Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Nodir terfynau’r tirwedd cynwysedig hwn gan geunant yr Afon
E lwy wrth iddo amgy l c hy nu Cefn Meiriadog, esgair isel ar ymy l o n
dwyreiniol Bryniau’r Rhos yng ngogledd Sir Ddinbych,ac fe’i l l eolir
i’r de orllewin o Lanelwy ar ochr orllewinol Dyffryn Clw y d .
Mae llawr cul y dyffryn yn esgyn yn raddol o tua 30m uwchben
SO yn y dwyrain i tua 50m uwchben SO yn y gorllewin,tra bod
ei lethrau coediog trwchus yn esgyn yn serth neu yn glogwynog
mewn mannau wrth iddynt dorri drwy’r bryniau a’r esgeiriau
isel o amgylch sydd tua 100 a 150m uwchben SO.
Mae’n debyg y ffurfiwyd y dyffryn gan wyriad rhewlifol yr
Afon Elwy, o bosibl yn ystod y cyfnod Pleistoseniadd Canol,
cyn 250,000 mlynedd yn ôl.Ceir sawl clogwyn calch serth
ar hyd ochr gogledd ddwyreiniol y dyffryn ac mae’r ardal o
amgylch Cefn yn cynnwys un o’r grwpiau o ogofâu Palaeolithig
a diweddarach a’r llochesau dan graig pwysicaf ym Mhrydain
sy’n cynnwys gwaddodion daearegol ac archaeolegol
Cwaternaidd o bwys rhyngwladol.Mae’r ogofâu yn cynnwys
Pontnewydd,Cefn,Cae Gronw, Galltfaenan a Brasgyll.
Erbyn y 1530au roedd yr ogofâu yn nyffryn Elwy eisoes
yn enwog ac fe’u nodir gan yr hynafiaethwr John Leland ar
ei daith o 1536–39,ond nid archwiliwyd adnoddau cudd eu harwyddocâd
archaeolegol tan 1830,pan ymwelodd y Parchedig
Edward Stanley (Esgob Norwich yn ddiweddarach) â Hen Ogof
Cefn a nododd ‘human as well as animal bones,together with
stags horns,and I believe, some remains of ancient weapons,
have been found’.Daliodd Stanley ati i archwilio Ogof Newydd
Cefn,gan wneud canfyddiadau tebyg,ac erbyn yr 1870au roedd
yr Athro Boyd Dawkins,anthropolegydd ac archaeolegwr amlwg
iawn yn Oes Fictoria, wedi hysbysu’r darganfyddiadau yn nwy
ogof y Cefn,ac ym Mhontnewydd,ble daeth ymchwiliadau gan
yr Athro McKenny Hughes o hyd i lawer o weddillion anifeiliaid
a gweddillion dynol ac offerynnau cerrig cysylltiedig.
Mae’r ogof ym Mhontnewydd,sydd wedi dod yn enwog yn
ddiweddar yn sgîl canfod gweddillion Neanderthaliaidd yno, yn
cynrychioli’r safle mwyaf gogledd orllewinol o’r cyfnod hwn
sy’n hysbys yn Ewrop, rhai o’r gweddillion dynol cyntaf yn
Ynysoedd Prydain a’r preswyliad cyntaf sy’n hysbys yng
Nghymru. Mae gwaith cloddio yn yr ogof gan Amgueddfa
Genedlaethol Cymru o’r 1970au i’r 90au wedi canfod amrywiaeth
eang o arteffactau cerrig ac esgyrn anifeiliaid ac, yn
bwysicaf oll,dannedd dynol a darnau o esgyrn sawl unigolyn
sy’n dangos bod yr hil ddynol yn defnyddio’r ogof hon tua
chwarter miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Mae’r gyfres o waddodion yr ogof a oedd yn cynnwys y dystiolaeth
bwysig a diddorol hon yn gymhleth,ond ymddengys
bod preswyliad yn yr ogof ar ddiwedd y cyfnod cynhesach,neu
ar ddechrau’r rhan oer ddilynol yn ystod Oes yr Iâ.Dyddiwyd y
gwaddodion yn wyddonol i rywbryd tua 225,000 mlynedd yn ôl.
Mae estyniadau ac enciliadau eraill o iâ wedi ailfodelu topograffeg
y dyffryn,ac mae canlyniadau’r cloddio yn awgrymu bod
safle wyneb y graig a cheg yr ogof ar adeg y preswyliad gryn
dipyn ymhellach ymlaen na’u safle presennol.Buasai’r rhan fwyaf
o dystiolaeth am breswyliad y safle wedi diflannu o ganlyniad i
hindreuliad wyneb y graig,yn enwedig tystiolaeth o geg yr ogof,
ond beth bynnag ymddengys y cafodd y gwaddodion a ganfuwyd
yn y rhan o’r ogof sydd wedi goroesi eu hysgubo i mewn fel
dylifiadau mwd ac yn ffodus fe ddygodd ac fe warchododd ddeunydd
gweddilliol a oedd yn deillio o breswyliad y safle.
I’r gogledd o Ogof Pontnewydd,ceir olion cyfundrefnau
caeau o’r Canol Oesoedd ar ffurf glasleiniau sydd yn rhoi arlliw
o economi amaethyddol canoloesol yr ardal,ac yng nghysgod
y llethr coediog yn union uwchben llawr y dyffryn i’r
dwyrain ceir adfeilion ffynnon sanctaidd ganoloesol a chapel y
Ffynnon Fair sy’n dystiolaeth o fywyd cyfoes crefyddol yr
ardal.
Mae’r dyffryn heddiw yn cyflwyno tirwedd o ddiddordeb
hanesyddol cydlynus,ac er ei fod yn fach o’i gymharu â’r
ardaloedd tirwedd eraill a nodir yn y Gofrestr hon,mae’n syndod
o gyflawn,oherwydd yn ogystal â’r dystiolaeth archaeolegol
gynnar bwysig iawn a geir yn yr ogofâu,mae ffurfiau’r tir eu
hunain yn darparu’r allwedd i ddehongli hanes gwaddodol hir
yr ardal ynghyd â rhoi cipolwg pryfoclyd o amgylchedd y
preswylydd cyntaf o Gymru.
|