CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Gwern-y-go
Ceri a'r Ystog, Powys a Brompton a Rhiston, Sir Amwythig
(HLCA 1075)


CPAT PHOTO 00-C-062

Tir isel ar hyd dyffryn Caebitra, sy'n llwybr pwysig i ganolbarth Cymru heibio Sarn a Cheri, gyda chaer Rufeinig a gwersylloedd, maenol ganoloesol, melinau canoloesol a diweddarach.

Cefndir hanesyddol

Cynrychiolir gweithgarwch cynhanesyddol cynnar yn yr ardal gan fwyell fflint Neolithig a ddarganfuwyd ger Brompton Hall, pen gwaywffon efydd ar ffurf deilen a gafwyd rhwng Bacheldre a Crow Farm, a ffosydd crwn olion cnydau sydd efallai'n dangos lle bu crugiau crwn o'r Oes Eydd i'r gogledd a'r de o Brompton Hall, i'r dwyrain o Bentrehyling, ac efallai i'r gorllewin o Wern-y-go. Mae'n bosibl bod anheddiad cynhanesyddol diweddarach i'w weld lle mae caeadle olion cnydau i'r de o Berthybu. Canfuwyd caer Rufeinig, o ddiwedd y ganrif 1af neu ddechrau'r 2il, gydag uned o farchogion efallai gyda thystiolaeth o anheddiad sifil y tu allan i'w muriau, am y tro cyntaf o'r awyr yn 1969 ychydig i'r dwyrain o fferm Pentreheyling, a nifer o wersylloedd dan Glawdd Offa a than fferm Brompton Hall. Mae Brompton ar gwrs Clawdd Offa ac mae ei enw'n awgrymu mai anheddiad Mersaidd oedd yma, a sefydlwyd efallai at ddiwedd y 9fed ganrif ac o fewn cwmpas anheddiad Ristune a enwir yn LLyfr Domesday yn 1086. Mae'n debyg bod y sefydliad mynachaidd yng Ngwern-y-go, a berthynai i abaty Sistersaidd Cwm-hir, wedi ei sylfaenu erbyn canol y 13eg ganrif. Deilliai ei incwm yn rhannol o'r elw a wnaed o ffermio ac yn rhannol o'r felin. I'r abaty y perthynai holl dir a thenementau trefgordd Gwern-y-go a Chaeliber-isaf ar y llethrau i'r gogledd ac yn nhrefgordd Hopton, ond gwahanwyd y plasty ei hun ganffos o'r enw 'Grange Ditch', nad yw wedi ei harolygu. Mae'n debyg bod y castell mwnt a beili yn Brompton wedi ei adeiladu erbyn diwedd y 12fed a dechrau'r 13eg ganrif, ac mae'n debyg ei fod ymhlith y mwntau ym Mrp Trefaldwyn yr oedd angen atgyfnerthu eu hamddiffynfeydd pren yn erbyn ymosodiadau posibl gan y Cymry yn 1225. Gwasanaethir capel yplasty, a gysegrwydd efallai i St Michael, gan gaplan yn 1397 ac ar ôly diddyniad parhaod fel capel o'r enw 'Chapel Gwernygo' tan ail hanner y 16eg ganrif. Mae union leoliad y capel yn ansicr, ond mae'n debyg ei fod i'r gogledd o'r fferm bresennol, fel a ddangosir gan enwau'r caeau 'Chapel meadow' a 'Chapel close' yn nogfennau degwm Ceri. Parhaodd melin Gwern-y-go yn ystod yr 16/17eg ganrif, ar yr un safle mae'n debyg. Mae'n ymddangos fel melin flawd yn nogfennau degwm canol y 19eg ganrif ond peidiodd erbyn yr 1880au i bob golwg. Ceir cyfeiriadau hefyd at felin liwio y y drefgordd, gano y 19eg ganrif, ac mae'n debyg ei bod ar yr un safle. Ymhlith y melinau eraill yn yr ardal cymeriad ceir Melin Bacheldre, a gofnodwyd gyntaf yn yr 1580au. Erbyn blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif roedd yr ardal yn rhan o drefgorddau Bacheldre, Brompton, Hopton Issa ac Ucha ym mhlwyf yr Ystog, a rhannau o drefgorddau Caeliber Issa, Gwernygo, a Bachaethlon ym mhlwyf Ceri.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Tir isel arhyd glannau nant Caebitra, rhwng 140-80m uwchbe lefel y môr. Mae'r ddaeareg solet oddi tani'n cynnwys sialiau Silwraidd, ac mae'r priddoedd yn siltiog a chleiog, ac maentyn llawn dwr yn dymhorol. Cyn y rhewlifiad diwethaf, mae'n debyg bod Afon Miwl yn llifo i'r dyffryn llydan lla mae nant Caebitra, a newidiwyd y cwrs gan iâ a gwastraff rhewlifol yn cau'r dyffryn ger Sarn, ychydig i'r gorllewin o'r ardal tirwedd hanesyddol. Ceir darnau o goetir hynafol a ailblannwyd yn Gwern-y-go Wood.

Mae anheddu modern yn cynnwys nifer o dai a bythnnod ar ymyl y ffordd a nifer fechan o ffermydd mawr gwasaredig, gyda hyd at 1.5km rhyngddynt, gydaganeddiadau cnewyllol o gwmpas melinau Bacheldre a Brompton.

Yr adeiladau hynaf i oroesi yw'r rhai ffrâm bren, gan gynnwys y tai ffrâm bren o'r 17eg ganrif gynnar sef Bacheldre House a Bacheldre Hall, ac mae'r neuadd wedi ei hymestyn yn y dull Georgaidd mewn cerrig yn gynnar yn y 19egganrif, a bwthyn ffrâm bren ym Melin-y-wern. Mae cyfadail mawr o adeiladau fferm briciau yng Ngwern-y-go, o ganlyniad iddatblygiad cynlluniedig ar y fferm ar gyfer hwsmoniaeth rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif, gan y teulu Foxe, a gysylltir â ffermdy briciau a rendrwyd yn dyddio o 1792. Ar y brif ffordd i'r dwyrain o'r Sarn ceir nifer o dai abythynnod o ddiwedd oes Victoria, gan gynnwys Pitfield Villa mewn briciau coch a melyn.

Roedd patrwm presennol y caeau mawr hirsgwar wedi datblygu erbyn blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, aac ychydig a newidiodd ers hynny ond sythwyd ambell derfyn a thynnwyd eraill. Ac eithrio nifer o barseli bach iawn, roedd yr holl dir yn yr ardal cymeriad wedi ei gau erbyn blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Cofnodwyd olion amaethu cefnen a rhych, o'r canoloesoedd efallai, i'r de o Berthybu ac i'r de o ffermydd Mount Nebo. Ar gyfer pori a ffermio tir âr y defnyddir y tir heddiw.

Roedd ffos hir yn bwydo'r hen felin yng Ngwern-y-go, tua 1km mewn hyd, ac efallai mai hon oedd y 'Grange Ditch' ganoloesol. Mae Melin Bacheldre Mill yn felin ddwr flawd weithrdol. Mae rhannau o'r felin bresennol wedi eu gwneud o gerrig a briciau, ac mae'n dyddio o ganol y 18fed ganrif. Fe'i bwydid hi gan ffos hir hynach, tua 800m mewn hyd, a gymerwyd o gored ar y Gaebitra ym Melin-y-wern, ond a ddisodlwyd bellach gan ffos fyrrach a phwll melin a fwydir gan y Gaebitra. Bwydid trydedd felin, Melin Brompton, hefyd gan y Gaebitra.

Ffynonellau cyhoeddedig

Allen 1986; 1988; 1991
Barton 1999
Earp & Haines 1971
Eyton 1854-60
Fox 1955
Haslam 1979
King & Spurgeon 1965
Lavender 1951-52
Morris 1893
Morris 1982
Mountford 1928
Sothern & Drewett 1991
Thorn & Thorn 1986
Williams 1984; 1990

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.