CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen & Eglywseg


CPAT PHOTO 84-C-240

Nid yw'r gwaith o ddisgrifio nodweddion yr ardal Tirwedd Hanesyddol hon wedi dechrau hyd yma.

Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Yn Nyffryn Llangollen yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ceir cyfuniad gweledol a thrawiadol o dirffurfiau naturiol noeth ynghyd â nodweddion hynafol a modern o waith dyn.Yn geomorffolegol, hollt eang yw’r dyffryn a gaiff ei oruchafu gan glogwyni calch uchel Mynydd Eglwyseg.Mae brig y clogwyni’n esgyn yn raddol mewn uchder o 300m uwchben SO yn eu safle mwyaf deheuol sy’n edrych dros ganol y dyffryn,i 450m uwchben SO yn eu safle mwyaf gogleddol sy’n edrych dros rannau uchaf dyffryn isafon cul Afon Eglwyseg.Ar ochr ddeheuol y dyffryn,mae’r llethrau’n esgyn yn serth i 400m uwchben SO ar hyd copa’r esgair sy’n rhannu’r dyffryn o ddyffryn Ceiriog i’r de.

Mae llawr gwastad y dyffryn tua 100m uwchben SO ac mae’n cynnwys hynt troellog yr Afon Dyfrdwy, er yn Llangollen,mae’r dyffryn yn culhau i’r hyn sy’n fwy nodweddiadol o ddyffryn afon,gan droi’n gyntaf tua’r gogledd ac yna tua’r gorllewin gan barhau y tu hwnt i ran y dyffryn a ddisgrifir yma.Yn edrych dros Langollen o gyfeiriad y dwyrain mae olion mawreddog Castell Dinas Brân,castell gwaith cerrig o’r Canol Oesoedd wedi’i leoli oddi mewn i waith cloddiog caer gynharach o Oes yr Haearn.Mae’r safle ar gopa bryn siâp côn ag ochrau serth iddo sydd yn esgyn yn drawiadol i 329m uwchben SO o lawr y dyffryn,ac ar ei ben ceir adfeilion darluniadwy’r castell a adeiladwyd gan Gruffydd ap Madog o bosibl,mab i sylfaenydd Abaty Glyn y Groes.

Lleolir Abaty Sistersiaidd Glyn y Groes ger cyflifiad afonydd Eglwyseg a Dyfrdwy i’r gogledd o Langollen,ac fe’i sylfaenwyd gan Madog ap Gruffydd ym 1201 fel abaty ategol i Abaty Ystrad Marchell ger y Trallwng.Mae’r Abaty, sydd bellach yn adfail,yn nodweddiadol o nifer o sefydliadau Sistersiaidd a leolir mewn dyffrynnoedd afonydd diarffordd wedi’u hamgylchynu gan dir ffermio. Mae llên gwerin lleol yn cysylltu Glyn y Groes ag Owain Glyn Dwˆ r a ddiflannodd tua 1410 ar ôl i’w wrthryfel yn erbyn y Saeson fethu.Ychydig i’r gogledd o’r Abaty lleolir croes anghyflawn Piler Eliseg ar fryncyn bychan crwn a oedd hwyrach yn feddrod yn Oes yr Efydd.Ar y groes ceir arysgrif mewn Lladin sydd bellach wedi treulio gormod i’w darllen,ond yn ôl trawsgrifiad ohoni ym 1696, roedd yn dathlu llwyddiannau tyˆ Powys ac yn cofnodi i’r garreg gael ei chodi gan Cyngen er anrhydedd i’w or-daid, Eliseg.

Ym mhen gogleddol dyffryn Eglwyseg,ym Mhen Draw’r Byd,mae Plas Uchaf,plasdy trawiadol ffrâm bren sy’n dyddio o 1563.I’r gorllewin o ddyffryn Eglwyseg,caiff ffin ogleddol y tirwedd ei oruchafu gan ehangder mawreddog Bwlch yr Oernant lle mae’r ffordd o’r diwedd yn dringo Mynydd Maesyrychen,heibio i chwareli llechi gwag y 19eg ganrif,tuag at Ddyffryn Clwyd.

Bu dyffryn Dyfrdwy yn brif ffordd gyswllt erioed a bu’n dyst i ddy feisiadau dilynol yn hanes cludiant. Y pwysicaf,o bosibl, yw cangen Llangollen o Gamlas y Shropshire Union, a adeiladwyd gan Thomas Telford ac a agorwyd ym 1805.O’i darddiad yn Rhaeadr Bwlch yr Oernant mae’r gamlas yn dilyn ochr ogleddol y dyffryn cyn croesi’r Afon Dyfrdwy dros ddyfr- ddyfrbont ddramatig Pontcysyllte, sy’n taflu’i chysgod dros ei chymar canoloesol a oedd yn cario’r ffordd dros yr Afon Dyfrdwy.Ym mhen gogleddol y ddyfrbont mae Glanfa Trefor lle, yn ôl y sôn,yr arhosodd Telford yn ystod cyfnod adeiladu’r ddyfrbont.Roedd Telford hefyd yn gyfrifol am adeiladu Ffordd newydd Caergybi,yr A5 bellach,sy’n rhedeg drwy’r dyffryn ac a ddynodwyd yn ddiweddar yn ffordd hanesyddol.

Gwelir creithiau’r gorffennol diwydiannol hefyd yn y dyffryn. Bu chwarela yn digwydd yng nghlogwyni calch Eglwyseg ers canrifoedd ar gyfer cerrig i adeiladu ac fel ffynhonnell o galch.Roedd sawl gwaith plwm yn tyllu’n uniongyrchol i’r clogwyn, ac mae olion y ddau ddiwydiant i’w gweld o hyd. I’r gogledd orllewin ceir olion chwareli llechi,sy’n cynnwys incleinau a darnau o dramffordd ar arglawdd,tra caiff y de ei oruchafu gan gymhlethfeydd Cefn Mawr ac Acrefair (mae’r ddau y tu allan i’r ardal a ddisgrifir yma ar hyn o bryd).

Lleolir Llangollen ei hun o boptu’r Afon Dyfrdwy gyda’r bont bwa,a adeiladwyd c. 1500 yn cysylltu’r ddwy ochr. Mae calon hanesyddol y dre ar yr ochr ddeheuol,o gwmpas yr eglwys a chroesfan yr afon.Daeth y datblygiadau diweddarach yn bennaf yn sgîl y diwydiant gwlân,a oedd yn defnyddio ffynhonnell ynni naturiol yr Afon Dyfrdwy i redeg sawl melin,ac yna yn ystod y 19eg ganrif gyda dyfodiad y rheilffordd a gaewyd i drafnidiaeth ym 1968 ond sydd bellach ar agor yn achlysurol i dwristiaid o dan yr enw Rheilffordd Dyffryn Dyfrdwy.Ar ymylon y dref y mae Plas Newydd,cartref Boneddigesau Llangollen a oedd yn noddwyr enwog y celfyddydau ar droad y 19eg ganrif ac a wnaeth lawer i hybu diddordeb newydd yn y diwylliant Cymreig. Mae Llangollen wedi cryfhau’r traddodiadau artistig hyn ac mae’r dref bellach yn enwog ledled y byd am yr Eisteddfod Ryngwladol a gynhelir yno bob blwyddyn.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.