CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Bro Trefaldwyn
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Bro Trefaldwyn: Trehelig-gro
Aberriw a Ffordun, Powys
(HLCA 1062)


CPAT PHOTO 921.18A

Hafren a'r gorlifir gyda chlogwynni afon, traethau bach, dolenni'r afon, ystumllynnoedd a phalaeosianeli, rhydau hanesyddol a fferïau, ac ar yr ymyl mae caeau gwastad, afreolaidd a mawr lle caewyd tir comin ar gyfer pori.

Cefndir Hanesyddol

Mae'r ardal yn rhan o blwyfi eglwysig Ffordun, Aberriw a Threfaldwyn. Awgrymir anheddu cynnar gan farc cnwd o ffos gron i'r gogledd o Lower Munlyn, lle bu crug crwn o'r Oes Efydd efallai, ond ychydig o dystiolaeth arall sydd o weithgarwch cynhanesyddol cynnar yn yr ardal.

Mae rhannau uchaf yr Hafren rhwng Trallwng a'r Dreneydd heb fod yn ddigon dwfn fel arfer ar gyfer cychod, ond mae'n ddigon o faint i fod yn rhwystr yn hytrach na fford o gyrraedd canolbarth Cymru tan y cyfnod canol cynnar pan godwyd pontydd yng Nghilcewydd yn y pen gogleddol a Chaerhowel ychydig i'r de. Am gyfnod bu'n ffin ieithyddol - mae'r Sant Beuno o Aberriw, a dreuliodd ei flynyddoedd cynnar, at ddiweddy chweched ganrif a dechrau'r seithfed, yn Aberria, yn nodi ei fod wedi ei synnu gymaint at glywed 'Sacsoneg' yn cael ei siarad ar lan arall yr afon nes iddo adael am ogledd Cymru. Daeth yn ffin wleidyddol ar wahanol adegau yn ystod y cyfnodau hanesyddol cynnar, ac yn fan cyfarfod rhwn y ddwy genedl, a dyma'r fan lle arwyddwyd cytundeb Trefaldwyn rhwng Llywelyn ap Gruffudd a Harri'r III ym 1267, gan roi statws Tywysog Cymru i Lywelyn. Am gyfnod bu'n ffin rhwng esgobaethau Cymru a Lloegr, a datganodd yr Esgob Swinfield o Henffordd yn 1288 mai'r afon rhwng y rhyd yn Rhydwhiman a'r rhyd yn Shrawardine i'r gorllewin o Amwythig fyddai'r ffin rhwng esgobaethau Henffordd a Llanelwy. Daeth rhydau'n fannau cyfarfod symbolig a phwysig rhwng endidau gwleidyddol o bobtu'r afon erbyn y 12fed ganrif a'r 13eg ganrif fan hwyraf, ac roedd o leiaf ffwy ar y rhan hon o'r afon. Y gyntaf, Rhydwhiman - rhyd Trefaldwyn - oed y bwysicaf o'r mannau cyfarfod cynnar hyn yn y gororau canol, ac effallai mai'r cyfeiriad cyntaf ato yw Horseforde yn Lyfr Domesday Book o 1086, a chafwyd ei henw Cymraeg o rhyd chwima sef 'rhyd chwim' heddiw. Daeth yn fan cyfarfod i dywyolion Cymru a brenhinoedd Lloegr yn y cyfnod hanesyddol cynnar, statws a gadwodd hyd goncwest Edward yn yr 1270au. IYma yr arwyddwyd cytundeb Trefaldwyn rhwng Llywelyn ap Gruffudd a Harri'r III ym 1267, gan roi statws Tywysog Cymru i Lywelyn. Roedd yr ail ryd yn Nyffryn, ar lôn Carreg Beuno. Erbyn y 12fed ganrif amddiffynnwyd y ddwy ryd ar ochr Lloegr, gan Hen Domen yn achos Rhydwhiman a chan fwnt Lower Munlyn yn achos rhyd Dyffryn. Dangosir fferi ar fapiau cynnar yr Ordnans rhwng Trehelig-gro a Chilcewydd.

I bob golwg, caewyd y rhan fwyaf o'r tir amaethyddol yn yr ardal hon at ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg, ond rhoddwyd rhan o'r tir ar lan yr afon i'r gogledd o'r Gaer, yn nhrefgordd Thornbury, mewn dyfarniad cae tir ym 1803. Mae newid yng nghwrs yr afon yn amlwg ger aber yr afon Camlad a'r Hafren, lle mae rhan o blwyf Aberriw ar ochr ddwyreiniol yr afon ar hyd y rhes o ystumllynnoedd sy'n dangos le bu cwrs yr afon Hafren gynt.

Nodweedion tirwed hanesyddol allweddol

Gorlifdir gwastad yr afon Hafren a'i haber gyda'r afon Camlad, between 70-95m OD. Priddoedd siltiog llifwaddol brown, heb gerrig, dwfn ac â thraeniad da, ac sy'n tueddu i gael ei gorlifo. Mae tirwedd gan yr afon yn cynnwys clogwynni afon isel, traethau ac ynysoedd gro, dolenni'r afon, ystumllynnoedd a phalaeosianeli o bwysigrwydd palaeoamgylcheddol posibl. Ar gyfer pori'n bennaf y defnyddir y tir heddiw a cheir rhai cnydau ar gyfer porthiant. Ceir gwelyau cawn yn yr ystumllynnoedd, a phrysgoed cyll a sycamorwydd talach, coed derw, poplys, helyg ac ynn a darnau bach o goetir collddaill ar derasau serthach ar ymyl y gorlifdir. Gwarchodfa natur tir gwlyb Dolydd Hafren yw rhan o'r ardal, ac mae bron yn gwbl ydd oddi wrth anheddu modern a gyfyngir i nifer fechan o ffermydd ar dir ychydig yn uwch na'r gorlifdir.

Ceir caeau afreolaidd mawr gyda therfynau crwm a ddinnir gan yr afon a hen derasau'r afon, gyda gwrychoedd amlrywogaeth a dorrwyd yn isel gan mwyaf gan gynnwys helyg, derw a chyll a nife ro gaeau mawr a rannwyd gan ffensys pyst a gwifren. Mae system helaeth o bonciau gorlifo na ellir ei dyddio'n bendant, ar ochr orllewinol yr afon ger Trehelig-gro, (a ddangosir eto ar fapiau Ordnans yr 1880au). Un o'r ychydid adeiladweithiau a gofnodwyd yn yr ardal hon yw corlan ar ochr bellaf yr afon o Drehelig-gro, a ddangosir ar argraffiad cyntaf map 6 modfedd yrOrdnans. Mae'r rhan fwyaf o'r ffiniau caeau yn yr ardal cymeriad yn debygol o fod yn perthyn i'r cyfnod canol ac ôl-ganol pan gaewyd tiroedd comin a diffeithdiroedd a berthynai i'r trefgorddau ar ddwy lan yr afon, ac yn aml cai'r rhai oedd ym mhlwyf Aberriw enwau fel Gro a Llyndir, a ddaw efallai o llyng-dir 'tir corsiog'. Trwy gymharu mapiau'r degwm ac argraffiadau ynnat mapiau'r Ordnans, mae modd gweld bod patrwm y caeau heddiw wedi ei sefydlu erbyn canol y 19eg ganrif o leiaf, ond mae'n amlwg bod nifer resymol o derfynau caeau wedi diflannu ers yr 1880au. Mae llwybrau llydan a lwybrau troed, rhai ohonynt yn hwn iawn, yn arwain at y rhydau, y fferïau a'r tiroedd comin.

Mae'n rhaid bod pysgota wedi bod yn weithgarwch pwysig ar hyd glannau'r afon. Mae'r hawl i bysgota dan berchnogaeth breifat heddiw. Yr hen enw ar y rhan o'r Hafren yn ymyl y Gaer oedd Llyn y glisied 'pwll y gleisiad'.

Ffynonellau cyhoeddedig

Anon 1888a
Anthony 1995
Bowen 1930
Davies 1999
Gibson 1995
O'Neil 1942
Jenkinson 1997
Jones & Jones 1949
King & Spurgeon 1965
Smith & Evans 1995
Soil Survey 1983
Spurgeon 1965-66
Thorn & Thorn 1986
Vize 1882

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth ArchaeolegolClwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.