Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol
Dyffryn Tanat:
Craig Rhiwarth, Llangynog, Powys
(HLCA 1005)
Mynydd creigiog amlwg gyda bryngaer gynhanesyddol yn ymgodi uwch Llangynog
Cefndir Hanesyddol
Mae'r mynydd o fewn plwyf eglwysig canoloesol Llangynog, ac roedd o fewn hen gwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr, Sir Drefaldwyn.
Ar ben y bryn mae bryngaer gynhanesyddol fawr a elwir hefyd wrth yr enw Craig Rhiwarth. Mae'n un o'r ddwy fryngaer bwysig yn Nyffryn Tanat ac mae ymhlith y bryngaerau uchaf yng Nghymru. Mae wedi ei hamddiffyn gan un rhagfur carreg sengl ar ochr ogleddol y bryn ac mae'n cau tua 24ha o dir. Mae'r tair ochr arall mor serth nad oes angen amddiffyniadau artiffisial. Ychydig o gloddio a wnaed o fewn y fryngaer ac felly ychydich a wyddys am ei hanes.
Mae'r tu mewn i'r fryngaer yn unigryw yn yr ardal gan fod yma nifer fawr o adeileddau carreg crwn. Mae'n ymddangos bod o leiaf rhai ohonynt yn dai o ran olaf y cyfnod cynhanesyddol, ond fe awgrymwyd hefyd y gallai eraill fod yn bingoau, o'r cyfnod cynrhewlifol. Trwy ei chymharu â bryngaerau eraill yn yr ardal, gellir dweud ei bod yn bosibl bod yr anheddiad wedi cychwyn yn yr Oes Efydd ac wedi parhau o bosibl tan yr Oes Haearn. Awgrymwyd y posibilrwydd mai un o swyddogaethau'r bryngaerau, fel yn achos y fryngaer ger Llanymynech, i'r dwyrain o Ddyffryn Tanat o bosibl, oedd rheoli adnoddau copr - gan ei bod yn bosibl bod olion mwyngloddio cynhanesyddol i'w gweld yn y cloddiadau agored, cynnar sydd ar ochr ddeheuol y bryn, yn union uwchben Llangynog. Yn debyg i fryngaerau eraill yn yr ardal, mae'n debyg bod y gwaith o'i chynnal fel anheddiad amddiffynedig wedi dod i ben yn dilyn goresgyniad y Rhufeiniaid at ddiwedd y ganrif gyntaf OC, os nad yn gynt. Gwyddys hefyd am garnedd gylchog debygol o'r Oes Efydd ar gopa'r bryn. Ceir nifer o hafodydd â waliau cerrig ar gopa'r bryn neu yn ei ymyl, sy'n deillio o bosibl o'r canoloesoedd neu'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Mynydd amlwg gyda chreigiau serth a marian a llethrau caregog ar bob ochr ac eithrio'r gogledd, ac mae nifer o frigiadau creigiog ar y copa, ac mae'r tir o fewn yr ardal cymeriad yn gorwedd rhwng 200-532m uwch lefel y môr. Tir comin ydyw o hyd, ac fei defnyddir heddiw fel porfa arw yn bennaf. Ceir prysgwydd gwasgaredig a phocedi ynysedig o goetir collddail hanner naturiol gan gynnwys coed derw a bedw. Arferid dweud bod y tylwyth teg yn byw ar y mynydd ac y dylid ei osgoi'n llwyr, a diau mai ei dopograffeg trawiadol sy'n gyfrifol am hyn. Disgrifiwyd ef fel hyn yn llyfr Lewis, 'Topographical Dictionary of Wales' - 'abounding with features of picturesque beauty, and of rugged grandeur'.
Forde-Johnston 1976
Lewis 1833
Richards 1934
Walters 1993
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|