig wedi’u henwi’n Gwern Hendre a Buarth yr Hendre ar y degwm.  Ymddengys Lluest (caban) yn achlysurol, er ei fod yn llai amlwg mewn rhannau eraill o Gymru.  Mae’r enw lle ‘Lluest yn Hafod-y-maen’ a gofnodwyd yn 1636 ym mhlwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn cysylltu ystyr lluest gyda hafod.  Mae bwthyn yn elfen bellach mewn enw lle a allai fod yn berthnasol yma.

Gwnaed newidiadau amrywiol o leiaf ers yr 17eg ganrif a berodd ddirywiad mewn ymfudo dros yr haf drwy gydol gogledd Cymru erbyn diwedd y 18fed ganrif.  Yn gyntaf, roedd pwysigrwydd cynyddol ffermio defaid ar draul gwartheg godro yn golygu bod llai o angen am oruchwylio anifeiliaid a oedd yn pori ar yr ucheldir yn ddyddiol.  Datblygodd ffermio defaid mor bwysig fel bod y teithiwr, John Ailkin, wedi honni yn 1800 fod ‘cyfoeth Sir Fynwy’n deillio o’i ddefaid a’i wlân a’r gwlanenni a brethyn garw eraill a wnaed ohono’.  Yn ail, yn sgîl cynnydd yng ngorgyffyrddiad y tiroedd roedd nifer o dai haf ar ymylon tiroedd comin ar yr ucheldir yn cael eu haddasu’n ffermydd parhaol, lle yr oedd pobl yn preswylio ynddynt drwy gydol y flwyddyn.

Ni chadwyd dogfennaeth effeithiol ynghylch pa mor gyflym y câi tiroedd eu hamgáu a ddigwyddodd yn ystod y 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, ond mae Rhestr Rhaniadau Degwm 1841 ar gyfer Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn rhoi manylion am dros 2,200 o erwau o dir comin a amgaewyd yn answyddogol yn yr 20 mlynedd blaenorol.   O leiaf erbyn y 18fed ganrif roedd Sir Fynwy yn enwog am fagu ‘ceffylau gwyllt ar y bryn’.  Yn draddodiadol gwerthwyd merlod gynhenid bach a fagwyd ar fynyddoedd y Berwyn yn y ffeiriau anifeiliaid a gynhelid ym mis Gorffennaf a mis Tachwedd yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ond roedd hyn yn dod i ben erbyn diwedd y 19eg ganrif yn sgîl amgáu tir.  Ymddengys fod y broses o amgáu ucheldir ers yr 17eg ganrif yn un o dri phrif ddull: clytiau o dir comin gerllaw ffermdir amgaeëdig a oedd yn bodoli eisoes; caeau amgaeëdig ynysig yn amgylchynu hafod ar yr ucheldir a ddefnyddiwyd wedyn at ddibenion preswylio drwy gydol y flwyddyn; a gorgyffwrdd tiroedd ffermwyr defaid ar raddfa fach yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif.  Roedd daliad ym mhlwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar dir mor uchel fel nad oedd ei ddisgrifio fel ‘tir yn agos at y nefoedd’ yn hollol anaddas.  Roedd traddodiad o godi tŷ dros nos (tŷ unnos) a hawlio perchenogaeth ar y tir o’i amgylch, arferiad y tybid ei fod yn gyfreithiol, wedi diflannu erbyn dechrau’r 19eg ganrif, ac ni cheir unrhyw dystiolaeth sylweddol ohono yn Nyffryn Tanat.  Dim ond un enghraifft sydd ohono fel enw lle, sef ‘Cae unnos’ yn nhrefgordd Glanafon ym mhlwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant.

Amgáu’r Iseldir
Yn gyffelyb i dystiolaeth anheddiad mae’r dystiolaeth gynhwysfawr gynharaf o ffiniau caeau yn gymharol hwyr o ran dyddiad, sef y dystiolaeth honno a ddarperir ar fapiau degwm y 1830au a’r 1840au.  Mae’n bosibl adnabod rhai o’r prosesau a ffurfiodd y dirwedd hon yng nghanol y 19eg ganrif, ond mae dadansoddiad manwl a dehongliad o hynny a’r patrwm caeau presennol y tu hwnt i gwmpas yr astudiaeth hon.

Mae astudiaeth o’r dystiolaeth anheddiad uchod yn awgrymu bod y dirwedd o ganol y 19eg ganrif yn cynrychioli uno prosesau amrywiol a osodwyd ar ben ei gilydd.  Yn gyntaf, ymddengys fod ffermydd mwy ar yr iseldiroedd, yn aml mewn grwpiau o ddau neu dri ac yn benthyg eu henwau i’r trefgorddau creiddiol hŷn, a gododd mae’n debyg yn ystod y cyfnod canoloesol diweddar drwy broses o atgyfnerthu ac uno daliadau tir a rannwyd gan deuluoedd estynedig neu grwpiau llwythol.  Yn ail, mae’r ffermydd llai, y gellir eu dyddio weithiau yn sgîl yr adeiladau ffrâm nenfforch neu ffrâm flwch, sy’n cynrychioli cyfnod ehangu ffermio ar dir llai ffafriol rhwng diwedd y 15fed ganrif a’r 17eg ganrif.  Yn drydydd, roedd gorgyffyrddiad tiroedd i gynnwys y tiroedd comin uchel mewn ardaloedd penodol yn sgîl codi bythynnod a thyddynnod yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif.

Gellir adnabod enghreifftiau clir o’r prosesau hyn ym mhatrymau caeau heddiw o fewn Dyffryn Tanat.  Gellir adnabod olion caeau âr agored canoloesol mewn nifer o leoedd, er enghraifft yng Nghwm Pennant a Chwm Rhiwarth.  Fe'u cynrychiolir gan ardaloedd o gaeau stribed amlberchnogaeth.  Mae’r ddau gae agored hyn yn fach iawn, yn llai na 5-10 erw o faint, ac mae’n debygol mai’r unig reswm iddynt oroesi yw oherwydd eu bod wedi'u hynysu'n gymharol ar ymylon yr ardal anheddiad.  Astudiwyd patrwm bron yn union debyg mewn cefndir tebyg ym Mhennant, i’r de o Landrillo a oedd hefyd, ar adeg y degwm, wedi’i amgylchynu gan grŵp o dair neu bedair fferm.  Collwyd yn gyffredinol dystiolaeth gyffelyb, mae'n debyg, mewn mannau eraill o fewn Dyffryn Tanat o ganlyniad i uno ac atgyfnerthu daliadau tir yn ystod diwedd y cyfnod canoloesol, er bod rhywfaint o arwydd o’i gyffredinolrwydd yn ymddangos mewn enwau caeau.  Enwir y stribedi yng nghaeau agored Cwm Llech a Chwm Rhiwarth naill ai’n lleiniau neu'n faes yn y rhestr rhaniadau degwm – ac mae’r ddau enw’n arwyddo âr agored o’r math hwn.  Mae dosbarthiad enwau caeau sy'n cynnwys maes o fewn Dyffryn Tanat yn arwyddo lleoliad rhai o’r ardaloedd âr agored ar bridd gwell o fewn pob trefgordd.  Ymddengys fod y patrwm sylfaenol hwn wedi’i ystumio yng nghyffiniau Llanrhaeadr-ym-Mochnant, gyda chasgliad o enwau lleoedd a chaeau yn cynnwys maes i’r de-ddwyrain o’r dref, yn ardal Maes Mochnant, sydd fwy na thebyg yn cynrychioli ‘caeau’r dref’ a oedd yn perthyn i anheddiad y farchnad.  Ceir cyfoeth o dystiolaeth o enwau caeau eraill yn ymwneud â defnydd tir yn Nyffryn Tanat, gan gynnwys nifer o gyfeiriadau at adeiladweithiau nad ydynt bellach yn weladwy megis odyn mewn cae, ar gyfer sychu ŷd, mae'n debyg.

Mae tystiolaeth o fannau eraill yn awgrymu bod y systemau Cymreig o dirddaliadaeth yn dechrau dirywio yn ystod y 14eg ganrif ac erbyn y 15fed ganrif a dechrau’r 16eg ganrif bod patrwm o ffermydd annibynnol wedi dod i’r amlwg drwy atgyfnerthu ac uno tiroedd a rannwyd.  Fel y nodwyd mewn adran gynharach roedd patrwm anheddiad o dyddynnod wedi datblygu erbyn diwedd y cyfnod canoloesol diweddar o ffermydd gwasgaredig nodweddiadol a leolwyd ar ymyl y dyffryn, ychydig islaw ymylon y ffriddoedd amgaeëdig neu’r ucheldir heb ei amgáu.  Ymddengys fod y rhan fwyaf o’r patrwm cyffredinol hwn wedi goroesi i ganol y 19eg ganrif er ei fod, i raddau amrywiol, wedi’i ddisodli gan gynnydd yn y tiroedd comin uchel a amgaewyd o leiaf ers dechrau’r 18fed ganrif fwy na thebyg.  Effeithiodd hyn hefyd ar y gweirgloddiau neu’r caeau ŷd, a oedd yn draddodiadol, fel y tir âr, heb eu hamgáu a’u rhannu’n stribedi.  Yn Nyffryn Tanat lleolwyd prif ardaloedd y ddôl ar y tir mwy gwlyb o boptu’r afonydd a’r nentydd, ac unwaith eto parhaodd y gwaith o amgáu’r tir hwn yn y 19eg ganrif.

Dyma’r patrwm amlycaf a welir yn Nyffryn Tanat ar y mapiau degwm a luniwyd yn y 1830au a’r 1840au – roedd y rhan fwyaf o’r iseldir wedi’i amgáu eisoes, a sefydlwyd ffermydd annibynnol o fewn eu caeau âr a'u dolydd eu hunain.  Fodd bynnag, roedd tirwedd yr ucheldir ymylol yn amlwg yn parhau i fod mewn cyflwr cymharol ddeinamig bryd hynny.  Fel a nodwyd uchod, roedd y gorgyffyrddiadau ar sawl ffurf, a oedd yn aml ar ben ei gilydd, a gellir nodi nifer o enghreifftiau yn Nyffryn Tanat.  Yng Nghwm Glan-hafon ceir sawl clwt bach ynysig o gomin sydd, fwy na thebyg, yn cynrychioli tyddynnod a oedd yn berchen i fwyngloddwyr neu chwarelwyr, gyda phatrwm tebyg yn amlwg ger Tyn-y-graig, ar ben gorllewinol Craig Orllwyn.  Mewn mannau eraill, yn arbennig ger Mynydd-y-briw a Chefn-coch, ffurfiwyd nodweddion y tirweddau sy’n cynnwys bythynnod agos a chaeau bach gan orgyffyrddiadau darniog y tir comin.  Yn aml, roedd ffermydd ger ymyl yr uwchdir yn cynnwys nifer o gaeau bach ychwanegol o dir comin.  Ers canol y 19eg ganrif mae ardaloedd mawr o ffriddoedd yng ngorllewin a gogledd Dyffryn Tanat, y mae rhai ohonynt yn dal i fod yn dir comin, wedi’u hamgáu gan waliau carreg a oedd, fel y nodir isod yn waliau cefn fwy na thebyg ar hyd ffiniau ystad neu blwyf.

Mathau o ffiniau amgáu
Cynrychiolir amrywiaeth o ffiniau caeau hanesyddol yn Nyffryn Tanat, gan gynnwys gwrychoedd, llethrau â gwrychoedd neu ffensys, a waliau carreg.

Mae gwrychoedd yn nodweddiadol o waelod dyffrynnoedd ac o rannau isaf ochrau’r dyffryn ynghyd â thiroedd comin amgaeëdig o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yng ngogledd a dwyrain Dyffryn Tanat.  Nid yw nifer o’r gwrychoedd yn cael eu torri bellach ac fe’u cynrychiolir erbyn hyn yn syml iawn gan linell afreolaidd o goed mwy o faint neu gan fonion coed.  Mae nifer o’r gwrychoedd ar iseldir yn cynnwys rhywogaethau lluosog (ee draenen wen, coed cyll, masarnen fach, derw, celyn ac ati).  Mae nifer o’r rhain yn debygol o fod yn eithaf hynafol ac maent yn cynrychioli gweddillion coetir neu diroedd amgaeëdig darniog yn y cyfnodau canoloesol diweddar ac ôl-ganoloesol cynnar, er nad oes llawer o dystiolaeth ar gael i'w dyddio'n ddibynadwy.  Yn ddieithriad mae gwrychoedd mwy diweddar sy'n amgáu ardaloedd ymylol o diroedd comin uwch yn un rhywogaeth (ee y ddraenen wen).

Mae cloddiau carreg eang, isel wedi’u coroni â gwrychoedd neu ffensys yn fwyaf nodweddiadol o stribed o dir ar uchder canolig sy'n ymestyn rhwng Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant.  Ymddengys fod y rhan fwyaf o’r cloddiau hyn yn cynnwys clogfeini crwn ac maent, fwy na thebyg, yn gynnyrch y gwaith o glirio cae o feini crwydr rhewlifol, o garreg fwy caled na’r ddaeareg solet waelodol.  Nid yw dyddiad y cloddiau hyn wedi’i bennu hyd yn hyn, ond mae’n bosibl mewn rhai achosion eu bod yn perthyn i gyfnod o ehangu’r anheddiad i’r ardaloedd hyn o’r 15fed a’r 16eg ganrif ymlaen.

Mae waliau carreg yn fwyaf nodweddiadol o rannau o’r dyffrynnoedd rhewlifol dwfn yn y gorllewin – Cwm Pennant, Cwm Rhiwarth a Chwm Blowty, lle y defnyddiwyd clogfeini rhewlifol – ac o'r ffriddoedd amgaeëdig a grëwyd o’r tiroedd comin yn rhannau gogleddol a gorllewinol Dyffryn Tanat, ac maent yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif ymlaen.  Mae cymhariaeth rhwng rhifynnau 1af ac 2il yr Arolwg Ordnans 6 modfedd yn awgrymu bod nifer o’r waliau wedi’u codi yn ystod ail hanner y 19eg ganrif.  Mae amrywiaeth o ddeunyddiau adeiladu yn amlwg ac maent yn cynnwys carreg newydd o chwarel a charreg a gasglwyd wrth glirio caeau.  Mewn rhai enghreifftiau ceir waliau cefn ar hyd ffiniau ystâd neu blwyf, fwy na thebyg, yr ychwanegwyd waliau atodol atynt.  Gellir gweld ffiniau cynnar slabiau unionsyth mewn rhannau o Gwn Pennant a Chwm Blowty.