CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Penylan
Forden, Powys
(HLCA 1065)


CPAT PHOTO 00-C-029

Tirwedd tonnog gyda chaeau afreolaidd canolig eu maint gyda ffermydd canolig neu fawr ar wasgar, rhai yn deillio o'r 9fed a'r 10fed ganrif mae'n debyg.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal cymeriad tua chornel ogledd-orllewinol yr ardal tirwedd hanesyddol ac roedd yn rhan o drefgorddau FFordun, Thornbury, Munlyn, Woodluston ac Edderton ym mhlwyf Ffordun, Sir Drefaldwyn. Anheddiadau Mersaidd oedd nifer o'r trefgorddau hyn yn wreiddiol, a sefydlwyd hwy mae'n debyg ar ôl codi Clawdd Offa, yn ystod y 9fed a'r 10fed ganrif a gadawyd hwy yn y 1040au, cyn y Gorsegyniad Normanaidd. Rhestrir Thornbury, Munlyn, Woodluston (a ailenwyd Penylan) ac Edderton yn Llyfr Domesday Book a luniwyd ym 1086, gyda'r enwau Torneberie, Wadelestun ac Edritune. Adeg y Goresgyniad, tir diffaith oedd yn Woodluston, a fuasai unwaith yn cynnwys 360 acer (3 hid) ac roed yn dal yn ddiffaith pan luniwyd Llyfr Domesday. Buasai Edderton, gyda rhyw 120 acer (1 hid) a choetir ar gyfer pesgi 60 o foch, a Thornbury gyda rhyw 120 acer (1 hid) yn ddiffaith adeg y Goresgyniad ond roeddent wedi eu hadfer erbyn 1086. Mae'n debyg bod y mwnt yn Lower Munlyn wedi ei godi tuag adeg arolwg Domesday a hynny, fel Hen Domen sydd yn bellach i'r de, i ddiogelu rhyd bwysig ar draws Hafren.

Mae'n bosibl bod tystiolaeth o anheddu cynnar i'w gweld o'r Oes Haearn neu gyfnod o Rufeiniaid yn y caeadleoedd a ddangoswyd gydag awyrluniau i'r de o Edderton Hall, i'r gogledd o Benylan, ac efallai i'r gorllewin o Felin y Gaer.

Roedd y felin a elwir Melin y Gaer ar y Gamlad yn cael ei defnyddio ers o leiaf blynyddoedd olaf y 16eg ganrif. Rhoddwyd hi ar les gan weithdy Ffordun yn ystod degawd olaf y 18fed ganrif a efnyddid hi fel melin flawd tan ddechrau'r 20fed ganrif.

Mae'n debyg bod llawer o'r tir o fewn yr ardal cymeriad wedi ei gau yn ystod y cyfnod canol hwyr. Mae terfynau'r caeau heddiw yn dilyn amlinelliad cyffredinol y rhai oedd wedi eu sefydlu erbyn canol y 19eg ganrif, ond bu nifer sylweddolo gyfuniadau mewn rhai mannau ers hynny o ganlyniad i dynnu gwrychoedd.

Nodweddion tirwedd hanesyddol allweddol

Tir tonnog isel rhwng tua 80-150m uwchben y môr, y rhan fwyaf yn wynebu'r de a'r gorllewin, gyda llethrau serthach yn wynebu'r gorllewin uwch yr afon Hafren â dyffrynnoedd nentydd dwfn a serth. Sialiau Silwraidd yw'r ddaeareg oddi tanodd, ac mae'r priddoedd yn rhai siltiog mân, a chleiog sydd dan ddwr yn dymhorol. Ceir cerrig crynion a adawyd gan rewlifoedd yn aml mewn mannau. I bori y defnyddir y tir yn bennaf hediw ond mae tir aredig hefyd gyda choetir derw collddail hanner naturiol hynafol a phrysgwydd yn cynnwys cyll ar lethrau serthach ger afonydd a nentydd, a helyg ac ysgaw ar lanau'r nentydd, a nifer o blanhigfeydd conifferaidd bach.

Mae anheddau heddiw'n cynnwys yn bennaf ffermdai mawr a chanolig a'u hadeiladau cysylltiedig, a osodwyd yn aml ar gefnen neu godiadau bach ac o fewn eu caeau eu hunain, yn bell o'r ffyrdd cyhoeddus. Ymhlith yr adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi yw ffermdy ffrâm bren o'r 17eg ganrif yn Upper Munlyn, a rendrwyd yn y 1950au. Mae ffasâd ffermdy ffrâm bren o'r 17eg ganrif neu ddchrau'r 18fed wedi goroesi ym Mhenylan, gydag adeilad allanol â ffrâm bren yn The Gaer. Fel arall mae'r ffermdai wedi eu gwneud o friciau ac yn dyddio o'r 18fed/19eg-ganrif, fel yn achos Lower Munlyn a'r adeilad a ehangwyd ym Mhenylan. Mae ysgubor gerrig o'r 18fed/19eg-ganrif yn Lower Munlyn, ond yn gyffredinol mae'r adeiladau allanol mewn mannau eraill wedi eu gwneud o friciau ac yn dyddio o'r 18fed/19eg-ganrif, fel yn The Grove, Penylan, a cheir gwadnau carreg as estyll tywydd ar adeiladau allanol Penylan, a cheir adeiladau niferus o'r 20fed ganrif â fframiau dur. Yn The Gaer ceir gardd o'r 18fed ganrif â wal friciau a gasebo a clomonedy wedi'u cyfuno. Credir bod adeiladau'r fferm yn Lower Munlyn yn sefyll lle bu'r beili gwreiddiol. Mae'n bosibl bod ty mawr â styco Edderton Hall, a godwyd rhwng 1830-40, yn cynwys adeilad cynharaf a dyma ganolbwynt yr ystad.

Caeau bach a chanolig gyda therfynau ar y tir mwy serth sydd gan amlaf yn dilyn y gyfuchlin, Mae'r terfynau afreolaidd yn awgrymu bod coetir wedi ei glirio fesul tipyn a'i gau o'r cyfnod canol ymlaen. Ceir gwrychoedd cadarn ac isel ar y cyfan yn cynnwys sawl rhywogaeth, y ddraenen wen, collen gyda choed derw aeddfed gwasgaredig a rhywfaint o wrychoedd modern. Yma ac acw ceir ffosydd a phonciau mewn caeau ar hyd dyfrgyrsiau naturiol.

Croesir yr ardal gan amryw ffyrdd bychain, llwybrau llydan a llwybrau cyhoeddus, rhai'n cysylltu Ffordun â'r hen ry a'r fferi dros Hafren yn y Dyffryn. Mae nifer o'r ffyrdd bach a'r llwybrau llydan mewn ceuffyrdd sydd yn hen i bob golwg. Croesir yr ardal gan hen reilffordd yr hen Cambrian Railway o 1860, a redai rhwng yr hen orsaf yn Ffordun a'r bont dros Hafren yng Nghilcewydd, gan dorri drwy'r terfynau caeau blaenorol y gosodwyd hi arnynt.

Cynrychiolir diwydiannau cloddio a phrosesu gan nifr o chwareli cerrig gadawedig a welir ar fapiau'r Ordnans o'r 1880au yn yr ardal rhwng Penylan ac Edderton Hall, ac a ddefnyddid mae'n debyg i gael cerrig i adeiladu. Ymgorfforwyd rhanau o'r hen felin fricia o'r 18fed/19eg ganrif yn Gaer Mill mewn ty diweddarach, ac er bod y rhanfwyaf o'r ddyfrffos wreiddiol wedi ei llenwi mae modd gweld lle tynwyd y dwr o'r Gamlad i'r de o'r ffordd i Thornbury.

Bellach mae hen bacdir a pherllanau Edderton Hall, a welir ar fapiau'r Ordnans o'r 1880au wedi diflannu i raddau helaeth ac eithrio dau bwll pysgod artiffisial a dreif i'r parcdir.

Ffynonellau cyhoeddedig

Barker & Higham 1982
Barton 1999
Baughan 1991
Eyton 1854-60
Spurgeon 1965-66
Soil Survey 1983
Sothern & Drewett 1991
Thorn & Thorn 1986
Vize 1882

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.