CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Owrtyn [Overton]
Cymuned Owrtyn [Overton], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1118)


CPAT PHOTO 1324-03 Bwrdeistref canoloesol planedig, efallai'n disodli anheddiad ffermio canoloesol cynnar, a ddaeth yn dref farchnad fach ffasiynol yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif ac a barhaodd i fod yn ganolfan weinyddol i'r ardal hyd nes yr adrefnwyd llywodraeth leol ym 1974.

Cefndir hanesyddol

Awgryma tystiolaeth enwau lleoedd bod Owrtyn [Overton] wedi dechrau fel anheddiad amaethyddol Sacsonaidd yn yr 8fed neu'r 9fed ganrif o bosibl. Mae'r enw Saesneg yn deillio o elfennau enwau lleoedd Hen Saesneg ofer tun sy'n golygu 'anheddiad ar y clawdd'. Mae'r cofnod cyntaf o'r enw yn cyfeirio at ganolfan faenorol Gymreig bwysig a oedd ym meddiant Madog ap Meredudd, arweinydd Powys, oddeutu 1138. Daeth yn rhan o stad Gruffudd Maelor, arweinydd Cymreig gogledd Powys erbyn dechrau'r 13eg ganrif. Efallai ei bod yn canolbwyntio ar hen gastell ar lannau Afon Dyfrdwy yn ardal Asney, 2km o'r dref. Nid yw statws yr anheddiad cynharach yn Owrtyn [Overton] yn sicr, ond sefydlwyd marchnad yma ym 1279 ac ym 1292 rhoddwyd statws bwrdeistref iddo trwy siarter frenhinol. Erbyn y cyfnod hwn roedd poblogaeth y dref yn cynnwys pum deg chwech o drethdalwyr, ac mae'n debygol bod nifer o'r rhain yn Saeson a ymgartrefodd yma. Parhaodd y dref i ffynnu yn ystod y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif, ac erbyn dechrau'r 14eg ganrif roedd ei phoblogaeth yn cynnwys nifer o deuluoedd Cymreig gweddol gyfoethog. Mae'n amlwg i'r dref gael ei difrodi yn ddrwg yn ystod gwrthryfel Glyndŵr ym 1403, ac er ei bod yn bosibl y cymerodd nifer o flynyddoedd i'w hadfer, daeth yn ganolfan weinyddol cantref Maelor Saesneg yn Sir y Fflint yn sgîl y Ddeddf Uno ym 1536. Erbyn y 18fed ganrif roedd y dref wedi datblygu eto yn anheddiad gweddol llewyrchus, ond erbyn dechrau'r 19eg ganrif roedd y farchnad wedi dod i ben ac nid oedd rhyw lawer o fasnach na gweithgynhyrchu yn mynd rhagddo yn y dref.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Saif y dref ar dir gwastad ger hen lethr afon uwchben afon Dyfrdwy ac, yn gyffredinol, mae rhwng 50 a 60 metr uwchben y Datwm Ordnans. Mae patrwm y strydoedd yn hen graidd yr anheddiad yn debyg i grid ac yn dyddio o'r canol oesoedd. Datblygodd y strydoedd hyn o amgylch y farchnad ganoloesol oedd yn rhan letach y Stryd Fawr i'r gogledd o'r eglwys. Nid oes llawer o dystiolaeth strwythurol wedi goroesi o'r canol oesoedd ar y wyneb, ar wahân i Eglwys y Santes Fair, a gafodd ei hailadeiladu yn helaeth yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae bwthyn bach â ffrâm bren ger y fynwent yn cynrychioli gorwel adeiladau o'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, ger tu blaen Bwthyn Quinta, yn ogystal ag olion ffrâm bren sy'n amlwg wrth gefn rhes o dai a ailadeiladwyd mewn brics yn y 18fed ganrif ar y Stryd Fawr. Mae llawer o'r adeiladau hyn yn yr anheddiad yn dyddio o'r 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, ac mae nifer ohonynt wedi'u paentio, gan gynnwys tai mwy ar wahân fel Ty Gwydyr (sydd wedi bod yn dafarn, ty preifat a siop), Ty Pen-y-llan (hen fragdy a siop), a rhesi o dai a bythynnod gan gynnwys nifer o adeiladau hardd fel The Quinta, sydd â ffenestr oriel, estyll tywydd addurnol a ffenestri bwaog. Yn ogystal â'r tai dosbarth canol mwy sylweddol, erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd yr anheddiad yn cynnwys bythynnod gweithwyr y stad, ysgol yr eglwys, siopau, elusendai, ty coco, swyddfa stad Bryn-y-Pys, capel y Methodistiaid, bragdy, rheithordy a mynwent y capel. Mae hen swyddfeydd y cyngor ac Eglwys Babyddol Ein Harglwyddes y Merthyron Cymreig, ill dau wedi'u hadeiladu yn y 1950au, yn adlewyrchu pwysigrwydd y dref fel canolfan leol ar ddechrau'r 20fed ganrif.

Ffynonellau

Done & Williams 1992
Fryde 1970-71
Lewis 1833
Gresham 1968
Howson 1883
Hubbard 1986
Pennant 1784
Silvester et al. 1992
Soulsby 1983
Sylvester 1969
Tucker 1958
Listed Building lists
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.