CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Cwm
Ceri a'r Ystog, Powys a Lydham a Bishop's Castle, Sir Amwythig
(HLCA 1078)


CPAT PHOTO 923-23

Llethrau serth a chymoedd coediog gyda fermydd bach ar wasgar, aneddiadau cnewyllol bach gyda chapeli, a thai gwledig mewn parcdir ar dir is sydd yn llai serth.

Cefndir hanesyddol

Dangosir gweithgarwch cynhanesyddol cynnar yn yr ardal gan fflintwaith a ddarganfuwyd dwy gerdded drwy'r meysydd dros nifer o flynyddoedd yn yr ardal i'r gorllewin o Great Argoed. Dangosir anheddiad cynanesyddol diweddarach neu Rufeinig efallai gan nifer o gaeadleoedd gydag un neu nifer o ffosydd rhwng tua 50-130m ar draws, a cheir enghreifftiau o'r rhain i'r gorllewin o Fferm Bran (Crow Wood), i'r gogledd-ddwyrain o Lan-y-harad, i'r gorllewin o Mellington Hall, i'r de o Aston Hall ac efalla i'r gorllewin o Facheldre. Mae'r rhan fwyaf o'r caeadleoedd yn amlwg drwy olion cyndau a gofnodwyd o'r awyr, ond mae'r caeadle i'r de o Pentre Wood yn dal i'w weld ar ffurf cloddwaith.

Croesir yr ardal gan ddarn o Glawdd Ofa mewn cyflwr da, yn rhedeg o Mellingtom a'r Cwm, ac mae cwrs troellog y clawdd yn ardal Mellington Wood yn awgrymu i rai sylwebwyr fod y tirwedd yn dal dan drwch o goed pan godwyd y clawdd at ddiwedd yr 8fed ganrif. Enwir tri anheddiad yn Llyfr Domesday yn 1086, Mulitune, a adwaenwyd fel Mellington ar gwrs Clawdd Odffa ar y tir isaf, Cestelop a adwaenwyd fel Castlewright (Cymraeg Castell-wrych) ar y tir uwch, ychydig i'r dwyrain o Glawdd Offa, a Hoptune sy'n cyfateb i drefgorddau Hopton Uchaf a Hopton Isaf, i'r gorllewin o'r clawdd. Amcangyfrifwyd bod tua 360 acer (3 hid) yn Mulitune, ac amcangyfrifwyd bod tua 240 acer (2 hid) yn Cetelop ac yn Hoptune. Dywedir bod pob un ohonynt yn ddiffaith adeg y Goresgyniad yn 1066 ac roeddent yn dal felly pan luniwyd Llyfr Domesday. Mae'n debyg bod y ddau anheddiad hyn o'r cyfnod cyn y Goresgyniad wedi dioddef adeg ymgyrchoedd Gruffudd ap Llywelyn yn erbyn y Saeson yn ystod y 1040au, a bod yr ardal ddiffaith wedi ei defnyddio fel tir hela gan uhelwyr Mersia, Siwacrd, Oslac ac Azor, adeg y Goresgyniad.

Erbyn y 19egganrif roedd yr ardal yn gorwedd yn nhrefgordd Bachaethlon ym mhlwyf Ceri , trefgorddau Hopton Ucha ac Issa, trefgorddau Bacheldre a Mellington ym mhlwyf yr Ystog, y drefgordd Gymreig Castlewright ym mhlwyf Seisnig Mainstone, a threfgordd Gymreig Aston ym mhlwyf Seisnig Lydham, a threfgordd Broughton ym mhlwyf Bishop's Castle.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Mae'r ardal cymeriad ar dir llethrog serth i'r gogledd o Gefnffordd Ceri, gan edrych i'r gogledd dros ddyfrynnoedd Caebitra a rhannau uchaf Camlad, rhwng tua 150-250m auwchben lefel y môr. Ar y tir is i gyfeiriad pen gorllewinol yr ardal, rhwng Bacheldre a Binwilkin, mae nifer o ddrymlinoedd mawr. Rhenir y tir uchel gan gyfres o gymoedd nant serth sy'n dringo i ben y bryn, gan gynnwys Cwm Hopton a Chwmlladron. Mae'r ddaeareg solet yn cynnwys sialiau Silwraidd gyda phriddoedd sitiog a chleiog, sydd dan ddwr yn dymhorol.

Mae darnau o goetir collddail hanner naturiol, hynafol ar y llethrau serth ac mewn cymoedd ac yn dilyn nentydd i'r gogledd o Mellington, yng Nghwmlladron, i'r dwyrain o'r Drewyn, ac ym Mhentre Wood a Chwm Cae, a darnau o goetir hynafol ailblanedig - er enghraifft, i'r de o Bentrenant, gyda nifer o blanigfeydd conifferaidd a chollddail mwy diweddar.

Mae anheddiad hediw yn cynnwys ffermydd canolig eu maint, wedi eu gwasgaru, sy'n tueddu i fod ar ochr y ffordd, o fewn rhyw 500-600m i'w gilydd, ac yn ymestyn i'r tir uwch, a gyda phlastai mwy ym Mhentrenant, Mellington a Phentre ar y tir is - ty gwledig gothig, bach o'r 19eg ganrif gynnar yw Pentrenant Hall, ty gwledig gothig mwy sy'n dyddio o 1876 yw Mellington Hall, sydd bellach y westy, gyda phorthdy a cheir phorthdy arall o ddiwdd y 19eg ganrif yn Shirley. Mae Mellington Hall mewn parcdir gyda phyllau pysgod, planigfeydd, ty iâ a pherllan. Mae'r parcdir ychydig yn llai bellach na'r hyn a welir ar fapiau Ordnans o'r 1880au. Adeilad briciau o ddiwedd y 19eg ganrif gyda cherrig nadd a ffrâm bren ffug yw Mellington School, a drowyd yn weithdai cymunedol. Mae tai a ffermdai ffrâm bren o'r 17eg ganrif gynnar i'r 18fed ganrif gynnar wedi goroesi yn White Hopton (Pied Hopton), Pant, Pentre Hall, ac Upper Broughton (rendredig), a rhai a estynnwyd ac a newidiwyd â cherrig yn Lower House, Court House, Pentrenant Farmhouse a Cann Farm, ac a ymestynwyd â cherrig a briciau yn Lower Cwm, gyda nifer o fythymmod ffrâm bren o'r 17eg/18fed-ganrif ym mhentreflan fechan Cwm. Ailgodid ffermai gyda cherrig yn aml yn ystod y 17eg/18fed-ganrif, fel yn achos Cwm-Linton, sy'n dyddio o 1654, ac mae llawer o'r rhai sydd ar dir uwch wedi eu rendro neu eu rendro'n rhannol, fel yn achos Upper Castlewright, Lower Castlewright, The Rolva, Upper Aston, Pentre-Willey a Chwm Cae. Mae tai a ffermdai diweddarach y 18fed/19eg-ganrif wedi eu codi o friciaugan amlaf, fel yn achos Sunny Bank, Red Hopton, Upper Broughton, Pentre House, ac Upper Shirley. Ymhlith adeiladau'r ffermydd ceir ysgubor ffrâm bren prin o'r 15/16eg ganrif, gydag estyll tywydd yn achos Pant, ac ysgubor ffrâm bren o'r 17eg ganrif hwyr neu ddechrau'r 18fed gydag estyll tywydd yn Upper Broughton, ysguboriau ac adeiladau allanol o gerrig o'r 18/19eg ganrif yn Cann Farm, Red Hopton, Pentrenant Farm, Warbury, The Rolva, a cheir adeiladau allanol gadawedig o gerrig ym Mhentre-cwm, adeiladau allanol ag estyll pren yn Red Hopton, Warbury, Upper Broughton, a'r Rolva, ac adeiladau allanol o friciau o'r 19eg ganrif yn Lower Castlewright, The Rolva, Upper Broughton, ac yn Sunny Bank ar gerring sylfaen. Ceir nifer o gapeli anghydffurfiol yn yr ardal sydd bellwch wedi eu trawsnewid ar gfer pwrpsau eraill. Fel arfer maent wedi eu lleoli o fwn aneddiadau cnewyllol bach, fel yn achos capel y Cwm a ailgodwyd ym 1897, a chapel Cwm Cae chapel a godwyd ym 1867.

Ar gyfer pori y defnyddir y tir yn bennaf heddiw. Ceir caeau bach a chanolig gyda therfynau afreolaidd a gwrychoedd amlrywogaethol gan gynnwys celynnen, collen a sycamorwydden, a gosodwyd rhai gwrychoedd, a cheir coed derw aeddfed gwasgaredig yn y terfynau. Roedd y rhanfwyaf o'r ardal wedi ei chau erbyn y 19eg ganrif, i ddarnau bach o dir yn nhrefgorddau Hopton a oed yn rhan o ddyfarniadau cau tir yn negawd cyntaf y 19eg anrif efallai, gwelir olion tir âr caeau agored o'r canol oesoedd efallai lle mae darn o dir rhych a chefnen townships ger Red Hopton. Mae linsiedi'n gyfredin ar y llethrau serthaf, a dangosir lle bu terfynau caeau gan bonciau isel neu resi rhannol o goed neu brysgwydd.

Mae'r rhan fwyaf o'r ffyrdd yn yr ardal ar ffurf lonydd troellog sy'n dilyn y gyfuchlin rhwng y ffermydd neu i fyny ac i lawr y bryn, ac ynaml maent mewn ceuffyrdd mawr hyd at 5-6m mewn dyfnder. Mae'n debyg bod rhai ohonynt yn dra hen, gan eu bod wedi ymffurfio yn ystod y canrifoedd cyn bod metlin ar wyneb y ffyrdd a chyn bod traeniau ar gyfer y ffyrdd.

Ceir nifer o chwareli ar wasgar yn ymyl y ffyrdd yn enwedig yn ochr ddwyreiniol yr ardal, a dangosir llawer ohonynt gda'r geiriau 'Old Quarry' ar fapiau'r Ordnans yn yr 1880au, ac mae'n debyg mai yma y ceid cerrig i godi ffyrdd ac adeiladau. Ar un adeg roedd meilinau dwr ym Mhentre a Mellington. Codwyd Melin Pentre (neu Cwm Crispin Mill), o flociau mawr o gerrig ganol y 17eg ganrif ar safle melin gynharach, ac roedd yn dal yn weithredol tan flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif. Trowyd rhannau o'r hen felin yn dy. I bob golwg, codwyd Mellington Mill, a arferai fod ar y nant ger Mellington Bridge, gyntaf tua dechrau'r 17eg ganrif. Fe'i trowyd yn felin bapur yn ystod y 18fed ganrif ac fe'i dymchelwyd yn ystod y 1760au.

Ffynonellau cyhoeddedig

Barton 1999
Cadw 1999
Earp & Haines 1971
Fox 1955
Gelling 1983
Haslam 1986
Lewis 1833
Mountford 1928
Noble 1983
Owen 1907
Soil Survey 1983
Sothern & Drewett 1991
Thorn & Thorn 1986
Willans 1908

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.