Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol
Dyffryn Tanat:
Cefn-coch, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys
(HLCA 1007)
Tirwedd o fythynnod a daliadau a chaeau bychain gyda phonciau a waliau cerrig, sy'n arwydd o lechfeddiannu tir comin yn hwyr yn y 18fed ganrif ac yn gynnar yn y 19eg ganrif.
Cefndir Hanesyddol
Mae'r ardal cymeriad yn gorwedd o fewn plwyf eglwysig canoloesol Pennant Melangell a Llanrhaeadr-ym-Mochnant a gorweddai o fewn hen gwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr, Sir Drefaldwyn.
Y prif gofadail archaeolegol yn yr ardal mae'n debyg yw mwnt Tomen Cefn-coch o'r 12eg-13eg ganrif, un o blith hyd at bedwar safle tebyg yn Nyffryn Tanat. Yn debyg i Domen Cefn Glaniwrch ryw 4.5km i'r dwyrain, yng nghwmwd cyfagos Mochnant Is Rhaeadr, mae Tomen Cefn-coch mewn lle amlwg ar ymyl y bryniau isaf, ac mae'n cynnig un o'r golygfeydd gorau dros Ddyffryn Tanat. Nid oes unrhyw dystiolaeth o anheddiad yn y canol oesoedd nac o ddefnyddio'r tir sydd yn ymyl y naill fwnt na'r llall, sy'n awgrymu mai pwrpas milwrol oedd i'r ddau ohonynt, sydd wedi eu lleoli ar ymyl y tir comin. Cofnodwyd nifer o lefelau mwyngloddio na wyddys eu dyddiad yn ardal Garn Uchaf, ar ymyl gorllewinol yr ardal cymeriad.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Mae'r tir yn gogwyddo tua'r gogledd, y gorllewin a'r de, ac mae darnau gwastatach ar bennau'r bryniau, sy'n amrywio o 210-420m uwch lefel y môr, ac maent yn edrych dros ddyffryn yr Afon Tanat i'r de a thros ddyffryn yr Afon Rhaeadr i'r gogledd.
Ymhlith yr aneddiadau ceir bythynnod cerrig bychain a daliadau bychain â thoeau llechi o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, wedi eu gwasgaru. Yn gyffredinol mae'r tai wedi eu lleoli ar ochr neu yn ymyl y ffordd, yn gyffredinol dim ond siediau yn hytrach nag adeiladau allanol a geir yn y daliadau bychain. Mae'r rhan fwyaf o'r tai wedi eu hadeiladu o gerrig crynion a holltwyd ac a gasglwyd, mae'n debyg, drwy glirio'r caeau cyfagos pan oeddid yn ymgartrefu. Mae waliau nifer o'r bythynnod wedi eu rendro, ac mae rhai o'r bythynnod wedi eu gwneud yn fwy yn ddiweddarach. Mae gan rai o'r bythynnod enwau rhodresgar braidd, gan gynnwys Plas Newydd, ar ochr orllewinol Cefn-coch. Mae rhai o'r bythynnod a nodwyd ar y Degwm bellach wedi diflannu.
Ar gyfer pori y defnyddir y tir yn bennaf heddiw. Diffinnir caeau bychain a phadogau un ai gan waliau neu bonciau ac i raddau llai gan wrychoedd. Mae'r waliau a'r ponciau wedi eu codi o gerrig crynion, hyd at 1m ar draws ond llai na hyn fel arfer, ac o ganlyniad i glirio'r arwynebedd pan gaewyd y tir am y tro cyntaf, at ddiwedd y 18fed ganrif ac yn nechrau'r 19eg ganrif mae'n debyg. Mae'r gwrychoedd sydd ar ôl yn cynnwys rhywogaethau cymysg fel draenen wen, masarnen a chelynnen, a gosodwyd hwy yn ffurfiol, ond erbyn hyn nid oes ond ponciau a phrysgwydd gwasgaredig lle bu gwrychoedd gynt, ac weithiau ceir ffensiau pyst a gwifren. Mae peth o'r tir yn yr ardal cymeriad, lle ceir cyrs yn tyfu, dan ddwr yn ystod rhai tymhorau a cheir ffosydd draenio artiffisial yno felly ar hyd terfynau rhai o'r caeau a'r ffyrdd.
Rhwydwaith o lonydd bychain, llwybrau troed a lonydd gwyrddion heb eu trin. Mae rhai o'r caeau wedi eu gosod mewn perthynas â'r lonydd sythach, ac oherwydd hyn maent yn ymddangos fel llwybrau llydan cynharach ar draws tir comin nas caewyd.
Codwyd capel Calfinistaidd Elim ar ochr ddwyreiniol yr ardal cymeriad ym 1839 i wasanaethu bythynnod y cylch. Mae'r capel cerrig bychan yn nodweddiadol o'r capeli a godwyd i wasanaethu'r anheddiad gwledig gwasgarog newydd a ymddangosodd yn Nyffryn Tanat yn ystod y 19eg ganrif.
Hancock 1871; 1872; 1873; 1875
Richards 1943-44; 1945-46
Spurgeon 1965-66
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|