CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Bangor Is-y-coed
Cymuned Bangor Is-coed, Bwrdeistref Sirol Wrecsam
(HLCA 1115)


CPAT PHOTO 1323-16 Estyniad modern o ganolfan eglwysig ganoloesol gynnar sy'n hanesyddol bwysig ac anheddiad canoloesol dilynol cnewylledig, yn agos at groesfan afon sy'n strategol bwysig. Ehangwyd yr anheddiad yn sylweddol yn ystod yr 20fed ganrif.

Cefndir hanesyddol

Mae'r cofnod dogfennol cyntaf o Fangor Is-coed yn gysylltiedig â brwydr Caer oddeutu 616, pan drechodd Aethelfrith, brenin teyrnas Angliaidd Northumbria, luoedd Brythonig dan arweiniad Brochfael, aelod o deulu brenhinol Powys. Lladdwyd nifer sylweddol o fynachod Brythonig yn dilyn y frwydr. Parhaodd i fod yn ganolfan grefyddol bwysig yn y Canol Oesoedd fel eglwys glas â thiriogaeth eglwysig mawr, yn gysylltiedig ag anheddiad seciwlar cymharol fach yn ôl pob tebyg.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae'r anheddiad ar dir isel ar lan ddwyreiniol Afon Dyfrdwy, yn gyffredinol yn llai na 15 metr uwchben y Datwm Ordnans.

Nid oes unrhyw olion gweledol wedi goroesi o'r fynachlog gynnar, sef 'Bancornaburg' yn ôl Bede, ac efallai bod Afon Dyfrdwy wedi golchi ei safle ymaith wrth i'w hynt newid. Nid oes llawer yn hysbys am ddatblygiad yr anheddiad yn ystod y cyfnod canoloesol, ond roedd yn cynnwys llai na deg ar hugain o dai ar ddiwedd yr 17eg ganrif. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd yn anheddiad bach cnewylledig a oedd yn cynnwys eglwys, grwp o dai ar hyd y Stryd Fawr ac ar hyd Whitchurch Road, ac roedd ychydig o dai ger yr eglwys ar hyd Overton Road ynghyd â thafarn i'r goets fawr, rheithordy, capel anghydffurfiol, siop, ysgol rydd, a bragdy, ac roedd gorsaf ar lein Wrecsam-Ellesmere ychydig i'r dwyrain. Yn ystod yr 20fed ganrif, ehangodd ochr ddwyreiniol yr anheddiad yn sylweddol wrth i dai newydd gael eu hadeiladu.

Ymddengys bod rhannau o Eglwys Sant Dunawd yn dyddio o'r 14eg ganrif, ond addaswyd yr eglwys yn helaeth ar ddechrau'r 18fed ganrif pan ychwanegwyd y twr brics tri llawr a'r tyllau pennau crynion i glywed sain y gloch a'r terfyniadau ar ffurf yrnau. Ymhlith y strwythurau domestig cynharaf sydd wedi goroesi mae darnau o adeiladau pren o ddechrau'r 17eg ganrif o bosibl y mae adeiladau brics diweddaraf wedi'u cau i mewn, fel yn achos The Stableyard ar y Stryd Fawr. Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau diweddarach, sy'n dyddio o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, wedi'u hadeiladu o frics. Mae'r bont garreg gynharach ger yr eglwys yn dyddio o'r canol oesoedd, ond mae'r rhan fwyaf o'r adeiladwaith yn dyddio o'r 17eg ganrif. Oherwydd y bont, daeth yr anheddiad yn bwynt nodol arwyddocaol yn ystod y canol oesoedd ac yn dilyn datblygiad y ffyrdd tyrpeg yn y 18fed ganrif.

Ffynonellau

Colgrave & Musgrove 1969
Defoe 1724-6
Edwards 1991
Gresham 1968
Hubbard 1986
Jervoise 1976
Lewis 1833
Morris-Jones & Parry-Williams 1933
Palmer 1889
Plummer 1896
Pratt & Veysey 1977
Pratt 1992a; Pratt 1992b
Pryce 1992
Silvester et al. 1992
Soulsby 1983
Thomas 1962
Tucker 1958
Williams 1997
Listed Buildings lists
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.