Archif Margaret Worthington
Rydyn ni’n ddiweddar wedi cymryd cyfrifoldeb am archif Margaret Worthington fu’n rhedeg Prosiect Clawdd Offa, gyda David Hill, trwy Brifysgol Manceinion. Mae Sophie wedi bod yn gweithio’i ffordd trwyddo; sgroliwch trwodd i’w chyflwyniad i’r archif.
Un rhan hanfodol o’r gwaith y mae’r Ymddiriedolaeth a chontractwyr archaeolegol eraill yn ei wneud yw casglu’r holl wybodaeth at ei gilydd sydd wedi’i chynhyrchu o brosiectau archaeolegol, i greu archif sefydlog, trefnus a hygyrch. Gall hyn fod yn archif ffisegol, fel cofnodion safle, darluniadau, darganfyddiadau a samplau yn ogystal ag archif digidol, a chedwir y wybodaeth hon ar gyfer ymchwilio a dadansoddi yn y dyfodol.
Yn ddiweddar, gwnaethon ni dderbyn archif mawr oddi wrth Margaret Worthington a fu, ochr yn ochr â David Hill, yn rhedeg prosiect allgyrsiol trwy Brifysgol Manceinion o’r enw Prosiect Clawdd Offa. Mae mwyafrif yr archif yn manylu ar waith a wnaed yn y 1970au a’r 1980au, yn archwilio adeiladwaith a graddau Clawdd Offa a gwrthgloddiau llinellol eraill. Gwnaed dros 100 o gloddiadau yn ogystal â nifer o arolygon a, dros y blynyddoedd, mae’r gwaith hwn wedi cronni i ddod yn archif sylweddol sy’n cynnwys llyfrau nodiadau safleoedd, dyddiaduron, ffotograffau, gohebiaeth, darluniadau, diagramau, mapiau a darganfyddiadau. Gan nad oes yna gatalog o’r archif ar hyn o bryd, mae Sophie yn gweithio trwy’r dogfennau i gynhyrchu catalog manwl o’i gynnwys a’i gyflwr. Mewn amser, fe fydd yn cael ei aildrefnu, ei ailosod mewn bocsys a’i adneuo â storfeydd perthnasol i’w storio am y tymor hir. Rydyn ni hefyd yn gobeithio chwyddo’r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol perthnasol ag unrhyw wybodaeth newydd a ddaw i’r fei.
Dros yr wythnosau sydd ar ddod, fe fyddwn ni’n dangos rhywfaint o gynnwys yr archif ichi ac yn rhoi cipolwg ichi ar rywfaint o waith arall y mae archaeolegwyr yn cymryd rhan ynddi i ffwrdd o’r rhychau!