Cymraeg / English
|
|
Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg
Rhagarweiniad
Mae'r disgrifiad canlynol, a ddaw o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn nodi’r themâu hanesyddol hanfodol yn ardal tirlun hanesyddol Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg.
Yn Nyffryn Llangollen yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ceir cyfuniad gweledol a thrawiadol o dirffurfiau naturiol noeth
ynghyd â nodweddion hynafol a modern o waith dyn. Yn geomorffolegol, hollt eang yw’r dyffryn a gaiff ei oruchafu gan glogwyni calch uchel Mynydd Eglwyseg. Mae brig y clogwyni’n esgyn yn raddol mewn uchder o 300m uwchben SO yn eu
safle mwyaf deheuol sy’n edrych dros ganol y dyffryn, i 450m uwchben SO yn eu safle mwyaf gogleddol sy’n edrych dros
rannau uchaf dyffryn isafon cul Afon Eglwyseg. Ar ochr ddeheuol y dyffryn, mae’r llethrau’n esgyn yn serth i 400m uwchben
SO ar hyd copa’r esgair sy’n rhannu’r dyffryn o ddyffryn Ceiriog i’r de.
Llangollen, Castell Dinas Brân, ac Creigiau Eglwyseg. Llun: CPAT 1766-08.
Mae llawr gwastad y dyffryn tua 100m uwchben SO ac mae’n cynnwys hynt troellog yr Afon Dyfrdwy, er yn Llangollen, mae’r dyffryn yn culhau i’r hyn sy’n fwy nodweddiadol o ddyffryn afon, gan droi’n gyntaf tua’r gogledd ac yna tua’r gorllewin gan barhau y tu hwnt i ran y dyffryn a ddisgrifir yma. Yn edrych dros Langollen o gyfeiriad y dwyrain mae olion mawreddog Castell Dinas Brân, castell gwaith cerrig o’r Canol Oesoedd wedi’i leoli oddi mewn i waith cloddiog caer gynharach o Oes yr Haearn. Mae’r safle ar gopa bryn siâp côn ag ochrau serth iddo sydd yn esgyn yn drawiadol i 329m uwchben SO o lawr y dyffryn,ac ar ei ben ceir adfeilion darluniadwy’r castell a adeiladwyd gan Gruffydd ap Madog o bosibl, mab i sylfaenydd Abaty Glyn y Groes.
Lleolir Abaty Sistersiaidd Glyn y Groes ger cyflifiad afonydd Eglwyseg a Dyfrdwy i’r gogledd o Langollen, ac fe’i sylfaenwyd gan Madog ap Gruffydd ym 1201 fel abaty ategol i Abaty Ystrad Marchell ger y Trallwng. Mae’r Abaty, sydd bellach yn adfail, yn nodweddiadol o nifer o sefydliadau Sistersiaidd a leolir mewn dyffrynnoedd afonydd diarffordd wedi’u hamgylchynu gan dir ffermio. Mae llên gwerin lleol yn cysylltu Glyn y Groes ag Owain Glyn Dŵr a ddiflannodd tua 1410 ar ôl i’w wrthryfel yn erbyn y Saeson fethu. Ychydig i’r gogledd o’r Abaty lleolir croes anghyflawn Piler Eliseg ar fryncyn bychan crwn a oedd hwyrach yn feddrod yn Oes yr Efydd. Ar y groes ceir arysgrif mewn Lladin sydd bellach wedi treulio gormod i’w darllen, ond yn ôl trawsgrifiad ohoni ym 1696, roedd yn dathlu llwyddiannau tŷ Powys ac yn cofnodi i’r garreg gael ei chodi gan Cyngen er anrhydedd i’w or-daid, Eliseg.
Ym mhen gogleddol dyffryn Eglwyseg, ym Mhen Draw’r Byd, mae Plas Uchaf, plasdy trawiadol ffrâm bren sy’n dyddio o 1563. I’r gorllewin o ddyffryn Eglwyseg, caiff ffin ogleddol y tirwedd ei oruchafu gan ehangder mawreddog Bwlch yr Oernant lle mae’r ffordd o’r diwedd yn dringo Mynydd Maesyrychen, heibio i chwareli llechi gwag y 19eg ganrif, tuag at Ddyffryn Clwyd.
Bu dyffryn Dyfrdwy yn brif ffordd gyswllt erioed a bu’n dyst i ddy feisiadau dilynol yn hanes cludiant. Y pwysicaf, o bosibl, yw cangen Llangollen o Gamlas y Shropshire Union, a adeiladwyd gan Thomas Telford ac a agorwyd ym 1805. O’i
darddiad yn Rhaeadr Bwlch yr Oernant mae’r gamlas yn dilyn ochr ogleddol y dyffryn cyn croesi’r Afon Dyfrdwy dros ddyfrbont ddramatig Pontcysyllte, sy’n taflu’i chysgod dros ei chymar canoloesol a oedd yn cario’r ffordd dros yr Afon
Dyfrdwy. Ym mhen gogleddol y ddyfrbont mae Glanfa Trefor lle, yn ôl y sôn, yr arhosodd Telford yn ystod cyfnod adeiladu’r
ddyfrbont. Roedd Telford hefyd yn gyfrifol am adeiladu Ffordd newydd Caergybi, yr A5 bellach, sy’n rhedeg drwy’r dyffryn
ac a ddynodwyd yn ddiweddar yn ffordd hanesyddol.
Gwelir creithiau’r gorffennol diwydiannol hefyd yn y dyffryn. Bu chwarela yn digwydd yng nghlogwyni calch Eglwyseg
ers canrifoedd ar gyfer cerrig i adeiladu ac fel ffynhonnell o galch. Roedd sawl gwaith plwm yn tyllu’n uniongyrchol i’r clogwyn, ac mae olion y ddau ddiwydiant i’w gweld o hyd. I’r gogledd orllewin ceir olion chwareli llechi, sy’n cynnwys
incleinau a darnau o dramffordd ar arglawdd, tra caiff y de ei oruchafu gan gymhlethfeydd Cefn Mawr ac Acrefair (mae’r ddau y tu allan i’r ardal a ddisgrifir yma ar hyn o bryd).
Lleolir Llangollen ei hun o boptu’r Afon Dyfrdwy gyda’r bont bwa, a adeiladwyd c.1500 yn cysylltu’r ddwy ochr. Mae calon hanesyddol y dre ar yr ochr ddeheuol, o gwmpas yr eglwys a chroesfan yr afon. Daeth y datblygiadau diweddarach
yn bennaf yn sgîl y diwydiant gwlân, a oedd yn defnyddio ffynhonnell ynni naturiol yr Afon Dyfrdwy i redeg sawl melin, ac yna yn ystod y 19eg ganrif gyda dyfodiad y rheilffordd a gaewyd i drafnidiaeth ym 1968 ond sydd bellach ar agor yn achlysurol i dwristiaid o dan yr enw Rheilffordd Dyffryn Dyfrdwy. Ar ymylon y dref y mae Plas Newydd, cartref Boneddigesau Llangollen a oedd yn noddwyr enwog y celfyddydau ar droad y 19eg ganrif ac a wnaeth lawer i hybu diddordeb newydd yn y diwylliant Cymreig. Mae Llangollen wedi cryfhau’r traddodiadau artistig hyn ac mae’r dref bellach yn enwog ledled y byd am yr Eisteddfod Ryngwladol a gynhelir yno bob blwyddyn.
|
Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd hon o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru yn yr adrannau sy’n dilyn.
Amgylcheddau a Ffiniau
Defnydd Tir ac Anheddu
Diwydiant
Trafnidiaeth a Chyslltiadau
Cysylltiadau Diwylliannol
Gellir darganfod gwybodaeth bellach am Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg mewn amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi.
Ffynonellau cyhoeddig
Ardaloedd nodwedd
Diffiniwyd yr ardaloedd nodwedd tir hanesyddol o fewn ardal y dirwedd hanesyddol.
Character areas defined in the Vale of Llangollen and Eglwyseg Historic Landscape
|
1140 Mynydd Vivod ardal cymeriad.
Cyn goetir conwydd o’r 19eg ganrif i'r de o Vivod, bellach yn rhostir grugog a reolir ar gyfer saethu adar hela.
Llun: CPAT 1766-10.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1141 Gafaeliau
ardal cymeriad.
Darn anghysbell o ddyffryn Dyfrdwy i’r gorllewin o Langollen, gyda ffermydd ar yr iseldiroedd ac ymylon yr ucheldiroedd a thirweddau caeau o’r cyfnod canoloesol a diweddarach; plastai, parcdir a gerddi o oes Fictoria, ffermydd stad a bythynnod; aneddiadau cnewyllol bychain yn rhannol gysylltiedig â mwyngloddio llechi yn y gorffennol.
Llun: CPAT 1766-184
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1142 Mynydd Llantysilio
ardal cymeriad.
Crib rhostir uwchdirol eang, anghyfannedd yn ffurfio tir comin heb ei amgáu yn bennaf, gyda bryngaer a thomenni claddu cynhanesyddol ar gopa’r grib, a reolwyd gynt yn rhannol fel rhostir grugieir.
Llun: CPAT 1766-259
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1143 Cyrn-y-brain
ardal cymeriad.
Crib rhostir uwchdirol, anghyfannedd yn ffurfio tir comin heb ei gau yn bennaf, gyda thomenni claddu cynhanesyddol, a reolwyd gynt yn rhannol fel rhostir grugieir.
Llun: CPAT 1766-267.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1144 Mynydd Rhiwabon
ardal cymeriad.
Llwyfandir rhostir uwchdirol eang, anghyfannedd yn ffurfio tir comin heb ei gau yn bennaf, a reolir fel rhostir grugieir. Yno ceir henebion claddu a henebion defodol mewn clystyrau a rhai mwy anghysbell o’r Oes Efydd, ac olion mwyngloddio a chwilota am fetel yn y 19eg ganrif.
Llun: Hawlfraint y Goron, CBHC 93-CS-1550.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1145 Maesyrychen ardal cymeriad.
Rhostir agored gydag olion helaeth o chwareli llechi, pentyrrau gwastraff, tramffyrdd ac incleiniau o’r 19eg ganrif yn bennaf.
Llun: CPAT 1766-91.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1146 Vivod ardal cymeriad.
Tirwedd caeau afreolaidd a choetir mewn dyffrynnoedd nentydd a llethrau i’r de a’r gorllewin o Langollen, gyda stad o’r 19eg ganrif, a ffermydd a bythynnod y stad.
Llun: CPAT 1766-250.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1147 Craig-dduallt ardal cymeriad.
Uwchdir a choetir amgaeedig o’r 19eg ganrif ar ffin ochr ddeheuol Dyffryn Llangollen gyda thystiolaeth o weithgaredd cynhanesyddol cynnar.
Llun: CPAT 1766-79.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1148 Cwm Alis ardal cymeriad.
Coetir llydanddeiliog, prysg a chlytiau o gaeau afreolaidd bychain ar lethrau serth y dyffryn ar ochr ddeheuol Dyffryn Llangollen.
Llun: CPAT 1766-252.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1149 Dinbren ardal cymeriad.
Ardal gymharol anghysbell o ffermydd gwasgaredig a choetir ar ffin Mynydd Eglwyseg, gydag olion chwarelu a mwyngloddio ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.
Llun: CPAT 1766-315.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1150 Dinas Brân ardal cymeriad.
Bryn serth, conigol gydag adfeilion llwm, deniadol castell canoloesol o fewn amddiffynfeydd bryngaer gynhanesyddol sy’n tremio dros Langollen ac sydd i’w gweld yn amlwg o bobman yn Nyffryn Llangollen.
Llun: CPAT 1766-303.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
|
1151 Pant-y-groes ardal cymeriad.
Ffermdir a gaewyd ers amser maith a ffermydd gwasgaredig yn nyffryn afon Eglwyseg, islaw Bwlch yr Oernant, gan gynnwys olion hanesyddol bwysig Piler Eliseg ac abaty Glyn y Groes ac olion arwyddocaol y diwydiant llechi.
Llun: CPAT 1766-144.
(Nôl i'r map )
CCliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1152 Llangollen ardal cymeriad.
Tref farchnad fechan yn tarddu o'r canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd, sydd bellach yn ganolfan ymwelwyr ranbarthol bwysig sy’n ecsbloetio’r dreftadaeth ar ei chamlas a’i rheilffordd.
Llun: CPAT 1766-001.
(Nôl i'r map )
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
|
1153 Dol-isaf ardal cymeriad.
Llawr dyffryn afon Dyfrdwy rhwng Llangollen a Phontcysyllte sy’n weledol drawiadol ag iddo ochrau serth gyda chaeau, maes golff a gerddi a pharcdiroedd amlwg.
Llun: CPAT 1766-300.
(Nôl i'r map )
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1154 Trevor Uchaf ardal cymeriad.
Tirwedd wledig o ffermydd gwasgaredig a chaeau afreolaidd eu siâp o darddiad canoloesol a chanoloesol hwyr gydag olion diwydiannol o’r 18fed a’r 19eg ganrif sy’n gysylltiedig â’r diwydiant calch ac anheddiad llinellol gwasgaredig o fythynnod chwarelwyr yn wreiddiol.
Llun: CPAT 1766-370.
(Nôl i'r map )
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
|
1155 Garth ardal cymeriad.
Tir ar lethr ar ymyl dde-ddwyreiniol Mynydd Rhiwabon â thirwedd wledig sy’n tarddu o’r canol oesoedd a’r canol oesoedd hwyr ag olion diwydiannau'r 19eg a'r 20fed ganrif ac anheddiad gwasgaredig Garth dros ran ohono.
Llun: CPAT 1766-026.
(Nôl i'r map )
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
1156 Cysyllte ardal cymeriad.
Ardal lle gwelwyd ehangiad yn y 19eg ganrif ac ar ddechrau’r 20fed, gan gynnwys chwareli calchfaen, llosgi calch a cerameg ddiwydiannol ynghyd â thai i’r gweithwyr cysylltiedig ar draws dyffryn Dyfrdwy i’r naill ochr o Draphont Ddŵr Pontcysyllte.
Llun: CPAT 1766-50.
(Nôl i'r map )
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd
Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd
|
|
|
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.
|