Archaeoleg Clwyd-Powys

ARCHEOLEG | YR AMGYLCHEDD HANESYDDOL | YMGYSYLLTU Â’R CYHOEDD

Gwasanaethau Maes

Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth archaeoleg a threftadaeth ddiwylliannol llawn i gleientiaid o’r sector preifat, boed fach neu fawr, yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys gwaith cloddio, gwerthusiadau, cofnodi adeiladau, arolygon ac astudiaethau wrth ddesg.


CAEL GWYBOD MWY

Allgymorth ac Addysg

Rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau ac unigolion yn darparu profiadau dysgu ac allgymorth amrywiol i bobl o bob oedran. Mae’r rhain yn cynnwys profiad gwaith maes, lleoliadau, anerchiadau a chefnogaeth i brosiectau.


CAEL GWYBOD MWY

Gwasanaethau Cynghori

Rydyn ni’n cynnal y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol, yn cyflenwi gwasanaethau cynllunio i awdurdodau lleol ac yn gwneud gwaith rheoli treftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru a chyrff eraill.


CAEL GWYBOD MWY

Ynglŷn â’r Ymddiriedolaeth

Elusen addysgol yw Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, a sefydlwyd ym 1975. Ein hamcan yw ‘hyrwyddo addysg y cyhoedd mewn archaeoleg’. Dysgwch fwy am ein pobl, sut rydyn ni’n gweithredu a sut rydyn ni’n cael ein hariannu.

Ein bryngaer yng Nghaer Digoll

Ers 2008, rydyn ni wedi bod yn berchen ar y fryngaer yng Nghaer Digoll, sydd ar Gefn Digoll yn tremio dros y Trallwng yng Nghymru. Rydyn ni wrthi’n ymchwilio i’r heneb hon ac yn ei rheoli fel ei bod yn enghraifft dda o gadwraeth.

YCHWANEGU GWERTH

Uchafbwyntiau prosiectau

Mae cymdeithas yn newid ac yn esblygu byth a hefyd. Mae ein prosiectau’n ychwanegu gwerth trwy ein galluogi i greu dyfodol gwell ar sylfeini cyflawniadau yn y gorffennol.

Mae seilwaith newydd – ffyrdd neu ynni adnewyddadwy – tai newydd (neu addasu adeiladau sy’n bodoli at ddibenion gwahanol), oll yn gallu effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol. Ein rôl ni yw rheoli’r rhyngwyneb rhwng yr hen a’r newydd, deall a diogelu archaeoleg a threftadaeth ddiwylliannol i alluogi gwaith datblygu cynaliadwy.

Edrychwch ar rai o uchafbwyntiau prosiectau i weld sut rydyn ni wedi cyflawni hyn ar gyfer gwahanol gleientiaid mewn amgylchiadau amrywiol.

CAEL GWYBOD MWY

Chwaraewch ran – ymunwch â’r Cyfeillion. Cloddio, darganfod, mwynhau!

Adnoddau

Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae ein gwaith prosiectau wedi rhoi gwybodaeth unigryw i ni o ranbarth Clwyd-Powys ac archaeolegol ledled Cymru a Lloegr. Yn ogystal â’r wybodaeth gronnol y mae prosiectau â ffocws lleol yn ei darparu, rydyn ni hefyd wedi gwneud cyfres o astudiaethau ledled y rhanbarth o dirweddau hanesyddol, aneddiadau ac eglwysi.

Tirweddau

Astudiaethau manwl o gymeriad 15 o dirweddau hanesyddol cofrestredig yn ein rhanbarth.

CAEL GWYBOD MWY

Aneddiadau

Asesu a dadansoddi’r holl aneddiadau hanesyddol yn ein rhanbarth.

CAEL GWYBOD MWY

Eglwysi

Arolwg o’r holl eglwysi hanesyddol yn rhanbarth Clwyd-Powys

CAEL GWYBOD MWY

Cysylltu â ni

Defnyddiwch y ffurflen isod i gysylltu â ni