CPAT logo


Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan


CPAT PHOTO 1941-55

Rhagarweiniad

Mae'r disgrifiad canlynol, a ddaw o'r Gofrestr Tirluniau Hanesyddol, yn nodi’r themâu hanesyddol hanfodol yn ardal tirlun hanesyddol cwm Elan.

Mae’r ardal anghysbell hon yn cynnwys y rhan fwyaf o ddalgylch Afon Elan a’i his afon, Afon Claerwen, sy’n draenio ochr de ddwyreiniol Mynyddoedd y Cambria yng Nghanolbarth Cymru. Mae’n cynnwys ardal eang o wastadedd uwchdir hynod ddyranedig rhwng tua 400 a 550m uwchben SO, gyda chymoedd rhiciog dwfn Elan a Chlaerwen yn darparu’r unig lwybrau o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws yr ardal hon o Gymru, sydd fel arall yn ddiarffordd ac yn wag. Syrthia lloriau’r cymoedd o dros 300m uwchben SO yn y gorllewin i 200m uwchben SO yn y dwyrain, o ble mae’r Afon Elan yn parhau i lifo am bellter byr y tu hwnt i’r ardal a ddisgrifir yma, i ymuno ag Afon Gwy i’r de o’r Rhaeadr.

Mae’r ardal hon yn enghraifft wych yng Nghymru o dirwedd sy’n dangos ymdrech ddynol ar raddfa fawr, gan ei bod wedi’i newid yn sylweddol gan gynlluniau peirianneg sifil mawr a oedd yn eiddo i’r diwydiant dŵr a’r stad o dan ei reolaeth yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrifoedd. Mae’r cynlluniau yn cwmpasu adeiladu cyfres o argaeau enfawr a gweithiau atodol yr ymgymerwyd â hwy mewn dau gam pwysig rhwng diwedd y 19eg a chanol yr 20fed ganrifoedd. Roedd y cam cyntaf yn un o gyflawniadau peirianneg sifil mwyaf y 19eg ganrif drwy Brydain gyfan, a bu sôn amdanynt unwaith fel ‘wythfed rhyfeddod y byd’.

Dechreuwyd adeiladu’r gyfres o argaeau, a adwaenir yn gyffredinol fel Cwm Elan, gan Gorfforaeth Birmingham, er mwyn cyflenwi dŵr i’r ddinas, ym 1893,gan ddechrau gydag Argae Caban-coch. Disgrifiwyd y strwythur enfawr hwn a’i dri is-argae mewn adroddiad swyddogol cyfoesol fel ‘of cyclopean rubble embedded in concrete and faced upstream and down-stream with shaped stones arranged in snecked courses’. Erbyn pryd eu cwblhawyd ym 1904, roedd y Gorfforaeth wedi adeiladu nid yn unig yr ystod ddisgwyliedig o dyrau hidlo a falfiau, tanciau setlo, gwelyau hidlo a thai peiriannau a generaduron oedd yn angenrheidiol er mwyn rheoli lefel y dŵr a chynnal ei lif parhaus, ond roedd hefyd wedi amgáu’r rhan fwyaf o’r tir cyfagos oddi-amgylch y cronfeydd gyda chyfres o waliau cerrig enfawr a ffiniau cymhleth er mwyn diogelu’r dŵr rhag ei lygru. Roedd uchder y cronfeydd yn golygu bod dŵr yn gallu cyrraedd cyrion Birmingham drwy ddisgyrchiant yn unig, heb gost pwmpio, ar hyd cyfundrefn anhygoel o ddyfrbontydd wedi’u claddu, sy’n 126km o hyd.

Cyflogodd Corfforaeth Birmingham lafur uniongyrchol ar gyfer y cynllun a oedd yn cynnwys adeiladu rheilffordd er mwyn cludo deunyddiau o Reilffyrdd Cambria yn Rhaeadr, a bu’n rhaid adeiladu mwy na 50km o drac er mwyn gwasanaethu’r safleoedd adeiladu amrywiol. Rhwng 1906 a 1909, adeiladwyd gardd-bentref bychan, o ansawdd uchel, yn yr arddull Celf a Chrefft nodedig, oedd yn cynnwys casgliad taclus o dai ar wahân ac o dai pâr o gerrig wedi’u gosod ar hyd lan daheuol Afon Elan, wrth droed y brif argae fel cartrefi i’r rheini a fyddai’n gweithio ac yn cynnal peiriannau ac offer cymhlethfa’r argae. Roedd y pentref yn cynnwys ysgol, siop a swyddfa stad.

Mae llawer o’r dirwedd urddasol hon wedi goroesi fwy neu lai yn ddigyfnewid ers troad y ganrif gan i’r stad gael ei rheoli’n llym, er mwyn cadw purdeb y dŵr, gan fyrddau a chwmnïau dŵr y naill ar ôl y llall. Mae’r dirwedd, felly, wedi osgoi nifer o’r tueddiadau diweddar o ran coedwigaeth ar raddfa fawr a gwelliannau amaethyddol eraill ar uwchdiroedd. Gwnaed darpariaeth ar gyfer ehangu’r cynllun gwreiddiol yn y dyfodol wrth adeiladu Argae Claerwen yn y cwm nesaf yn ystod 1948–52, gan wneud cymhlethfa Cwm Elan yn un o’r cynlluniau cyflenwi dŵr yfed mwyaf ym Mhrydain gyda chynhwysedd cyfunol o fwy na 100 biliwn litr o ddŵr. Ers preifateiddio’r cwmnïau dŵr, trosglwyddwyd perchenogaeth a rheolaeth Stad Cwm Elan i ymddiriedolaeth elusennol sy’n gyfrifol am ddiogelu treftadaeth unigryw’r ardal a pharhau i’w rheoli’n gydymdeimladol. Bydd hyn, gobeithio, yn cadw awyrgylch a thawelwch unigryw’r dirwedd

Gwasgarwyd carneddau claddu a meini hirion trawiadol Oes yr Efydd yn helaeth ar draws yr ardaloedd uwchdir anghysbell ac anhygyrch sy’n amgylchynu’r cronfeydd dŵr, tra bod gwersyll ymdeithio Rhufeinig yn Esgair Perfedd. Yn y cyfnod canoloesol, roedd yr ardal yn rhan o stad helaeth Cwmteuddwr o dir pori comin a daliadau anghysbell a oedd yn eiddo i’r Abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur, Ceredigion. Mae ffermydd ôl-ganoloesol yma hefyd, a nifer sylweddol o fwynfeydd a henebion diwydiannol o ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrifoedd. Er bod thema’r dirwedd llawer yn fwy trawiadol na’r safleoedd eilradd hyn, mae llawer o’r safleoedd hyn wedi eu diogelu cystal gan y stad fel eu bod yn ffurfio atodiad hanesyddol gwerthfawr i dirwedd sydd fel arall yn fodern. Mae gan yr ardal hefyd gysylltiadau pwysig â P. B. Shelley a fu’n mawrygu rhinweddau ei chymeriad tra’n barddoni yn Nant Gwyllt.

Llunio Tirwedd Cwm Elan

Er bod cynllun cronfa ddŵr Corfforaeth Birmingham yng Nghwm Elan yn gynrychioliadol o dirwedd a ddyluniwyd yn ei hanfod yn null oes Fictoria a dechrau’r cyfnod Edwardaidd, roedd wedi’i arosod ar dirwedd lawer mwy hynafol a oedd wedi datblygu dros gyfnod o lawer o filoedd o flynyddoedd. Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd arbennig hon yn yr adrannau sy’n dilyn.

Amgylcheddau, Ffiniau a Chanfyddiadau

Enwau lleoedd

Anheddu Cynnar a Defnyddio Tir

Defnyddio Tir ac Anheddu yn y Canoloesoedd a’r Ôl-ganoloesoedd Cynnar

Stadau â Thir a Gwelliannau Amaethyddol yn y 18fed a’r 19eg Ganrif

Mwyngloddio Metel ar Ddiwedd y 18fed a’r 19eg Ganrif

Cludiant a Chyfathrebu Cynnar

Cymdeithasau Llenyddol a Hynafiaethol

Cynllun Cronfa Ddŵr Cwm Elan

Ffynonellau Gwybodaeth Eraill

Gellir darganfod gwybodaeth bellach am Gwm Elan mewn amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi.

Ffynonellau gwybodaeth cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi

Gwefannau eraill â gwybodaeth am Gwm Elan

Ardaloedd nodwedd

Diffiniwyd yr ardaloedd nodwedd tir hanesyddol o fewn ardal y dirwedd hanesyddol.

Click for landscape description

Ardaloedd nodwedd a ddiffinnir yn Nhirlun Hanesyddol Cwm Elan


CPAT PHOTO 1526.14

1131 ardal nodwedd Cronfeydd Dŵr Cwm Elan. Tirwedd amrywiol o fewn, o amgylch ac islaw y cynllun cronfeydd dŵr Fictoraidd ac Edwardaidd, gan gynnwys argaeau, cronfeydd a strwythurau ategol, olion nodweddion sy’n gysylltiedig ag adeiladu, y dirwedd â dŵr drosti ar lawr y dyffrynnoedd yn ymddangos o bryd i’w gilydd pan fydd lefel y dŵr yn isel, ynghyd â phlanhigfeydd conwydd, olion coetir llydanddail naturiol a lled-naturiol, caeau, a ffermydd o amgylch ochrau’r dyffryn. Llun: CPAT 1526.14. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynghylch yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 1538.15

1132 ardal nodwedd Pentref Elan. Pentref stad bychan mewn cyflwr da, gyda thai cerrig, ysgol a swyddfa ystâd yn yr arddull Celf a Chrefft a godwyd gan Gorfforaeth Dinas Birmingham yn bennaf ym 1909. Llun: CPAT 1538.15. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 03-c-0658

1133 ardal nodwedd Claerwen. Adeiladwyd yr argae a'r gronfa ddŵr ar ddiwedd y 1940au a dechrau’r 1950au i wella cyflenwadau dŵr Birmingham o gwm Elan, mewn arddull sy'n cyd-fynd â chronfeydd dŵr cynharach Cwm Elan. Llun: CPAT 03-c-0658. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 03-c-0607

1134 ardal nodwedd Mwynglawdd Cwm Elan. Hen dirwedd mwyngloddiau plwm a sinc sy’n gryno ac mewn cyflwr da, o’r 19eg ganrif yn bennaf, gydag olion mwyngloddio cynharach. Llun: CPAT 03-c-0607. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 03-c-0669

1135 ardal nodwedd Dalrhiw. Tirwedd mwyngloddio copr a phlwm o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif yng nghwm Claerwen a chymoedd nentydd uwchdirol gerllaw, gan gynnwys setiau mwyngloddio Gogledd Nant y Car, De Nant y Car, Dalrhiw a Nantygarw. Llun: CPAT 03-c-0669. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 03-c-0653

1136 ardal nodwedd Elenydd. Rhostir helaeth agored ynghyd â llynnoedd bychain ucheldirol, corsydd mawn, henebion angladdol a defodol cynhanesyddol a llechfeddiannau bychain gwasgaredig o’r canol oesoedd a’r cyfnod yn union wedi hynny. Llun: CPAT 03-c-0653. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

CPAT PHOTO 03-c-0688

1137 ardal nodwedd Cwm Dulas. Tirwedd o ffermydd gwasgaredig a chaeau bychain afreolaidd o darddiad canoloesol neu ddiweddarach yn y cwm ucheldirol rhwng Carn Gafallt ac ucheldiroedd Elenydd, gydag arwyddion o weithgarwch llawer cynt, cynhanesyddol o bosib. Llun: CPAT 03-c-0688. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 03-c-0687

1138 ardal nodwedd Carn Gafallt. Ardal fechan ucheldirol anghysbell rhwng cymoedd Elan a Dulas, gydag ochrau serth coediog. Bellach, rheolir hi yn rhannol fel gwarchodfa natur, â henebion claddu cynhanesyddol ac olion amaethu ôl-ganoloesol o bosib. Llun: CPAT 03-c-0687. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 03-c-0691

1139 ardal nodwedd Deuddwr. Tirwedd donnog iseldirol o gaeau a ffermydd canoloesol eu tarddiad neu ddiweddarach ar hyd ran isaf cwm Elan a’i chymer rhwng Pentref Elan a Llansantffraid Cwmdeuddwr i’r gorllewin o Raeadr. Llun: CPAT 03-c-0691. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd


I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad yma neu ewch i mewn i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.

1139 1139 1139 1138 1138 1138 1138 1137 1137 1137 1137 1131 1131 1131 1131 1135 1134 1133 1133 1133 1133 1133 1133 1133 1133 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1132 1132 1132