CPAT logo


Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Comin Treffynnon a Mynydd Helygain


Mae'r disgrifiad canlynol, a godwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi themâu tirwedd hanesyddol hanfodol yn yr ardal nodweddion hanesyddol hon.

Holywell Common

Commin Treffynnon - rhan gogleddol o'r Dirwedd Hanessyddol
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Halkyn Mountain

Mynydd Helygain - rhan deheuol o'r Dirwedd Hanesyddol
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Mae ucheldir unedig Mynydd Helygain a Chomin Treffynnon yn ffurfio llwyfandir estynedig i'r dwyrain o Fryniau Clwyd, wedi'u gwahanu oddi wrthynt gan ddyffryn Chwiler, ac yn edrych dros lain arfordirol gogledd ddwyrain Sir y Fflint ac aber yr Afon Dyfrdwy y tu hwnt. Mae'r ardal oddeutu 250m uwchlaw SO, gyda chopaon bach lleol yn codi ddim mwy nac 20m uwchlaw hyn. Mae'r tirwedd a ddiffinnir felly yn cynnwys y meysydd mwynau plwm a sinc pwysicaf yng Nghymru, ac yn ddaearegol, mae'n rhan o'r strimyn Calchfaen Carbonifferaidd sy'n rhedeg i'r de o Brestatyn yn y gogledd, i Fynydd yr Hôb ac ochr ogleddol ffawt y Bala yn y de.

Tybir i waith mwyngloddio gychwyn adeg y Rhufeiniaid, gan y darganfyddwyd olion Rhufeinig sy'n gysylltiedig â chynhyrchu plwm, y tu allan i'r ardal, ym Mhentre, ger y Fflint. Ceir tystiolaeth hefyd o ddogfennau am gloddio yn y Canol Oesoedd, ond difethwyd unrhyw olion o weithio cynharach gan fwyngloddio yn y 19edd ganrif. Mae'r ardal, felly, yn dwyn tystiolaeth archeolegol werthfawr o un o ddiwydiannau hynaf Sir y Fflint.

Cwmni'r Crynwyr oedd yr arloeswyr mewn mwyngloddio plwm yn y sir o ddiwedd yr 17ail i ddiwedd y 18fed ganrifoedd, ac y mae tystiolaeth ddogfennol am welliannau mewn technoleg a ganiataodd suddo siafftiau dyfnach a darganfod gwythiennau cyfoethocach. Gweithiwyd y gwythiennau gorau yn drylwyr trwy gydol y 18fed a'r 19edd ganrifoedd yn yr ardaloedd a elwir yn awr Mynydd Helygain, Comin Treffynnon a Phen-y-Ball Top, ac ym 1850, cynhyrchwyd 11,500 tunnell o blwm, sef 12% o'r cyfanswm dros Brydain. Fodd bynnag, dirywio fu hanes y mwyngloddio ar ddiwedd y 19edd ganrif gyda mewnforio plwm rhad o dramor, ac ni chafwyd ond gweithgaredd bach, ysbeidiol wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf nes i'r mwyngloddiau olaf gau yn y 1960au.

Mae tirwedd maes y mwynau yn hawdd ei adnabod, fel rheol heb lystyfiant a bellach yn dir comin a adferwyd yn dir pori garw. Er bod y mwyafrif o'r adeiladau a gysylltwyd â mwyngloddio wedi mynd i ddifancoll, erys y tirwedd ei hun, sef amrywiaeth helaeth o dyllau a thomennydd bach, yn rhyfeddol o gyflawn, ac yn arbennig o amlwg o'r awyr. Cofnododd arolwg diweddar yn yr ardal dros 250 o safleoedd mwyngloddio.

Yn yr ardaloedd nas datblygwyd, yn enwedig Mynydd Helygain, yn y gweithfeydd eu hunain felly y gorwedd arwyddocâd hanesyddol a gwerth y tirwedd. Gwaith bas neu siafftau dyfnach wedi'u leinio â cherrig yn bennaf yw'r dystiolaeth archeolegol, er y gellir nodi hefyd lawer o gylchoedd lle cerddid ceffylau i droi drymiau wrth eu dirwyn â'r raff. Maent yn dystiolaeth i gyfoeth gwythiennau fel Pant y Gof, Pant y Ffridd, Pant y Pydew a Gwythien yr Undeb, lle'r oedd y gweithgaredd wedi'i ganoli ar gael a thynnu'r mwynau yn hytrach na'u trin ar y safle. Yn y mwyngloddiau mwy, erys tystiolaeth gloddiog o olion ffosydd a chronfeydd, rhai gyda dwˆr ynddynt o hyd, a arferai gludo dwˆr at y lloriau trin. Lle bo rhesi bach o dai a swyddfeydd y gwaith wedi goroesi, fe'u trowyd yn dai modern.

Er nad yw'n gysylltiedig â'r mwyngloddio, mae Waen Brodlas yn ne Comin Treffynnon, yn ddiddorol o safbwynt archeoleg diwydiannol gan fod yno olion a thystiolaeth ddogfennol am nifer sylweddol o odynau calch o'r 19edd ganrif. Hefyd heb fod yn gysylltiedig â'r olion cloddio mwyn, ond a gynhwysir yn yr ardal, mae bryngaer Moel y Gaer, Rhosesmor, o Oes yr Haearn, ar gopa bryn arunig i'r pen deheuol o Fynydd Helygain. Datguddiodd gwaith cloddio helaeth ar y safle ym 1972 - 74 cyn adeiladu'r gronfa ddwˆr, dystiolaeth o adeiladu amddiffynfeydd a dilyniant hynod o aneddiadau pren y tu mewn iddynt.

Themâu tirwedd hanesyddol yn Nhirwedd Hanesyddol Comin Treffynnon a Mynydd Helygain

Y Tirwedd Naturiol

Y Tirwedd Gweinyddol

Tirweddau Anheddu

Tirweddau Amaethyddol

Trafnidiaeth a Cyfathrebu

Tirweddau Diwylliannol

Tirweddau Amddiffynedig

Tirweddau Angladdol, Eglwysig ac Addurnol

Ffynonellau Gwybodaeth Eraill

Ffynonellau gwybodaeth cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi

Ardal cymeriad tirwedd hanesyddol Comin Treffynnon a Mynydd Helygain
(HLCA 1081)

Yn anad dim, mae tirwedd hanesyddol Comin Treffynnon a Mynydd Helygain yn dirwedd mwyngloddio yn perthyn i'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, ac fe'i hystyrir yn un ardal cymeriad (1081). Mae'r ardal yn cynnwys lwyfandir calchfaen uchel rhwng Bryniau Clwyd ac aber yr Afon Dyffrdwy yng ngogledd Sir y Fflint. Mae yma olion niferus a thra hynod o gloddio am blwm yn ystod yr 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, a nodweddion ac aneddiadau cysylltiedig, heb eu tebyg yn unman arall yng Nghymru.

RCAHMW PHOTO 93-CS-1339

Tirwedd cymhleth i'r gorllewin o Brynford, gyda siafftiau gadawedig, hen gaeadle ar y tir comin, tai modern housing a rhan o Gwrs Golff Treffynnon. Llun: Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1339 (yn ôl i'r map)

RCAHMW PHOTO 93-CS-1341

Pwll-clai, o'r de, yn ymyl y ffordd rhwng Pentre Helygain a Brynford, gyda rhsi o siafftiau yn rhedeg ar hyd gwythiennau cyfoethog Pwll-clai a Phant-y-pydew, Comin Trefffynon. Roedd dyfrffos droellog ar hyd y caeau ar y dde yn gwasanaethau peiriannu a yrrwyd gan ddwr ar loriau trin Pwll-clai. Llun: Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1341 (yn ôl i'r map)

RCAHMW PHOTO 93-CS-1362 Siafftiau mwyngloddio niferus i'r de-ddwyrain o Bentre Helygain, Mynydd Helygain, i'r dwyrain o chwarel calchfaen Pant-y-pwll-dwr sydd i'w gweld ar y top ar y dde. Roedd y rhesi o siafftiau, o wahanol ddyfnderoedd, yn dilyn gwythiennau cyfoethog a redai o'r dwyrain i'r gorllewin gan gynnwys y rhai a elwid Billins a Chwarel Las, a weithid yn bennaf ar gyfer plwm. Mae'r gweithiau unionlin yn y gaelod ar y chwith yn draws-toriad o'r gogledd i'r de mae'n debyg. Llun: Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1362 (yn ôl i'r map)

RCAHMW PHOTO 93-CS-1366 Chwareli plwm a chalchfaen i'r gogledd o'r ffordd rhwng Rhes-y-cae a Helygain. Ychydig o sbwriel datblygu sydd gan lawer o'r siafftiau yn yr ardal hon ac felly roeddent n ai yn rhai bas neu maent wedi cael eu hôl-lenwi ac mae gan rai ohonynt gaeadau concrit. Cysylltir y chwareli â'r pâr o odynau calch sydd yng nghanol y llun. Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1366 (yn ôl i'r map)

RCAHMW PHOTO 93-CS-1378 Dau chwimsi a gadwyd mewn cyflwr da yn perthyn i hen Bwll New North Halkyn Mine, i'r gogledd o Mount Villas, yn ymyl pen deheuol Chwarel Pant. Byddai drwm weindio ar ben y pys yng nghanol y ddau chwimsi ac a drowyd gan ddau geffyl wedi codi a gostwng y gawell ar gyfer codi'r mwyn, a hynny gyda chefnogaeth fframiau-A a osodwyd uwchben pob un o'r siafftiau i'r naill ochr o'r chwimsi. Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1378 (yn ôl i'r map)

RCAHMW PHOTO 93-CS-1373.12A Adeiladweithiau a gysylltir â chloddfa Pant-y-go mine, i'r de o Helygain, gan gynnwys cronfa a gloddwyd o'r tir, ac sydd i'w gweld i'r chwith gyda sylfeini barics y gweithwyr oddi tani mae'n debyg. Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1373 (yn ôl i'r map)



I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn, neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.