Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi’r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Yn ddaearyddol, mae Bro Caersws yn ardal naturiol drawiadol yng nghanol Canolbarth Cymru. Cyfyngir ar y go ly g fey dd allan o’r fro ym mhob cyfeiriad gan y bryniau a’r esgeiriau isel di-dor o’i hamgylch, sydd rhwng 300m a 400m uwchben SO. Mae llawr y fro, sy’n ymdd a n gos fel petai wedi’i amgáu ond sy’n llydan hefyd, yn wastad ar y cyfan, gan godi 20m yn unig mewn 5km, o 115m i 135m uwchben SO, o’r dwyrain i’r gor llewin. Mae’r ardal anhygoel naturiol hon, er yn fas, wedi gwneud y fro yn ardal o bwysigrwydd strategol a hanesyddol eithriadol yng Nghymru, tra bod cyflifiad Afonydd Carno a Thrannon gydag Afon Hafren hefyd wedi gwneud Caersws ynghanol y froyn ganolbwynt naturiol ar gy fer cysylltiadau. Roedd hyn fwyaf amlwg yn ystod y cyfnod Rhufeinig pan oedd rhwydwaith o ffyrdd yn tarddu o’r gaer Rufeinig yno, gan arwain ar hyd y cymoedd a thros y bryniau i’gogledd. Mae olion rhai ffyrdd yn weladwy o hyd mewn rhai lleoedd. Mae’r cyfuniad o dopograffeg naturiol a thystiolaeth o benderfyniad dyn i reoli tramwyfey dd a chysylltiadau felly wedi creu tirweddodd i ddodeb a chy wirdeb hanesyddol mawr.
Mae cyfres o amgaeadau bychain o Oes yr Haearn, sydd bellach i’w gweld ar y cyfan fel olion cnydau yn unig, yn awgrymu preswyliad cynhanesyddol yn yr ardal. Yn ddiweddar darganfuwyd amgaead hirgrwn mawr wedi’i amgylchynu â chlawdd a ffos toredig ychydig i’r gogledd o Gaersws, ac mae cloddiadau
archaeolegol wedi darparu dyddiad Oes yr Haearn i’r llifwaddodion yn y ffos. I’r de orllewin o Gaersws, bryngaer amlgloddiog gymhleth Cefn Carnedd yw un o’r nifer o safleoedd a awgrymir ar gyfer brwydr olaf Caradog, er bod y cysylltiad ychydig yn wan. Fodd bynnag, mae’r holl olion hyn yn dystiolaeth glir o aneddiad, ac fwy na thebyg o ffermio dwys yn ystod Oes yr Haearn yn yr ardal.
Dechreuodd y dylanwad Rhufeinig gy da’r ymgy rchoedd cynnar yn erbyn yr Ordovici, y llwyth Oes yr Haearn a oedd yn p re swylio yng Ngo gledd Cymru. Sefyd lwyd caer i’r dwyrain o bentref presennol Caersws, ond erbyn tua AD 75, disodlwyd hon gan gaer new y dd wedi’i lleoli ger cyflifiad Afonydd Carno a Hafren. Yn ei hanterth, yn ystod yr 2ail ganrif, by dd a i’r gaer wedi bod yn strwythur trawiadol wedi’i hamddiffyn fel yr oedd gan ragfur tywodfaen coch a chy fres o hyd at dair ffos allanol. Y tum ewn i’r gaer,mae cloddio parhaus wedi datgelu cynlluniau’r prifgy f res o adeiladau cerrig ac olion y gwersyllty pren a’r stablau. O amgylch y gaer i’r de a’r dwyrain, sefydlwyd aneddiad sifilaidd sylweddol, a oedd yn cynnwys gweithdai, tafarn dai, a theml fechan yn ogystal ag adeiladau cartrefol. Mae’r baddondyadd a rganfuwyd ym 1854 bellach yn go r we dd o dan iard y rheilffordd.
Ni wyddys llawer am hanes canoloesol yr ardal hon. Ar ochr ddeheuol y fro mae dau gastell tomen a beili ym Mronfelin a Moat Farm, gyda thystiolaeth o mgaeadau cynharach o bosibl. Mae gan Gaersws ei hun gynllun stryd a fyddai’n cael ei gysylltu fel arfer ag aneddiad canoloesol, er nad oes unrhyw ystiolaeth archaeolegol i gefnogi hyn. Yn wir canolir y plwyf lleol ar Lanwnog a sefydlwyd mae’n debyg, yn ystod y 6ed ganrif gan Sant Gwynog, ac sy’n barhad i safle’r eglwys o’r telynegwr poblogaidd Cymraeg o’r 19eg ganrif, John Ceiriog Hughes, a fuar un pryd yn orsaf-feistr yn Llanidloes, ac yn ddiweddarach yn ruchwyliwr lein ar gangen Rheilffyrdd Cambria rhwng Caersws a’r Fan. Fe’i claddwyd yn Llanwnog.
Adeiladwyd y lein i’r Fan er mwyn cario’r mwyn o’r pyllau plwm pwysig yn Y Fan a Dylife, ac fel nifer o rannau gwreiddiol eraill Rheilffyrdd Cambria yn yr ardal, fe’i crewyd gan y diwydi - annwr a’r mentrwr, David Davies,a ddaeth yn Arglwydd Davies yn ddiweddarach, a oedd yn fwyaf enwog yn Ne Cymru am
echdynnu glo o’r Rhondda a’i allforio ar hyd ei reilffordd ei hun a thrwy ei borthladd ei hun yn Y Barri. Mae ei dyˆ yn Llandinam, Broneirion, yn edrych dros y pentref ac yn Ganolfan Hyfforddi Geidiaid Cymru heddiw. Ar ddiwedd y 19eg ganrif, adeiladodd y teulu Davies Plas Dinam, sydd bellach yn goruchafu dros y ffordd ogleddol i’r pentref, a grëwyd ran fwyaf mewn gwirionedd gan Davies. Mae Llandinam hefyd yn enwog fel un o’r plwyfi gwledig Cymreig cyntaf i dderbyn trydan, ym 1904. Mae gwreiddiau’r pentref, fodd bynnag, yn llawer cynharach gan fod yr eglwys yn ôl y sôn yn glas Celtaidd cynnar neu’n sefydliad mam eglwys.
Ardal nodwedd Penbedw.
Tirwedd o gaeau a ffermydd gwasgaredig ar dir llethrog a bryniau isel yn ffurfio ymyl gogledd-ddwyreiniol Basn Caersws. Mae’n rhannol gynrychioli cau tir bob yn dipyn, o’r cyfnod canoloesol ymlaen yn ôl pob tebyg, ac yn rhannol gynrychioli cau tir comin gynt ar ddechrau'r 19eg ganrif. Ceir tystiolaeth o aneddiadau amddiffynedig cynhanesyddol diweddarach tebygol. Llwybr y ffordd Rufeinig i’r gogledd-ddwyrain o’r gaer Rufeinig yng Nghaersws.
Llun: CPAT 06-C-14.
(yn ôl i’r map)
Ardal nodwedd Llanwnog.
Peth tystiolaeth o ddefnyddio tir ac anheddu cynhanesyddol cynnar. Llwybr y ffordd Rufeinig i’r gogledd o’r gaer Rufeinig yng Nghaersws. Tirwedd o gaeau cymysg yn cynrychioli clirio a chau tir bob yn dipyn, a chau tebygol hen gaeau agored canoloesol, sy’n gysylltiedig â’r anheddiad cnewylledig sy’n tarddu o’r cyfnod canoloesol cynnar neu’r cyfnod canoloesol yn Llanwnog. Pentrefan diwydiannol yn manteisio ar bŵer dŵr ym Mhontdôlgoch, a nodweddion sy’n gysylltiedig â datblygu’r ffordd dyrpeg a’r rhwydweithiau rheilffyrdd yn y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif.
Llun: CPAT 06-C-43.
(yn ôl i’r map)
Ardal nodwedd Glasgoed.
Tirwedd o gaeau afreolaidd sydd i’w gweld gan fwyaf, sy’n cynrychioli clirio a chau coetiroedd bob yn dipyn, o’r cyfnod canoloesol cynnar ymlaen o leiaf.
Llun: CPAT 06-C-65.
(yn ôl i’r map)
Ardal nodwedd Cerist.
Tirwedd caeau cymysg ar y tir gweddol wastad ac isel ar hyd rhan isaf dyffryn Trannon a dyffryn Cerist. Mae’n cynrychioli cyfuniad o glirio a chau tir bob yn dipyn o’r cyfnod canoloesol ymlaen, cau tir yn barciau ac, yn ôl pob tebyg, ad-drefnu’r dirwedd, yn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar o bosib. Bu peth ad-drefnu yn dilyn adeiladu Rheilffordd y Fan a newid hynt darn o Afon Cerist tua diwedd y 19eg ganrif.
Llun: CPAT 06-C-74.
(yn ôl i’r map)
Ardal nodwedd Caersws.
Pentref modern, sef bwrdeistref ganoloesol yn wreiddiol, ac wedi’i adeiladu dros anheddiad sifilaidd Rhufeinig gerllaw caer Rufeinig. Mae safle’r pentref ar y rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif wedi cyfrannu ar y dechrau at ei ddatblygiad. Yn ddiweddarach, datblygodd yn bentref noswylio ar gyfer y Drenewydd.
Llun: CPAT 06-C-24.
(yn ôl i’r map)
Ardal nodwedd Maes-mawr.
Tirwedd caeau yn cynnwys caeau mawr afreolaidd yn bennaf, ar hyd gorlifdir Afon Hafren a’i ymylon. Ymddengys fod rhai ohonynt yn cynrychioli cau dolydd sy’n gysylltiedig â grŵp o ganolfannau stadau uchel eu statws a ddaeth i fodolaeth yn yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif.
Llun: CPAT 06-C-08.
(yn ôl i’r map)
Ardal nodwedd Carnedd.
Bryngaer Oes yr Haearn ar gefnen pen bryn. Tirweddau o gaeau afreolaidd a ffermydd gwasgaredig yn tarddu o bosibl o’r cyfnod canoloesol ac yn ddiweddarach. Ceir ardaloedd o weddillion coetiroedd llydan-ddeiliog ar y llethrau mwyaf serth a phlanhigfeydd conwydd a rhai porfeydd agored ar dir a gaewyd yn gyntaf ar ddechrau'r 19eg ganrif. Tirlun plasty â gerddi, gyda phorthdy ac adeiladau eraill cysylltiedig, a adeiladwyd ar gyfer David Davies ym Mroneirion.
Llun: CPAT 06-C-85.
(yn ôl i’r map)
Ardal nodwedd Rhos Ddiarbed.
Tirweddau caeau afreolaidd a ffermydd gwasgaredig o darddiad canoloesol neu gynharach o bosibl, ar y tir sy'n codi tua de a dwyrain Basn Caersws. Cestyll mwnt a beili canoloesol sy’n gysylltiedig â’r goncwest Eingl-Normanaidd. Anheddiad bach eglwysig cnewylledig o darddiad canoloesol cynnar a chanoloesol yn Llandinam. Dylanwadwyd ar ei ddatblygiad gan y gwelliannau i’r ffyrdd tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, a chan ddyfodiad y rheilffyrdd a nawdd y teulu Davies ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.
Llun: CPAT 06-C-106.
(yn ôl i’r map)
Ardal nodwedd Moel Iart – Bryn Penstrowed.
Rhostir caeedig ar y bryniau o amgylch ymylon deheuol a dwyreiniol Basn Caersws. Cafodd rhannau sylweddol ohono eu cau o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau'r 19eg ganrif.
Llun: CPAT 06-C-122.
(yn ôl i’r map)
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.