CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Llys Bedydd [Bettisfield]
Cymunedau Bronington a De Maelor, Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1130)


CPAT PHOTO 1329-02 Tirwedd wledig o ffermydd gwasgaredig a chaeau afreolaidd sydd wedi datblygu yn sgîl clirio coetiroedd ar ddiwedd y canol oesoedd a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, ag aneddiadau llinellol hwyr sydd wedi datblygu yn sgîl dyfodiad y gamlas a'r reilffordd yn y 19eg ganrif.

Cefndir hanesyddol

Mae cofnod o faenor Bedesfeld yn arolwg Domesday yn arwydd o anheddu Sacsonaidd, a dywedir ei bod ym meddiant yr eglwys ers cyfnod Brenin Cnut (1016-35). Mae'n debygol bod yr enw lle wedi datblygu o feld Betti (cae yw feld yn yr Hen Saesneg). Mae ffurf neu leoliad yr anheddiad cynnar hwn yn anhysbys, ond mae'n bosibl ei fod yn cyfeirio at nifer o ddaliadau wedi'u gwasgaru o amgylch canolfan faenorol yn hytrach nag anheddiad cnewylledig. Ymhlith trigolion yr adeg honno roedd tri marchog (milites), a fyddai wedi meddu ar dir yn gyfnewid am wasanaeth milwrol, offeiriad yr awgrymwyd ei fod yn gysylltiedig ag eglwys gynnar yn Hanmer, oddeutu 4 cilomedr i'r gogledd o anheddiad presennol Llys Bedydd [Bettisfield], a'r hyn a ddisgrifiwyd fel 'tri dyn arall' (ar wahân i daeogion, bileiniaid a bordariaid) ac efallai bod y rhain yn cynrychioli elfen Gymreig yn y boblogaeth. Mae'n arwyddocaol bod arolwg Domesday hefyd yn cofnodi bod yna ardaloedd helaeth o goetir yn yr ardal ac, yn ôl y disgrifiad, roeddynt yn mesur tri lîg wrth ddau lîg ar draws; ardal sy'n gymesur â maint yr ardal nodwedd tirwedd hanesyddol. Cofnodwyd bod ardaloedd helaeth o goetir wedi'u cwympo yng nghyffiniau Northwood yn ardaloedd cyfagos Swydd Amwythig rhwng diwedd y 15fed ganrif a degawdau cyntaf yr 17ef ganrif, ac mae'n debygol bod darnau mawr o dir ffermio wedi'u creu yn yr ardal mewn ffordd debyg yn yr ardal tirwedd hanesyddol yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'r mapiau cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif ac yn dangos cymuned wledig wasgaredig yn yr ardal. Mae'n amlwg bod anheddiad cnewylledig modern yn Llys Bedydd [Bettisfield] i raddau helaeth wedi datblygu o ganlyniad i adeiladu cangen Ellesmere o Gamlas Shropshire Union a gwblhawyd ym 1804, a Rheilffordd Ellesmere a Whitchurch a ddechreuodd weithredu ym 1863.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Porfa donnog esmwyth a thir ffermio âr, yn gyffredinol rhwng 80 a 110 metr uwchben y Datwm Ordnans, ag ardaloedd bach corsiog mewn pantiau sydd wedi draenio yn wael tua'r de a rhywfaint o ardaloedd rhostir tua'r gorllewin. Yn y gogledd, mae nentydd sy'n ymuno â Nant Emral, ac Afon Dyfrdwy yn y pen draw, yn draenio'r ardal, ac yn y de mae llednentydd Afon Roden yn Swydd Amwythig yn draenio'r ardal.

Mae patrymau caeau mawr afreolaidd i'w gweld yn helaeth iawn yn nhirwedd y caeau, er bod ardal wahanredol o gaeau llain a chaeau llain wedi'u haildrefnu â rhai mannau ag olion tirwedd cefnen a rhych yn yr ardal rhwng Hill Farm a Knolls Farm, i'r gorllewin o Bettisfield Park. Yn fwy na thebyg, mae'r rhain wedi datblygu yn sgîl cau tir yr hen gaeau agored canoloesol. Ceir amrywiaeth eang o fathau o ffiniau caeau, gan gynnwys gwrychoedd aml-rywogaeth aeddfed â choed derw aeddfed wedi gwasgaru yn ogystal â ffensys pyst a gwifren modern.

Mae aneddiadau presennol wedi'u seilio ar ffermydd gwasgaredig, â rhwng 0.5 cilomedr ac 1 cilomedr rhyngddynt. Fel y nodwyd uchod, mae'r anheddiad llinellol gweddol ddiweddar yn Llys Bedydd [Bettisfield] wedi datblygu o ganlyniad i ddyfodiad y gamlas a'r reilffordd yn ystod y 19eg ganrif, ac arweiniodd at nifer o ddiwydiannau gwledig ar raddfa fach, gan gynnwys yr hen odynnau calch yn Llys Bedydd [Bettisfield] yr oedd calch a glo wedi'u cludo ar gwch camlas yn eu bwydo.

Cartrefi statws uchel yw'r adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi yn yr ardal, gan gynnwys ffermdy The Ashes, ty ffrâm bren dau lawr o ddiwedd yr 16eg ganrif ag asgell ffrâm bren ychwanegol, a Bettisfield Old Hall, adeilad brics o'r 17eg ganrif, sy'n gysylltiedig â gardd deras Duduraidd neu Jacobeaidd. Yn ôl pob tebyg, roedd neuadd bren wedi disodli hwn erbyn dechrau'r 16eg ganrif. Roedd ar un adeg ym meddiant cangen o'r teulu Hanmer. Mae'r safle â ffos yn Haulton Ring, i'r dwyrain o Bettisfield Park, yn cynrychioli patrwm anheddu cynharach, ac efallai ei fod yn cynrychioli cyfnod o wladychu, clirio coed ac ymsefydlu yn ystod diwedd y 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif. Nid oes dyddiad yn gysylltiedig â chyfres o lociau olion cnydau i'r gogledd o Blackhurst Farm, ond efallai eu bod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid neu'r canol oesoedd.

Ffynonellau

Baughan 1991
Cadw 1995
Charles 1938
Frost 1995
Hubbard 1986
Manley 1990
Morgan 1978
Sawyer & Thacker 1987
Silvester et al. 1992
Smith 1988
Spurgeon 1991
Sylvester 1969
Listed Buildings lists
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.