CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Knolton
Cymuned Owrtyn [Overton], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1119)


CPAT PHOTO 1324-07 Ffermydd gwasgaredig a chaeau afreolaidd sy'n dyddio o'r canol oesoedd a diwedd y canol oesoedd a chaeau afreolaidd ag ardal hen gae agored canoloesol.

Cefndir hanesyddol

Roedd cryn dipyn o'r ardal nodwedd yn rhan o drefgordd Knolton ym mhlwyf eglwysig Owrtyn [Overton] yn y 19eg ganrif. Mae'r elfennau enwau lleoedd cnoll a tun ('anheddiad ar fryncyn') o'r Hen Saesneg yn awgrymu ei fod yn anheddiad cynnar sy'n dyddio o'r 8fed neu'r 9fed ganrif, er bod y cofnod cyntaf o'r enw ei hun yn dyddio o ddechrau'r 14eg ganrif.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae'r ardal nodwedd wedi'i lleoli ar esgair o dir uwch ar hyd ffin dde-orllewinol Maelor Saesneg, yn gyffredinol rhwng 50 a 90 metr uwchben y Datwm Ordnans. Mae'n raddol ddisgyn i'r gogledd-ddwyrain ac yn disgyn yn fwy serth i'r llethrau coediog ar hyd ddyffryn Dyfrdwy i'r gogledd-orllewin a Shell Brook i'r de-orllewin. Mae Shell Brook yn ffurfio'r ffin â Lloegr.

Caeau mawr a bach afreolaidd yw prif dirwedd y caeau yn yr ardal nodwedd, ac efallai bod y rhain wedi datblygu yn bennaf o glirio coedwigoedd bob yn dipyn a chau tir o'r Canol Oesoedd ymlaen. Ond mae patrwm gwahanredol o gaeau llain yn ardal Knolton yn awgrymu y bu trin tir agored yn y canol oesoedd, ac efallai bod yr ardal hon yn cyfateb i gyfeiriadau mewn dogfennau at gaeau llain agored yn y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif. Cymharol ychydig o drin tirwedd cefnen a rhych sydd wedi'i gofnodi yn yr ardal, er ei bod yn cynnwys pyllau marl wedi'u gwasgaru yn ddwys. Glaswelltir parhaol yw'r prif ddefnydd tir modern, ac mae gwrychoedd aml-rywogaeth wedi'u torri yn isel yn ffinio'r caeau yn gyffredinol.

Mae ffermydd sydd wedi'u gwasgaru'n eang yn nodweddiadol o'r anheddu, ac mae hyn yn awgrymu y bu ffermio rhyddfraint yma yn y canol oesoedd ac yn ddiweddarach. Ceir bythynnod a thyddynnod gwasgaredig yn yr ardal i'r de o Rhewl, a ffermydd a thai lled gnewylledig ym mhentrefan Knolton Bryn. Mae nifer o'r tai yn dyddio o gyfnod cynnar, gan gynnwys ffermdy Llan-y-cefn, sef adeilad â nenfforch o'r 15fed ganrif neu'r 16eg ganrif yn ôl pob tebyg, sydd bellach wedi'i orchuddio gan frics. Mae Knolton Hall, ffermdy Top Farm, ffermdy Gwalia a Model Farm, yn cadw tystiolaeth o gyfnod y 16eg ganrif yn ôl pob tebyg, pan roedd ganddynt fframiau pren, er bod yr adeiladai wedi cael eu hailfodelu neu eu hymestyn yn helaeth yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Cafodd Knolton Hall ei ailfodelu i fod yn blasty sylweddol ei faint. Mae Llan-y-cefn, Gwalia a Top Farm yn meddu ar grwpiau nodweddiadol o adeiladau fferm sy'n arwydd bod y trigolion yn gymharol llewyrchus yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Ymhlith y rhain mae beudy, stabl a chertws yn Gwalia, a stablau, ty haf, rhewdy, cerbyty a beudy yn Llan-y-cefn. Mae The Homestead yn nodweddiadol o ffermydd llai a thyddynnod yn yr ardal nodwedd. Ty ac ysgubor bach o'r 19eg ganrif dan yr un to yw hwn. Mae'n debygol bod adeiladau o'r fath unwaith yn llawer mwy cyffredin yn yr ardal. Ymddengys bod y clwstwr o adeiladau yn Knolton Bryn yn gorchuddio hen ardal cae agored canoloesol, gan awgrymu efallai bod yr anheddiad hwn yn dyddio o gyfnod pan fu cau tir yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Mae Knolton ychydig bellter o eglwys y plwyf yn Owrtyn [Overton], felly adeiladwyd eglwys genhadol yma o haearn rhychog yn y 1890au. Mae hyn yn nodweddiadol o'r math o eglwysi ategol a gâi eu darparu yn aml ar gyfer cymunedau gwledig gwasgaredig o'r math hwn, a oedd ychydig bellter o ganolfan y plwyf.

Bu gwelliannau sylweddol i ffyrdd cyhoeddus yr ardal nodwedd ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Etifeddiaeth weladwy y gwelliannau hyn yw'r cerrig milltir niferus â phlatiau haearn bwrw arnynt sydd ar hyd yr hen ffordd dyrpeg rhwng Ellesmere a Wrecsam (A528), a Phont Barton, pont ffordd fach fwaog a adeiladwyd o gerrig ar draws Shell Brook, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Credir mai Thomas Telford a'i hadeiladodd ym 1819. Yn ystod yr 20fed ganrif, rhwng 1914-62 roedd gorsaf fach yn Trench Halt yn gwasanaethu'r ardal, ar lein rheilffordd Wrecsam ac Ellesmere, ond ychydig o olion sydd wedi goroesi.

Ffynonellau

Baughan 1991
Charles 1938
Sylvester 1969
Listed Building lists
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.