Cymraeg / English
|
Nodweddu’r Dirwedd HannesyddolDwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg
DisgrifiadMae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn e’wi’r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol. Mae’r tarenni trawiadol sy’n wynebu i’r gogledd a mynyddoedd dramatig cysylltiedig y Mynyddoedd Du, Bannau Brycheiniog, Fforest Fawr a’r Mynydd Du gyda’i gilydd yn ffurfio esgair faith naturiol a rhwystr ffisegol sy’n rhannu De Cymru oddi wrth y Canolbarth. Fforest Fawr sy’n ffurfio rhan ganolog y rhwystr hwn gyda’r ardal a nodir yma yn cynnwys ei hochr ddwyreiniol a leolir rhwng dyffrynnoedd y Mellte yn y gorllewin a Thaf Fawr yn y dwyrain. Mae’r bloc naturiol hwn o dir yn ymestyn o Fan Fawr a Mynydd y Garn yn y gogledd, i Gadair Fawr, Cefn Sychbant a Mynydd-y-glôg yn y de sy’n gorwedd y tu allan i ffin hanesyddol y Fforest. Mae’r bloc yn cynnwys llwyfandiroedd uwchdir rhanedig sy’n gwyro i lawr yn raddol i’r de o 734m uwchben SO ar begwn gwastad nodedig Fan Fawr, i rhwng 250 a 300 uwchben SO yn nyffrynnoedd Hepste a Chwm Cadlan - Pant Sychbant sy’n torri drwy’r canol ac sy’n cynnwys yr unig rannau o dir amgaeëdig mewn ardal o rostir sydd fel arall yn amlwg yn llwm ac yn anghysbell. Datgelodd arolwg tirwedd maes archaeolegol a hanesyddol dwys a gynhaliwyd yn y Mynydd Du a Fforest Fawr ynghanol yr 1980au oroesiad eang o olion archaeolegol sy’n cynrychioli preswyliad ac ymelwad a ddigwyddodd droeon, ar brydiau’n ddwys, o’r ardal a’i hadnoddau naturiol, o’r cyfnod cynhanesyddol i’r gorffennol diweddar. Mae’r olion hyn yn cynnwys henebion angladdol a defodol cynhanesyddol, tystiolaeth o amaethu a gosod tir cynnar, ac ystod o aneddiadau o’r cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol, â’r cwbl wedi’i orchuddio mewn mannau gan olion mwy diweddar chwareli,gweithiau calch a derbyniadau tir segur. Digwyddodd y preswyliad cynharaf o’r ardal fwy na thebyg yn y cyfnod Mesolithig gyda chasgliad o fflintiau wedi’u cloddio o Bant Sychbant yn dangos math o offeryn yr ystyrir ei fod yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig diweddar. Fodd bynnag, mae’n debyg na ddigwyddodd defnydd dwys a pharhaus o’r tir yn yr ardal tan Oes yr Efydd, lle codwyd llawer o garneddau ar lethrau Mynydd-y-glôg, Cefn Sychbant, Penmoelallt, Cefn Esgair-caerau, Waun Tincer ac ym Mhant Sychbant. Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd yn cynnwys tomenni crwn syml o gerrig, ond mae gan rai strwythurau mwy rheolaidd sy’n awgrymu eu bod wedi cael eu hail-ddefnyddio a’u haddasu, statws gwahanol o bosibl, er mai ychydig iawn o safleoedd sydd wedi cael eu cloddio. Mae’r garnedd gylch, sydd, fel yr awgryma’r enw, yn gylch o gerrig mewn tomen, yn fath arall o heneb angladdol o Oes yr Efydd a gynrychiolir yn yr ardal, er bod llai ohonynt na charneddau crwn. O dystiolaeth yn dilyn cloddio mewn mannau eraill, roedd gan garneddau cylch ystod ehangach o swyddogaethau defodol na charneddau crwn, a oedd fwy na thebyg wedi’u bwriadu ar gyfer claddu’r meirw yn unig. Mae’r garnedd gylch fawr yng Nghwm Cadlan yn enghraifft dda iawn o’i math. Heb eu dyddio, ond y tybir eu bod o’r cyfnod cynhanesyddol yn fras ar sail tebygrwydd â safleoedd a ddyddiwyd gan gloddio mewn mannau eraill, mae clystyrau dystiolaeth yn cynnwys cylchoedd cytiau neu sylfeini cerrig tai crwn, llwyfannau wedi’u creu neu bantiau wedi’u tyllu o bosibl ar gyfer strwythurau pren, amgaeadau, cyfundrefnau caeau a grwpiau o garneddau bach wedi’u clirio, ac weithiau tomenni o gerrig wedi’u llosgi sydd wedi cael eu dehongli fel malurion yn deillio o goginio bwyd mewn dŵr a gynheswyd mewn pwll neu gafn gan gerrig poeth.Mae clystyrau nodedig a helaeth o’r nodweddion hyn ym Mhant Sychbant,Cwm Cadlan ac yn nyffryn Hepste. Dadleuwyd hyd yn oed bod patrymau’r llync-dyllau o galchfaen yn yr ardal hon o bosib yn gysylltiedig â gweithgaredd dynol cynhanesyddol, y gwaith o godi cofadeiladau a chlirio caeau. Mae’r nodweddion erydu hyn yn nodwedd amlwg o’r tirwedd lleol. Roedd aneddiadau canoloesol fel arfer yn dewis lleoliadau tebyg i’r cyfnod cynhanesyddol ond ar y cyfan, ymddengys bod mwy o wasgariad aneddiadau gyda safleoedd mwy anghysbell yn digwydd yn yr ardal. Mae clystyrau o sylfeini adeiladau cerrig canoloesol nodweddiadol a llwyfannau tai ym Mhant Sychbant, Pant y Gadair ac yn nyffryn Hepste. Mae safleoedd Pant Sychbant yn agos at strwythurau cynharach, cynhanesyddol. Mae llai o dystiolaeth ar gyfer amaethu ysylltiedig yn y cyfnod canoloesol ac ystyrir y safleoedd ar y cyfan fel rhai bugeiliol yn bennaf, er nid oes un o fewn yr ardal wedi cael ei gloddio i ddarparu awgrymiadau mwy cywir o ddyddiad a hefyd, p’un a oedd y safleoedd yn barhaol neu’n hafodydd tymhorol mewn cyfundrefn o drawstrefa. Yn hanesyddol, yn dilyn y goresgyniad Normanaidd, daeth y rhan ogleddol o’r ardal sydd nawr o fewn Powys, yn rhan o Fforest Fawr a neilltuwyd ar gyfer hela fel Fforest Arglwyddiaeth Aberhonddu gan Bernard de Neufmarché ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Ym 1521, fodd bynnag, daeth y Fforest yn eiddo i’r Goron ac yn dilyn hynny dirywiodd mewn maint yn raddol wrth i dirfeddianwyr brynu breinryddid rhag rhwystrau cyfraith y fforest, neu drwy asartio ac amgáu, fel, er enghraifft, yn nyffryn Hepste. Ym 1819, gwerthwyd y Fforest ac amgaewyd y rhan ganolog, neu Randir y Comin, gan Amgaead Seneddol, gyda’r darn a gynhwysir yma yn aros fel rhostir agored fel Rhandir Comin. Mae’r darnau tir a adawyd sydd ar yr ymylon rhwng y tir amgaeëdig a’r rhostir agored yn dyddio o tua’r cyfnod hwn: mae enghraifft dda yng Nghwm Cadlan. Yn rhyfedd ddigon, amgaewyd Hepste-fechan, daliad ym mhen uchaf dyffryn Hepste allan o’r rhostir agored ar ryw adeg cyn y gwerthiant, ac mae’r daliad yn parhau i fod yn ’ynys’ weladwy iawn o dir pori gwell o fewn y Rhandir Comin. Ceir tystiolaeth o weithgaredd diwydiannol y gorffennol o’r ddwy ganrif ddiwethaf yn bennaf, ar Gadair Fawr a Mynydd-y-glôg, gan gynnwys chwarelu a llosgi calchfaen. Roedd gweithio calch yn Fforest Fawr yn y cyfnod canoloesol gan fod ffynonellau dogfennol yn nodi tystiolaeth o hawliau’r bobl i chwarelu, llosgi a gwerthu calch, ond roedd y clwstwr o olion sydd wedi goroesi yn yr ardaloedd a nodir yma, a oedd yn gorwedd y tu allan i’r Fforest, fwy na thebyg yn perthyn i’r prif gyfnod cynhyrchu calch yn y 18fed a’r 19eg ganrifoedd, pan gynyddodd y galw gan fyd amaeth, ac i raddau llai, gan waith adeiladu. Gweithiwyd tywod silica a ddefnyddiwyd ar gyfer gwneud briciau tân anhydrin yn ddiweddar yn chwarel Cefn Cadlan, ond rhoddwyd y gorau i echdynnu bellach. Mae’r corlannau niferus yn yr ardal yn dystiolaeth o bwysigrwydd cynyddol ffermio defaid yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Cymru, sydd mewn sawl ffordd yn nodweddiadol, yn dangos pa mor frwd y bu ymelwa gan boblogaethau dynol y parthau hyn yn y gorffennol - weithiau drosodd a thro, weithiau yn barhaus. Mae graddfa a dwyster y gweithgaredd dynol yn rhyfeddol. Mae’r arolwg tirwedd hanesyddol diweddar, gan ddefnyddio mapio modern, arolygu a dulliau cynllunio ffotograffau o’r awyr dros ardaloedd eang a chynrychioliadol iawn, yn dod â’r dwyster gweithgaredd yma yn fyw yn yr hyn sydd heddiw yn ymddangos fel ardal o rostir gwag a diffaith. Llunio Tirwedd Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôgAmlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd hon o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru yn yr adrannau sy’n dilyn. Anheddu Cynnar a Defnyddio Tir Nodweddion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol Traciau, Ffyrdd, Rheilffyrdd a Phibelli Cysylltiadau Hanesyddol a Diwylliannol Ffynonellau Gwybodaeth EraillGellir darganfod gwybodaeth bellach am Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg mewn amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi. Ffynonellau gwybodaeth cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi Ardaloedd nodweddDiffiniwyd yr ardaloedd nodwedd tir hanesyddol o fewn ardal y dirwedd hanesyddol.
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ’ ar www.ccw.gov.uk. |