Cymraeg / English
|
|
Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol
Dyffryn Tanat:
Llwyn Bryn-dinas, Llangedwyn, Powys
(HLCA 1000)
Tir bryniog serth gyda brigiadau creigiog, bryngaer gynhanesyddol, tir comin a feddiannwyd yn hwyr y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg, a darnau o hen goetir hanner naturiol a phlanigfeydd modern.
Cefndir Hanesyddol
Mae'r ardal cymeriad yn gorwedd ym mhlwyfi eglwysig canoloesol Llangedwyn a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ac mae rhan fechan o fewn plwyf Llansilin, ac arferai fod o fewn hen gwmwd Mochnant is Rhaeadr, Tirwedd Hanesyddol Sir Ddinbych.
Yr henebion archaeolegol mwyaf amlwg yn yr ardal cymeriad yw'r fryngaer drawiadol ar gopa Llwyn Bryn-dinas, lle dangosodd cloddiadau ar raddfa fach fod ei rhagfur, a rybedwyd â meini, wedi ei adeiladu gyntaf yn hwyr yn ystod yr Oes Efydd, a bod pobl yn byw ynddi o leiaf am gyfnodau yn ystod yr Oes Haearn. Diddorol meddwl am berthynas y fryngaer â'r caeadle llai yn ymyl Plas-uchaf yn ardal cymeriad gyfagos Llangedwyn.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Ardal amrywiol ond topograffaidd wahanol gyda llethrau'n wynebu tua'r gorllewin ac yn codi o uchder o ryw 110m uwch lefel y môr ger llawr y dyffryn ar y de, i gopa Llwyn Bryn-dinas, 271m, a chopa'r Aran, 341m uwch lefel y môr. Brigiadau amlwg ar gopa Llwyn Bryn-dinas ac ar hyd Craig Orllwyn. Llyn ucheldirol naturiol mewn ardal o draeniad dirwystr yn Llyn Briw.
Mae Llwyn Bryn-dinas ei hun yn nodwedd amlwg yn y dyffryn, a dyma a ddywedodd George Borrow amdani 'an exceedingly high and picturesque crag' (Wild Wales, 1862).
Cyfyngir anheddiad i nifer o ffermydd gwasgaredig sy'n tarddu, mae'n debyg, o'r blynyddoedd ar ôl y canol oesoedd fel Wern-las a Thyn-y-graig, sydd yn eu caeau eu hunain, a ffermdy ac adeiladau allanol o'r 19eg ganrif yng Nghilmawr, yn dilyn y ffordd gyhoeddus, ond mae bythynnod ger Tyn-y-graig ac yng nghyffiniau'r Aran a Mynydd-y-briw o flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif ar dir meddianedig, ac wedi eu gwasgaru ar hyd llwybrau llydan a ffyrdd - yn ymyl ffynhonnau naturiol gan mwyaf - ac maent wedi eu gwneud o siâl cloddiedig gyda gwisgiadau briciau. Mae llawer o'r bythynnodd mwyaf diarffordd o gwmpas yr Aran yn adfeilion bellach, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi goroesi un ai ar neu yn ymyl y ffordd gyhoeddus sy'n rhedeg i'r gogledd o gyfeiriad Llangedwyn.
Tir pori a wellwyd ar lethrau llai serth a thir pori nas gwellwyd mewn mannau eraill gyda chlytiau o eithin. Caeau eithaf mawr ac afreolaidd dros lawer o'r ardal, gyda ffiniau caeau sydd ar dro sy'n awgrymu clirio coetir, gwella'r tir a llechfeddiannu tir cynyddol ac achlysurol, yn ystod yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif yn bennaf mae'n debyg. Dangosir y ffiniau hynaf gan bonciau caeau isel a gwrychoedd o rywogaethau gwahanol a dangosir ffiniau diweddarach gan wrychoedd draenen wen un-rhywogaeth. Yn gyffredinol mae'r gwrychoedd sydd ar ymyl y ffordd wedi eu torri'n isel, mae llawer o'r gwrychoedd eraill wedi gordyfu. Marcir rhai hen ffiniau gan lasleiniau a rhesi o brysgwydd, coed neu fonion coed â gofod rhyngddynt, lle unwyd nifer o gaeau llai. Caewyd tir comin yn ystod y 19ed ganrif ar ochrau Llwyn Bryn-dinas a Chraig Orllwyn a dangosir hyn â ffiniau sythach ar ongl sgwâr i'r llethr, ar ffurf grid, un ai gyda gwrychoedd un-rhywogaeth - y ddraenen wen bob tro - rhai ohonynt wedi tyfu allan, neu â ffensys post a gwifren, rhai ohonynt wedi eu gadael. Waliau cerrig ar y ffiniau rhwng plwyfi Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn.
Caeau bychain o gwmpas yr Aran, a gysylltir â llechfeddiannu tir yn gynnar yn y 19eg ganrif ar gyfer bythynnod, ac mae ponciau a glasleiniau'n dangos lle byddid yn aredig gynt. Mae'r gwrychoedd wedi gordyfu bellach ac i bob golwg plannwyd cymysgedd o rywogaethau, gan gynnwys y ddraenen ddu, collen, derwen a'r ddraenen wen, ac mae gan rai o'r ffiniau yn y fan hon bonciau clirio â wyneb carreg.
Darnau o goetir derw hanner naturiol a phlanigfeydd conifferaidd modern ar y llethrau mwyaf serth, gyda choed aeddfed wedi eu gawsgaru mewn mannau eraill.
Rhwydwaith o lonydd a llwybrau troed ôl-ganoloesol mae'n debyg yn cysylltu'r ffermydd, y bythynnod a'r manddaliadaethau, gan ddilyn cyfuchlin neu gefnen yn aml, a'r ffordd gyhoeddus yn rhedeg i'r gogledd o Langedwyn, a rhan ohoni mewn pant a dorrwyd yn y graig. Mast telegyfathrebion modern ger copa'r Aran.
Gellir gweld chwarelu unionlin ar draws llethrau gorllewinol Llwyn Bryn-dinas, ond nid oes sicrwydd ynghylch y pwrpas na'r dyddiad.
Gwasanaethwyd y clwstwr o fythynnod yng nghyffiniau Mynydd-y-briw gan gapel carreg gyda thriniad o frics a godwyd ym 1894 i gymryd lle adeilad cynharach a godwyd ym 1835.
Musson et al 1992
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.
|