![]() Cymraeg / English
|
![]() |
Data-bas yr Arolwg o Eglwysi HanesyddolRhwng 1995 a 1999 noddodd Cadw y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru i gynnal arolwg ledled Cymru o eglwysi hanesyddol. Mae'r gwaith hwn, a oedd yn cynnwys ymweld â phob un o'r 976 o eglwysi plwyfol yng Nghymru sy'n dyddio o cyn y 19eg ganrif a'u cofnodi hefyd, wedi cynhyrchu set bwysig o ddata a fydd, gobeithio, yn ddefnyddiol i ymchwilwyr proffesiynol a phreifat, ac i'r cyhoedd yn ogystal. Un o'r ffyrdd y dewisodd CPAT gyhoeddi'r data hwn yw paratoi'r tudalennau canlynol fel rhan o'i gwefan. Mae pob tudalen yn disgrifio un eglwys a gellir ei chyrraedd un ai o fynegai sydd yn nhrefn yr wyddor neu drwy'r map dosbarthu perhnasol. Cynhyrchir tudalennau'r eglwysi unigol yn uniongyrchol o ddata-bas yr arolwg a dim ond yn Saesneg y maent ar gael. Dewiswch ardal arolwg o’r rhestr neu’r map isod i weld mynegai o eglwysi yr ymwelwyd â nhw.
|