CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn


Tirweddau Pensaernďol

Mae'r ardal tirwed hanesyddol yn cynnwys treftadaeth bensaernďol gyfoethog sydd yn enghreifftio datblygiad dulliau tradodiadol o adeiladu a lawer o themâu pwysig yn hanes adeiladu'r ardal yn gyffredinol. Mae dyfrnder cronolegol sylweddol i'r amgylchedd adeiledig, a cheir adeiladau syd wedi goroesi o'r 16eg ganrif ymlaen. Ceir amrywiaeth arwyddocaol hefyd yn yr adeiladau o ran swyddogaeth a statws cymdeithasol, ac fe'u ceir mewn amrywiaeth eang o fathau o aneddiadau a lleoliadau topograffig, gan gynnwys ffermydd ar bennau bryniau ac ar y tir isel, bythynnod ar ochr y ffordd, pentrefi bach a thref farchnad fach, ac mae'r rhain i gyd yn golygu bod cryn amrywiaeth yn y tirwedd hanesyddol. Gwelir amrywaieth eang o ddeunyddiau adeiladu, ac yng nghyd-destun y drefn y denfyddiwyd y deunyddiau hyn y trafodir hanes adeiladu ym Mro Trefaldwyn yn y testun isod.

Ceir adeiladau o bwys pensaernďol a hanesyddol ar hyd a lled yrardal, ar wahân i rai o'r rhannau mwy bryniog a rhai o'r isaf. Ceir rhyw 170 o adeiladau rhestredig yn yr ardal. Mae'r rhan fwyaf yn dai mewn trefi, a cheir nifer ohonynt yn aneddiadau cnewylol Trefaldwyn, Chirbury a'r Ystog, neu ffermdai a bythynnod yn y wlad o amgylch, yn ogystal â dyrnaid o adeiladau eraill fel ysguboriau, melinau, eglwysi, tai gwledig bach a tholdai.

Mae'r adeiladau hynaf i oroesi wedi eu gwneud o gerrig, gan gynnwys castell Edwardaidd Trefaldwyn a pheth o ffabrig eglwysi Trefaldwyn a'r Ystog, ac yn eglwys ac olion priordy Awgwstaidd Chirbury. Mae'n debyg mai bren y codid y cestyll a'r eglwysi cynharaf yr yr ardal, ac er mai ychydig o olion pensaernďol ers syn y 15eg ganrif hwyr neu ddechrau'r 16eg a welir heddiw, ychwanegir at y dystiolaeth archeolegol o adeiladau pren o'r Oes Haearn gan Ffridd Faldwyn, ac o gyfnod y Rhufeiniaid a'r canoloesoedd cynnar gan gaer Rufeinig The Gaer a'i chyffiniau, ac o'r canoloesoedd gan y tu mewn i feili castell yr Hen Domen, ac yn ddiweddarach o fewn amddiffynfeydd bwrdeistref ganoloesol Trefaldwyn. Mae'r dystiolaeth archeolegol yn bwysig, er enghraifft, i gadarnhau newid graddol o ddefnyddio dull adeiladu â thyllau pyst i drawstiau yn ystod y 12fed ganrif neu'r 13eg ganrif efallai.

Yr adeiladau brodorol hynaf sydd wedi goroesi yw'r ffermdai ffrâm bren o'r 15fed ganrif a'r 16eg ganrif yn yr Old Smithy, Priest Weston, ac yn Hurdley Farm, Hyssington, a'r ysgubor ffram brem o'r un cyfnod yn fferm Pant. Mae'n debyg mai adeiladau amlbwrpas oedd y ddau ffermdy yn wreiddiol, gyda neuadd ganolog a lle tân ar agor i'r to, ac efalai feudy cysylltiedig ar y naill ben, a'r waliau ffrâm bren wedi eu gosod mewn waliau cynnal isel o gerrig cymysg. At ddiwedd yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif gwelwyd ffermdai a thai trefol ffrâm bren deulawr o wahanol faint ond o fathau sy'n nodweddu Dyffryn Hafren yn Sir Drefaldwyn, ac mae nifer arwyddocaol ohonynt wedi goroesi yn yr ardal tirwedd hanesyddol, er enghraifft yn ardaloedd Yr Ystog, Pen-y-lan, Aldress, Hyssington, Chirbury, Gwern-y-go, Weston Madoc, Cwm, a'r Wernddu. Mae dyddiad ar rai ohonynt, gan gynnwys Churchstoke Hall sydd â'r dyddiad 1591, Cwm Bromley sydd â'r dyddiad 1633, Pentre Hall sydd â'r dyddiad 1689, ac Aston Hall sydd â'r dyddiad 1691. Mae Fir Court, Yr Ystog â'r dyddiad 1685 ac mae arysgrifiad gyda'r geiriau 'what is here by man erected let it be by God protected'. Gwydys am nifer o dai mwy o'r cyfnod hwn gan gynnwys yr hen luest hela yn Lymore, y ty ym Marrington, a ymestynnwyd yn ystod oes Fictoria, a Bacheldre Hall, sydd â'r dyddiad 1615. Ychydig o dai llai sydd wedu goroesi, fodd bynnag, ar wahân i fythynnod a ddefnyddid i bwrpasau eraill yn Wortherton a West Dudston. A number of timber-framed barnsMae nifer o ysguboriau ffram bren wedi goroesi hefyd o'r 16eg ganrif hwyr a deehcrau'r 17eg gan gynnwys y rhai yn Kingswood, Lower Aldress, Rockley, Sidnal, The Ditches, Upper Gwarthlow, Little Brompton, ac Upper Broughton.

Mae'n debyg mai to gwellt oedd gan adeiladau canoloesol a chynharach yn yr ardal, ac er bod y dull yn ddigon cyfredin hyd aty 19eg ganrif, ychydig o dystiolaeth sydd o'r defnydd o'r deunyddiau yn yr ardal. Ers tua'r 16eg ganrif hwyr ymlaen, efallai, llechi a ddefnyddid i doi bron pob adeilad, a hynny ar y cyd â theils crib o'r 18fed ganrif ymlaen efallai, ond gwnaed defnydd cyfyngedig iawn o serameg a theils toi concrit yn ystod yr 20fed ganrif.

Defnyddid cerrig i godi cestyll ac eglwysi yn yr ardal o'r 13eg ganrif hwyr o leiaf, a gwnaed mwy o ddefnydd o gerrig ar gyfer adeiladau domestig o'r 17eg ganrif hwyr a dechrau'r 18fed ganrif ymlaen, o bosibl oherwydd prinder neu bris pren addas, yn enwedig yn yr ardaloedd lle roed cerrig a chwarelwyd ar gael yn hawdd. Roedd cael calch ar gyfer adeiladu yn broblem i ddechrau, ac mae dogfennau o'r 13eg ganrif gynnar yn awgrymu bod odyn galch wedi ei chodi yn Snead i weithio ar Gastell Trefaldwyn, gan ddefnyddio'r allfrig calchfaen bach sydd yn yr ardal, i arbed cludo calch yr holl ffordd o'r Amwythig.

Trwsiwyd nifer o adeiladau ffrâm bren hynach neu ymestynnwyd hwy â cherrig, ond roedd rhai adeiadau newydd, fel y ffermdai ym Mhen-y-lan a Glebe Farm, Old Church Stoke, yn cyfuno ffrâm bren a cherrig. Ymhlith yr adeiladau cerrig cynnar o bwys ceir Hen Swyddfa Bost Priest Weston a ffermdy Brithdir, Hyssington, a'r olaf yn dyddio o 1695. Ymhlith adeiladau cerrig ganol y 18fed ganrif ceir nifer o ffermdai fel Brook House, Priest Weston, a hefyd mae'n debyg Pentreheyling House, ac ymhlith y rhai a berthyn i ganol neu'n hwyr y 18fed ganrif ceir Bridge House, Chirbury a Middle Alport, a nifer o dai mewn trefi a phentrefi, gan gynnwys Ty'r Ygsol, Yr Ystog a Brynawel, Hyssington, ac enghreifftiau eraill yn Nhrefaldwyn, Chirbury, Yr Ystog a Hyssington. Mae llawer o'r adeiladau cynnar wedi eu codi â cherrig cymysg lleol heb eu trin, ond defnyddid tywodfaen a gludid i'r ardal ar gyfer conglfeini ac addurniadau pensaernďol eraill yn nifer o'r tai mawr o'r 18fed ganrif ymlaen.

Parhawyd i ddefnyddio cerrig yn gyffredin ar gyfer adeiladau'r cartref tan y 19eg ganrif, gan gynnwys y ffermdai a'r tai o ddechrau neu ganol y ganrif honno yn Woodmore, a The Llanerch, Hyssington, gyda chonglfeini cerrig unwaith eto, a rndrwyd rhai tai briciau fel Ivy House, ger Yr Ystog. Codwyd nifer o'r tai llai yn yr ardal hefyd o gerrig yn y 19eg ganrif, ac enghreifftiau da yw Pentrenant Hall a Mellington Hall a'i gynghordy, yn ogystal â'r eglwysi Fictoraidd newydd a'r capeli anghydffurfiol. Defnyddid cerrig i godi nifer o adeiladau diwydiannol, gan gynnwys y felin (o'r 17eg ganrif mae'n debyg) sef Pentre Mill, a godwyd o flociau sgwâr mawr,y felin o ddiwed y 18fed ganrif o bosibl yn Macheldre, a Walkmill yn Marrington Dingle, sydd yn dyddio o 1802. Codwyd nifer o'r tolldai o ddechrau'r 19eg ganrif fel ffermdy Toll House a Toll Cottage, i'r de o Lwynobin yn ardal cymeriad Weston Madoc hefyd o gerrig.

Defnyddiwyd briciau am y tro cyntaf yn yr ardal yn y 17eg ganrif gynnar, pan ddefnyddiwydhwy i godi nifer o adeiladau pwysig fel y manordy nwydd a godwyd gan Sir Edward Herbert yn ward fewnol Castell Trefaldwyn rhwng 1622-25, a building demolished in 1649-50. Dengys y briciau cynharaf a gafwyd yn y castell fod briciau â siâp wedi eu defnyddio gyda mowldiau pensaernďol, sydd yn awgrymu eu bod yn cael eu defnyddio yn ystod y cyfnod hwn - megis mewn adeiladau yn Sir Amwythig o ddiwedd yr 16eg ganrif a'r 17eg - gan deuluoedd oedd â chysylltiadau â'r Llys Brenhinol. Yn anffodus collwyd adeilad cynnar arall o friciau yn yr ardal sef y neuadd o'r 17/18fed ganrif yn Nantcribba, a losgwyd tua 1900. Gwnaed mwy o ddefnydd o friciau yn ystod y 18fed ganrif, a than y 19eg ganrif gynnar roed llawer o'r tai briciau wedi eu codi o ddeunyddiau a wnaed yn lleol, ar y fferm neu'r ystad. Fel arfer, ildiodd cynhyrchu lleol ar raddfa fechan i cynhrychu masnachol lleol ac yna i'r defnydd o gynhyrchion o weihfeyd briciau o'r tu allan i'r ardal yn ystod y 19eg ganrif hwyr a dechrau'r 20fed ganrif (gweler yr adran isod ar dirweddau diwydiannol).

Yn ogystal ag ar gyfer adeiladu drwy gydol y 18fed ganrif, defnyddid briciau ar gyfer ymestyn neu drwsio adeiladau ffrâm bren a fodolai eisoes, gan ddisodli paneli cynharach o blethwaith a dwb, er enghraifft caewyd ffermdai ffrâm bren cynharach Timberth, Upper Gwarthlow a Great Moat Farm, mewn biciau at ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Codwyd cangell eglwys plwyf Chirbury o friciau ym 1733, ac fe'u defnyddid hefyd ar gyfer conglfeini ac agoriadau ffenestri a drysau ar nifer o adeiladau cerrig yn ystod y cyfnod hwnnw.

Codwyd tai briciau newydd a nifer o dai eraill o sylwedd yn gyfan gwbl mewn briciau yn y 18fed ganrif, gan gynnwys y rhai hynny yn Castle Farm, Trafaldwyn, Llwynyrhedydd a Rockley. Ymhlith yr adeiladau georgaidd mawr a thrawiadol eraill a godwyd o friciau yn hwyr y 18fed ganrif ceir Pen-y-bryn Hall, y ty a drowyd i'r Herbert Arms Hotel a Church House, Chirbury, Pentre House, a'r ffermdy rendredig a llawn steil yn The Gaer. Codwyd y gweithdy mawr o'r enw Pool-Montgomery Union Workhouse ym 1793-95 o friciau hefyd. Parhawyd i ddefnyddio briciau i godi tai gwledig bach a thai a ffermdai mwy oedd yn llawn steil yn y dref ac yn y wlad yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, fel yn achos Broadway House, fila yn null y Rhaglywiaeth, The Meadows a Gunley Hall, a ffermdy East Dudston. Codwyd colomendai a nodweddion eraill i'r ardd hefyd o friciau i gyd-fynd â thai gwledig bach yn hwyr y18fed ganrif ac yn gynnar y 19eg ganrif, fel yn Gunley Hall, Nantcribba, The Gaer a Chirbury Hall. fafriwydydefnydd o friciau hefyd gan nifer o ystadau tiriog lleol a oedd wedi dod i amlygrwydd yn ystod y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, gan gynnwys ffermdy Upper Alport a godwyd tua 1830, ac a berthynai i Ystad Marrington, a'r ffermdy yn Nantcribba a berthynai i Ystad Leighton ac a godwyd yn y 1860au.

Gwnaed defnydd helaeth o friciau i godi adeiladau ffermydd newydd a ddeilliodd o'r datblygu cynlluniedig a wnaed ar nifer o ffermydd mawr a ffermydd ystad rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif, gan gynnwys cyfadeilau fferm model Gwern-y-go a Nantcribba. Defnyddiwyd briciau hefyd ar gyfer nifer o adeiladau diwydiannol, a nifer o gapeli anghydffurfiol newydd a godwyd yn y dref ac yn y wlad yn ystod y 19eg ganrif, fel yn Stockton Mill a Green Chapel a'r capeldy cysylltiedig. Codwyd tai modern bron yn ddieithriad o friciau, ond defnyddiwyd deunyddiau adeiladu amrywiol ar gyfer adeiladau amaethyddol yn ystod yr 20fed ganrif, a'r datblygiadau mwyaf trawiadol yw'r defnydd o haearn gwrymiog a dalennau metel eraill ar adeiladau a fodolai eisoes ac adeiladau newydd, a'r defnydd eang o adeiladwaith ffrâm-ddur.

Mae adeiladau unigol weithiau'n bwysig. Neu gallant fod yn rhan o gyfadail cyfoes, fel yn achos y ffermdy ffrâm bren o'r 17eg ganrif, gyda'i ysgubor a'i feudy yn Rockley, neu Gunley Hall o fynyddoedd cynnar y 19eg ganrif gyda'i cholomendy, ei nodweddion gardd a'i pharcdir. Mae Nantcribba, gyda'i ffermdy, ei fferm fodel a bythynnod y gweithwyr hefyd yn bwysig fel rhan o Ystad Leighton, un o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol o ddatblygu ystad Fictoraidd yng Nghymru. Mewn achosion eraill, y dilyniant o adeiladau sydd yn ddiddorol, ac a oed y newidiadau a ddigwyddodd yn rhan o ad-drefniant cynlluniedig ynteu'n ganlyniad i broses fwy organaidd. Yn yr un modd, gall ailfodelu adeilad unigol fod yn arwyddocaol oherwydd ei fod yn cynnig tystiolaeth am newidiadau mewn defnydd, ffyniant a fasiwn, fel yn achos Bacheldre Hall, lle rhoddwyd tu blaen cerrig, Sioraidd newydd ir neuadd o'r 17eg ganrif yn nechrau'r 19eg ganrif.

Mae adeiladau Bro Trefaldwyn yn elfen weledol bwysig yn y tirwedd modern ac maent yn taflu goleuni hefyd ar hanes anheddu a'r defnydd o dir yn yr ardal tirweddhanesyddol. Mae'r adeiladau sydd wedi goroesi, ar y cyd â'r dystiolaeth archaeolegol gladdedig, yr un mor bwysig o ran cynnig dilyniant dogfenedig o ddulliau adeiladu yn yr ardal hon yng nghanol y gororau. Cynrychiolir amrywiaeth eang o wahanol fathau o adeladau a statws cymdeithasol mewn cyd-destunau trefol a gwledig. Yn y wlad, mae'r dreftadaeth adeiledig yn helpu i olrhain ymddangosiad dosbarth o ffermwyr a oedd yn iwmyn yn ystod y canoloesoedd hwyr, ymddangosiad yr ystadau tiriog ac uchelwreiddio cefn gwlad yn ystod y 18fed ganrif, datblygiad ffermydd model oes Fictoria, datblygiad mân-ddaliadaethau, dyfodiad ffermio mecanyddol modern yn y wlad. Mae adeiladau yn y dref a'r pentrefi hefyd yn bwysig o safbwynt hanes diwylliant, gan eu bod yn dangos ffyrdd newidiol o fyw trawstoriad o'r gymdeithas a'u ffyniant newidiol - yn llafurwyr a chreftwyr ar y naill law i'r dosbarthiadau proffesiynol a'r uchelwyr ar y llaw arall.