CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Comin Treffynnon a Mynydd Helygain

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Comin Treffynnon a Mynydd Helygain


Y Tirwedd Naturiol

Mae Comin Treffynnon a Mynydd Helygain yn ucheldir hir o Galchfaen Carbonifferaidd gyda gwelyau o gornfaen sydd yn amrywio mewn uchter rhwng tua 165-290m uwch Datwm yr Ordnans. Ar ei fin ddyreiniol mae grut melinfaen sydd yn edrych dros y tir arfordirol ar hyd aber yr afon Dyfrdwy i'r gogledd a'r dwyrain. Glaswelltir a geir yn yr ardal hon yn bennaf heddiw, gydag ychydig goed a mannau helaeth ag eithin a rhedyn.