CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Bro Trefaldwyn Historic Landscape

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn


Trafnidiaeth a Chyfathrebu

Oherwydd ei leoliad daearyddol bu'r ardal yn llinell gyfathrebu bwysig rhwng Canobarth Cymru a Chanolbarth Lloegr ers y cyfnodau cynharaf, ond bu nifer o newidiadau dramatig mewn cyfathrebu oherwydd ffactorau gwleidyddol ac economaidd. Dilynai'r ffordd oedd yn cysylltu Canolbarth CYmru â dinas Rufeinig Wroxeter a gweddill yr Ymerodraeth Rufeinig yn dilyn llwybr isel ar hyd gwaelod dyffrynnoedd Rea a Chamlad i'r gaer ar lanau Hafren a elwir The Gaer, Ffordun. Ni ellir amau bod y gaer wedi ei lleoli i reoli rhyd bwysig a oedd yma eisoes, ond roedd y brif linell gyfathrebu i'r gorllewin yn parhau i ddilyn glwn ddeheuol yr afon at bwynt ychydig i'r dwyrain o gaer Rufeinig Caersws. Dangosir ail linell gyfathrebu Rufeinig i'r gorllewin ar hyd dyffryn Caebitra ac yna i'r Sarn gan gaer Rufeinig arall a gwersyll milwrol hefyd efallai ym Mhentrehyling. Awgrymir y posibilrwydd fod rhyd dros Hafren yn yr ardal hon a ddefnyddid ers dyddiau cynharach gan y ffaith fod nifer o gofadeilau seremonïol cynhanesyddol cynharach yn ymyl Dyffryn, ar lan arall Hafren, a bryngaergynhanesyddol ddiweddarach Ffridd Faldwyn, uwchben Trefaldwyn.

Ychydig a wyddys am unrhyw fannau croesi ar daws llinell Clawdd Offa, a godwyd i ddiffinio ffiniau teyrnas Mersia yn hwyr yr 8fed ganrif, ond gellir rhagdybio bylchau lle mae'n croesi dyffrynnoedd Camlad a Chaebitra. Parhaodd y groesfan i fod yn bwysig tan y cyfnod canol cynnar, a rhoddwyd yr enw Forden - o'r Hen Saesneg 'anheddiad y rhyd' - i un o'r aneddiadau a sefydlwyd wrth i Fersia ehangu i'r gorllewin o Glawdd Offa, efallai yn ystod y 9fed/10fed ganrif. Erbyn cyfnod Llyfr Domesday, a luniwyd i frenin y Normaniaid, Gwilym I, yn 1086, rhoddwyd i anheddiad yn ymyl The Gaer yr enw Horseforde sef 'rhyd geffylau'. Erbyn y 13eg ganrif, enw'r Cymry ar yrhyd ychydig i'r de o'r gaer Rufeinig oedd Rhydwhiman (sef, y rhyd gyflym) ac enw'r Saeson arni oedd rhyd Trefaldwyn (vadum aquae de Mungumery). Roedd ei phwysigrwydd sumbolaidd fel man cyfarfod wedi diflannu erbyn diwedd y 13eg ganrif, fodd bynnag, wedi i Edward orchfygu'r Cymry.

Parhaodd y rhyd i fod o bwys yn lleol, fodd bynnag, ac er bod teithwyr i'r gorllewin o'r 1fed / 16eg ganrif ymlaen yn defnyddio cyfres o bontydd ymhellach i'r gogledd yng Nghilcewydd a Chaerhowel i'r de, ychydig y tu allan i'r ardal tirwedd hanesyddol, parhawyd i ddefnyddio'r rhyd yn Rhydwhiman a rhyd a fferi yn Nyffryn tan rywbryd yn y 19eg ganrif.

Llinell gyfathrebu bwysig arall i ganolbarth Cymru oedd Cefnffordd Ceri, neu Yr Hên Ffordd sy'n dilyn y gefnen ar hyd ffin ddeheuol yr ardal tirwedd hanesyddol. Ni wyddys i sicrwydd pa mor hen yw'r gefnffordd, ond awgrymwyd ei bod mewn defnydd ers y cyfnod cynhanesyddol cynnar, ac mae bwlch posibl yn llwybr Clawdd Offa ar ben y bryn yn awgrymu'r posibilrwydd ei bod yn cael ei defnyddio yn yr 8fed ganrif. Awgrymir bodolaeth ffordd ganoloesol ar ei hyd gan bresenoldeb castell cloddwaith Bishop's Moat. Ychydig o ddefnydd a wneir o'r Gefnfford heddiw, ond mae'r bwlch rhwng y gwrychoedd a'r ymylon llydan yn awgrymu ei bod wedi datblygu ei ffurf bresennol fel ffyrdd porthmyn ar draws y tiroedd comin uchel yn ystod y 17eg/18fed ganrif efallai, er mwyn gyrru gwartheg a defaid o GYmru ar droed i farchnadoedd Lloegr at ddiwedd yr haf ac yn ystod yr hydref.

Datblygodd lonydd, llwybrau llydan a lwybrau troed rhwng y canolfannau poblog yn y canoloesoedd cynnar a'r canoloesoedd, a ddatblygodd yn Nhrefaldwyn, Chirbury, Yr Ystog, Hyssington, Ffordun a Snead a'r trefgorddau a'r ffermydd cyfagos. Daeth plwyfi a threfgorddau unigol yn gyfrifol am eu cynnal. Lle roed hynny'n bosibl, codid ffyrdd ar dir sych, gan ddilyn cyfuchliniau'r bryniau, er enghraifft ar hyd ochr uchaf dyffryn Camlad rhwng Snead a'r Ystog, ac ar hyd ochr Lan Fawr i'r gogledd o'r Ystog i Priest Weston. Roedd yn anochel y byddai llawer o erydu, lle byddai'r llwybrau yn dilyn tir gwlyb, neu i fyny ac i lawr gelltydd, a chrewyd ceuffyrdd dros y canrifoedd cyn sefydlu ffyrdd â metlin a thraeniad. Roedd llawer o'r ffyrdd lleol mewn cyflwr ofnadwy erbyn y 18fed ganrif, yn enwedig yn ystod y gaeaf, ac ni allai cerbydau ag olwynion deithio arnynt. Gwnaed lawer o welliannau yn ystod y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif yn sgîl ffurfio'r ymddiriedolaethau tyrpeg, a drawsffurfiodd nifer o batrymau teithio llleol. Gwellwyd rhai ffyrdd a chrewyd rhai newydd fel y ffordd ar arglawdd gyda phontydd i'r gogledd o Drefaldwyn i Ffordun ac i'w dwyrain i gyfeiriad Chirbury, gan dorri ar draws terfynau caeau cynharach a disodli lonydd troellog. Codwyd tolldai a cherrig milltir. Mae rhai yn dal i'w gweld, fel yr hen dollbyrth yn Toll House Farm ar yr A488 i'r dwyrain o Hyssington a'r bwthyn ar y B4385 i'r de o Drefaldwyn. Gadawyd rhai hen lwybrau lydan i bob pwrpas, gan gynnwys llwybr o'r Ystog i Rydwhiman heibio Rhiston a Lymore, a nodir yn rhannol gan lwybrau troed, yn rhannol gan geuffordd adawedig ac yn rhannol gan ffordd fach fodern.

O'r 12fed ganrif hwyrneu'r 13eg ganrif gynnar, daethai'r gored a godwyd ar draws Hafren gan fynachod Sistersaidd abaty Ystrad Marchell, i'r gogledd o'r Trallwng, yn ben ar ddyfrffordd Hafren, ac roedd y fan hon yn ffafriol i ddatblygiad llwybr Y Drenewydd-Trallwng i ganolbarth Cymru yn ystod y cyfnod canol hwyr a'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Cryfhawyd hyn gan ddyfodiad y gamlas a'r ffyrdd tyrpeg yn ystod y 18fed ganrif, a'r rheilffordd at ddiwedd y 19eg ganrif. Bu Bro Trefaldwyn ar ei hennill pan godwyd y Cambrian Railway rhwng Y Trallwng a'r Denewydd ym 1860, gyda'i hargloddiau, pontydd a bythnnod rheilffordd a'r e orsafoedd yn Ffordun a Threfaldwyn, yr olaf yng Nghaerhowel, rhyw 2km o'r dref. Yn eironig ddigon, cadwyd enw'r hen ryd yn Rhydwhiman yn enw'r groesfan ar y lôn ar draws y rheilffordd - Rhydwhyman Crossing.