CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Comin Treffynnon a Mynydd Helygain

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Comin Treffynnon a Mynydd Helygain


Tirweddau Amaethyddol

Ar gyfer pori y defnyddir y tir yn bennaf heddiw. Ychydig o dystiolaeth sydd o amaethu cynnar yn yr ardal, ond mae LLyfr Doomsday yn 1086 yn cyfeirio at diroedd aredig ger Brynford (Brunford). Roedd coedtiroedd helaeth yn dal i fod yn ardal Brynford yn ystod y cyfnod hwnnw ond unwaith eto mae Llyfr Domesday yn cyfeirio ar goetir 1 lîg mewn hyd (hyd at filltir a hanner) a 2 acer ar draws. Mae'n debyg bod llawer o waith clirio wedi ei wneud ar y fforestydd hyn drwy gydol y canoloesoedd i gefnogi mwyngloddio a'r diwydiant smeltio, ac erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd y rhan fwyaf o'r ardal yn gomin heb ei gau. Caewyd rhannau o'r comin fesul tipyn yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, a rhoddid caniatâd i gau darnau mwy o dir o gwmpas cyrion cominau ym mhlwyfi Ysgeifiog a Chwitffordd yn ystod degawd cyntaf y 19eg ganrif. Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o'r ardal wedi cael ei defnyddio fel tir pori ers y canoloesoedd, a marciwyd nifer o gorlannau - rhai ohonynt yn dal i fodoli - ar fapiau'r Ordnans yn yr 1880au, fel y rhai ym Moel-y-crio, Pant-y-go, Rhes-y-cae, Billins a Phwll-clai. Ychydig o adeiladau amaethyddol eraill a gofnodwyd, ar wahân i gwt moch â chorbel, Fferm Peacock, Rhes-y-cae.