Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol
Dyffryn Tanat:
Henfache, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys
(HLCA 1020)
Ffermydd mawr ar dir isel â chryn bellter rhyngddynt a ffermydd canolig eu maint, nes at ei gilydd ar y llethrau isaf, neuaddau nenffyrch o'r canol oesoedd hwyr a chyfundrefnau caeau.
Cefndir Hanesyddol
Dangosir anheddiad cynnar, yn dyddio o'r Oes Haearn o bosibl, gan gaeadle ôl-cnydau ar dir llethrog i'r gogledd o Henfache ac mae ail safle posibl ymhellach i'r de. Mae'r ardal yn rhan o blwyf eglwysig canoloesol Llanrhaeadr-ym-Mochnant ac mae hefyd yn cynnwys darn cul o blwyf Llanarmon-mynydd-mawr, a oedd gynt yn gapelyddiaeth ddibynol o fewn plwyf Llanrhaeadr. Yn weinyddol, roedd yr ardal yn rhan o gwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr, Sir Ddinbych.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Tir isel tonnog a draeniwyd yn weddol rhwng yr Afon Iwrch ac Afon Rhaeadr, gan gynnwys rhannau isaf Moel Hen-fache a Mynydd Mawr, ar ymyl deheuol y Berwyn, gan amrywio mewn uchter rhwng tua 170m a 360m uwch lefel y môr. Mae dyffryn coediog, serth yr Afon Iwrch yn torri trwy ochr ddwyreiniol yr ardal, a cheir rhannau sydd dan ddwr ar y tir isel gwastad ar ochr dde-ddwyreiniol yr ardal cymeriad.
Ffermydd ar ochr y ffordd a manddaliadaethau. Ffermydd mwy ar dir isel, gan gynnwys Henfache gyda ffermdy cerrig, mawr gyda charreg â'r dyddiad 1702, ac estyniad briciau diweddarach o'r 18fed ganrif, adeiladau allanol o gerrig a chwarelwyd o'r 18fed/19eg ganrif, gwisgiadau briciau ac estyll tywydd, buarth â wal gerrig, pyst giât 'megalithig' a physt giât sgwâr o'r 19eg ganrif. Bythynnod o'r 19eg ganrif ar ochr y ffordd a foderneiddiwyd yw Tai-newyddion a Phenfforddwen, ac fe'u gwnaed o gerrig crynion a gaed o gaeau. Ffermdy cerrig a rendrwyd o'r 18fed/19eg-ganrif ac adeiladau cerrig allanol yn Sychnant, a wnaed o gerrig a chwarelwyd neu a gloddiwyd o gaeau, rhywfaint o estyll tywydd ar yr adeiladau allanol. Mae'r adeiladau hynach wedi goroesi ar lethrau'r bryniau o gwmpas ymylon yr ardal cymeriad. Ffermdai cerrig gydag adeiladau allanol ym Mryn Coch a Phlas-yn-glyn, ac mae'r naill ffermdy'n cynnwys neuadd nenffyrch o ddiwedd y canol oesoedd a'r llall yn cynnwys ty ffrâm-goed bosibl o'r 17eg ganrif. Ychydig i'r gogledd mae'r neuadd nenffyrch gynt (Ty-draw, Llanarmon-mynydd-mawr), a drowyd yn ysgubor ac sydd bellach wedi ymddadfeilio. Ymhellach i'r gogledd eto mae llwyfan ag ymylon cerrig lle bu adeilad nenffyrch arall mae'n debyg. Mae'r gyfres drawiadol hon o adeileddau canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar yn sefyll ar lwybr llydan sy'n rhedeg ar hyd y gyfuchlin ar lethrau gorllewinol Mynydd Mawr. Fe'u cysylltir â'r gyfundrefn caeau drawiadol a nodir isod a dangosant y modd y cyfunwyd daliadaethau cynharach llai. Ceir clwstwr o ffermdai bychain a chanolig eu maint, a'u hadeiladau allanol, a wnaed yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif o gerrig a chwarelwyd ar lethrau isaf Moel Hen-fache, gan gynnwys Ty-draw a'i ffermdy a rendrwyd, Tyn-y-cae a Than-y-ffordd Ochor gyda gwisgiadau briciau. Mae'n ymddangos mai ffermydd o'r canol oesoedd hwyr oed rhai ohonynt gan fod un o'r adeiladau cerrig allanol yn Nhan-y-ffordd yn neuadd nenffyrch sydd wedi goroesi fel un o adeiladau'r fferm. Ceir olion adeiladau cerrig cynharach yng nghyfadail fferm fodern Ty-cerrig.
Defnyddir y tir yn bennaf ar gyfer pori heddiw. Ceir gwrychoedd o rywogaethau cymysg ar hyd y ffyrdd, gan gynnwys celynnen, draenen wen a masarnen ac mae tystiolaeth o osod gwrychoedd blaenorol. Caeau afreolaidd, canolig eu maint sydd dros lawer o'r tir isel a cheir tomenni clirio cerrig hyd at 2m mewn lled ac 1m mewn uchter gyda gwrychoedd sydd wedi gordyfu neu sy'n fylchog. Diffinnir rhai caeadleoedd mwy gan domenni clirio, ac fe'u hisrennir gan wrychoedd draenen wen. Ceir caeal unionlin gyda thomenni clirio a ffosydd traenio ar y tir gwlypach i'r gogledd-orllewin o Bont Cefnhir. Ceir gwrymio mewn ambell gae isel â thraeniad gwael. Ceor tomenni is a linsiedi ar dir mwy llechweddog, sy'n dangos bod mwy o aredig ar un adeg. Ceir cyfundrefn caeau amlwg ar lechweddau gorllewinol Mynydd Mawr, a cheir rhai caeau mwy hirsgwar gyda therfynau sy'n dilyn y gyfuchlin ac ar onglau sgwâr i'r llechwedd. Mae rhai caeau wedi eu huno ac mae nifer o gaeau gadawedig ar y llechweddau uwch. Mae'r gyfundrefn caeau yn y fan hon yn gysylltiedig â'r gyfres o adeiladau nenffyrch a ffrâm-bren canoloesol hwyr ac ôl-ganoloesol cynnar i'r gogledd o Fryn Coch, y cyfeiriwyd atynt uchod, a dangosant ble caewyd y tir yn hwyr yn y 15fed ganrif ac yn nechrau'r 16ed ganrif. Ceir coed derw ac onn aeddfed yma ac acw yn y gwrychoedd ac o gwmpas y ffermydd. Ceir coetir hanner naturiol ar y llethrau mwyaf serth a choed helyg a gwern ar ddyfrffosydd.
Ar y tir isel, ceir ffyrdd a llwybrau llydan troellog sydd ar y cyfan yn dilyn y gyfuchlin gyda cheuffyrdd ag ymylon a wnaed o gerrig a gafwyd o gaeau, ac ar y tir uwch torrwyd hwy o'r graig. Ceir lonydd gwyrddion a llwybrau llydan rhwng y ffermydd, rhai ohonynt wedi e gadael bellach.
Hubbard 1986
Smith 1988
Smith & Hague 1958
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|